Cofrestru partneriaeth sifil
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae partneriaeth sifil yn berthynas gyfreithiol y gellir ei chofrestru gan ddau berson nad ydynt yn perthyn i'w gilydd.
Mae partneriaethau sifil ar gael i gyplau o’r un rhyw a chyplau o wahanol ryw.
Bydd cofrestru partneriaeth sifil yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i’ch perthynas. Bydd hyn yn rhoi hawliau cyfreithiol ychwanegol i chi, yn ogystal â chyfrifoldebau.
I gofrestru partneriaeth sifil, rhaid i chi a’ch partner lofnodi dogfen partneriaeth sifil o flaen dau dyst a chofrestrydd.
Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd gan gwpl nad ydynt wedi cofrestru partneriaeth sifil yr un hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol â chwpl sydd wedi cofrestru partneriaeth sifil. Bydd hyn yn wir, er enghraifft, wrth gyfrifo eich hawl i fudd-daliadau lles a chredydau treth.
Pwy sy’n cael cofrestru partneriaeth sifil
Gallwch chi a’ch partner gofrestru partneriaeth sifil ar yr amod bod pob un o’r canlynol yn berthnasol:
rydych chi’ch dau dros 18 oed
rydych chi wedi byw yn yr un ardal yng Nghymru neu Loegr am o leiaf saith niwrnod
nad yw'r un ohonoch eisoes yn bartner sifil, neu'n briod
nid ydych yn berthnasau gwaed agos
nad yw’r un ohonoch yn y carchar yn bwrw gorchymyn oes cyfan
Os ydych chi dan 18 oed
Ni chewch chi gofrestru partneriaeth sifil yng Nghymru na Lloegr.
Os gwnaethoch chi gofrestru eich partneriaeth sifil cyn 27 Chwefror 2023
Os oeddech chi'n 16 neu'n 17 oed pan wnaethoch chi gofrestru eich partneriaeth sifil, mae'n dal i fod yn ddilys. Roedd arnoch angen caniatâd pob rhiant â chyfrifoldeb rhiant ac unrhyw warcheidwad cyfreithiol i gofrestru partneriaeth sifil.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldeb rhiant, gweler yr adran Plant yn Cydfyw a phriodi - y gwahaniaethau cyfreithiol.
Efallai nad ydych chi wedi gallu cael caniatâd eich rhieni, o bosibl oherwydd nad ydych chi’n gwybod ble maen nhw. Neu efallai bod eich rhieni wedi gwrthod rhoi eu caniatâd i chi gofrestru partneriaeth sifil. Mewn sefyllfa o’r fath, byddai angen i chi fod wedi gwneud cais i lys am ganiatâd i gofrestru eich partneriaeth sifil.
Os na chawsoch ganiatâd gan eich rhieni neu'r llys, mae'n debyg nad yw'ch partneriaeth sifil yn gyfreithlon.
Os ydych chi neu'ch partner yn y carchar
Gallwch chi gofrestru partneriaeth sifil.
Fodd bynnag, mae’r rheolau’n wahanol os yw un ohonoch yn bwrw dedfryd oes heb y posibilrwydd o gael eich rhyddhau – gelwir hyn yn ‘orchymyn oes gyfan’. Os yw un ohonoch yn bwrw gorchymyn oes gyfan, ni allwch briodi oni bai fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn caniatáu i chi wneud hynny.
Sut i gofrestru partneriaeth sifil
Mae angen cyflawni dau gam i gofrestru partneriaeth sifil. Y cam cyntaf yw rhoi rhybudd o’ch bwriad i gofrestru a’r ail yw cofrestru’r bartneriaeth sifil.
Rhoi rhybudd
Bydd angen i chi a'ch partner roi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil i'r swyddfa gofrestru leol lle'r ydych yn byw. Rhaid i chi wneud hyn wyneb yn wyneb. Bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych yn mynd i gofrestru eich partneriaeth sifil yn rhywle arall. Rhaid i chi fod wedi byw mewn ardal am o leiaf saith niwrnod cyn y gallwch roi rhybudd yno.
Pan fyddwch yn rhoi rhybudd, gofynnir i chi roi manylion y dyddiad a’r lleoliad lle bydd y bartneriaeth sifil yn cael ei chofrestru, felly dylech gysylltu â’r lleoliad lle byddwch yn cofrestru yn gyntaf.
Bydd rhaid i chi hefyd roi rhai manylion personol i'r swyddfa gofrestru. Mae’r manylion hyn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich oedran, eich cenedligrwydd ac a ydych chi wedi bod mewn partneriaeth sifil neu wedi priodi o’r blaen. Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o’r manylion hyn, er enghraifft eich pasbort, eich tystysgrif geni, archddyfarniad absoliwt ar gyfer ysgariad, gorchymyn terfynol neu dystysgrif marwolaeth cyn bartner sifil. Os yw un ohonoch yn amodol ar reolaeth fewnfudo, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol ychwanegol Pobl sy’n amodol ar reolaeth fewnfudo.
Ar ôl i chi roi hysbysiad o’ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil, bydd manylion o’r hysbysiad ar gael mewn swyddfa gofrestru i bobl ei weld. Bydd hyn yn yr ardal lle mae’r ddau ohonoch yn byw a’r ardal lle rydych chi’n mynd i gofrestru, os yw hyn yn wahanol.
Rhaid i’r manylion fod ar gael i bobl eu gweld am 28 diwrnod cyn y gallwch gofrestru eich partneriaeth sifil. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle i wrthwynebiadau.
Ar ôl 28 diwrnod, byddwch yn rhydd i gofrestru eich partneriaeth, ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiadau ac nad oes unrhyw resymau cyfreithiol pam na allwch fwrw ymlaen. Rhaid i'r swyddfa gofrestru roi dogfen gyfreithiol i chi a elwir yn atodlen partneriaeth sifil y bydd arnoch ei hangen er mwyn cofrestru partneriaeth sifil.
Rhaid i chi gofrestru o fewn y deuddeg mis nesaf. Os na fyddwch yn cofrestru eich partneriaeth sifil o fewn y cyfnod hwn, ni fyddwch yn gallu cofrestru oni bai eich bod yn dechrau’r broses gyfan eto.
Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, lle mae un ohonoch yn ddifrifol wael ac nad oes disgwyl i chi wella, gallwch ofyn i'r cyfnod aros o 28 diwrnod gael ei hepgor - gweler o dan y pennawd Rheolau arbennig ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael.
Cofrestru
Gallwch gofrestru eich partneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu mewn unrhyw leoliad sydd wedi cael ei gymeradwyo i gofrestru partneriaethau sifil. Mae gan unrhyw le sydd wedi cael ei gymeradwyo i gynnal priodasau sifil gymeradwyaeth yn awtomatig i gofrestru partneriaethau sifil. Ni all lleoliadau digrefydd ddewis cynnal partneriaethau sifil ai peidio os ydynt yn cynnal priodasau. Byddai hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon.
Nid oes yn rhaid i safleoedd crefyddol gynnal seremonïau partneriaeth sifil. Os ydyn nhw, gallan nhw ddewis cynnal:
pob partneriaeth sifil
dim ond partneriaethau sifil rhwng dau berson o’r un rhyw
dim ond partneriaethau sifil rhwng dau berson o wahanol ryw
Gallwch chwilio am leoliadau cymeradwy ar GOV.UK. Dylech wneud yn siŵr bod y lleoliad ar gael cyn rhoi rhybudd i gofrestru.
Rydych chi a’ch partner wedi cofrestru eich partneriaeth sifil yn gyfreithiol pan rydych wedi llofnodi dogfen gyfreithiol, a enwir yn atodlen partneriaeth sifil, neu drwydded os ydy un ohonoch chi’n ddifrifol wael – gweler o dan y pennawd Rheolau arbennig ar gyfer pobl sy’n ddifrifol wael. Mae’n rhaid gwneud hyn o flaen cofrestrydd a dau dyst.
Does dim gofynion cyfreithiol pellach a does dim rhaid i chi gael seremoni, er y gallwch ddewis cael un os dymunwch. Bydd llawer o awdurdodau lleol yn trefnu seremoni yn ogystal â llofnodi’r ddogfen partneriaeth sifil ond nid oes rhaid iddyn nhw wneud hynny. Ni chaniateir unrhyw wasanaeth crefyddol wrth lofnodi’r atodlen partneriaeth sifil. Os ydych am gael seremoni a bod yr awdurdod lleol yn gwrthod cynnal un, gallech wneud un o’r canlynol:
dod o hyd i swyddfa gofrestru mewn awdurdod lleol arall lle gallwch lofnodi atodlen partneriaeth sifil a chael seremoni
dod o hyd i leoliadau cymeradwy eraill lle gallwch lofnodi atodlen partneriaeth sifil a chael seremoni
trefnu seremoni yn rhywle arall ar ôl llofnodi atodlen partneriaeth sifil yn y swyddfa gofrestru.
Cost cofrestru partneriaeth sifil
Bydd angen i chi dalu ffi i roi rhybudd o’ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil a ffi gofrestru. Mae'r ffi yn dibynnu ar ble rydych am gofrestru eich partneriaeth sifil. Dylech gysylltu â’r lleoliad i gael manylion y ffioedd.
Byddwch yn cael tystysgrif partneriaeth sifil pan fyddwch yn cofrestru. Codir ffi arnoch am hyn. I gael manylion ffioedd, ewch i wefan GOV.UK www.gov.uk.
Rheolau arbennig ar gyfer pobl sy'n gaeth i'w cartref
Mae rheolau arbennig ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil i bobl sy'n gaeth i'w cartref. Mae’r rhain yn galluogi cwpl i gofrestru yn y man lle mae un ohonynt yn gaeth i’w cartref.
Ystyrir eich bod yn gaeth i’ch cartref os bydd meddyg yn datgan na ddylech, yn ei farn ef, gael eich symud oherwydd anabledd neu salwch am y tri mis nesaf o leiaf.
Mae'r drefn cofrestru partneriaeth sifil i rywun sy'n gaeth i'w cartref yn union yr un fath â'r drefn arferol, gyda'r eithriadau canlynol:
rhaid darparu datganiad meddyg. Rhaid sicrhau bod datganiad y meddyg yn cael ei wneud dim mwy na 14 diwrnod cyn i chi roi rhybudd a rhaid iddo fod ar ffurflen a ddarperir gan y swyddfa gofrestru
dim ond tri mis fydd gennych, yn hytrach na'r deuddeg mis arferol, i gofrestru'ch partneriaeth sifil ar ôl i'r cyfnod rhybudd o 28 diwrnod ddod i ben - gweler dan y pennawd Sut i gofrestru partneriaeth sifil.
Rheolau arbennig ar gyfer pobl sy’n ddifrifol wael
Mae rheolau arbennig ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil i bobl sy’n ddifrifol wael ac nad oes disgwyl iddynt wella. Mae’r rhain yn llacio’r rheolau ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil er mwyn cyflymu’r broses. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi aros 28 diwrnod rhwng rhoi rhybudd a chofrestru eich partneriaeth sifil – gweler o dan y pennawd Sut i gofrestru partneriaeth sifil. Hefyd, bydd angen i chi a'ch partner roi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil i'r swyddfa gofrestru leol lle'r ydych yn byw. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod un ohonoch yn ddifrifol wael ac nad oes disgwyl i chi wella, a’ch bod yn rhy sâl i gael eich symud.
Os ydych chi neu eich partner o'r tu allan i’r DU
Nid oes angen i chi wneud cais am fisa i ddod i'r DU i roi rhybudd neu i briodi os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
rydych chi'n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
mae gennych chi ganiatâd amhenodol i aros yn y DU
mae gennych statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
rydych wedi gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar 30 Mehefin 2021 neu cyn hynny
os ydych eisoes yn y DU ar fisa sy'n para mwy na 6 mis
Os oes angen i chi wneud cais am fisa
Mae'r math o fisa y bydd arnoch ei hangen yn dibynnu ar o ble rydych chi a'ch partner yn dod a pha mor hir rydych chi am aros yn y DU.
Ewch i weld pa fisa sydd arnoch ei hangen i briodo yn y DU ar GOV.UK.
Pan fyddwch yn rhoi rhybudd, bydd y swyddfa gofrestru yn dweud wrth y Swyddfa Gartref. Bydd y swyddfa gofrestru'n rhoi gwybodaeth amdanoch i'r Swyddfa Gartref, er enghraifft o ble'r ydych yn dod. Mae’n bosibl bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud y canlynol:
gofyn cwestiynau amdanoch chi neu'ch perthynas - os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yn rhaid i chi aros hyd at 70 diwrnod cyn y gallwch briodi
penderfynu peidio â chymeradwyo eich hysbysiad os ydynt yn credu nad yw eich perthynas yn un ddilys a'ch bod ond yn priodi i aros yn y DU
Os nad yw'r Swyddfa Gartref yn cymeradwyo eich hysbysiad, mae hyn yn golygu na allwch briodi yn y DU. Os rydych yn cael gwybod na allwch briodo yn y DU, gallwch gael cyngor arbenigol ar fewnfudo..
Cydnabyddiaeth i bartneriaethau a ffurfiwyd dramor
Efallai fod rhai cyplau eisoes wedi ffurfio undeb sifil, partneriaeth gofrestredig neu bartneriaeth ddomestig dramor.
Os ydych chi mewn perthynas o’r fath gallwch gael cydnabyddiaeth awtomatig yn y DU fel partneriaid sifil ac ni fydd angen i chi gofrestru yn y DU hefyd. Fodd bynnag, rhaid i chi, eich partner a'ch perthynas dramor fodloni rhai amodau.
Mae rhagor o wybodaeth am gydnabod partneriaethau sydd wedi’u ffurfio dramor ar gael ar GOV.UK.
Dod â phartneriaeth sifil gofrestredig i ben
Ar ôl i chi gofrestru partneriaeth sifil, dim ond os bydd un ohonoch yn marw y gellir dod â'r bartneriaeth i ben, neu drwy wneud cais i'r llys i ddod â'r bartneriaeth i ben yn gyfreithiol.
Ni allwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol nes ei bod wedi para blwyddyn o leiaf.
Mae gwybodaeth am sut i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar gael yma.
Trosi partneriaeth sifil yn briodas
Gall cyplau o’r un rhyw a gofrestrodd eu partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr drosi eu partneriaeth sifil yn briodas. Ni all partneriaid sifil o wahanol ryw drosi eu partneriaeth sifil yn briodas.
Sut i drosi partneriaeth sifil yn briodas
Mae dwy ffordd o drosi partneriaeth sifil o’r un rhyw yn briodas:
proses weinyddol syml o’r enw trosiad ‘safonol’
proses dau gam lle gellir cynnal seremoni ar ôl y trosiad
Y broses drosi safonol
Mae hon yn broses syml lle mae'r ddau ohonoch yn mynd i apwyntiad mewn swyddfa gofrestru. Bydd angen i chi roi’r dystiolaeth ganlynol:
tystiolaeth o'ch enw a'ch dyddiad geni, er enghraifft, pasbortau cyfredol neu dystysgrifau geni
tystiolaeth o’ch cyfeiriad, er enghraifft, bil Treth Gyngor neu gyfleustodau diweddar
eich tystysgrif partneriaeth sifil wreiddiol
Bydd datganiad cyfreithiol yn cael ei lunio i’r ddau ohonoch ei lofnodi gyda’r cofrestrydd. Mae’n datgan eich bod yn cytuno i drosi eich partneriaeth sifil yn briodas a’ch bod yn fodlon bod yn ŵr neu’n wraig gyfreithlon i’ch partner. Os ydych yn dymuno dweud y datganiad wrth eich gilydd, gallwch wneud hynny. Yna caiff eich priodas ei chofrestru ac fe gewch dystysgrif priodas.
Trosi gyda seremoni i ddilyn
Mae hon yn broses dau gam lle gall y trosi digwydd mewn lleoliadau lle gall cyplau o’r un rhyw briodi. Er enghraifft:
swyddfa gofrestru
safleoedd cymeradwy
adeiladau crefyddol sydd wedi’u cofrestru ar gyfer priodas cyplau o’r un rhyw lle bydd seremoni’n dilyn y broses drosi yn syth ar ôl hynny
safle lle bydd seremoni yn unol ag arferion y grefydd Iddewig a Chymdeithas y Cyfeillion yn dilyn yn syth ar ôl y broses drosi
Rhaid i’r ddau ohonoch fynd i’r apwyntiad mewn swyddfa gofrestru. Bydd angen i chi roi’r dystiolaeth ganlynol:
tystiolaeth o'ch enw a'ch dyddiad geni, er enghraifft, pasbortau cyfredol neu dystysgrifau geni
tystiolaeth o’ch cyfeiriad, er enghraifft, bil Treth Gyngor neu gyfleustodau diweddar
eich tystysgrif partneriaeth sifil wreiddiol
Bydd datganiad cyfreithiol yn cael ei lunio i’r ddau ohonoch ei lofnodi gyda’r cofrestrydd. Mae’n datgan eich bod yn cytuno i drosi eich partneriaeth sifil yn briodas a’ch bod yn fodlon bod yn ŵr neu’n wraig gyfreithlon i’ch partner. Os ydych yn dymuno dweud y datganiad wrth eich gilydd, gallwch wneud hynny. Yna, gellir cynnal seremoni ar ôl llofnodi'r datganiad.
Ar ôl y seremoni, mae’r briodas wedi’i chofrestru, a chyhoeddir tystysgrif priodas. Gellir casglu neu bostio’r dystysgrif priodas.
Gweithdrefnau ar gyfer grwpiau penodol
Ceir gweithdrefnau ar wahân ar gyfer trosi partneriaeth sifil o’r un rhyw yn briodas os ydych yn gaeth i’ch cartref, yn cael eich cadw’n gaeth neu’n ddifrifol wael. Dylech gysylltu â'ch cofrestrydd lleol i gael rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau hyn.
Ffioedd
Codir ffi o £45 am y gwasanaeth trosi safonol, er bod y gwasanaeth am ddim os ydych wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil cyn 29 Mawrth 2014 ac yn dymuno trosi eich partneriaeth sifil yn briodas cyn 10 Rhagfyr 2015. Mae ffioedd i’w talu hefyd am seremoni ychwanegol, ond am y flwyddyn gyntaf bydd y gost gyffredinol yn cael ei gostwng £45.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Stonewall yn www.stonewall.org.uk.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Rhagfyr 2020