Os oes gennych leithder neu lwydni yn eich cartref rhent
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Dylech nodi pa fath o leithder sydd gennych chi
Mae sawl math o leithder:
lleithder sy'n codi, sy'n digwydd pan fydd lleithder yn codi o'r ddaear drwy'r gwaith maen i uchder o tua metr
lleithder treiddiol, sy'n digwydd pan fydd dŵr yn treiddio i mewn i ffabrig adeilad o'r tu allan i'r tu mewn, er enghraifft, oherwydd pibell ddŵr yn gollwng
lleithder adeiladwaith, lle mae lleithder yn cael ei achosi gan broblem yn y modd y dyluniwyd yr eiddo
lleithder anwedd, sy'n digwydd fel arfer pan na all eiddo ymdopi â lefelau arferol o anwedd dŵr oherwydd diffyg inswleiddio, awyru neu wresogi, neu gyfuniad o'r elfennau hyn.
Ymdrin â lleithder sy'n codi
Mae lleithder sy'n codi yn fwy cyffredin mewn adeiladau hŷn. Yn gyffredinol, mae'n effeithio ar ran isaf llawr gwaelod eiddo hyd at uchder o tua 1 metr. Felly, os ydych yn byw'n uwch na'r llawr gwaelod mewn bloc o fflatiau a bod gennych broblem lleithder, nid lleithder sy'n codi fydd e.
Pwy sy'n gyfrifol am leithder sy'n codi
Mewn llawer o achosion, eich landlord sy'n gyfrifol am ymdrin â lleithder sy'n codi. Mae hyn oherwydd bod un o’r telerau sydd ymhlyg yn eich cytundeb tenantiaeth yn nodi mai cyfrifoldeb y landlord yw cadw ochr allanol ac adeiledd eich cartref mewn cyflwr da.
Os nad oes telerau yn eich cytundeb tenantiaeth yn nodi mai cyfrifoldeb y landlord yw cadw ochr allanol ac adeiledd eich cartref mewn cyflwr da. Siaradwch â chynghorydd.
Os oes problem gyda chwrs gwrthleithder (DPC) yn eich cartref sy'n achosi'r lleithder, yna mae eich landlord yn debygol o fod yn gyfrifol am ei atgyweirio.
Os nad oes gan eich cartref DPC, mae'n bosibl na fydd eich landlord yn gyfrifol am osod un. Mae hyn oherwydd y gellir ystyried y gwaith yn welliant yn hytrach nag yn waith atgyweirio. Byddai'n rhaid ystyried pob achos ar sail y ffeithiau perthnasol.
Os nad yw eich cartref yn ddiogel
Gallai eich landlord fod yn gyfrifol am y lleithder os yw'n golygu nad yw eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo - er enghraifft os yw wedi eich gwneud chi neu'ch teulu'n sâl.
Ymdrin â lleithder treiddiol
Gall lleithder treiddiol gael ei achosi gan nifer o broblemau atgyweirio, er enghraifft:
to sy'n gollwng dŵr
mur sydd wedi hollti
cafnau bondo neu bibellau allanol sy'n gollwng dŵr
pibell ddraenio sy'n gollwng dŵr
ffenestri neu ddrysau sydd wedi pydru.
Pwy sy'n gyfrifol am leithder treiddiol
Mewn llawer o achosion lle mae'r lleithder wedi'i achosi gan broblemau fel y rhai a restrir uchod, y landlord sy'n gyfrifol am ddatrys y broblem. Mae hyn oherwydd bod un o’r telerau sydd ymhlyg yn eich cytundeb tenantiaeth yn nodi bod yn rhaid i'r landlord gadw ochr allanol ac adeiladwaith eich cartref mewn cyflwr da, yn ogystal â gosodiadau fel basnau, sinciau, baddonau, toiledau a'u pibellau.
Os nad oes telerau yn eich cytundeb tenantiaeth yn nodi mai cyfrifoldeb y landlord yw cadw ochr allanol ac adeiledd eich cartref mewn cyflwr da. Siaradwch â chynghorydd.
Os nad yw eich cartref yn ddiogel
Gallai eich landlord fod yn gyfrifol am y lleithder os yw'n golygu nad yw eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo - er enghraifft os yw wedi eich gwneud chi neu'ch teulu'n sâl.
Ymdrin â lleithder adeiladwaith
Mae lleithder adeiladwaith yn cael ei achosi gan broblem gyda dyluniad eiddo. Er enghraifft, mae diffyg dylunio mewn eiddo yn golygu bod y llawr isaf yn mynd yn llaith wrth i'r lefel trwythiad godi.
Pwy sy'n gyfrifol am leithder adeiladwaith
Mewn achosion o leithder adeiladwaith, os nad yw'r broblem ddylunio yn effeithio ar adeiledd neu ochr allanol eich cartref, nac yn achosi difrod i'r adeilad, mae'n bosibl na fydd eich landlord yn gyfrifol am atal y lleithder o dan delerau'r cytundeb tenantiaeth.
Fodd bynnag, mae'ch landlord yn gyfrifol am atgyweiriadau os yw problem ddylunio yn achosi difrod i'r adeilad, er enghraifft i un o'r muriau neu i waith plastr y nenfwd.
Os nad yw eich cartref yn ddiogel
Gallai eich landlord fod yn gyfrifol am y lleithder os yw'n golygu nad yw eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo - er enghraifft os yw wedi eich gwneud chi neu'ch teulu'n sâl.
Ymdrin â lleithder anwedd
Gall lleithder anwedd ymddangos unrhyw le ar un o'r muriau. Gall ymddangos ar waelod y mur, neu o'r brig i'r gwaelod. Mae'n gallu arwain at dwf llwydni, difrod i ddodrefn ac eiddo, ac mewn rhai achosion, pla gwiddon.
Pwy sy'n gyfrifol am leithder anwedd
Mae'n debyg y bydd eich landlord yn gyfrifol am ymdrin â lleithder yn y sefyllfaoedd canlynol:
mae'ch cytundeb tenantiaeth yn nodi mai'ch landlord sy'n gyfrifol - neu fod y cytundeb yn datgan y bydd eich landlord yn sicrhau bod eich cartref yn "ffit i fyw ynddo" neu rywbeth tebyg
roedd y lleithder wedi'i achosi gan fethiant eich landlord i wneud atgyweiriadau penodol i'ch cartref - er enghraifft, methu atgyweirio'r system wres neu awyru
mae'r lleithder wedi creu difrod i'ch cartref y mae'n rhaid i'ch landlord ei atgyweirio - er enghraifft, os yw wedi pydru fframiau ffenestri neu ddifrodi gwaith plastro
Os nad yw eich cartref yn ddiogel
Gallai eich landlord fod yn gyfrifol am y lleithder os yw'n golygu nad yw eich cartref yn ddiogel i fyw ynddo - er enghraifft os yw wedi eich gwneud chi neu'ch teulu'n sâl.
Pethau y gallwch chi eu gwneud i leihau lleithder anwedd
Dylech geisio lleihau lleithder ychwanegol yn eich cartref. Gall lleithder ychwanegol ddeillio o:
defnyddio gwresogyddion nwy neu baraffin cludadwy – mae'r gwresogyddion hyn yn rhyddhau llawer o leithder i’r aer, felly dylech geisio osgoi eu defnyddio
sychu dillad gwlyb ar wresogyddion gyda'r ffenestr ar gau- mae'n well sychu dillad yn yr awyr agored neu yn yr ystafell ymolchi gyda'r drws ar gau a'r ffenestr ar agor neu gyda ffan ymlaen
defnyddio peiriant sychu dillad heb awyrell allanol – os nad yw'r peiriant sychu dillad yn gallu cyddwyso ei hun, mae angen ei gysylltu â system awyru allanol
Ymdrin â lleithder a llwydni
Os mai cyfrifoldeb eich landlord yw’r lleithder a’r llwydni yn eich cartref, dylech ofyn iddynt ei atgyweirio.
Dylech gadarnhau pa atgyweiriadau y mae'n rhaid i'ch landlord eu cwblhau os ydych yn rhentu'ch cartref oddi wrth:
Fel arfer, mae'ch landlord yn gyfrifol am ddatrys y broblem pan fydd yn dod yn ymwybodol ohoni, felly dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod iddo am y broblem ar unwaith.
Mewn rhai sefyllfaoedd gallai landlord preifat geisio eich troi allan yn hytrach na gwneud y gwaith atgyweirio. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol a ydych mewn perygl o gael eich troi allan cyn gweithredu.