Cam-drin domestig
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gadael ein gwefan yn gyflym
Gallwch chi ddefnyddio'r botwm sy'n dweud 'Cuddio'r dudalen hon' i adael ein gwefan yn gyflym. Bydd hyn yn mynd â chi i Google.
Os ydych chi ar gyfrifiadur, gallwch chi hefyd gau'r dudalen hon yn gyflym drwy wasgu:
Ctrl + W (ar gyfrifiadur Windows)
Command + W (ar Mac)
Ymddygiad aelod o’r teulu, partner neu gyn-bartner yw cam-drin domestig. Gall ddigwydd i bobl o bob rhywedd. Gall gynnwys:
cam-drin corfforol neu rywiol
ymddygiad treisgar neu fygythiol
cam-drin seicolegol neu emosiynol
ymddygiad gorfodaethol - er enghraifft, codi cywilydd neu godi ofn
ymddygiad gorfodaethol - er enghraifft, gwneud i rywun deimlo'n llai pwysig neu'n ddibynnol ar y camdriniwr
'cam-drin economaidd' - mae hyn yn cynnwys rheoli eiddo rhywun neu sut maen nhw'n ennill neu'n gwario arian
Gall hefyd gynnwys aflonyddu, stelcio, anffurfio organau cenhedlu benywod a cham-drin ‘ar sail anrhydedd'. Mae masnachu pobl hefyd yn fath o gam-drin domestig – gofynnwch am help os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich masnachu.
Os yw plentyn o dan 18 oed ac yn gweld neu'n clywed cam-drin domestig yn digwydd i aelod o’r teulu, mae hyn hefyd yn gam-drin domestig. Os ydynt yn profi camdriniaeth, yna cam-drin plant yw hynny – edrychwch sut i riportio cam-drin plant.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio
Os ydych chi’n ddioddefwr perthynas gamdriniol, efallai y byddwch chi eisiau:
dod o hyd i rywle diogel i aros
aros yn eich cartref a chael y person sy'n eich niweidio i adael
riportio’r trais i'r heddlu
cael gorchymyn llys i atal eich partner camdriniol rhag eich niweidio neu eich bygwth
cymryd camau cyfreithiol
cael cymorth gan elusen neu fudiad arall
Beth bynnag rydych chi eisiau ei wneud, mae yna fudiadau sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth i chi.
Efallai y bydd angen rhywle diogel arnoch chi i aros, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda'ch plant. Os ydych chi eisiau aros gartref, gallech chi gael amddiffyniad cyfreithiol i gadw'r camdriniwr i ffwrdd.
Os na allwch chi aros gartref, gallwch chi:
aros gyda pherthnasau neu ffrindiau
aros mewn lloches
cael llety brys gan yr awdurdod lleol o dan gyfraith pobl ddigartref
cael llety sydd wedi'i rentu'n breifat
Dod o hyd i loches
Mae llochesi yn darparu rhywle diogel i bobl a'u plant aros ac i feddwl am beth i'w wneud nesaf.
Mae staff mewn llochesi yn cefnogi pobl sydd wedi profi cam-drin domestig. Gallant roi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol - er enghraifft, cyngor ar hawlio budd-daliadau, pa gyfreithwyr i'w ddefnyddio ac, os oes angen, sut i gysylltu â'r heddlu.
Os ydych chi’n fenyw, gallwch chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol ar eu gwefan.
Bydd staff y llinell gymorth yn dweud wrthych pa lochesi sydd â lle. Maent hefyd yn hapus i ateb cwestiynau.
Os ydych chi’n ddyn, gallwch chi gysylltu â’r Men's Advice Line ar eu gwefan.
Cael cymorth wrth eich cyngor lleol
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu cymorth i bobl benodol sy'n ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref.
Ystyrir eich bod yn ddigartref yn gyfreithiol os nad yw'n rhesymol i chi fyw yn eich cartref oherwydd y risg neu'r ofn o gam-drin domestig.
Dylai awdurdodau lleol ymdrin yn gydymdeimladol â cheisiadau gan bobl sy'n ofni trais. Gallwch chi ofyn am gyfweliad preifat, gyda rhywun o'r un rhyw, a gallwch chi fynd â ffrind gyda chi i'ch cefnogi.
Efallai y bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu llety brys i chi wrth iddo benderfynu a ydych yn ddigartref yn gyfreithiol.
Os yw y tu allan i oriau swyddfa arferol, dylech chi ffonio rhif brys yr awdurdod lleol y tu allan i oriau i gael cymorth gyda llety brys.
Edrychwch i weld a allwch gael cymorth digartrefedd gan y cyngor.
Mynd i lety sydd wedi’i rentu’n breifat
Os ydych chi’n penderfynu mynd i lety sydd wedi’i rentu’n breifat, mae'n annhebygol y byddwch chi’n gallu ei drefnu'n gyflym - ond gallai fod yn opsiwn os oes gennych chi amser i gynllunio eich ymadawiad.
Beth i fynd gyda chi
Os gallwch chi, dylech chi fynd â’r canlynol:
prawf adnabod a dogfennau personol eraill
arian - gan gynnwys unrhyw gofnodion o ddyledion
tystiolaeth o gamdriniaeth
Dogfennau personol
Ceisiwch wneud yn siŵr bod gennych chi ryw fath o brawf adnabod - gallai hyn fod yn dystysgrif geni neu’n basbort. Dylech chi hefyd fynd â thystysgrifau geni a phasbortau eich plant.
Dylech chi fynd â dogfennau pwysig eraill fel:
ffurflenni P45 a P60
rhif Yswiriant Gwladol
manylion budd-daliadau
manylion morgais neu denantiaeth
tystysgrif priodas a thrwydded yrru
cyfriflenni banc a manylion cardiau credyd neu filiau
Os oes gennych chi ddyled sydd heb ei thalu, dylech chi fynd â chofnodion eich hanes talu ac unrhyw gamau gorfodi gan gredydwyr gyda chi.
Os nad yw'n ddiogel i fynd â dogfennau gwreiddiol gyda chi, ceisiwch wneud copïau neu nodwch unrhyw fanylion, fel rhifau cyfrif.
Arian
Os cewch chi amser cyn gadael, gallech chi roi symiau bach o arian o’r neilltu yn y ffordd rydych chi’n meddwl sydd fwyaf diogel. Er enghraifft, gallech chi ddefnyddio arian parod neu agor cyfrif banc newydd, cyn belled nad yw’r camdriniwr yn monitro eich post neu e-bost.
Ceisiwch osgoi defnyddio unrhyw un o’ch cardiau banc neu gardiau credyd ar ôl i chi adael.
Darllenwch sut i agor cyfrif banc newydd yn ddiogel ar y wefan Surviving Economic Abuse.
Tystiolaeth o gamdriniaeth
Os yw’n ddiogel, dylech chi gasglu dogfennau am y cam-drin rydych chi wedi’i wynebu, er enghraifft:
dyddiadau ac amseroedd pan gafodd yr heddlu eu galw
apwyntiadau meddyg teulu neu ysbyty
gwaharddebau neu orchmynion atal
Riportio’r trais i’r heddlu
Mae sawl math o gam-drin domestig yn droseddau a gall yr heddlu arestio, rhybuddio neu gyhuddo'r cyflawnwr.
Mae gan y rhan fwyaf o orsafoedd yr heddlu Unedau Trais Domestig neu Unedau Diogelwch Cymunedol gyda swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddelio â thrais a cham-drin domestig.
Gallwch chi ffonio 999 mewn argyfwng neu 101 mewn achos nad yw'n argyfwng neu gallwch fynd i’r orsaf heddlu yn bersonol i riportio digwyddiad. Dewch o hyd i’ch gorsaf heddlu leol ar Borth Gwasanaeth Heddlu’r DU. Dylech chi ddweud wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd a rhoi gwybod iddynt os ydych chi'n poeni am eich diogelwch.
Bydd yr heddlu yn penderfynu os byddant yn arestio’r camdriniwr - os nad ydynt yn eu harestio, efallai y byddwch chi'n dal i allu cael amddiffyniad cyfreithiol gan y llys. Er enghraifft, gallech chi wneud cais am orchymyn i'w cadw o'ch cartref.
Os bydd yr heddlu'n arestio ac yn cyhuddo’r cyflawnwr, byddant yn penderfynu a ddylid eu cadw yn y ddalfa neu eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Fel arfer bydd amodau ynghlwm wrth eu mechnïaeth i'ch amddiffyn rhag camdriniaeth bellach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am rif cyfeirnod y drosedd. Efallai y bydd angen y rhif arnoch chi os byddwch chi’n cysylltu ag asiantaethau eraill am gymorth.
Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron neu’r heddlu yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a yw eich partner camdriniol yn cael ei erlyn, yn dibynnu ar y drosedd. Os ydynt yn cael eu herlyn, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys. Os ydych chi’n poeni am fynd i’r llys, gallwch chi gael cymorth a chefnogaeth am ddim wrth Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth. Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddeall y gwasanaeth erlyn troseddol ar wefan Cymorth i Fenywod.
Gall yr heddlu hefyd roi cyngor i chi ar atal troseddau a chael rhywbeth o'r enw marciwr heddlu ar eich cyfeiriad, fel y gall swyddog gyrraedd eich cartref cyn gynted â phosib.
Cael amddiffyniad cyfreithiol
Gallwch chi ofyn i’r llys:
stopio’ch partner eich niweidio neu eich bygwth chi – caiff hyn ei alw’n ‘orchymyn peidio ag ymyrryd’
gael eich partner i adael eich cartref neu eu hatal rhag dod yn ôl – caiff hyn ei alw’n ‘orchymyn meddiannaeth’
Gallwch chi wneud cais am orchymyn peidio ag ymyrryd neu orchymyn meddiannaeth drwy ddefnyddio adnodd am ddim o’r enw CourtNav sy’n cael ei redeg gan wasanaeth cyfreithiol Cyngor ar Bopeth (RCJ). Dyma swyddfa Cyngor ar Bopeth sy’n arbenigo mewn gwasanaethau cyfreithiol.
Bydd y system CourtNav yn eich helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau ymlaen ac i weld os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda'ch costau cyfreithiol. Bydd naill ai’n:
eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr cymorth cyfreithiol os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol
eich helpu i wneud cais i’r llys eich hun
Mae angen i chi roi cyfeiriad lle rydych chi'n aros – gallwch chi ddewis peidio â rhannu eich cyfeiriad gyda'ch partner.
Gallwch chi ddechrau cais drwy CourtNav.
Hysbysiadau a gorchmynion amddiffyn
Os ydych chi wedi profi neu wedi cael eich bygwth â cham-drin domestig, efallai y byddwch chi’n gallu:
gofyn i’r heddlu anfon hysbysiad amddiffyn i’r camdriniwr
gofyn i’r llys wneud gorchymyn amddiffyn
Mae’r rheolau ynglŷn â gorchmynion a hysbysiadau amddiffyn yn dibynnu ar ble mae’r camdriniwr yn byw.
Gallwch chi ofyn am Hysbysiad a Gorchymyn Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig (DAPN a DAPO) os yw’r camdriniwr yn byw yn yr ardaloedd canlynol:
Manceinion Fwyaf
Ynys Môn
Gwynedd
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Bwrdeistrefi Conwy a Wrecsam
Bromley
Croydon
Sutton
Cleveland
Hartlepool
Middlesbrough
Redcar
Stockton-on-Tees
Os yw’r camdriniwr yn byw mewn ardal arall, gallwch chi ofyn i’r heddlu roi Hysbysiad Amddiffyn Rhag Trais Domestig.
Hysbysiad a Gorchymyn Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig (DAPN a DAPO)
Gallwch chi ofyn i’r heddlu anfon Hysbysiad Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig (DAPN) i’r camdriniwr, os:
ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn
yw’r camdriniwr yn 18 oed neu’n hŷn
Gall yr heddlu anfon DAPN ar unwaith. Yna mae'r heddlu'n gwneud cais i lys ynadon am DAPO. Fel arfer, bydd y llys yn gwrando ar y cais ac yn penderfynu a ddylid gwneud DAPO o fewn 48 awr. Bydd y DAPN yn parhau nes bod y llys yn gwneud penderfyniad.
Gall DAPO eich amddiffyn chi rhag unrhyw fath o gam-drin domestig. Gall ddweud wrth eich camdriniwr am adael eich cartref a'u hatal rhag dod o fewn pellter penodol i'ch cartref neu'ch gwaith.
Bydd y llys yn penderfynu pa mor hir y bydd y DAPO yn para - nid oes uchafswm o ran terfyn amser.
Os nad ydych chi eisiau gofyn i'r heddlu, gallwch chi wneud cais am DAPO eich hun mewn llys teulu. Darllenwch sut i wneud cais am DAPO mewn llys teulu ar GOV.UK.
Os nad ydych chi eisiau gofyn i'r heddlu, gallwch chi wneud cais am DAPO eich hun mewn llys teulu. Darllenwch sut i wneud cais am DAPO mewn llys teulu ar GOV.UK.
Os ydych chi eisoes mewn achos llys gyda'r camdriniwr mewn llys sirol, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cais am DAPO yno. Darllenwch sut i wneud cais am DAPO mewn llys sirol ar GOV.UK.
Os na allwch chi wneud cais am DAPO eich hun, gallwch chi ofyn i rywun rydych chi'n ei adnabod sydd ddim yn rhan o'r cam-drin i'w wneud ar eich rhan. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n gofyn i aelod o'r teulu, ffrind neu weithiwr cymdeithasol. Mewn rhai achosion, gallai rhywun arall wneud cais i'r llys am DAPO heb ofyn i chi yn gyntaf.
Os oes gennych chi blant 16 oed neu’n iau sydd hefyd angen amddiffyniad, bydd angen i chi gael cyngor am y math gorau o amddiffyniad cyfreithiol. Darllenwch sut i ddod o hyd i gymorth cyfreithiol am ddim neu gymorth cyfreithiol fforddiadwy gan gyfreithiwr.
Gallwch chi hefyd gael cyngor am ddim ynglŷn â’ch opsiynau drwy Finding Legal Options for Women Survivors (FLOWS). Darllenwch sut gallwch chi gysylltu â FLOWS ar eu gwefan.
Gorchmynion a Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Trais Domestig
Gallwch chi ofyn i’r heddlu gyhoeddi Hysbysiad Amddiffyn Rhag Trais Domestig. Bydd hyn yn eich amddiffyn rhag camdriniaeth am 48 awr. Os yw'r heddlu'n credu eich bod chi'n dal mewn perygl, gallant wneud cais i'r llys ynadon am Orchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig.
Gall Gorchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig eich atal rhag camdriniaeth bellach, ac os ydych chi’n byw gyda’r cyflawnwr, eu gwahardd rhag dychwelyd i’r cartref a chysylltu â chi. Os nad yw'r cyflawnwr yn cadw at y Gorchymyn, gellir eu harestio a'u dwyn gerbron y llys.
Mae Gorchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig yn para hyd at 28 diwrnod ac yn rhoi amser i chi archwilio eich opsiynau ac i gael cymorth pellach.
Y Cynllun Datgelu Trais Domestig – Cyfraith Clare
Gallwch chi wneud cais i'r heddlu o dan y cynllun hwn i weld os oes gan eich partner neu gyn-bartner hanes o gam-drin neu drais domestig. Caiff hyn ei alw’n hawl i ofyn.
Efallai y bydd yr heddlu'n rhoi gwybodaeth i chi os oes ganddynt wybodaeth ac os ydynt yn credu ei bod hi'n angenrheidiol i'ch amddiffyn chi. Gall yr heddlu hefyd eich rhybuddio am unigolyn os ydynt yn credu eich bod chi mewn perygl o gam-drin domestig.
Gallwch chi wneud cais i’r Cynllun Datgelu Trais Domestig ar wefan yr Heddlu Metropolitanaidd. Gallwch chi hefyd gael mynediad at y cynllun drwy ymweld â gorsaf heddlu neu ffonio 101.
Gallai’r camdriniwr dal gael hanes o gam-drin domestig, hyd yn oed os nad yw'r heddlu'n rhoi gwybodaeth i chi amdanynt. Efallai nad yw'r heddlu wedi rhoi gwybodaeth i chi naill ai oherwydd:
doedden nhw ddim yn meddwl eich bod chi mewn perygl o niwed
doedden nhw ddim yn meddwl y byddai'n helpu i’ch cadw'n ddiogel
ni chafodd y cam-drin ei riportio
Os yw'r heddlu'n penderfynu peidio â rhoi unrhyw wybodaeth i chi, nid yw hyn yn golygu nad oes cyfiawnhad dros eich pryderon. Os ydych chi'n credu eich bod chi mewn perygl o niwed, dylech chi gysylltu â'r heddlu drwy ymweld â gorsaf heddlu neu ffoniwch 101. Os oes risg uniongyrchol, ffoniwch 999.
Dechrau camau cyfreithiol
Os oes angen help ychwanegol arnoch chi, dylech chi gael cyngor wrth gynghorwr cam-drin domestig annibynnol neu gyfreithiwr sydd â phrofiad ym maes cyfraith teulu. Efallai y bydd angen help arnoch chi i wneud y canlynol:
cael eich eiddo yn ôl neu eich gwneud yn berchennog cyfreithiol ar eich cartref
penderfynu gyda phwy mae eich plant yn byw a phwy all eu gweld
dod â'ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben
Dylai asiantaeth gynghori leol, fel canolfan gyfreithiol neu Cyngor ar Bopeth, allu eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr sy’n brofiadol yn y maes hwn o’r gyfraith. Yng Nghymru a Lloegr, gallwch chi hefyd edrych ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael help gyda'ch costau cyfreithiol – gallwch edrych i weld os ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol.
Mae cymorth cyfreithiol yn eich helpu gyda’ch costau cyfreithiol, gan gynnwys cyngor a chymorth os oes rhaid i chi fynd i’r llys.
Mwy am help gyda chostau cyfreithiol.
Dylech chi wneud apwyntiad cyn gynted ag y byddwch chi’n teimlo’n barod, a gallech chi fynd â rhywun gyda chi i’ch cefnogi’r tro cyntaf i chi fynd. Mae’n debyg y bydd y cyfweliad cychwynnol yn para cryn amser, ac yn ystod y cyfweliad hwnnw dylai’r cynghorwr drafod pa gamau cyfreithiol sydd ar gael i chi.
Mynd i’r llys teulu
Gall mynd i'r llys fod yn brofiad llawn straen, ond gallwch chi wneud pethau'n haws drwy ddarganfod beth fydd yn digwydd ar y diwrnod. Dylech chi hefyd feddwl am sut gallwch chi esbonio eich ochr chi o'r stori.
Gall gwrandawiadau’r llys ddigwydd yn y llys, dros y ffôn neu ar alwad fideo, neu gymysgedd o'r ddau.
Os nad yw'r llys wedi dweud wrthych chi sut i fynychu eich gwrandawiad, cysylltwch â nhw i gael gwybod. Gallwch chi chwilio am fanylion cyswllt y llys ar GOV.UK.
Gallwch chi:
edrych beth i’w wneud os ydych chi’n mynd i’r llys ar GOV.UK
darllenwch sut i baratoi os yw eich gwrandawiad llys dros y ffôn neu ar alwad fideo
Os nad oes gennych chi gyfreithiwr
Gallwch chi gynrychioli eich hun yn y llys. Chwiliwch am help i gynrychioli eich hun yn y llys ar wefan Advicenow.
Os bydd y camdriniwr yn eich gwrandawiad llys
Gall y llys newid beth sy’n digwydd yn y gwrandawiad fel nad oes rhaid i chi weld y camdriniwr. Caiff y newidiadau hyn eu galw’n ‘fesurau arbennig’.
Mae mesurau arbennig yn cynnwys pethau fel:
gadael i chi roi tystiolaeth drwy fideo neu o’r tu ôl i sgrin
eich rhoi mewn ardal aros wahanol i’r camdriniwr
sicrhau nad ydych chi’n cyrraedd ac yn gadael y llys ar yr un pryd â’r camdriniwr
Gallwch chi ofyn am fesurau arbennig os ydych chi wedi profi cam-drin domestig, neu mewn perygl ohono, a bod y camdriniwr:
y parti arall yn yr achos
yn perthyn i'r parti arall yn yr achos
yn dyst yn yr achos
Mae'n well cysylltu â'r llys cyn eich gwrandawiad i ofyn am fesurau arbennig fel bod ganddynt amser i baratoi. Gallwch chi ofyn am fesurau arbennig ar y ffurflen gais ar gyfer eich achos.
Os ydych chi neu’r camdriniwr yn cynrychioli eich/eu hunain
Efallai y bydd y llys yn penderfynu na ddylech chi ofyn cwestiynau i'ch gilydd yn uniongyrchol. Gallwch chi hefyd ddweud wrth y llys os nad ydych chi eisiau cwestiynu'r camdriniwr, neu i gael eich holi ganddyn nhw. Gallwch chi ofyn i'r llys beidio â chaniatáu hynny drwy ddefnyddio Ffurflen EX740. Lawrlwythwch Ffurflen EX740 o GOV.UK a’i hanfon neu fynd â hi i’r llys.
Gall y llys ddod o hyd i ffordd arall o ofyn y cwestiynau. Os dechreuodd eich achos ar ôl 21 Gorffennaf 2022, efallai y bydd y llys yn cael cynrychiolydd cyfreithiol i ofyn y cwestiynau ar eich rhan neu ar ran y camdriniwr. Bydd y cynrychiolydd yn cael ei ddarparu gan y llys ac ni fydd yn rhaid i chi dalu. Dim ond gyda gofyn cwestiynau y gall y cynrychiolydd helpu ac ni all roi cyngor ar unrhyw beth arall.
Os oes angen help arnoch chi i gyfathrebu neu ddeall
Gallwch chi ofyn am help ychwanegol os oes gennych chi gyflwr iechyd sydd naill ai’n:
gallu ei gwneud hi'n anodd i chi ddeall beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad
gallu ei gwneud hi'n anodd i bobl eich deall chi yn y gwrandawiad
Mae hyn yn cynnwys os oes gennych chi anhawster dysgu neu gyflwr iechyd meddwl, fel PTSD neu orbryder difrifol.
Os ydych chi yn y sefyllfa hon, gallwch chi gael cymorth ychwanegol gan rywun o'r enw 'cyfryngwr'. Byddant yn dweud wrth y llys pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch chi. Er enghraifft, gallant awgrymu sut dylai'r llys ofyn cwestiynau i chi neu ddweud pryd mae angen seibiant arnoch chi. Yn ystod y gwrandawiad, gallant eich helpu i ddeall y cwestiynau a'r hyn sy'n digwydd.
Darllenwch sut i gael cymorth cyfryngwr ar GOV.UK.
Cael help wrth elusen neu fudiad
Mae nifer o elusennau a mudiadau sy’n helpu dynion a menywodi gael help gyda chamdriniaeth.
Os ydych chi o'r tu allan i'r DU
Efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cais i aros yn y DU neu fynd yn ôl i'r DU os yw eich perthynas wedi dod i ben oherwydd cam-drin domestig. Mae eich opsiynau yn dibynnu ar eich statws mewnfudo.
Pryd i ddweud wrth y Swyddfa Gartref
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Gartref cyn gynted ag y byddwch yn gwahanu – eglurwch eich amgylchiadau a’ch bod wedi profi cam-drin domestig. Efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn dod â’ch caniatâd i aros fel partner i ben, felly mae’n bwysig gwneud cais arall i aros cyn gynted â phosib.
Mae’n bwysig cael cyngor wrth gynghorwr arbenigol neu gyfreithiwr mewnfudo cyn gynted ag y gallwch chi. Os nad oes gennych chi incwm neu os ydych chi ar incwm isel, gallwch chi gael cymorth cyfreithiol i dalu ffioedd eich cyfreithiwr.
Os oes gennych chi fisa partner
Gallwch chi a'ch plant wneud cais i aros yn y DU neu ddychwelyd i'r DU yn barhaol os yw'ch perthynas â'ch partner wedi dod i ben oherwydd cam-drin domestig.
Gallwch chi wneud cais am ‘ganiatâd amhenodol i aros’ os ydych chi yn y DU ar fisa partner. Gallwch chi hefyd wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros o'r tu allan i'r DU os oedd eich fisa diwethaf i'r DU yn fisa partner. Ni allwch chi wneud cais os ydych chi ar fisa dyweddi neu fisa partner sifil arfaethedig.
Mae’n rhaid i’ch partner fod yn:
ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
rhywun sydd wedi preswylio’n sefydlog - mae hyn yn golygu bod ganddynt ganiatâd amhenodol i aros neu statws preswylydd sefydlog o Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
ddinesydd yr UE, AEE neu'r Swistir gyda statws preswylydd cyn-sefydlog
rhywun sydd wedi bod yn Lluoedd Arfog Prydain am 4 blynedd o leiaf
ffoadur, person diwladwriaeth neu rywun â diogelwch dyngarol
Efallai y byddwch chi’n gallu ymestyn eich fisa cyfredol am 3 mis. Bydd hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad at fudd-daliadau tra byddwch chi’n gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros. Gallwch chi lawrlwytho’r ffurflen i wneud cais am estyniad 3 mis ar GOV.UK.
Os daeth eich perthynas i ben oherwydd cam-drin domestig, gallwch chi edrych i weld sut i wneud cais am ganiatâd amhenodol ar GOV.UK.
Os ydych chi'n aelod o deulu dinesydd yr UE, yr AEE neu'r Swistir
Os oes gennych chi statws preswylydd cyn-sefydlog o Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel partner neu blentyn dibynnol, gallwch chi wneud cais i aros yn y DU yn barhaol os daeth eich perthynas ag aelod o'ch teulu i ben oherwydd cam-drin domestig.
Gallwch chi naill ai:
wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros
uwchraddio eich statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog - dim ond ar ôl i chi fod yn y DU am 5 mlynedd y gallwch chi wneud hyn
Mae'r rheolau ar gyfer caniatâd amhenodol a statws sefydlog yn wahanol. Gall fod yn anodd penderfynu pa opsiwn sydd orau i chi. Siaradwch â chynghorwr i weld beth ddylech chi ei wneud.
Os nad oes gennych chi statws preswylydd cyn-sefydlog eto, gallwch chi dal wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os:
rydych chi’n aelod o deulu preswylydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020
daeth eich perthynas ag aelod o'ch teulu i ben oherwydd cam-drin domestig
Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oedd 30 Mehefin 2021, ond mae’r llywodraeth yn dweud bod cam-drin domestig yn rheswm da dros wneud cais hwyr am statws preswylydd cyn-sefydlog.
Os na allwch chi wneud cais am ganiatâd amhenodol neu i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Os oes gennych chi blentyn o dan 18 oed sy'n byw yn y DU ac sydd â chaniatâd i aros, edrychwch i weld os gallwch chi wneud cais am fisa teulu ar GOV.UK.
Os na allwch chi fynd yn ôl i'ch gwlad gartref oherwydd eich bod yn ofni erledigaeth ac eisiau aros yn y DU fel ffoadur, edrychwch i weld os gallwch chi hawlio lloches ar GOV.UK.
Os nad oes gennych chi unman i aros a dim arian, efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer y cynllun Cymorth i Fudwyr sy’n Ddioddefwyr. Efallai y byddwch yn cael cymorth ariannol a help gyda llety wrth y cynllun.
Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio at y cynllun gan gynghorwr – siaradwch â chynghorwr.
Os ydych chi’n ddibynnydd ar fisa BNO Hong Kong
Os yw eich perthynas â'ch noddwr wedi dod i ben oherwydd cam-drin domestig, gallwch chi aros ar y llwybr Hong Kong (BNO). Nid oes angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Gartref.
Ar ôl 5 mlynedd ar fisa BNO Hong Kong, gallwch chi wneud cais am ganiatâd amhenodol.
Os na allwch chi gynnal eich hun na'ch teulu, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cais am fynediad at gyllid cyhoeddus ar GOV.UK.
Os oes gennych chi unrhyw fisa dros dro arall fel partner
Mae hyn yn cynnwys os ydych chi wedi cael eich noddi ar fisa gwaith neu fisa myfyriwr eich partner.
Os yw eich perthynas â'ch noddwr wedi dod i ben oherwydd cam-drin domestig, gallwch chi wneud cais am ganiatâd i aros a chael mynediad at fudd-daliadau yn y DU am 3 mis. Caiff hyn ei alw’n gonsesiwn ‘mudwyr sy’n dioddef o gam-drin domestig' (MVDA).
Os cewch chi’r consesiwn MVDA, rhaid i chi wneud cais am fisa arall o fewn 3 mis i aros yn y DU.
Chwiliwch am help wrth gynghorwr mewnfudo arbenigol os ydych chi eisiau gwneud cais am gonsesiwn MVDA.
Os ydych chi newydd gyrraedd y DU
Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am eich hawliau os ydych chi wedi profi cam-drin domestig ar y wefan Gwybodaeth Hawliau Tai.
Cam-drin economaidd
Mae cam-drin economaidd yn digwydd lle mae cyflawnwr yn defnyddio dulliau ariannol i'ch rheoli a gall gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
eich atal rhag gweithio
rheoli cyllid eich cartref gan gynnwys cyflogau, budd-daliadau a chyfrifon banc
eich gorfodi i drosglwyddo eich cyflog a’ch arian
eich perswadio neu eich gorfodi i gymryd benthyciadau a chredyd yn eich enw chi
eich atal rhag defnyddio pethau fel trafnidiaeth neu'r ffôn
eich atal rhag derbyn eich post
Os ydych chi wedi cael eich rhoi dan bwysau neu eich bwlio i gymryd benthyciadau neu gredyd yn eich enw chi, efallai na ellir gorfodi’r ddyled – dylech chi siarad â chynghorwr.
Mae’r elusen cam-drin domestig Refuge wedi cynhyrchu canllaw ariannol i fenywod sy’n profi cam-drin domestig yn www.refuge.org.uk.
Gallwch chi hefyd siarad â chynghorwr am broblemau dyled.
Os bydd rhywun yn eich rhwystro rhag derbyn eich post, efallai na fyddwch chi’n gweld gwybodaeth bwysig am eich arian neu'ch dyled – cam-drin economaidd yw hyn. Gallwch chi gael eich post wedi’i ddosbarthu i gyfeiriad gwahanol lle mai dim ond chi all gael mynediad ato. Ewch i weld sut gallwch chi ddiogelu eich post ar wefan Surviving Economic Abuse.
Cam-drin ar sail anrhydedd
Caiff cam-drin ar sail anrhydedd ei diffinio fel digwyddiad neu drosedd sydd wedi neu a allai fod wedi'i gyflawni i ddiogelu neu amddiffyn anrhydedd y teulu a/neu'r gymuned. Mae cam-drin ar sail anrhydedd yn digwydd pan fydd person yn cael ei gosbi gan y teulu neu’r gymuned am wneud pethau sy’n anghydnaws â chredoau traddodiadol eu diwylliant. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dioddef cam-drin ar sail anrhydedd oherwydd eich bod:
wedi gwrthod priodas wedi’i threfnu
wedi gwrthod priodas dan orfod
wedi cael partner o ddiwylliant neu grefydd wahanol
yn byw mewn ffordd o fyw sydd wedi’i gorllewino
eisiau ysgariad.
Gall cam-drin ar sail anrhydedd gynnwys cam-drin domestig, cam-drin rhywiol neu seicolegol, ymosodiad, priodas dan orfod neu anfon rhywun yn ôl i’w gwlad wreiddiol.
Mudiad arbenigol yw’r Honour Network Helpline sy’n cynghori dioddefwyr a goroeswyr priodas dan orfod a cham-drin ar sail anrhydedd. Gallwch chi gysylltu â’r Honour Network Helpline ar eu gwefan.
Gallwch chi ddarganfod sut i gael help ar wefan Karma Nirvana.
Mwy am fudiadau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor am gam-drin domestig a mathau eraill o gamdriniaeth.
Priodas dan orfod
Priodas dan orfod yw lle rhoddir pwysau arnoch chi i briodi yn erbyn eich ewyllys. Efallai y byddwch chi'n cael eich blacmelio'n emosiynol neu'n cael eich bygwth yn gorfforol, fel arfer gan eich teulu. Nid yw'r un peth â phriodas wedi'i threfnu lle mae'r ddwy ochr dros 18 oed ac yn cytuno i briodi.
O 27 Chwefror 2023, mae’n anghyfreithlon i rywun drefnu eich priodas os ydych chi o dan 18 oed. Bydd yn briodas dan orfod hyd yn oed os ydych chi’n cytuno i’r briodas ac na roddwyd pwysau arnoch chi i wneud hynny.
Yng Nghymru a Lloegr, mae priodas dan orfod yn drosedd. Os oes rhywun yn eich gorfodi chi i briodi, gallent fynd i’r carchar am hyd at saith mlynedd.
Anffurfio organau cenhedlu benywod
Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yw pan fydd holl organau cenhedlu merch neu fenyw ifanc, neu ran ohonynt, yn cael eu tynnu neu eu hanafu am resymau anfeddygol. Weithiau caiff ei alw’n 'torri organau cenhedlu benywod’, neu 'enwaediad benywaidd'. Mae rhai cymunedau'n defnyddio enwau lleol i gyfeirio at FGM, er enghraifft 'sunna'. Mae FGM yn drosedd.
Aflonyddu a stelcio
Mae aflonyddu’n digwydd pan fyddwch chi’n derbyn ymddygiad digroeso wrth berson arall sy'n eich dychryn neu'n peri gofid i chi. Mae enghreifftiau o aflonyddu yn cynnwys galwadau ffôn maleisus, negeseuon testun bygythiol, iaith fygythiol a sarhaus a niwed i eiddo.
Math o aflonyddu yw stelcio a gall gynnwys ymddygiad fel:
eich dilyn chi
cysylltu â chi neu geisio cysylltu â chi
monitro eich e-bost a’ch defnydd o’r we
eich gwylio chi ac ysbïo arnoch chi
Mae'n drosedd droseddol a sifil i berson arall eich aflonyddu neu eich stelcio. Dylech chi riportio’r mater i'r heddlu, efallai y byddant yn gallu gwneud cais am orchymyn amddiffyn rhag stelcio (SPO).
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gwneud cais i’r llysoedd sifil er mwyn:
cael gwaharddeb i ddod â’r aflonyddu a’r stelcio i ben
hawlio iawndal
Gallai hyn gymryd yn hirach na chael SPO wrth yr heddlu, ond mae'n dal yn werth ei wneud. Os yw aflonyddwr yn torri’r waharddeb, mae’n drosedd.
Help pellach
Ceir nifer o fudiadau a all roi cyngor a chymorth cyfrinachol i chi.
Mwy am fudiadau sy’n gallu eich helpu os ydych chi wedi cael eich cam-drin
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 25 Chwefror 2021