Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE
Sgroliwch i waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am y cyngor sydd ar gael a chanllawiau ymarferol ar y broses o wneud cais am Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE mewn ystod o ieithoedd amrywiol.
Croeso i’n Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, lle gall dinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir, eu teuluoedd a'u gofalwyr sy’n preswylio yng Nghymru gael mynediad at wybodaeth, arweiniad a chyngor diduedd a chyfrinachol am ddim ynghylch
-
mewnfudo gan ddarparu cyngor a chefnogaeth gyda cheisiadau hwyr i'r Cynllun Setliad a symud o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws sefydlog
-
cyngor a chefnogaeth mewnfudo o dan rannau sy'n seiliedig ar bwyntiau mewn perthynas â'r rheolau mewnfudo ar gyfer pobl sy'n cyrraedd ar ôl 2020 sy'n berthnasol i unrhyw un sydd am ddod i fyw, astudio neu weithio yn y DU
-
cyngor arbenigol pwrpasol ar gyfer pobl sy'n profi gwahaniaethu neu broblemau yn y gwaith.
-
porth i gymorth manwl, arbenigol ar faterion lles cymdeithasol.
Cael cymorth
I siarad â chynghorydd neu i drefnu apwyntiad gyda’n tîm Hawliau Dinasyddion yr UE, ffoniwch 0300 3309 059 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Os na allwch chi siarad â rhywun yn syth, gallwch chi adael neges a bydd cynghorydd yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd ar gael. Dylech glywed gan rywun o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Ffoniwch eich swyddfa lleol
Gallwch ffonio eich swyddfa lleol er mwyn trefnu apwyntiad gyda chyngohrydd yn uniongyrchol:
- Caerdydd
- Bro Morgannwg
- Pen-y-Bont Abertawe
- Castell Nedd
- Port Talbot
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
- Canolbarth Cymru (ardaloedd o Geredigion a Phowys)
ffoniwch: 01446 509 897
- gogledd Cymru,
- canolbarth Cymru (ardaloedd o Geredigion a Phowys)
- Casnewydd
- Rhondda Cynon Taf
- Merthyr Tydfil
- Caerffili
- Blaenau Gwent
- Sir Fynwy
Mae ein gwasanaeth yn sicrhau mynediad i gymorth cyfieithu pan fo angen, a bydd yn parchu eich dewis o ddull, yn cynnwys defnyddio staff/gwirfoddolwyr presennol y gwasanaeth sy’n siarad yr iaith o’ch dewis, ffrind neu aelod o’r teulu neu Linell Iaith.
Nid ydym yn codi tâl am alwadau i’r llinell gymorth. Gallai eich darparwr gwasanaeth godi tâl arnoch chi am eich galwad, ond dylai fod am ddim os naill ai:
- mae eich contract yn cynnwys pob galwad i linellau tir
- rydych chi o fewn eich lwfans munudau am ddim ar gyfer galwadau i linellau tir
Efallai y codir tâl arnoch chi os nad yw eich contract yn cynnwys pob galwad i linellau tir neu rydych chi wedi defnyddio eich holl funudau am ddim . Er enghraifft, gallai galwad 10 munud gostio:
- £1.73 o linell tir BT - deall mwy am gostau galwadau BT
- £3.50 os ydych chi’n gwsmer EE talu wrth fynd - deall mwy am gostau galwadau EE
Gwiriwch wefan eich cyflenwr i weld beth fydd y gost.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i’ch gwasanaeth lleol a bod gennych chi nifer o ffrindiau, cydweithwyr neu aelodau o’r teulu a allai fod angen ein cymorth, efallai y byddwn yn gallu trefnu sesiwn gynghori wrth eich ymyl. Ffoniwch ni ar 0300 3309 059 i drefnu.
Efallai y gallwn drefnu galwadau fideo hefyd os yw hynny’n fwy cyfleus a chymorth ‘y tu allan i oriau’ os nad yw hi’n bosibl i chi gysylltu â ni yn ystod ein horiau agor arferol. Rhowch wybod i ni drwy ffonio’r llinell gymorth ar 0300 3309 059.
Rhagor o wybodaeth
Taflenni gwybodaeth
Darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol am ragor o wybodaeth a chanllawiau ar wneud cais i’r cynllun preswylio’n sefydlog i Ddinasyddion yr UE a mynediad i gyngor ehangach ar broblemau’n ymwneud â gwahaniaethu a chyflogaeth. Mae gennym ni daflenni ar gael yn y Gymraeg, yn Saesneg, mewn Pwyleg, Tsieceg, Slofaceg, Rwmaneg a Phortiwgaleg a gellir cael mynediad iddyn nhw isod.
Hawliau Dinasyddion yr UE - Ceština (A5)
Hawliau Dinasyddion yr UE - Ceština (DL)
Hawliau Dinasyddion yr UE - Cymraeg (A5) [ 0.52 mb]
Hawliau Dinasyddion yr UE - Cymraeg (DL) [ 1.6 mb]
Hawliau Dinasyddion yr UE - English (A5) [ 0.52 mb]
Hawliau Dinasyddion yr UE - English (DL) [ 1.6 mb]
Hawliau Dinasyddion yr UE - Limba română (A5)
Hawliau Dinasyddion yr UE - Limba română (DL)
Hawliau Dinasyddion yr UE - Português (A5)
Hawliau Dinasyddion yr UE - Português (DL)
Hawliau Dinasyddion yr UE - Polski (A5) [ 0.52 mb]
Hawliau Dinasyddion yr UE - Polski (DL) [ 1.6 mb]
Hawliau Dinasyddion yr UE - Slovenčina (A5)
Hawliau Dinasyddion yr UE - Slovenčina (DL)
Canllawiau ar y broses o wneud cais ar-lein i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais ar-lein i’r Cynllun Preswylio Sefydlog ac yr hoffech chi gael arweiniad cam wrth gam, edrychwch ar ein canllawiau isod yn yr iaith o’ch dewis:
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1.8 mb] - Bānlā (Bengali)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1.1 mb] - Bŭlgarski (Bulgarian)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1 mb]- Ceština (Czech)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1.3 mb] - Cymraeg (Welsh)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1 mb] - English
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1.1 mb] - Español (Spanish)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1 mb] - Limba română (Romanian)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1 mb] - Magyar (Hungarian)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1.2 mb] - Polski (Polish)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1.1 mb] - Português (Portugese)
Sut i wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog [ 1 mb] - Slovenčina (Slovak)