Ffyrdd i ddod â’ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n briod ac eisiau dod â'ch priodas i ben yn barhaol, dylech wneud cais i ysgaru.

Os ydych chi mewn partneriaeth sifil ac eisiau dod â'ch partneriaeth sifil i ben yn barhaol, dylech wneud cais i ddiddymu.

Os nad ydych chi eisiau cael ysgariad neu ddiddymiad, gallwch wahanu’n gyfreithiol. Er enghraifft, gallwch wahanu’n gyfreithiol os nad ydych chi'n cytuno i ysgaru neu ddiddymu am resymau crefyddol neu ddiwylliannol.

Os nad yw eich priodas neu bartneriaeth sifil yn gyfreithiol ddilys, gallwch ofyn i'r llys ddod â hi i ben - gelwir hyn yn 'ddiddymu'. Er enghraifft, gallech ddiddymu eich priodas neu bartneriaeth sifil pe baech chi wedi cael eich gorfodi i briodi neu fod mewn partneriaeth sifil.

Gallech hefyd ei diddymu os oedd un ohonoch dan oed ar adeg y briodas neu'r bartneriaeth sifil. Yr isafswm oedran ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil:

  • o 27 Chwefror 2023 yw 18

  • cyn 27 Chwefror 2023 oedd 16

Pwysig

Os oes angen i chi siarad â rhywun oherwydd bod eich partner yn ymosodol

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo eich bod dan fygythiad, dylech gael cymorth.

Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd. 

Os ydych yn ddyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.

Cyn i chi ddod â'ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben, bydd angen i chi benderfynu hefyd:

Os ydych chi wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil am lai na blwyddyn

Ni allwch ysgaru neu ddiddymu eto.

Gallwch wahanu’n gyfreithiol, ond fel arfer mae'n well aros nes y gallwch chi gael ysgariad neu ddiddymiad.

Tra byddwch chi'n aros i ddechrau cael ysgariad neu ddiddymiad, gallwch chi a'ch partner gael cytundeb gwahanu. Mae hyn yn eich galluogi i gytuno ar fanylion sut rydych chi am wahanu cyn i chi gael ysgariad neu ddiddymiad.

Ysgaru neu ddiddymu eich priodas/partneriaeth

Bydd angen i chi ddangos bod eich priodas neu bartneriaeth sifil wedi 'chwalu'n anadferadwy'. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw ffordd y gallwch chi weithio trwy eich problemau. Gallwch ddod i wybod sut i gael ysgariad neu ddiddymiad.

Gwahanu’n gyfreithiol

Mae gwahanu’n gyfreithiol yn ffordd o wahanu heb gael ysgariad neu ddiddymiad - caiff ei alw hefyd yn ‘ymwahaniad cyfreithiol'. Mae'n caniatáu i chi a'ch partner wneud penderfyniadau ffurfiol am bethau fel eich cyllid a'ch trefniadau byw, ond byddwch chi'n dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Efallai y byddwch chi'n gwahanu’n gyfreithiol os na allwch chi neu os nad ydych chi eisiau cael ysgariad neu ddiddymiad - er enghraifft:

  • Dydych chi ddim eisiau ysgaru neu ddiddymu am resymau crefyddol neu ddiwylliannol.

  • Eich bod wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil am lai na blwyddyn

Mae gwahanu’n gyfreithiol yn costio £415 - ar ôl i chi dalu'r ffi does dim costau pellach.

Dim ond 1 cais y mae angen i chi a'ch partner ei wneud. Gall y cais gael ei anfon:

  • gan y ddau ohonoch gyda’ch gilydd - cais ar y cyd yw’r enw ar hyn

  • gennych chi neu eich partner – cais unigol yw’r enw ar hyn

Nid yw gwahanu’n gyfreithiol yn eich atal rhag cael ysgariad neu ddiddymiad yn ddiweddarach. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi arall i gael ysgariad neu ddiddymiad.

Gallwch ddod i wybod sut i wneud cais i wahanu’n gyfreithiol ar GOV.UK.

Diddymu eich priodas neu bartneriaeth sifil

Os nad ydych chi'n meddwl bod eich priodas neu bartneriaeth sifil yn gyfreithlon, gallwch ofyn i'r llys ddod â hi i ben - gelwir hyn yn 'ddiddymu'

Os yw'r llys yn ei diddymu, byddan nhw’n edrych ar eich sefyllfa ac yn penderfynu a yw eich priodas neu bartneriaeth sifil naill ai:

  • yn ddi-rym - mae hyn yn golygu nad yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil erioed wedi bodoli'n gyfreithiol.

  • yn bosibl ei gwneud yn ddi-rym - mae hyn yn golygu bod y briodas neu'r bartneriaeth sifil yn gyfreithlon pan gafodd ei chofrestru ond nid yw'n gyfreithlon mwyach

Mae diddymu eich priodas neu bartneriaeth sifil yn costio £612 ac mae'n cymryd ychydig fisoedd i'w gwblhau.

Edrych os gallwch chi ofyn i ddiddymu eich priodas/partneriaeth

Bydd angen i chi gael rheswm i ddiddymu eich priodas/partneriaeth. Er enghraifft, mae rhai rhesymau dros ddiddymu eich priodas/partneriaeth yn cynnwys:

  • bod un ohonoch eisoes yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

  • doeddech chi ddim wedi cytuno'n iawn â'r briodas neu'r bartneriaeth sifil - er enghraifft, roeddech chi'n feddw neu cawsoch eich gorfodi

  • dydych chi ddim wedi cael rhyw gyda'ch partner ers i chi briodi - dydi hyn ddim yn berthnasol i gyplau o'r un rhyw na phartneriaid sifil Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gwneud cais i ddiddymu eich priodas neu bartneriaeth sifil. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.

Gallwch hefyd weld sut i ddod o hyd i gyngor cyfeithiol fforddiadwy neu am ddim.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 23 Awst 2019