Gofalwyr: help a chymorth
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch chi gael help a chymorth os ydych chi’n gyfrifol am ofalu am rywun sydd ag anabledd, yn heneiddio neu wedi mynd yn sâl. Gall hyn amrywio o gymorth ymarferol er mwyn gwneud bywyd bob dydd yn haws i fudd-daliadau fel Lwfans Gofalwr.
Ydw i’n ofalwr?
Fwy na thebyg, rydych chi’n ofalwr os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:
rydych chi'n gwneud pethau fel helpu rhywun i ymolchi, gwisgo a bwyta; mynd â nhw i apwyntiadau rheolaidd, gwneud eu siopa neu gadw cwmni iddyn nhw
nid ydych yn cael eich talu i ofalu am y person rydych chi'n gofalu amdano
rydych chi'n treulio llawer o amser yn gofalu am y person - does dim diffiniad cyfreithiol o hyn, ond gallai olygu unrhyw beth o ychydig oriau'r dydd, i 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
efallai y byddwch chi'n byw gyda'r person rydych chi'n gofalu amdano neu beidio
Os ydych chi’n ofalwr ifanc (o dan 24 oed) gallwch chi gael cymorth lleol a chymorth ar-lein wrth Ymddiriedolaeth y Gofalwyr.
Os ydych chi’n riant sy’n gofalu am blentyn o dan 18 oed sydd ag anghenion cymhleth, mae gan NHS Choices wybodaeth am eich hawliau a’r cymorth y gallwch ei dderbyn.
Help ymarferol i ofalwyr
Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu trefnu help ymarferol i ganiatáu i chi ofalu'n fwy effeithiol ac i leihau eich straen. Gallai hyn gynnwys pethau fel trefnu i rywun gamu i mewn am ychydig i roi seibiant i chi neu i roi rhywfaint o gymorth ychwanegol i'r person rydych chi'n gofalu amdano, er mwyn rhoi mwy o amser i chi ar gyfer eich cyfrifoldebau eraill.
I weld os allwch chi gael help ymarferol, bydd angen i'r cyngor gynnal asesiad gofalwr. Mae gan bob gofalwr hawl i hyn.
Mae’r asesiad gofalwr yn edrych ar sut mae gofalu yn effeithio ar eich bywyd a’ch gwaith, a sut gallwch chi barhau i wneud y pethau sy’n bwysig i chi a’ch teulu. Nid arholiad yw asesiad gofalwr – ni fyddwch yn cael eich barnu o ran a yw'r gofal rydych chi’n ei roi yn ddigon da.
Cael asesiad gofalwr
Cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol y cyngor sy’n cwmpasu'r ardal lle mae'r person rydych chi'n gofalu amdano yn byw. Efallai y byddwch chi'n gallu gwneud hyn ar-lein ar wefan y cyngor. Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi'n ofalwr a gofynnwch iddyn nhw gynnal asesiad gofalwr i chi. Gallwch ofyn unrhyw bryd ond mae wastad yn syniad da gofyn am asesiad os yw'ch anghenion yn newid neu os oes angen mwy o gymorth arnoch chi.
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK
Beth i’w ddisgwyl wrth asesiad gofalwr
Fel arfer, cyfarfod wyneb yn wyneb gyda pherson wedi’i hyfforddi yw asesiad gofalwr, naill ai o'r cyngor neu sefydliad y mae'n gweithio gydag ef. Gallai fod yn eich cartref chi neu gartref y person rydych chi'n gofalu amdano. Fel arall, gellid gwneud yr asesiad dros y ffôn.
Yn yr asesiad, byddwch yn trafod pethau fel:
faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn gofalu am y person
gyda pha fath o dasgau y mae angen i chi eu helpu, fel gwisgo, ymolchi, siopa, bwyta neu ddelio ag arian
a yw cyflawni eich dyletswyddau gofalu yn rhoi digon o amser i chi ar gyfer eich gwaith, eich teulu a'ch diddordebau
a oes unrhyw agweddau ar ofalu am y person yn arbennig o anodd i ddelio â nhw, er enghraifft, a ydych chi'n poeni am eich diogelwch eich hun wrth eu helpu i fyny'r grisiau
sut mae gofalu yn effeithio ar eich iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl
Chi sydd i benderfynu a ydych chi eisiau i'r person rydych chi'n gofalu amdano fod yn bresennol.
Efallai y bydd y cyngor neu'r sefydliad y mae'n gweithio gydag ef yn anfon holiadur atoch chi i'w lenwi cyn yr asesiad. Os na wnânt hynny, mae'n syniad da treulio peth amser cyn yr asesiad yn meddwl am sut mae gofalu am rywun yn effeithio ar eich bywyd a beth allai wneud pethau'n haws i chi.
Gallwch chi gael mwy o help i baratoi ar gyfer yr asesiad gan Carers UK.
Beth sy’n digwydd ar ôl yr asesiad
Cewch wybod a ydych chi'n gymwys i dderbyn help ymarferol wrth y cyngor. Os ydych chi'n gymwys, bydd y cyngor yn egluro sut bydd yn diwallu eich anghenion, a allai gynnwys eich atgyfeirio at sefydliadau eraill am gymorth.
Gallwch chi ddewis cael taliad uniongyrchol yn hytrach na chael y gwasanaethau wedi'u darparu i chi, os oes well gennych.
Mae’n rhaid i’r cyngor roi cyngor a gwybodaeth i chi am ffynonellau cymorth eraill yn eich ardal leol, hyd yn oed os nad ydych chi'n gymwys am help ymarferol. Gallai hyn fod gan elusennau lleol neu fudiadau cymorth.
Talu am eich help ymarferol
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn darparu cymorth am ddim i ofalwyr, ond efallai y bydd rhai’n codi tâl am y gwasanaethau hyn. Os ydych chi’n gymwys i gael gwasanaeth y mae’r cyngor yn codi tâl amdano, mae’n debyg y gofynnir i chi gael asesiad ariannol i weld a allwch chi fforddio talu amdano. Os na allwch chi fforddio talu amdano, efallai y bydd y cyngor yn cynnig y gwasanaeth i chi am ddim neu am bris is.
Os yw’r cyngor yn mynd i roi cymorth i chi drwy ddarparu rhai gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth pellach yn uniongyrchol i'r person rydych chi'n gofalu amdano, efallai y byddan nhw hefyd yn gofyn am edrych ar gyllid y person hwnnw i weld a ddylen nhw gyfrannu.
Mae cynghorau yn dilyn canllawiau cenedlaethol wrth benderfynu faint dylid ei gyfrannu tuag at eich anghenion gofal a chymorth fel gofalwr. Bydd yr asesiad ariannol yn rhoi ystyriaeth i’r canlynol:
eich incwm, er enghraifft pensiwn
cynilion
buddsoddiadau
a ydych chi’n derbyn budd-daliadau neu fathau eraill o gymorth ariannol
eich treuliau, fel biliau cyfleustodau a rhent
Os ydych chi’n anhapus gyda’r asesiad
Os ydych chi'n anghytuno â chanlyniad yr asesiad gofalwr neu os ydych chi’n anhapus gyda’r ffordd y cawsoch eich trin, gallwch chi gwyno wrth y cyngor. Dylai bob cyngor gael gweithdrefn gwyno y gallwch chi ei dilyn – gofynnwch iddynt am gopi.
Helpu gydag arian
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth i gynyddu eich incwm os yw eich dyletswyddau gofalu yn effeithio ar eich materion ariannol.
Yn dibynnu ar eich incwm, asedau a threfniadau byw, efallai y byddwch yn gallu:
gwneud cais am Lwfans Gofalwr a budd-daliadau eraill
cael help gyda chostau gofal iechyd wrth gynllun incwm isel y GIG
lleihau costau eich cartref gan gynnwys help gyda’ch biliau nwy a thrydan, trwydded deledu ratach neu am ddim wrth Trwyddedu Teledu neu ostyngiadau’r dreth gyngor, yn dibynnu ar eich incwm
cael eich cyfraniadau tuag at eich pensiwn gwladol wedi'u talu gan y llywodraeth os ydych chi wedi rhoi'r gorau i waith cyflogedig neu wedi lleihau eich gwaith cyflogedig i ofalu am rywun – mae gan Carers UK gyngor i’ch helpu i ddiogelu eich pensiwn
cael grant neu fathau eraill o gymorth ariannol wrth elusen neu ymddiriedolaeth leol – mae gan Turn2Us fanylion elusennau a allai fod o help i chi
Gallwch chi gael help diduedd am ddim i ddatrys eich materion ariannol os ydych chi’n poeni am gael digon o arian i fyw arno ac i fodloni eich ymrwymiadau cyfredol. Gallai hyn gynnwys cyllidebu gwell, dysgu sut i wneud i'ch arian fynd ymhellach a delio â phroblemau dyled.
Mathau eraill o help i ofalwyr
Help wrth eich cyflogwr
Does dim rhaid i chi ddweud wrth eich pennaeth am eich cyfrifoldebau gofalu, ond os ydych chi'n weithiwr, rhaid i'ch cyflogwr gynnig rhai hawliau cyfreithiol i chi. Mae'r rhain yn cynnwys:
yr hawl i ofyn am weithio’n hyblyg, fel lleihau eich oriau neu weithio o gartref - mae gan unrhyw un yr hawl i ofyn am weithio hyblyg
amser i ffwrdd mewn argyfyngau - sy'n golygu os yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn mynd yn sâl, yn cael damwain neu heb ofal yn annisgwyl, mae gennych chi hawl i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ddelio ag ef
Nid oes rhaid i'ch cyflogwr gynnig mwy na'ch hawliau cyfreithiol i chi, ond mae gan rai gweithleoedd bolisïau a allai roi mwy o gymorth neu amser i ffwrdd i chi, er enghraifft drwy wneud cais am seibiant gyrfa. Cysylltwch â'ch cyflogwr neu'r adran Adnoddau Dynol i gael gwybod mwy.
Cymorth wrth ofalwyr eraill
Efallai y bydd o gymorth i chi siarad â phobl eraill sy'n deall y problemau y gall gofalwyr eu hwynebu. Mae gan Carers UK fanylion grwpiau cymorth lleol a fforymau ar-lein lle gallwch chi gwrdd â gofalwyr eraill fel chi.
Eich diogelu rhag gwahaniaethu
Rydych chi wedi'ch diogelu rhag gwahaniaethu oherwydd eich cyfrifoldebau gofalu. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gymryd camau os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn ofalwr. Er enghraifft, ni ellir gwrthod dyrchafiad i chi yn y gwaith oherwydd eich cyfrifoldebau gofalu.
Help ar gyfer y person rydych chi’n gofalu amdano
Gallai sicrhau bod y person rydych chi'n gofalu amdano yn cael yr holl ofal cymdeithasol a’r cymorth y mae ganddo hawl iddo olygu bod eich rôl fel gofalwr yn cael ei gwneud yn haws. Mae ganddynt hawl i gael asesiad anghenion gofal wrth y cyngor. Yn dibynnu ar sefyllfa'r person, efallai y bydd hefyd yn gallu:
gwneud trefniadau i chi ofalu am eu materion, er enghraifft drwy atwrneiaeth
cwyno am y gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau cymorth maent wedi’u derbyn
Os oes angen mwy o help neu gyngor arnoch chi, gallwch chi gysylltu â nifer o fudiadau.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.