Trefnu cymorth ariannol ar ôl i chi wahanu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gall gwahanu gyda phartner gael effaith fawr ar eich sefyllfa ariannol, yn enwedig os ydych chi wedi dibynnu ar eu hincwm yn ystod eich perthynas.

Os yw’ch priodas neu bartneriaeth sifil yn chwalu, gallwch ofyn am gymorth ariannol - sef ‘cynhaliaeth briodasol’ - gan eich cynbartner cyn gynted ag y byddwch chi’n gwahanu. Mae hyn ar ben unrhyw gynhaliaeth plant y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Os nad oeddech chi wedi priodi nac mewn partneriaeth sifil, bydd yn rhaid i chi rannu costau gofalu am unrhyw blant sydd gennych chi gyda’ch gilydd - ond does dim rhaid i chi gefnogi eich gilydd yn ariannol ar ôl i chi wahanu.

Os oeddech chi wedi priodi dan gyfraith Islamaidd

Gallwch ofyn i’ch cyn-bartner am gymorth ariannol os oeddech chi wedi priodi mewn gwlad lle cydnabyddir priodasau Islamaidd, er enghraifft Pacistan. Fel arfer, ni fyddwch yn gymwys am gymorth ariannol os oeddech chi wedi priodi yn y DU dan gyfraith Islamaidd – oni bai bod gennych chi briodas sifil yn y DU hefyd.

Does dim rhaid i chi fynd i’r llys i drefnu cymorth ariannol. Os oes modd, mae’n rhatach a haws dod i gytundeb rhwng eich gilydd – sef ‘cytundeb gwirfoddol’.

Os ydych chi’n cael trafferth cyfrifo’r taliadau cynhaliaeth eich hun, efallai y gallwch chi ddod i gytundeb drwy gyfryngu.

Os ydych chi wedi penderfynu mynd i’r llys i ofyn am gymorth ariannol, fel arfer bydd angen i chi brofi eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu.

Pwysig

Os oes angen i chi siarad â rhywun am fod eich partner yn ymosodol

Os yw'ch partner yn gwneud i chi deimlo'n bryderus neu dan fygythiad, dylech gael help.

Os ydych chi'n fenyw sy'n profi cam-drin domestig, gallwch chi ffonio Refuge neu Gymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd.

Os ydych chi'n ddyn, gallwch ffonio Llinell Gymorth i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os ydych chi’n ansicr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.

Cyfrifo eich cymorth ariannol

Does dim ffordd hawdd o gyfrifo faint y dylai eich taliadau cynhaliaeth fod, neu am faint ddylent bara. Eich cyfrifoldeb chi a’ch partner yw penderfynu.

Os oes gennych chi orchymyn llys ar gyfer cymorth ariannol - sef ‘llareiddiad ategol’ - bydd eich cynhaliaeth yn dod i ben fel arfer pan fyddwch chi’n ailbriodi neu’n dechrau partneriaeth sifil.

Gall stopio hefyd os ydych chi’n symud i mewn gyda phartner newydd, ond byddai’n rhaid i’ch cyn-bartner brofi bod eich incwm wedi mynd i fyny cyn iddynt allu herio’r gorchymyn llys.

Os ydych chi’n poeni am gost cyfreithiwr

Ceisiwch gytuno cymaint ag y gallwch chi â’ch cyn-bartner cyn mynd at gyfreithiwr. Bydd hyn yn eich helpu i gadw costau ffioedd cyfreithiol i lawr.

Gall rhai cyfreithwyr gynnig 30 munud o gyngor cyfreithiol am ddim. Defnyddiwch yr amser hwn i gasglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch chi. Dydych chi ddim yn debygol o gael gwybodaeth fanwl, ond dylech gael syniad o ba mor gymhleth yw’ch achos a brasamcan o faint y bydd yn ei gostio i chi.

Gallech ofyn i’ch cyfreithiwr os gallent wneud y gwaith am ffi benodol fel eich bod yn gwybod o’r dechrau faint yn union fydd y ffioedd cyfreithiol. Does dim rhaid iddynt gytuno i hyn.

Os ydych chi’n cytuno ar gymorth ariannol

I gyfrifo cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi a’ch cyn-bartner gasglu cyfriflenni, biliau a slipiau cyflog. Mae hyn er mwyn cael syniad o faint o arian sydd gennych chi’n dod i mewn ac yn mynd allan.

Bydd angen i chi gynnwys pethau fel taliadau morgais neu rent a biliau cyfleustodau, felly efallai y byddwch angen meddwl pa un ohonoch chi sydd am fyw yn y cartref teulu a chyfrifo pwy fydd yn talu am beth.

Os oes gennych chi blant, bydd hefyd angen i chi gynnwys taliadau cynhaliaeth plant yn y gyllideb.

Gallwch ddefnyddio ein hadnodd cyllidebu i’ch helpu i gyfrifo eich incwm a’ch treuliau.

Ar ôl i chi gytuno ar eich cymorth ariannol, nodwch bopeth ar bapur. Mae’n syniad da llofnodi’r ddogfen ac i’r ddwy ochr gadw copi.

Gofalwch fod y cytundeb yn cynnwys:

  • faint fydd y taliad bob mis

  • am faint y bydd y taliadau’n para - gallai hyn fod tan i chi symud i mewn gyda phartner newydd, neu ail-briodi

  • beth mae pob taliad yn ei gynnwys a ddim yn ei gynnwys, er enghraifft gallai gynnwys y morgais ond ddim biliau nwy a thrydan

  • dyddiad i adolygu eich cyllidebau - ar ôl 12 mis fel arfer

Os nad ydych chi’n barod i ysgaru neu roi diwedd ar eich partneriaeth sifil

Gallwch ofyn i gyfreithiwr nodi eich trefniadau ar bapur fel ‘cytundeb gwahanu’.

Nid yw cytundeb gwahanu yn rhwymol gyfreithiol, ond fel arfer byddwch yn gallu ei ddefnyddio mewn llys:

  • os yw wedi’i ddrafftio’n iawn gan gyfreithiwr

  • os nad yw’ch sefyllfa ariannol chi a’ch partner wedi newid ers i chi wneud y cytundeb

Os ydych chi eisoes wedi dechrau ysgaru neu roi diwedd ar eich partneriaeth sifil

Gallwch ofyn i’ch cyfreithiwr droi eich cytundeb gwahanu yn ‘orchymyn cydsynio’ cyn gynted â’ch bod wedi dechrau’r broses o ysgaru neu roi diwedd ar eich partneriaeth sifil.

Os yw’ch gorchymyn cydsynio yn cael ei gymeradwyo gan farnwr, bydd yn dod yn rhwymol gyfreithiol unwaith y bydd eich ysgariad yn derfynol neu ar ôl i’ch partneriaeth sifil ddod i ben.

Mae hyn yn golygu y gallwch chi fynd â’ch partner i’r llys os nad ydynt yn talu’ch cymorth ariannol.

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi llys o £50 am orchymyn cydsynio, yn ogystal â ffioedd i’ch cyfreithiwr.

Os na allwch chi gytuno ar gymorth ariannol

Os na allwch chi gytuno ar gymorth ariannol

Bydd angen i chi wneud cais i lys am orchymyn ariannol. Mae hyn yn gofyn i farnwr benderfynu faint o gynhaliaeth ddylech chi ei gael.

Gallwch wneud cais am orchymyn unioni ariannol heb gymorth cyfreithiwr, ond mae rhai o’r ffurflenni yn eithaf cymhleth. Bydd angen i chi hefyd ddod o hyd i lawer o dystiolaeth fel cyfriflenni a slipiau cyflog.

Mae’n syniad da siarad gyda chyfreithiwr, er mwyn sicrhau eich bod wedi cael popeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y gwrandawiad llys.

Gallwch chwilio am gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr, neu ymweld â gwefan Resolution.

Gallwch wneud cais am orchymyn ariannol unrhyw bryd ar ôl i chi gyflwyno deiseb i ddod â’ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben - cyhyd â’ch bod wedi mynychu cyfarfod asesu a gwybodaeth cyfryngu (MIAM) gyntaf.

Mae’n syniad da gwneud cais cyn i chi dderbyn eich archddyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol. Yr hiraf y byddwch chi’n aros cyn gwneud cais ar ôl gwahanu, y lleiaf y gallai’r barnwr ei ddyfarnu i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am orchymyn ariannol ar GOV.UK. 

Os ydych chi’n cael trafferth ymdopi ar y taliadau rydych chi’n eu cael

Os oes gennych chi gytundeb gwirfoddol a’ch bod yn cael trafferth gyda’r taliadau cynhaliaeth rydych chi’n eu cael gan eich cyn-bartner, gallech geisio siarad â nhw ac egluro pam eich bod angen rhagor o arian.

Os nad yw’ch partner yn gallu fforddio talu mwy, mae’n syniad da gwirio a ydych chi’n gymwys am unrhyw fudd-daliadau neu gymorth gyda'ch treth gyngor.

Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os nad oes gennych chi lawer o arian, os o gwbl, ar ôl ar ddiwedd bob mis ar ôl gwahanu – gall cynghorydd eich helpu i wneud y gorau o’ch incwm.

Os ydych chi eisoes wedi cael gorchymyn ariannol gan y llys

Gallwch fynd yn ôl i’r llys i ofyn am fwy o gynhaliaeth os yw’ch amgylchiadau chi neu’ch partner wedi newid. Er enghraifft:

  • rydych chi wedi colli’ch swydd

  • mae eich cyn-bartner wedi derbyn rhywfaint o arian, er enghraifft etifeddiad

  • mae eich cyn-bartner wedi symud i mewn gyda phartner newydd ac mae eu hincwm aelwyd wedi cynyddu

Gelwir hyn yn ‘amrywio’ y gorchymyn llys.

Cyn i chi fynd i’r llys

I gael cynnydd yn y gynhaliaeth, bydd angen i chi allu profi bod eich amgylchiadau wedi newid. Gall cyfreithiwr eich helpu i benderfynu a yw’n syniad da mynd i’r llys.

Chwiliwch am gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr, neu edrychwch ar wefan Resolution.

Mae risg bob tro y gallai’r barnwr ddiwygio’r gorchymyn yn eich erbyn – gan leihau eich taliadau cynhaliaeth. Gallai’ch ffioedd cyfreithiol hefyd fod yn fwy nag unrhyw gynnydd y byddai barnwr yn ei ddyfarnu i chi.

Os mai chi yw’r un sy’n talu cymorth ariannol

Does dim rhaid i chi rannu’ch incwm 50-50, ond dylech geisio talu faint bynnag y gallwch chi tuag at filiau a chostau byw eich cyn-bartner, tan y gallant ennill mwy o arian eu hunain.

Mae’n bwysig bod unrhyw gytundeb yn deg i’r naill ochr a’r llall. Ni ddylech dalu cymaint o gymorth ariannol i’ch cyn-bartner fel eich bod yn mynd i ddyled eich hun.

Os na allwch chi fforddio talu

Mae’n bwysig nad ydych chi’n rhoi’r gorau i dalu yn ddirybudd – dylech ddod i gytundeb â’ch cyn-bartner gyntaf.

Holwch a fyddai’ch cyn-bartner yn mynd i sesiwn gyfryngu gyda chi. Os nad ydynt yn fodlon, siaradwch â chyfreithiwr.

Os ydych chi eisoes yn gwneud taliadau gorchymyn llys i’ch cyn-bartner ac yn methu fforddio’r taliadau, gallech fynd yn ôl at y llys a gofyn i’r barnwr amrywio’r gorchymyn llys. Bydd angen i chi ddangos pam na allwch fforddio’r taliadau rhagor, er enghraifft am eich bod wedi colli’ch swydd.

Os ydych chi am amrywio’r gorchymyn llys am eich bod yn credu nad yw’ch cyn-bartner angen cymaint o arian bellach, bydd angen i chi brofi bod eu hamgylchiadau ariannol wedi newid.

Gall fod yn anodd gwneud hyn, felly mae’n syniad siarad â chyfreithiwr i holi a yw’n werth mynd yn ôl i’r llys.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.