Cysylltwch â'n gwasanaeth defnyddwyr
Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os oes angen rhagor o help arnoch gyda phroblem defnyddwyr.
Ffoniwch y llinell gymorth
Llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 ac yna 0808 223 1133
Gallwch ddefnyddio
Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Mae llinellau ar gau ar wyliau banc.
I gysylltu â chynghorydd Cymraeg ffoniwch: 0808 223 1144
Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn ychydig funudau. Unwaith y byddwch yn siarad â chynghorydd, dylai eich galwad gymryd 8 i 10 munud ar gyfartaledd.
Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.
Sgwrsiwch gyda ni ar-lein
Gallwch siarad am eich problem defnyddiwr gyda chynghorydd hyfforddedig ar-lein.
Siaradwch â ni am broblem ynni
Dysgwch sut i sgwrsio â ni ar-lein am broblem ynni.
Siaradwch â ni am fath arall o broblem defnyddwyr
Fel arfer gallwn helpu rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu i wneud cynnydd da tuag at hynny.
I’ch cysylltu â’r cynghorydd cywir, byddwn yn gofyn i chi am ychydig o fanylion, gan gynnwys eich cod post.
Ni all ein cynghorwyr sgwrsio helpu gyda phroblemau postio ond gallwch ddefnyddio ffurflen ar-lein yn lle hynny.
Defnyddio ffurflen ar-lein
Ar y penwythnos, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein. Maent ar gael o 5pm dydd Gwener i 9am dydd Llun.
Sut gall y llinell gymorth defnyddwyr eich helpu chi
Gall cynghorydd y llinell gymorth:
- rhoi cyngor ymarferol a diduedd i chi ar sut i ddatrys eich problem defnyddiwr
- dweud wrthych beth yw'r gyfraith sy'n berthnasol i'ch sefyllfa
- trosglwyddo gwybodaeth am gwynion i Safonau Masnach (ni allwch wneud hyn eich hun)
Fodd bynnag, ni all y cynghorydd:
-
gwneud cwyn ar eich rhan
-
cymryd camau cyfreithiol ar eich rhan
Cyn i chi gysylltu â'r llinell gymorth
Cyn i chi gysylltu â'r llinell gymorth, dylai fod gennych feiro a phapur yn barod.
I helpu’r cynghorydd i roi’r cyngor mwyaf perthnasol i chi, dylech fod yn barod i roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol ag y gallwch:
-
manylion cryno am eich problem, e.e. pryd wnaethoch chi dalu am yr eitem neu’r gwasanaeth, faint wnaethoch chi ei dalu, sut gwnaethoch chi dalu amdano, p’un ai a wnaethoch chi hynny mewn siop neu ar-lein
-
enw a chyfeiriad y gwerthwr neu’r masnachwr
-
yr hyn yr ydych wedi ei wneud hyd yn hyn i geisio datrys y mater
-
eich rhif cyfeirnod (os ydych eisoes wedi cysylltu â’r llinell gymorth ynglŷn â’r un broblem)
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - darganfod sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.
Beth rydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni i ateb eich ymholiad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gael eich adborth ar ein gwasanaeth.
Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda Safonau Masnach a sefydliadau dibynadwy eraill rydym yn gweithio gyda nhw i helpu eu gwaith diogelu defnyddwyr. Gallent gysylltu â chi gyda rhagor o gyngor, neu i ofyn am ragor o wybodaeth a fydd yn eu helpu gyda’u gwaith.
Dywedwch wrthym pan fyddwch yn cysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr os nad ydych am i’ch gwybodaeth gael ei rhannu.
Dysgwch fwy am sut rydym yn defnyddio, storio a rhannu eich gwybodaeth.
Os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn
Dylech ddilyn ein gweithdrefn gwynion.
Fel elusen, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth i helpu miliynau o bobl i ddatrys eu problemau bob blwyddyn. Cyfrannwch os gallwch chi i'n helpu ni i barhau â'n gwaith.