Holwch a allwch chi gael mwy o gymorth wrth roi tystiolaeth
Efallai bod modd i chi gael mwy o gymorth wrth i chi roi tystiolaeth yn y llys os:
-
ydych chi dan 18 – darllenwch fwy am gael help fel tyst ifanc
-
ydych chi’n anabl
-
ydych chi wedi dioddef problemau iechyd meddwl
- ydych chi’n ofn i roi tystiolaeth oherwydd eich bod rhywun yn eich bygwth chi
- ydych ch wedi dioddef cam-drin domestig neu drosedd rhywiol
-
ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd gyda gwn neu gyllell
Os yw’r llys yn penderfynu eich bod angen cymorth arbennig i roi tystiolaeth, gallant drefnu:
-
eich bod yn eistedd y tu ôl i sgrin fel na all y diffynnydd eich gweld
-
eich bod yn rhoi tystiolaeth y tu allan i ystafell y llys ar gyswllt fideo
-
bod y cyfreithwyr a’r barnwyr yn tynnu eu wigiau a’u gynau
-
bod y cyhoedd yn gadael ystafell y llys, os yw’r achos yn ymwneud â throsedd rywiol
-
bod rhywun yn eistedd gyda chi yn y llys neu yn yr ystafell cyswllt fideo i’ch helpu i roi tystiolaeth
Os nad ydych chi’n siŵr a allwch chi gael cymorth arbennig i roi tystiolaeth, siaradwch â phwy bynnag a ofynnodd i chi fynd i’r llys. Byddant am wneud yn siŵr eich bod chi’n gyfforddus er mwyn i chi allu rhoi tystiolaeth gywir ar y diwrnod.
Cymorth emosiynol ac ymarferol i fynd i’r llys fel tyst
Gallwch gael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion cyn, yn ystod ac ar ôl yr achos.
Llenwch y ffurflen gysylltu neu ffoniwch 0300 332 1000 a bydd rhywun yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Gallwch ofyn i’r heddlu, swyddog gofal tystion neu’r cyfreithiwr a ofynnodd i chi roi tystiolaeth i’ch atgyfeirio at y Gwasanaeth Tystion.
Gall gwirfoddolwr Gwasanaeth Tystion:
-
ddod i’ch cartref neu rywle lle’r ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i drafod eich anghenion
-
eich helpu i baratoi ar gyfer yr achos ac egluro i chi beth fydd yn digwydd
-
trefnu ymweliad â’r llys cyn yr achos
-
eich cefnogi i roi tystiolaeth ar y diwrnod
-
dod o hyd i help ar ôl yr achos os ydych chi ei angen, er enghraifft, cwnsela