Os ydych chi'n anghytuno â'ch cymydog am goeden neu wrych

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi a'ch cymydog yn anghytuno am broblem gyda choeden neu wrych, mae'n well ceisio datrys pethau'n anffurfiol. Gallai problemau gynnwys pethau fel gwrych rydych chi’n meddwl ei fod yn rhy uchel neu ganghennau o goeden eich cymydog yn hongian drosodd i'ch gardd.

Os ydych chi'n rhentu eich cartref, siaradwch â'ch landlord am y broblem. Efallai y byddan nhw’n gallu delio â’r anghytundeb ar eich rhan.

Cyn i chi dorri coeden, gwnewch yn siŵr nad yw’n cael ei gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed. Os oes gorchymyn, bydd yn rhaid i chi ofyn i'r cyngor am ganiatâd i dorri'r goeden hyd yn oed os mai eich coeden chi yw hi.

Gweld pwy sy’n berchen ar y goeden neu’r gwrych

Os yw boncyff neu brif goesyn coeden neu wrych ar eich tir chi, chi sy’n berchen arno. Os yw ar y ffin rhwng dau eiddo, bydd angen i chi edrych ar y dogfennau cyfreithiol a gawsoch chi wrth brynu eich cartref. Byddan nhw’n nodi lle mae’r ffin ac efallai y byddan nhw’n dweud pwy sy’n gyfrifol am y goeden neu’r gwrych.

Gallwch chi brynu’r dogfennau gan y Gofrestrfa Tir os nad ydyn nhw gennych chi - dim ond ychydig o bunnoedd y mae'n ei gostio. Efallai y byddai'n syniad da prynu'r dogfennau ar gyfer tŷ eich cymydog hefyd - efallai y byddan nhw'n cynnwys gwybodaeth sydd ddim yn eich dogfennau chi.

Os nad yw'n glir ble mae'r ffin, gallwch chi gael cymorth gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig - maen nhw’n gweithio gyda syrfewyr sy’n gallu helpu gyda phroblemau eiddo.

Ceisiwch ddod o hyd i ateb gyda'ch cymydog

Siaradwch â’ch cymydog wyneb yn wyneb os gallwch chi – gwnewch nodyn o beth rydych chi wedi cytuno arno. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â nhw, ysgrifennwch lythyr neu gofynnwch i rywun arall gysylltu â nhw ar eich rhan. Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon e-bost y byddwch chi’n eu hanfon neu'n eu derbyn.

Yn aml, mae'n well dod o hyd i gyfaddawd, er enghraifft rhannu cost torri gwrych er eich bod chi’n meddwl mai eich cymydog sy'n berchen arno. Gallai eich helpu i gadw perthynas dda a gallai fod yn rhatach na thalu cyfreithiwr i ddatrys yr anghytundeb.

Os bydd y broblem yn parhau

Mae gwahanol ffyrdd o ddelio â’r broblem yn dibynnu ar bwy sy’n berchen ar y goeden neu’r gwrych.

Os mai eich cymydog sy’n berchen ar y goeden neu'r gwrych

Os na wnaiff eich cymydog dorri canghennau sy'n hongian dros eich gardd, cewch chi eu torri - ond dim ond y darnau ar eich ochr chi o'r ffin. Gofynnwch a fydd eich cymydog yn fodlon i chi daflu’r canghennau – nhw sy’n berchen arnyn nhw dan y gyfraith.

Os ydych chi'n meddwl bod coeden eich cymydog yn beryglus, gallwch chi roi gwybod i'r cyngor - er enghraifft os ydych chi'n meddwl y gallai ddisgyn. Efallai y byddan nhw’n gofyn i’r perchennog ei gwneud yn ddiogel neu’n delio a’r mater eu hunain. Chwiliwch am 'coed' ar wefan eich cyngor i weld pa adran y dylech chi gysylltu â hi.

Gallwch chi ddod o hyd i wefan eich cyngor ar GOV.UK.

Gofynnwch am gymorth arbenigol gan feddyg coed os yw gwreiddiau coeden eich cymydog yn effeithio ar eich cartref a’ch gardd. Gallwch chi eu torri eich hun ond rhaid i chi geisio cyfyngu ar faint o niwed rydych chi’n ei wneud i'r goeden, sy’n gallu bod yn anodd ei wneud. Rhaid i chi ddweud wrth eich cymydog ymlaen llaw os bydd angen i feddyg coed fynd ar ei dir.

Edrychwch beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod gwrych yn rhy uchel ar GOV.UK. Os na allwch chi ddatrys y broblem, gofynnwch i'ch cyngor eich helpu. Dim ond os ydych chi wedi ceisio datrys y broblem eich hun yn gyntaf y gallan nhw helpu.

Os mai chi sy’n berchen ar y goeden neu’r gwrych

Gall eich cymydog dorri unrhyw ganghennau sy'n hongian drosodd i'w ardd ar yr amod mai dim ond y darnau ar ei ochr ef o'r ffin y bydd yn eu tynnu.

Os ydyn nhw eisiau i chi dorri eich coeden neu wrych am nad ydyn nhw’n hoffi’r ffordd mae’n edrych, chi sydd i benderfynu a ydych chi’n gwneud y gwaith ai peidio. Dylech chi weld a yw'r goeden neu'r gwrych yn beryglus cyn penderfynu.

Os bydd eich cymydog yn dweud bod eich coeden yn beryglus, gallech chi ofyn i feddyg coed am gyngor. Mae hefyd yn werth cael gwybod os yw eich cyngor yn gallu gweld a yw’r goeden yn ddiogel - gallwch chi ddod o hyd i wefan eich cyngor ar GOV.UK. Chwiliwch am ‘coed’ i gael gwybod pa adran i gysylltu â hi.

Efallai y bydd eich gwrych yn cyfrif fel 'gwrych uchel’ os yw dros 2 fetr - edrychwch ar y diffiniad ar wefan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Gallai eich cymydog roi gwybod i’ch cyngor lleol ac fe allen nhw ofyn i chi dorri eich gwrych.

Cael help gyda'ch anghydfod

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud, gallwch chi gael help yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Cael help gan gyfryngwr

Os ydych chi’n dal i fethu cytuno, gallwch chi gael help gan gyfryngwr – rhywun sydd ddim yn adnabod y naill na’r llall ohonoch chi ac sydd wedi’i hyfforddi i helpu pobl i ddatrys anghytundebau. 

Mae'n syniad da gofyn i'ch cyngor a ydyn nhw’n gallu eich helpu i ddod o hyd i gyfryngwr.

Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyngor ar GOV.UK.

Os oes dal angen help arnoch chi, gallwch chi gallwch chi chwilio am gyfryngwr ar GOV.UK.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gyfryngwr.

Cael help gan gyfreithiwr

Os bydd y broblem yn parhau, bydd angen i chi gael help gan gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn anghydfodau rhwng cymdogion - ond bydd hyn yn ddrud.

Gweld a allwch chi gael help gyda chostau cyfreithiol

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 15 Chwefror 2018