Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Defnyddio ein Gwasanaeth Rheoli Dyledion - ein polisi preifatrwydd

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn eich helpu gyda'ch dyledion.

Rydym yn cael gwybodaeth amdanoch:

  • gan eich Cyngor ar Bopeth lleol - gyda'ch caniatâd

  • trwy ofyn i chi am fwy o wybodaeth yn uniongyrchol drwy'r post neu dros y ffôn

Os ydych yn ein ffonio, byddwn yn recordio'r sgwrs at ddibenion hyfforddi a monitro.

Os ydych yn gleient yn yr Alban, mae'n bosibl y bydd y Llinell Ddyled Genedlaethol yn eich atgyfeirio atom. Mae hyn yn golygu y bydd yn casglu eich holl wybodaeth bersonol ac yn ei throsglwyddo i ni.

Mae gennym 'fuddiant dilys' i gasglu eich gwybodaeth o dan gyfraith diogelu data. Mae hyn yn golygu bod modd i ni gyflawni ein nodau a'n hamcanion fel sefydliad. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd bob amser cyn eich cynrychioli neu rannu eich gwybodaeth.

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd bob amser cyn storio gwybodaeth am y canlynol:

  • cyflyrau iechyd

  • tarddiad ethnig

  • crefydd

  • aelodaeth o undeb llafur

  • cyfeiriadedd rhywiol

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Dywedwch wrthym ba wybodaeth bersonol nad ydych am i ni ei storio a byddwn yn ei dileu.

Y wybodaeth rydym yn gofyn amdano

Rydym ond yn cofnodi ac yn defnyddio gwybodaeth a fydd yn ein helpu i sefydlu eich cynllun rheoli dyledion. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • eich enw a'ch dyddiad geni

  • eich manylion cyswllt

  • eich dyledion, credydwyr a rhifau cyfeirnod

  • eich incwm a gwariant

  • eich cyflwr iechyd

  • eich amgylchiadau teuluol

Hefyd, bydd angen i ni gasglu prawf i'ch adnabod a phrawf o incwm.

Os ydych yn penderfynu gwneud taliadau debyd uniongyrchol i'ch credydwyr, byddwn yn gofyn am wybodaeth am eich cyfrif banc - gan gynnwys enw'r banc, enw'r cyfrif, rhif y cyfrif a'r cod didoli.

Os ydych wedi penderfynu gwneud ad-daliadau i'ch credydwyr, byddwn yn casglu gwybodaeth am yr ad-daliadau, gan gynnwys unrhyw daliadau a gollwyd a'r rheswm am hynny. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu datganiad i chi bob 6 mis o'ch cynllun.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Y prif reswm y mae angen eich gwybodaeth arnom yw er mwyn gallu nodi pa atebion neu gynlluniau dyled sy'n addas i chi.

Hefyd, byddwn yn edrych ar eich gwybodaeth yn rheolaidd er mwyn adolygu eich cynllun - byddwn yn cysylltu â chi wrth wneud hyn er mwyn cadarnhau a yw eich amgylchiadau neu'ch manylion wedi newid.

Rydym ond yn defnyddio eich gwybodaeth am resymau eraill os oes wir angen i ni wneud hynny - er enghraifft:

  • at ddibenion hyfforddiant ac ansawdd

  • i ymchwilio i gwynion

  • i'n helpu i wella ein gwasanaethau

Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi ynglŷn â'ch profiad o'n gwasanaeth neu ofyn i chi gymryd rhan mewn arolygon neu waith ymchwil - ni fyddwn yn gwneud hyn heb eich caniatâd.

Rydym yn defnyddio rhywfaint o wybodaeth i greu ystadegau ynglŷn â phwy sy'n derbyn cymorth gennym a'r problemau sy'n eu hwynebu. Mae'r wybodaeth hon yn ddienw bob amser - nid oes modd eich adnabod.

Rydym yn rhannu adroddiad bob mis gyda'n cyllidwr, NPower. Mae hyn yn cynnwys ystadegau dienw yn ymwneud â nifer y cleientiaid sy'n cael eu hatgyfeirio ar gyfer Trefniant Gwirfoddol Unigol neu gynlluniau rheoli dyledion, gwerth dyledion a nifer y cleientiaid sydd mewn perygl o dlodi tanwydd.

Pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth 

Weithiau rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â sefydliadau eraill - rydym ond yn gwneud hyn er mwyn eich helpu i ddelio â'ch dyledion, neu fonitro ansawdd ein gwasanaethau. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn gwneud hyn.

Mae'n rhaid i sefydliadau rydym yn rhannu eich data â nhw ei storio a'i ddefnyddio yn unol â chyfraith diogelu data - ni allant ei drosglwyddo na'i werthu heb eich caniatâd.

 phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â'ch credydwyr er mwyn gwneud cynigion i ad-dalu neu ofyn am foratoriwm.

Os ydych wedi penderfynu gwneud taliadau i'ch credydwyr, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â'r elusen Stepchange er mwyn iddi wneud taliadau i'ch credydwyr ar eich rhan.

Os ydych wedi dewis Trefniant Gwirfoddol Unigol byddwn yn anfon eich gwybodaeth fel atgyfeiriad at y darparwr o'ch dewis - naill ai Aperture, Payplan neu Stepchange Voluntary Arrangements, er mwyn iddynt brosesu eich cais.

Gallai'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ofyn i ni rannu hapsampl o achosion cleientiaid y mae Gwasanaeth Rheoli Dyledion Cyngor ar Bopeth yn ymdrin â nhw. Mae hyn yn sicrhau bod y cyngor a'r gwasanaeth a gewch yn gyfreithlon ac yn bodloni rheolau a rheoliadau'r FCA.

Gallem ddewis defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion ymchwil ar sail 'buddiant dilys'. Mae hyn yn golygu y bydd yn gymorth i ni gyflawni ein nodau ac amcanion fel sefydliad - er enghraifft, i greu astudiaethau achos ac ystadegau ar gyfer ein gwaith ymchwil cenedlaethol. Os ydym yn defnyddio'r wybodaeth yn y modd hwn, bydd eich manylion personol yn ddienw.

Storio eich gwybodaeth

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn ein systemau mewnol. Mae'r holl gwirfoddolwyr a staff sy'n cael mynediad at eich data wedi cael hyfforddiant diogelu data er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn ddiogel.

Mae Cyngor ar Bopeth a’r Elusen Ddyledion Stepchange yn cadw eich gwybodaeth am 6 blynedd. Os yw eich achos wedi bod yn destun cwyn ddifrifol, hawliad yswiriant neu anghydfod arall, rydym yn cadw'r data am 16 mlynedd.

Cynhelir ein systemau rheoli achosion yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), a lle bynnag y bo modd, yn y DU.

Os ydych yn ein ffonio, bydd galwadau'n cael eu recordio gan ein partner dibynadwy, KCOM. Byddant yn cael eu dileu ar ôl 6 mis.

Cysylltu â ni ynglŷn â'ch gwybodaeth

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i holi am y canlynol:

  • pa wybodaeth amdanoch sy'n cael ei storio gennym

  • os ydych am newid neu ddiweddaru eich manylion

  • os ydych am i ni ddileu eich manylion o'n cofnodion

Anfonwch neges atom: feedback@citizensadvice.org.uk.

If you want to make a complaint

Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd rydyn ni wedi trin eich data, gallwch chi gwyno trwy ein gwefan.