Gwneud trefniadau plant

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw eich perthynas yn dod i ben a bod gennych blant, bydd angen i chi gytuno ar ble y bydd eich plant yn byw. Bydd angen i chi hefyd benderfynu faint o amser maen nhw'n ei dreulio gyda’r naill a’r llall ohonoch. Gwneud ‘trefniadau plant’ yw’r term am hyn.

Fel arfer, cytundeb anffurfiol yw trefniadau plant – ond gall helpu i'w rhoi i lawr ar ddu a gwyn.

Does dim ond angen i chi fynd i’r llys os oes trais neu gamdriniaeth yn eich perthynas, neu os na allwch chi gytuno.

Mae trefnu sut i dalu am eich plant yn rhan arall o wneud trefniadau plant – dysgwch fwy am gyfrifo cynhaliaeth plant.

Pwysig

Gallwch chi gael cyngor a chymorth os yw eich partner yn ymosodol

Dylech chi bob amser gael help i wneud trefniadau plant os yw'ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan fygythiad.

Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â beth i'w wneud nesaf,cysylltwch a’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Gall Refuge a Chymorth i Ferched roi cyngor, cymorth a gwybodaeth emosiynol ac ymarferol am ble arall i gael cymorth. Maen nhw’n rhedeg llinell gymorth 24 awr: 0808 2000 247

Os ydych chi’n ddyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Men's Advice Line ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cytuno ar ble y bydd eich plant yn byw

Bydd angen i chi benderfynu ble y bydd eich plant yn aros. Er enghraifft, efallai eu bod nhw'n byw gydag un rhiant y rhan fwyaf o'r amser – ond yn ymweld â'r llall ar benwythnosau.

Pan fyddwch chi’n penderfynu, dylech chi geisio meddwl am y canlynol:

  • pwy sydd â'r mwyaf o amser i ofalu am y plant, ac ar ba ddiwrnodau – fel y gallwch chi sicrhau bod y plant yn treulio amser o safon gyda’r naill a’r llall ohonoch

  • y pethau y mae eich plant yn ei wneud – er enghraifft, efallai nad yw’n syniad da iddynt aros ymhell o'u hysgol ar noson ysgol

  • pethau a allai ddigwydd yn y dyfodol – er enghraifft, os byddant yn newid ysgol, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n gallu cyrraedd eu hysgol newydd yn hawdd ar noson ysgol

Os nad ydynt yn byw gyda chi, gallai faint o amser mae eich plant yn aros gyda chi effeithio ar faint o gynhaliaeth y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Er enghraifft, gallwch chi dalu llai o gynhaliaeth os ydynt yn treulio 1 noson yr wythnos yn eich tŷ chi. Mae hyn i wneud iawn am yr arian y byddwch chi'n ei wario yn gofalu amdanynt. Gallwch chi ddysgu mwy am faint sy’n rhaid i chi ei dalu tuag at ofalu am eich plant ar GOV.UK.

Cadw mewn cysylltiad â’ch plant

Pan fyddwch chi'n cytuno ble y bydd eich plant yn aros, dylech hefyd ystyried  sut y byddwch chi'n cadw mewn cysylltiad â nhw pan fyddant yn aros gyda'ch cyn-bartner.

Os ydych chi wedi symud tŷ a’i bod yn anodd i'ch plant ymweld â'ch cartref newydd, gallech chi gytuno i'w cyfarfod yn nhŷ perthynas neu ffrind i'r teulu.

Os byddwch chi'n symud i ffwrdd o'ch plant, cytunwch ar sut y byddwch chi'n cadw mewn cysylltiad. Gallech chi ofyn i'ch cyn-bartner rannu costau teithio neu gwrdd â chi yn rhywle gyda'r plant.

Cytuno ar sut i gadw mewn cysylltiad â’ch cyn-bartner

Os gallwch chi, cytunwch ar ffordd o gysylltu â'ch gilydd mewn argyfwng.

Os nad ydych chi eisiau siarad â'ch gilydd, gallech chi gytuno i anfon e-bost, neges destun, neu ddewis ffrind y gallwch chi siarad â'ch gilydd drwyddo.

Rhowch yr hyn rydych yn cytuno arno i lawr ar ddu a gwyn

Dylech chi roi’r hyn rydych chi wedi cytuno arno i lawr ar bapur – gwneud cynllun rhianta yw’r term am hyn. Bydd yn ddefnyddiol cyfeirio'n ôl at hyn yn y dyfodol, os na allwch chi gofio'r hyn y gwnaethoch chi gytuno arno neu os nad oes rhywbeth yn gweithio. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi a'ch cyn-bartner gopi – gallwch chi ei newid gyda'ch gilydd unrhyw bryd.

Gallwch hefyd greu cynllun rhianta ar-lein ar wefan Cafcass. Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif am ddim. Gallwch chi rannu'r cynllun ar-lein gyda'ch cyn-bartner fel y gallwch chi wneud newidiadau iddo gyda'ch gilydd.

Cael help gyda threfniadau plant

Os oes angen mwy o help arnoch chi i gytuno ar drefniadau plant, gallwch chi ystyried cyfryngu. Mae'n llawer haws ac yn rhatach na mynd i'r llys am help. Cyfryngwr yw rhywun a fydd yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb gyda'ch gilydd.

Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod chi wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn i chi wneud cais i'r llys. Mae yna eithriadau sy'n golygu nad oes rhaid i chi roi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf – er enghraifft, os ydych chi wedi profi cam-drin  domestig. Gweld sut mae cyfryngu’n gweithio.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd gwneud y trefniadau, gallai defnyddio canolfan gyswllt i blant helpu. Man diogel lle gall eich plentyn a'ch cyn-bartner gyfarfod neu gael 'cyswllt' yw hwn. Gallai hyn helpu os nad ydych chi eisiau gweld eich cyn-bartner neu os hoffech i rywun arall fod yno pan fydd y cyswllt yn digwydd. Darllenwch fwy am ddefnyddio canolfan gyswllt i blant <https://www.citizensadvice.org.uk/wales/family/making-agreements-about-your-children/your-child-arrangements-arent-working/>.

Gallwch hefyd gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am help.

Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ganllaw i’ch helpu chi a’ch cyn-bartner i wneud y penderfyniadau iawn i’ch plant a chytuno ar drefniadau plant.

Os nad yw eich trefniadau’n gweithio

Gallwch chi geisio trefnu rhywbeth gwahanol eich hunain, neu droi’n ôl at gyfryngu unrhyw bryd i geisio datrys anghytundebau. Hyd yn oed os byddwch chi’n parhau i droi’n ôl at gyfryngu, mae'n debyg y bydd yn dal yn rhatach na mynd i'r llys.

Os ydych chi a’ch cyn-bartner wedi ceisio dod i gytundeb sawl gwaith ac wedi methu, bydd angen i chi fynd i’r llys am benderfyniad y bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch gadw ato.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020