Paratoi i fynd i’r llys fel tyst
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Byddwch yn cael gwybod dyddiad y treial gan y person a ofynnodd i chi fynd i’r llys.
Byddan nhw’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud am bethau fel trafnidiaeth a gofal plant, er mwyn i chi allu cynllunio ymlaen llaw.
Os ydych yn poeni am fynd i’r llys, gallwch gael cymorth cyfrinachol am ddim gan y Gwasanaeth Tystion. Gallant roi cymorth emosiynol i chi a'ch helpu i ddeall proses y llys.
Gallwch ddarganfod mwy am y Gwasanaeth Tystion a sut i gael cymorth.
Os ydych chi angen amser i ffwrdd o’r gwaith
Os nad ydych chi eisoes wedi siarad gyda’ch cyflogwr, rhowch wybod iddyn nhw cyn gynted â phosibl y byddwch chi angen amser i ffwrdd o’r gwaith.
Does dim rhaid i’ch cyflogwr eich talu chi am amser i ffwrdd o’r gwaith pan fyddwch chi’n mynd i’r llys fel tyst. Ond gallwch hawlio treuliau am golli enillion – gofynnwch i wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion am ffurflen ar ddiwrnod yr achos.
Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod rhoi amser i ffwrdd i chi
Dylech siarad gyda’ch swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad.
Gall y llys roi ‘gwŷs tyst’ i chi er mwyn i chi allu ei ddangos i’ch cyflogwr i brofi bod yn rhaid i chi fynd.
Os na allwch chi fynd i’r llys ar y dyddiad dan sylw
Os ydych chi’n sâl neu os oes argyfwng teuluol er enghraifft, dywedwch wrth eich swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad ar unwaith. Efallai y gall y llys barhau â’r achos heboch chi, ond yn aml bydd yn rhaid iddynt newid y dyddiad er mwyn i chi allu rhoi tystiolaeth.
Beth i’w wisgo yn y llys
Does dim rheolau ynglŷn â beth ddylech chi ei wisgo yn y llys, ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwisgo'n smart. Beth bynnag y byddwch chi’n ei wisgo, gofalwch eich bod yn gyfforddus gan y gallai fod yn ddiwrnod hir.
Os ydych chi angen trefnu gofal plant
Gallwch hawlio hyd at £67 am bob diwrnod y byddwch chi yn y llys i dalu am ofal plant.
Os ydych chi’n dod â’ch plant i’r llys, yna bydd angen i chi ddod â ffrind neu berthynas gyda chi i ofalu amdanynt – ni chaniateir plant dan 14 oed yn ystafell y llys oni bai eu bod yn rhoi tystiolaeth.
Holwch i weld a oes gan y llys y byddwch yn mynd iddo gyfleusterau newid babi, os oes eu hangen arnoch chi.
Cynllunio eich taith
Gallwch ddod o hyd i fap a chyfarwyddiadau ar gyfer y llys rydych chi’n mynd iddo ar adnodd dod o hyd i lysoedd a thribiwnlysoedd GOV.UK.
Mae’n syniad da cynllunio eich taith i’r llys ymlaen llaw er mwyn i chi allu sicrhau bod gennych chi ddigon o amser ar ddiwrnod yr achos. Os nad ydych chi’n siŵr sut i gyrraedd y llys, gofynnwch i rywun o’r Gwasanaeth Tystion – bydd ganddyn nhw wybodaeth leol am yr ardal.
Os ydych chi’n gyrru i’r llys, parciwch yn rhywle y gallwch chi aros am y dydd - gallai’r achos gael ei ohirio neu gallai fynd ymlaen yn hirach na’r disgwyl.
Gallwch hawlio costau teithio, tâl parcio a thaliadau tagfeydd.
Os nad ydych chi’n gallu fforddio cyrraedd y llys
Gallwch gael arian ymlaen llaw os ydych chi’n dyst i’r erlyniad – rhowch wybod i’r Uned Gofal Tystion.
Os ydych chi’n dyst i’r amddiffyniad, siaradwch â chyfreithiwr yr amddiffyniad.
Os ydych chi’n cael gwŷs tyst, gall yr heddlu dalu i chi deithio os oes angen.
Os ydych chi’n anabl
Gallwch ddefnyddio adnodd dod o hyd i lysoedd a thribiwnlysoedd GOV.UK i gael gweld:
pa gyfleusterau parcio, mynediad a thoiledau anabl sydd ar gael yn y llys
a oes gan y llys gyfleusterau cymorth clyw
Helpwch ni i wella ein cyngor ar fynd i'r llys. Dywedwch wrthym sut y gallwn wella ein gwefan yn yr arolwg 3 munud hwn.