ESA: Rhoi gwybod i’r DWP am newidiadau
Os yw’ch amgylchiadau yn newid, mae angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau gan y gallai effeithio ar eich ESA.
Mae angen i chi drafod hyn os ydych chi yn y grŵp cymorth neu yn y grŵp gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith.
Mae angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau wybod am newidiadau o ran eich cyflwr, er enghraifft os yw’n:
- gwella
- gwaethygu
- newidiadau i gyflwr arall
Bydd angen iddynt gael gwybod hefyd am unrhyw newidiadau i’ch trefniadau byw. Er enghraifft, os ydych chi:
- yn symud tŷ
- yn mynd i, neu’n gadael ysbyty neu garchar neu gystodaeth gyfreithiol
- yn mynd dramor neu ar fin mynd dramor
Os ydych chi’n derbyn ESA sy’n gysylltiedig ag incwm, mae angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n:
- dechrau byw gyda rhywun arall
- bod rhywun arall yn dod i fyw i’ch tŷ
- priodi neu ysgaru
- creu partneriaeth sifil neu os oes un yn chwalu
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd am unrhyw arian sy’n dod i mewn neu’n gadael eich aelwyd. Mae hyn yn cynnwys e.e. os yw’ch partner yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i gael budd-dal, lwfans neu incwm pensiwn. Neu os ydych chi neu’ch partner yn dechrau gwaith.
Mae llawer o bethau a allai effeithio ar eich ESA a dim ond rhai enghreifftiau sydd yma.
Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau wybod rhywbeth, mae’n syniad da dweud wrthynt beth bynnag.
Sut mae cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau am newidiadau
Ffoniwch y Ganolfan Cyngor ar Bopeth i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau.
Wrth gysylltu, byddant yn gofyn i chi am:
- eich enw llawn
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Y Ganolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn Testun: 0800 169 0314
Ffôn Cymraeg: 0800 328 1744
Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.