Edrychwch i weld a ydych chi wedi'ch gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail anabledd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi wynebu gwahaniaethu ar sail anabledd, dylech edrych i weld a yw diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer anabledd yn berthnasol i chi. Y Ddeddf Cydraddoldeb yw’r gyfraith sy’n atal cyflogwyr, busnesau a darparwyr gwasanaethau rhag gwahaniaethu yn eich erbyn.
Os ydych chi am weithredu ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, bydd angen i chi ddangos eich bod yn anabl dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Mae rhai cyflyrau bob amser yn anableddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, er enghraifft canser a HIV.
Os oes angen i chi wneud cais am gymorth a budd-daliadau anabledd
Mae diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o anabledd yn berthnasol i wahaniaethu yn unig. Mae rheolau gwahanol ar gyfer budd-daliadau anabledd a mathau eraill o gymorth anabledd.
Os oes arnoch angen cymorth ariannol, dylech chi edrych i weld pa daliadau sydd ar gael os ydych chi’n anabl neu’n sâl.
Os ydych chi’n gyrru neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gallwch chi edrych i weld pa gymorth sydd ar gael gyda chostau teithio.
Sut i weld a ydych chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
I weld a ydych chi’n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:
Mae gennych ‘amhariad’ - mae hyn yn golygu bod eich galluoedd corfforol neu feddyliol yn llai na rhai pobl eraill mewn rhyw ffordd
Mae eich amhariad yn ei gwneud yn anoddach i chi wneud gweithgareddau bob dydd
Mae eich amhariad yn effeithio arnoch yn y tymor hir
Mae diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o anabledd yn eithaf eang, felly efallai y cewch eich ystyried yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich hun yn anabl - er enghraifft, os ydych yn awtistig neu os oes gennych ADHD neu anaf tymor hir.
Mae rhai cyflyrau wastad yn cael eu cyfrif fel anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Cyflyrau sydd bob amser yn anableddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Byddwch bob amser yn cael eich ystyried yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
mae gennych ganser - neu unrhyw gyflwr sy'n debygol o droi'n ganser os na chaiff ei drin, er enghraifft tyfiannau'r croen
mae gennych sglerosis ymledol
mae gennych HIV - hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau
rydych wedi’ch cofrestru’n ddall neu ag amhariad ar y golwg - ewch i weld sut i gofrestru bod gennych amhariad ar y golwg neu eich bod yn ddall ar wefan RNIB
mae gennych anffurfiad difrifol, tymor hir - er enghraifft, craith ddifrifol ar yr wyneb neu glefyd ar y croen
Os oes gennych unrhyw un o'r cyflyrau hyn, nid oes angen i chi ddangos bod eich amhariad yn cael effaith tymor hir ar eich gallu i wneud gweithgareddau bob dydd.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi wynebu gwahaniaethu ar sail anabledd, dylech edrych i weld pa fath o wahaniaethu rydych chi wedi ei ddioddef.
Cam 1: Edrychwch i weld a oes gennych chi amhariad
Gall amhariad fod yn unrhyw gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch hefyd fod ag amhariad os oes gennych unrhyw alluoedd corfforol neu feddyliol sy’n peri mwy o anhawster i chi o’i gymharu â’r rhan fwyaf o bobl. Er enghraifft, gallai amhariad olygu anhawster canolbwyntio, cyfathrebu, cysgu neu amhariad ar y clyw.
Efallai fod gennych amhariad hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich hun yn anabl, er enghraifft:
rydych chi'n niwrowahanol – e.e. os ydych chi'n awtistig neu os oes gennych ADHD, dyslecsia neu ddyspracsia
rydych chi’n cael pyliau o hwyliau isel, gorbryder neu gyda ffobiâu
rydych chi’n mynd drwy’r menopos
mae gennych anaf tymor hir - er enghraifft anaf i'r ymennydd neu i'r cefn
mae gennych symptomau 'covid hir' - er enghraifft blinder eithafol a phoen yn y cyhyrau
Ystyrir eich amhariad yn anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os yw'r amhariad hwnnw yn gwneud gweithgareddau bob dydd yn anoddach i chi.
Mae Jodi wedi bod yn cael trafferth gyda straen a gorweithio ers dros flwyddyn. Mae hi’n cael trafferth canolbwyntio, wedi blino’n ofnadwy ac yn cael anhawster cysgu.
Byddai’r rhain i gyd yn cael eu hystyried yn amhariadau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Does dim ots nad yw gorweithio yn gyflwr meddygol sydd wedi’i ddiagnosio.
Ystyrir bod Jodi yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os yw'r amhariad hwnnw yn gwneud gweithgareddau bob dydd yn anoddach i chi.
Os ydych chi’n gaeth i sylweddau
Os ydych chi’n cael trafferth gydag alcohol, nicotin neu unrhyw gyffur arall, fel arfer ni fyddwch yn cael eich ystyried yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Efallai yr ystyrir eich bod yn anabl o dan yr amgylchiadau canlynol:
mae bod yn gaeth wedi achosi amhariad - er enghraifft, os ydych yn cael trafferth gydag alcohol a bod hyn wedi achosi clefyd yr iau/afu
mae amhariad wedi achosi i chi fod yn gaeth - er enghraifft os oes gennych iselder a bod hyn wedi achosi i chi gael trafferth gyda defnyddio cyffuriau
aethoch chi’n gaeth i feddyginiaeth a roddwyd i chi ar bresgripsiwn – er enghraifft cyffur i ladd poen
Cam 2: Edrychwch i weld a yw eich amhariad yn gwneud gweithgareddau bob dydd yn anoddach
Fel arfer, ystyrir eich amhariad yn anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os yw'r amhariad hwnnw yn gwneud gweithgareddau bob dydd yn anoddach i chi. Gall gweithgareddau bob dydd fod yn unrhyw beth y mae angen i chi ei wneud yn rheolaidd i fyw’n dda, er enghraifft ymolchi, cyfathrebu neu ddefnyddio trafnidiaeth.
Nid oes rhaid i’ch amhariad eich atal yn llwyr rhag gwneud gweithgareddau, ond rhaid iddo gael mwy nag effaith fach ar eich galluoedd. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn galw hyn yn effaith ‘sylweddol’.
Mae gan Ahmed anawsterau anadlu sy’n golygu mai dim ond am gyfnod byr y gall gerdded cyn bod angen iddo stopio a gorffwys. Mae hyn yn debygol o fod yn effaith sylweddol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Pe bai angen i Ahmed orffwys dim ond ar ôl 30 munud o gerdded, efallai na fyddai hyn yn effaith sylweddol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Gallai eich amhariad gael effaith sylweddol arnoch os yw’n achosi’r canlynol:
gwneud i dasgau dyddiol gymryd mwy o amser nag y bydden nhw pe na bai’r amhariad gennych – fel gwisgo amdanoch, mynd i’r toiled neu wneud bwyd
ei gwneud yn anodd i chi fynd allan ar eich pen eich hun
yn golygu na allwch chi ganolbwyntio ar bethau fel gwylio’r teledu neu ddarllen
ei gwneud yn anodd i chi siarad â phobl a chymdeithasu
Os oes gennych fwy nag un amhariad
Os mai dim ond effaith fach y bydd eich amhariadau yn eu cael yn unigol, byddwch yn dal yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os yw eu heffaith gyda’i gilydd yn ei gwneud yn anoddach i chi wneud gweithgareddau bob dydd.
Mae gan Ruby anabledd dysgu ysgafn. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n cymryd ychydig yn hirach i brosesu gwybodaeth o’i gymharu â rhywun sydd heb ei hanabledd dysgu.
Mae gan Ruby amhariad ysgafn ar ei lleferydd hefyd, sy’n effeithio ychydig ar ei gallu i ddweud rhai geiriau.
Effaith fach sydd gan amhariadau unigol Ruby. Fodd bynnag, gyda’i gilydd mae amhariadau Ruby yn cael effaith sylweddol ar ei gallu i siarad â phobl eraill.
Os oes gennych amhariad a fydd yn gwaethygu
Os nad yw eich amhariad yn cael unrhyw effaith neu ddim ond effaith fach nawr, byddwch yn dal yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os yw'n debygol o waethygu yn nes ymlaen. Gelwir hyn yn gyflwr ‘sy’n gwaethygu’.
Er enghraifft, mae dementia, clefyd Parkinson ac arthritis gwynegol yn gyflyrau sy’n gwaethygu.
Os nad ydych yn siŵr a fydd eich cyflwr yn gwaethygu, dylech siarad â meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol.
Os ydych chi’n defnyddio meddyginiaeth, triniaeth neu dechnoleg gynorthwyol
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud y dylech edrych ar effaith eich amhariad os na wnaethoch chi ddefnyddio meddyginiaeth, triniaeth neu dechnoleg gynorthwyol. Mae triniaeth yn cynnwys pethau fel ffisiotherapi a chwnsela. Mae technoleg gynorthwyol yn cynnwys pethau fel cadeiriau olwyn, cymhorthion clyw a rhaglenni darllen sgrin.
Os byddai eich amhariad yn gwneud pethau’n anoddach i chi heb unrhyw feddyginiaeth, triniaeth na thechnoleg gynorthwyol, efallai eich bod yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Os nad ydych yn siŵr beth fyddai'n digwydd pe baech yn rhoi'r gorau i ddefnyddio meddyginiaeth, triniaeth neu dechnoleg gynorthwyol, gallwch gael cyngor gan eich meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol.
Mae'r rheolau'n wahanol os oes gennych amhariad ar eich golwg. Dylech edrych ar effaith eich amhariad pan fyddwch yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd.
Mae diabetes math 1 ar Kemi. Mae’n rhaid iddi fonitro ei lefelau glwcos a rhoi pigiadau inswlin iddi’i hun sawl gwaith y dydd. Os yw Kemi’n rheoli ei lefelau glwcos, nid yw’n cael unrhyw symptomau fel arfer.
Byddai Kemi yn dal yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb oherwydd heb y dos cywir o inswlin, byddai ei diabetes yn ei gwneud yn anoddach iddi wneud gweithgareddau bob dydd.
Os nad ydych chi’n siŵr sut mae eich amhariad yn effeithio arnoch chi
Os gallwch chi, cadwch gofnod o’r hyn rydych chi’n ei wneud bob dydd, beth sy’n anodd i chi a pham ei fod yn anodd. Gallai hyn ddangos i chi sut mae eich amhariad yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.
Efallai y bydd pobl sy'n eich adnabod yn dda, fel eich ffrindiau a'ch teulu, hefyd yn gallu helpu i feddwl am ffyrdd y mae eich amhariad yn effeithio arnoch chi.
Gallech hefyd siarad â’ch meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol am sut mae eich amhariad yn effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd.
Cam 3: Edrychwch i weld a yw eich amhariad yn un ‘tymor hir’
Os ydych chi’n gwybod bod eich amhariad yn ei gwneud hi’n anoddach i chi wneud gweithgareddau bob dydd, mae angen i chi wneud yn siŵr bod yr effaith yn un tymor hir.
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud bod eich amhariad yn effeithio arnoch yn y tymor hir os yw un o’r canlynol yn berthnasol i’ch sefyllfa chi:
mae’r amhariad wedi para blwyddyn o leiaf
mae'n debygol o barhau am flwyddyn o leiaf
Os disgwylir i chi fyw am lai na blwyddyn, rhaid i effaith eich amhariad fod yn debygol o bara am weddill eich oes.
Os nad ydych yn siŵr am ba hyd y bydd eich amhariad yn para, dylech geisio cael cyngor gan eich meddyg neu gan weithiwr iechyd proffesiynol.
Os bydd eich symptomau’n gwella ac yn gwaethygu dros amser
Gallai effaith eich amhariad wella a gwaethygu dros amser. Gall hyn olygu mai dim ond am lai na 12 mis ar y tro y bydd eich amhariad yn effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd.
Mae gan lawer o gyflyrau symptomau sy’n gwella ac yn gwaethygu, er enghraifft arthritis, iselder neu epilepsi. Efallai y byddwch yn eu galw’n symptomau sy’n amrywio neu’n digwydd dro ar ôl tro.
Byddwch yn dal i fod yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os yw effaith eich amhariad yn debygol o ddigwydd eto yn ystod y 12 mis nesaf.
Mae epilepsi ar John sy’n achosi iddo gael ffitiau. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i John wneud gweithgareddau bob dydd, er enghraifft ni all fynd allan ar ei ben ei hun oherwydd ei fod yn debygol o ddisgyn.
Mae symptomau John yn gwella am gyfnod ond mae’r cyflwr yn debygol o effeithio ar ei weithgareddau eto o fewn blwyddyn. Byddai’r effeithiau hyn yn cael eu hystyried yn rhai tymor hir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Os rydych chi’n meddwl eich bod chi’n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr, busnesau a darparwyr gwasanaethau eich trin yn annheg - mae hyn yn cynnwys gwrthod gwneud addasiadau rhesymol. You can edrych i weld os yw’r Ddeddf Cydraddoldeb yn berthnasol i’r unigolyn neu’r sefydliad sydd wedi eich trin yn annheg.
Os ydych chi am gymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gallwch edrych i weld beth allwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu.
Edrychwch i weld a ydych chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Ni allwch wneud hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd os nad yw eich amhariad yn bodloni diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o anabledd.
Os ydych chi wedi cael eich trin yn wael, efallai y gallwch weithredu gan ddefnyddio gwahanol gyfreithiau. Gallwch wneud y canlynol:
Os cawsoch chi eich trin yn annheg am fod rhywun yn meddwl eich bod yn anabl
Efallai y byddwch yn ennill achos gwahaniaethu os gallwch ddangos eich bod wedi cael eich trin yn annheg oherwydd bod rhywun yn meddwl eich bod yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘wahaniaethu ar sail canfyddiad’. Er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo am fod eich cyflogwr yn meddwl bod gennych HIV, mae hyn yn wahaniaethu ar sail canfyddiad.
Os ydych chi yn y sefyllfa hon, ewch i weld yr hyn allwch chi ei wneud am wahaniaethu.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 06 Gorffennaf 2023