Nid yw eich trefniadau plant yn gweithio

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dylech chi geisio siarad â'ch cyn bartner os nad yw'r trefniadau plant rydych chi wedi cytuno arnyn nhw’n gweithio - er enghraifft, os nad ydych chi’n gweld eich plant gymaint ag yr hoffech chi.

Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud newidiadau, gan ddefnyddio cyfryngu os oes angen, ac osgoi gwario arian ar fynd i’r llys. Gall y llys achosi straen i bawb, yn enwedig plant.

Os yw eich plant dros 16 oed, dylech chi geisio gwneud y trefniadau eich hunain. Fel arfer, ni fydd llys yn gwneud penderfyniadau am blentyn sy'n 16 oed neu'n hŷn.

Os ydych chi'n dal i fethu cytuno a bod eich plant o dan 16 oed, gallwch chi fynd i'r llys i wneud trefniadau y bydd yn rhaid i'r ddau ohonoch chi lynu wrthynt.

Pwysig

Os oes angen i chi siarad â rhywun oherwydd bod eich partner yn ymosodol

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo eich bod dan fygythiad, dylech gael cymorth.

Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd. 

Os ydych yn ddyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.

Newid eich cytundeb gwreiddiol

Cyn i chi gael unrhyw un arall i gymryd rhan, mae’n werth siarad am beth sydd ddim yn gweithio.

Edrychwch yn ôl ar beth roeddech chi wedi cytuno arno’n wreiddiol. Ceisiwch wneud rhai newidiadau i’r pethau sydd ddim yn gweithio.

Er enghraifft, gallech chi:

  • newid pryd a ble rydych chi'n gweld eich plant

  • cael rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i gymryd rhan, fel nain neu daid neu ffrind rydych chi’ch dau yn ei adnabod, i helpu i drefnu pryd a ble rydych chi’n gweld eich plant

Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ganllaw ar gyfer gwneud trefniadau plant a allai helpu os ydych chi a’ch cyn bartner yn ei chael hi’n anodd gwneud i’ch cytundeb weithio. Os ydych chi'n cael trafferth gwneud y trefniadau cyswllt, gallai defnyddio canolfan cyswllt plant helpu.

Defnyddio canolfan cyswllt plant

Mae canolfan cyswllt plant yn fan diogel lle gall eich plentyn a’ch cyn bartner gyfarfod neu gael ‘cyswllt’. Gallai hyn helpu os ydych chi’n cael trafferth cyfathrebu â’ch cyn bartner neu os nad ydych chi eisiau eu gweld. 

Mae’r staff mewn canolfan cyswllt plant yn gallu:

  • helpu gyda threfniadau trosglwyddo fel nad oes angen i chi weld eich cyn bartner

  • gweld a chlywed eich plentyn yn ystod y sesiwn gyswllt i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel - mae hyn yn cael ei alw’n 'gyswllt dan oruchwyliaeth'

  • rhoi man diogel i'ch plentyn a'ch cyn bartner gyfarfod - mae hyn yn cael ei alw’n 'gyswllt â chefnogaeth'

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ganolfannau cyswllt ar wefan Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyswllt.

Os na allwch chi siarad â’ch cyn bartner

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd iawn siarad â’ch cyn bartner a datrys beth sydd ddim yn gweithio, mae’n syniad da dechrau cadw dyddiadur.

Ysgrifennwch unrhyw adegau pan na wnaeth eich cyn bartner lynu wrth y cytundebau – er enghraifft, os ydyn nhw’n dod â’ch plant adref yn hwyrach na’r hyn a addawyd heb reswm da.

Bydd hyn yn ddefnyddiol os bydd angen i chi fynd i'r llys, oherwydd bydd yn dangos pam nad yw'r trefniant wedi gweithio.

Mae gan Relate gyngor ar drafod gyda'ch cyn bartner os na fydd yn gadael i chi weld y plant.

Mynd i sesiynau cyfryngu

YDylech chi roi cynnig ar gyfryngu cyn mynd i’r llys – gall fod yn rhatach ac yn gyflymach fel arfer. Gallwch chi weld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar GOV.UK.

Byddwch chi’n siarad â 'chyfryngwr', a fydd yn ceisio eich helpu i gytuno ar sut i wneud trefniadau rhyngoch chi.

Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod chi wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn gwneud cais i’r llys. Mae eithriadau sy’n golygu nad oes rhaid i chi roi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf – er enghraifft, os ydych chi wedi profi cam-drin domestig.

Gweld sut mae cyfryngu’n gweithio.

Os byddwch chi’n penderfynu mynd i'r llys

Fel arfer, bydd angen i chi fod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i wneud i'ch trefniadau weithio.

Bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y llys beth oedd eich cytundebau gwreiddiol a pham na wnaethon nhw weithio. Bydd angen i chi ddweud wrthyn nhw hefyd pa drefniadau newydd fydd yn gweithio yn eich barn chi.

Os ydych chi wedi profi cam-drin domestig, gallwch chi wneud cais i'r llys ar unwaith. Fel arfer, gallwch chi gael help i dalu am gyfreithiwr - ewch i GOV.UK.

Gallwch chi ofyn i’r llys am ‘orchymyn trefniadau plant’, sy’n gallu dweud:

  • gyda phwy mae eich plant yn byw a ble

  • pryd a sut y bydd eich plant yn gweld y ddau riant

  • pwy arall fydd eich plant yn ei weld, er enghraifft ffrindiau teulu a pherthnasau

Bydd penderfyniad y llys yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’r plentyn yn eu barn nhw. Mae hyn yn wahanol i bob teulu ond fel arfer bydd y llys yn ceisio sicrhau bod plant yn gweld y ddau riant - oni bai fod risg o drais neu gam-drin.

Rhaid i chi dalu ffi llys o £263 i gael gorchymyn trefniadau plant. Os ydych chi ar incwm isel, gallech chi gael help i dalu'r ffi.

Gallwch chi wneud cais i’r llys am y gorchymyn trefniadau a chael rhagor o wybodaeth am y ffi ar GOV.UK.

Bydd y llys yn dweud wrthych pa fath o wrandawiad a gewch. Gwiriwch sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

Mae'n well cael cymorth cyfreithiol os ydych chi’n mynd i'r llys. Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help i ddod o hyd i gyfreithiwr.

Os yw eich achos yn un brys

Ar ôl i chi wneud cais ar-lein, dylech ffonio’r llys i esbonio pam fod eich achos yn un brys. Bydd y llys yn penderfynu a oes angen gwrandawiad brys arnoch.

Byddai eich achos yn un brys os, er enghraifft:

  • yw eich plentyn mewn perygl

  • nad yw eich cyn-bartner wedi dychwelyd eich plentyn pan ddylent fod wedi gwneud

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y llys ar GOV.UK.

Efallai y bydd yn rhaid i chi ymddangos yn y llys. Gallwch chi ofyn am gael ymddangos mewn ystafell wahanol i’ch cyn bartner yn y llys os ydych chi wedi profi cam-drin domestig neu os oes gennych chi reswm arall dros fod ar wahân.

Cyn y gwrandawiad, bydd rhywun yn cysylltu â chi a’ch cyn bartner o sefydliad o’r enw Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd. Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio gyda theuluoedd a’r llys i helpu i benderfynu beth ddylai ddigwydd mewn achosion sy’n ymwneud â phlant. Bydd yr unigolyn o’r gwasanaeth hefyd yn siarad â’ch plant cyn y gwrandawiad. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud ar eu gwefan.

Efallai y bydd y llys yn gofyn i chi a’ch cyn bartner ddilyn cwrs magu plant ar-lein o’r enw ‘Cynllunio Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant’. Byddwch chi a’ch cyn bartner yn dilyn y cwrs ar wahân. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs Cynllunio Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant ar wefan y gwasanaeth.

Bydd y llys yn penderfynu ar eich trefniadau newydd – bydd yn rhaid i chi lynu wrthyn nhw, hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno â nhw.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 30 Medi 2019