Defnyddio cyfryngu i’ch helpu i wahanu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae cyfryngu’n ffordd o ddatrys unrhyw wahaniaethau rhyngoch chi a’ch cyn-bartner, gyda chymorth trydydd person na fydd yn ochri efo’r naill na’r llall. Gelwir y trydydd person yn gyfryngwr. Gallan nhw eich helpu i ddod i gytundeb ynghylch materion sy'n ymwneud ag arian, eiddo neu blant.
Gallwch roi cynnig ar gyfryngu cyn mynd at gyfreithiwr. Os ewch chi at gyfreithiwr yn gyntaf, mae'n debyg y byddan nhw’n siarad â chi ynghylch defnyddio’r broses gyfryngu i geisio datrys unrhyw wahaniaethau.
Mae’n well ceisio dod i gytundeb drwy gyfryngu os gallwch chi. Gallech arbed arian mewn ffioedd cyfreithiol a gall fod yn haws datrys unrhyw wahaniaethau. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi fynd i gyfarfod cyntaf gyda chyfryngwr cyn gwneud cais i’r llys.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae cyfryngu’n gweithio yn y daflen gyfryngu i deuluoedd ar GOV.UK..
Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr teuluol lleol ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol.
Pryd mae’n rhaid i chi fynd i gyfarfod cyfryngu
Yn y MIAM, cewch wybod beth yw cyfryngu a sut y gall eich helpu. Byddwch hefyd yn cael gwybod am brosesau eraill i ddelio â phroblemau heb fynd i'r llys. Mae cyfryngu a’r prosesau eraill hyn yn fathau o ‘ddatrys anghydfodau heb y llys’ (NCDR).
Mae angen i chi ddangos eich bod wedi bod i MIAM os byddwch yn gwneud cais i’r llys am y canlynol:
i benderfynu sut y rhennir arian rhyngoch chi a’ch cyn bartner pan fyddwch yn gwahanu
i wneud penderfyniad am eich plant - er enghraifft gyda phwy y byddan nhw’n byw neu faint o gyswllt a gewch chi â nhw
Os byddwch yn gwneud cais i’r llys cyn i chi fod mewn MIAM, gall y llys oedi eich achos a dweud bod yn rhaid i chi fynd. Bydd y llys hefyd yn eich annog chi a’ch cyn-bartner i roi cynnig ar NCDR.
Dylech fynd i MIAM hyd yn oed os yw eich cyn-bartner yn gwrthod mynd i un. Gallai’r llys eu hannog yn nes ymlaen i fynd i MIAM neu NCDR. Os bydd eich cyn bartner yn gwrthod mynd, efallai y bydd y llys yn gwneud iddyn nhw dalu rhywfaint o'ch costau cyfreithiol.
Mae rhai eithriadau sy’n golygu nad oes rhaid i chi fynd i MIAM cyn mynd i’r llys – er enghraifft, os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig. Pan fyddwch yn gwneud cais i’r llys, bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth i ddangos bod eithriad yn berthnasol. Gallwch weld rhestr o’r eithriadau sy’n golygu nad oes rhaid i chi fynd i MIAM ar GOV.UK.
Os oes angen i chi siarad â rhywun oherwydd bod eich partner yn ymosodol
Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo eich bod dan fygythiad, dylech gael cymorth.
Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd.
Os ydych yn ddyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.
Beth yw cost sesiynau cyfryngu?
Nid yw sesiynau cyfryngu am ddim ond maen nhw’n gyflymach ac yn rhatach na mynd i'r llys. Os yw’r gwahaniaethau rhyngoch chi a’ch cyn-bartner yn ymwneud â phlentyn, efallai y gallwch gael taleb am ddim gwerth hyd at £500 ar gyfer sesiynau cyfryngu. Ewch i weld os rydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol ar GOV.UK.
Os ydych chi ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi gael cymorth cyfreithiol i dalu am y canlynol:
y cyfarfod rhagarweiniol – mae hwn yn berthnasol i’r ddau ohonoch, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sy’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol
un sesiwn gyfryngu - mae hynny'n cynnwys y ddau ohonoch
mwy o sesiynau cyfryngu - dim ond y sawl sy'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol fydd yn cael eu cynnwys
cymorth gan gyfreithiwr ar ôl cyfryngu, er enghraifft i wneud eich cytundeb yn gyfreithiol rwymol
Mae cyfreithiol rwymol yn golygu bod yn rhaid i chi lynu wrth delerau’r cytundeb yn ôl y gyfraith.
Ewch i weld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar GOV.UK.
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol
Mae cost cyfryngu yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Ffoniwch wahanol gyfryngwyr i ddod o hyd i’r pris gorau, ond cofiwch efallai nad y rhataf yw’r gorau.
Mae rhai cyfryngwyr yn cyfrifo’u ffioedd yn seiliedig ar faint rydych chi’n ei ennill - felly efallai y byddwch yn talu llai os ydych ar incwm isel.
Os ydych am gadw costau cyfryngu i lawr, ceisiwch gytuno ar gymaint ag y gallwch gyda'ch cyn-bartner cyn i chi ddechrau. Er enghraifft, efallai eich bod eisoes wedi cytuno ar drefniadau am eich plant, ond bod arnoch angen help i gytuno ar sut i rannu eich arian.
Gallech hefyd gytuno ar nifer penodol o sesiynau gyda’ch cyfryngwr – gallai hyn eich helpu chi a’ch cyn-bartner i ganolbwyntio ar gael ateb cyflymach.
Cyn i chi fynd i sesiynau cyfryngu
Meddyliwch am yr hyn yr hoffech ei gael o’r sesiynau cyfryngu cyn i chi ddechrau. Mae cyfryngu’n fwy tebygol o lwyddo os gallwch chi dreulio’r sesiynau’n canolbwyntio ar bethau rydych chi wir yn anghytuno arnyn nhw.
Os ydych chi'n ceisio dod i gytundeb ynghylch arian neu eiddo, bydd angen i chi lenwi ffurflen datgeliad ariannol pan fyddwch chi'n mynd i'r sesiwn gyfryngu. Bydd yn rhaid i chi gynnwys eich holl wybodaeth ariannol, er enghraifft:
eich incwm - er enghraifft o waith neu fudd-daliadau
faint rydych chi’n ei wario ar gostau byw – fel trafnidiaeth, cyfleustodau a bwyd
faint o arian sydd gennych yn eich cyfrifon banc
dyledion sy'n ddyledus gennych
eiddo rydych chi'n berchen arno
Dechreuwch gasglu biliau a chyfriflenni banc gyda’i gilydd i fynd i’r cyfarfod cyfryngu cyntaf. Bydd rhai cyfryngwyr yn anfon ffurflen fel hon atoch i’w llenwi cyn eich apwyntiad cyntaf.
Mae’n bwysig eich bod chi a’ch cyn-bartner yn onest wrth siarad am eich sefyllfa ariannol. Os bydd eich cyn-bartner yn darganfod yn nes ymlaen eich bod wedi ceisio cuddio rhywbeth oddi wrthyn nhw, efallai na fydd unrhyw gytundeb a wnewch yn ddilys. Gallai eich cyn-bartner hefyd fynd â chi i’r llys am gyfran fwy o’ch arian.
Yr hyn sy’n digwydd mewn sesiynau cyfryngu
Yn y cyfarfod rhagarweiniol, byddwch chi a’ch cyn-bartner fel arfer yn cwrdd ar wahân â chyfryngwr hyfforddedig. Ar ôl hyn, byddwch yn cael sesiynau cyfryngu lle byddwch chi, eich cyn-bartner a’r cyfryngwr yn eistedd gyda’ch gilydd i drafod eich gwahaniaethau.
Gallwch chi a’ch cyn-bartner eistedd mewn gwahanol ystafelloedd os ydych chi’n teimlo na allwch chi eistedd gyda’ch gilydd, a gallwch ofyn i’r cyfryngwr fynd yn ôl ac ymlaen rhyngoch chi. Mae’r math hwn o gyfryngu’n cymryd mwy o amser, felly mae’n ddrutach fel arfer.
Ni all y cyfryngwr roi cyngor cyfreithiol, ond bydd yn:
gwrando ar safbwynt chi’ch dau - ni fyddant yn cymryd ochr
helpu i greu awyrgylch tawel lle gallwch ddod i gytundeb y mae’r ddau ohonoch yn hapus ag ef
awgrymu camau ymarferol i’ch helpu i gytuno ar bethau
Mae popeth a ddywedwch mewn sesiwn gyfryngu yn gyfrinachol.
Os oes gennych blant, bydd eich cyfryngwr fel arfer yn canolbwyntio ar yr hyn sydd orau iddyn nhw a’u hanghenion. Efallai y bydd y cyfryngwr hyd yn oed yn siarad â’ch plant os ydyn nhw’n meddwl bod hynny’n briodol a’ch bod chi’n cytuno i hynny.
Ar ddiwedd eich sesiynau cyfryngu
Bydd eich cyfryngwr yn ysgrifennu ‘memorandwm cyd-ddealltwriaeth’ – dogfen yw hon sy’n dangos yr hyn rydych chi wedi cytuno arno. Bydd y ddau ohonoch yn cael copi.
Os yw eich cytundeb yn ymwneud ag arian neu eiddo, mae'n syniad da mynd â'ch memorandwm cyd-ddealltwriaeth at gyfreithiwr a gofyn iddo ei droi'n 'orchymyn cydsynio'. Mae hyn yn golygu y gallwch fynd â’ch cyn-bartner i’r llys os nad yw’n cadw at rywbeth rydych chi wedi cytuno arno.
Gallwch wneud cais am orchymyn cydsynio ar ôl i chi ddechrau'r broses o gael ysgariad neu ddod â'ch partneriaeth sifil i ben. Mae angen i farnwr ei gymeradwyo yn y llys – bydd hyn yn costio £60. Bydd yn rhaid i chi hefyd dalu ffioedd eich cyfreithiwr.
Ewch i weld os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol i dalu am eich costau ar GOV.UK.
Os na allwch ddod i gytundeb drwy gyfryngu
Dylech siarad â chyfreithiwr os na allwch chi ddod i gytundeb gyda'ch cyn-bartner drwy gyfryngu. Byddan nhw’n rhoi cyngor i chi ynghylch beth i’w wneud nesaf.
Dewch o hyd i gyfreithwyr lleol ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Os ydych chi’n anghytuno ynghylch beth ddylai ddigwydd o ran eich plant, efallai y bydd cyfreithiwr yn awgrymu eich bod yn dal i geisio dod i gytundeb rhyngoch chi’ch hunain.
Fel arfer, ni fydd llysoedd yn penderfynu gyda phwy y mae plentyn yn byw neu'n treulio amser os ydyn nhw’n meddwl y gall y rhieni ddatrys pethau eu hunain. Gelwir y gofyniad hwn yn ‘egwyddor dim gorchymyn’.
Gallech geisio llunio cynllun rhianta. Cofnod ysgrifenedig neu ar-lein yw hwn o sut rydych chi a’ch cyn-bartner yn bwriadu gofalu am eich plant. Mae rhagor o wybodaeth am lunio cynllun rhianta ar gael ar wefan Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd.
Os ydych chi'n anghytuno am arian neu eiddo a'ch bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu, mae'n debyg y bydd cyfreithiwr yn awgrymu eich bod yn rhoi trefn ar bethau yn y llys.
Os byddai'n well gennych osgoi mynd i'r llys, gallech roi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys anghydfod heb y llys.
Os oes gennych chi a’ch cyn-bartner gyfreithwyr, gallan nhw eich helpu i drafod telerau. Efallai y byddan nhw’n trefnu cyfarfodydd rhyngoch chi a'ch cyn-bartner - a elwir weithiau yn 'gyfarfodydd bwrdd crwn'.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu mynd i sesiwn 'cyfraith gydweithredol'. Mae hyn yn golygu y bydd gennych chi a’ch partner gyfreithwyr yn yr ystafell yn gweithio gyda’i gilydd i ddod i gytundeb.
Gallwch hefyd ofyn i rywun niwtral eich helpu i ddod i gytundeb. Gallai hyn gynnwys mynd i sesiynau cymodi teuluol. Mae cymodwr yn debyg i farnwr – bydd yn edrych ar y pethau rydych chi a’ch cyn-bartner yn anghytuno arnyn nhw ac yn gwneud ei benderfyniad ei hun.
Gall rhai o’r opsiynau hyn fod yn ddrud, ond efallai y byddan nhw dal yn rhatach na mynd i’r llys. Mae'n well cael cyngor gan gyfreithiwr cyn rhoi cynnig ar sesiynau o’r fath.
Mynd i gyfarfod cyfraith gydweithredol
Mae gennych chi a’ch cyn-bartner cyfreithwyr bob un sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig mewn cyfraith gydweithredol. Mae’r pedwar ohonoch yn cwrdd yn yr un ystafell ac yn gweithio gyda’ch gilydd i ddod i gytundeb.
Bydd angen i’r ddau ohonoch dalu ffioedd cyfreithwyr, a all fod yn ddrud. Bydd faint y byddwch yn ei dalu ar y diwedd yn dibynnu ar faint o amser y bydd yn ei gymryd i chi a'ch cyn-bartner ddod i gytundeb.
Cyn i chi ddechrau eich sesiynau cyfraith gydweithredol, mae’n rhaid i bob un ohonoch lofnodi contract sy’n dweud y byddwch yn ceisio dod i gytundeb. Os ydych chi'n dal i fethu dod i gytundeb, bydd angen i chi fynd i'r llys i ddatrys y materion. Ni allwch chi ddefnyddio'r un cyfreithiwr, felly bydd angen i chi ddod o hyd i un gwahanol - gall hyn fod yn ddrud.
Pan fyddwch yn dod i gytundeb drwy gyfraith gydweithredol, bydd eich cyfreithwyr fel arfer yn drafftio 'gorchymyn cydsynio' - mae hwn yn gytundeb cyfreithiol rwymol am eich sefyllfa ariannol.
Os nad ydych chi'n barod eto i wneud cais am ysgariad neu i ddod â'ch partneriaeth sifil i ben, gallan nhw gofnodi'ch trefniadau fel 'cytundeb gwahanu' yn lle hynny.
Nid yw cytundeb gwahanu yn gyfreithiol rwymol. Fodd bynnag, byddwch fel arfer yn gallu ei ddefnyddio yn y llys o dan yr amodau canlynol:
mae wedi cael ei ddrafftio’n briodol, e.e. gan gyfreithiwr
rydych chi a’ch cyn-bartner yn yr un sefyllfa ariannol â phan wnaethoch chi’r cytundeb
Dewch o hyd i gyfreithiwr cydweithredol ar wefan Resolution.
Gall cyfreithwyr fod yn gostus iawn. Paratowch yr hyn a hoffech chi ei drafod cyn siarad â nhw er mwyn cadw eich sesiynau mor fyr â phosibl.
Bydd rhai cyfreithwyr yn cynnig cyfarfod cychwynnol am ddim neu am gost sefydlog – defnyddiwch yr amser hwn i gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Nid ydych yn debygol o gael cyngor manwl ond dylech gael syniad o ba mor gymhleth yw eich achos ac yn fras faint y bydd yn ei gostio i chi.
Dylech ofyn i’ch cyfreithiwr roi amcangyfrif ysgrifenedig i chi o faint fydd eich ffioedd cyfreithiol.
Mynd i sesiwn gymodi teuluol
Mae cymodi teuluol yn opsiwn arall os ydych chi am osgoi mynd i’r llys.
Mae'n debyg i fynd i'r llys, ond mewn sesiwn gymodi teuluol bydd cymodwr yn gwneud penderfyniad ar sail eich amgylchiadau - nid barnwr. Rydych chi a’ch cyn-bartner yn rhydd i ddewis y cymodwr rydych am ei ddefnyddio. Gallwch hefyd ddewis ym mhle i gynnal y gwrandawiad a pha faterion rydych chi eisiau canolbwyntio arnyn nhw.
Mae penderfyniad cymodwr yn gyfreithiol rwymol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi lynu wrth delerau’r cytundeb yn ôl y gyfraith.
Gall sesiynau cymodi fod yn ddrud, ond maen nhw’n rhatach na mynd i’r llys. Nid oes cymorth cyfreithiol ar gael i helpu gyda’r costau. Bydd yr union faint y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a faint o amser y bydd yn ei gymryd i chi a'ch cyn-bartner ddod i gytundeb.
Gallai sesiynau cymodi teuluol fod yn opsiwn da os:
rydych chi a’ch cyn-bartner eisiau penderfyniad cyflym - gall aros am wrandawiad llys gymryd mwy na blwyddyn weithiau, tra byddai cymodwr fel arfer yn gallu dechrau'n llawer cynt
rydych chi a’ch cyn-bartner yn methu dod i gytundeb drwy gyfryngu neu drwy ddefnyddio cyfreithwyr - ond eich bod yn dal yn awyddus i osgoi mynd i'r llys
byddai’n well gennych petai rhywun arall yn gwneud penderfyniad ar eich rhan, yn hytrach na gorfod trafod telerau eich hunain
Nid yw sesiynau cymodi yn rhad ac ni allwch gael cymorth cyfreithiol ar eu cyfer, ond efallai y bydd yn dal yn rhatach na mynd i'r llys. Gallai’r llys gostio miloedd o bunnoedd.
Gallai achos cymodi syml gostio £1,000, ond gallech dalu llawer mwy yn y pen draw - mae'r union swm yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a faint o amser mae'n ei gymryd i ddod i gytundeb.
Mae'n syniad da siarad â chyfreithiwr cyn penderfynu ar sesiynau cymodi - gallan nhw ddweud wrthych ai dyma sy’n iawn ar gyfer eich sefyllfa chi, ac efallai y gallan nhw argymell cymodwr teuluol lleol da.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gymodwr teuluol ar-lein ar wefan Sefydliad y Cymodwyr Cyfraith Teulu.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 18 Gorffennaf 2019