Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynhaliaeth Plant sut mae ad-daliadau'n cael eu trafod pan fydd taliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu, fel arfer y rhiant heb ofal bob dydd dros y plant sy'n gyfrifol am dalu cynhaliaeth.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth sy'n digwydd os oes taliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi dan Gynllun 1993, 2003 neu 2012 ac mae'r rhiant sydd a'r ôl-ddyledion yn trafod amserlen ad-dalu gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trafod amserlen ad-dalu gyda'r rhiant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth

Mewn rhai achosion, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trafod amserlen ad-dalu gyda'r rhiant sydd â thaliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi. Cewch wybod am hyn.

Os nad ydych yn hapus â'r amserlen, dywedwch wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gan esbonio'ch rhesymau a dangos sut fyddai hyn yn niweidiol i'ch lles chi a'r plant.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi cytuno'n ysgrifenedig i drefniant ad-dalu sy'n afresymol o isel, mae'r cytundeb hwn yn rhwymo'n gyfreithiol, ac fe fydd yn rhaid i chi ei dderbyn.

Ond, os ydych chi'n credu bod yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi gwneud camgymeriad wrth osod amserlen ad-dalu isel, gallwch gwyno am hyn. Er enghraifft. mae'n gwneud camgymeriad gyda'r ffigurau ac yn cytuno i amserlen ad-dalu ar sail incwm is nag y mae'r rhiant sydd â'r ôl-ddyledion yn ei ennill mewn gwirionedd.

Derbyn rhandaliad ôl-ddyledion

Os oes taliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi, gallwch ofyn i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os yw'n bosib cael rhandaliad i setlo'n llawn ac yn derfynol. Fe allech ddewis yr opsiwn hwn os ydych chi'n credu bod cael rhywfaint o'r taliadau cynhaliaeth yn well na chael dim o gwbl, neu os ydych chi am ddechrau o'r newydd ac anghofio am anghydfodau'r gorffennol.

Os oes taliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi ac rydych yn cytuno i randaliad, ni fyddwch yn medru newid eich meddwl yn nes ymlaen. Ni fydd yr ôl-ddyledion yn gyfreithiol ddyledus i chi mwyach. Efallai yr hoffech chi gael cyngor arbenigol cyn i chi gytuno i'r opsiwn yma.

Gallai'r rhiant y mae arno/arni daliadau cynhaliaeth hefyd awgrymu rhandaliad i setlo'n llawn ac yn derfynol.

Ond, os yw'r rhiant sydd â'r taliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi yn gwneud cynnig sy'n afresymol, ni fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ei dderbyn ac ni chewch wybod am y cynnig.

Ni fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant na'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn derbyn rhandaliad chwaith os yw'n credu bod y rhiant sydd â'r taliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi yn medru talu'r ôl-ddyledion a bod yna siawns resymol o'u cael wedi eu talu'n llawn.

Cyn derbyn cynnig rhandaliad gan y rhiant sydd â'r ôl-ddyledion, fe fydd angen i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gael eich cydsyniad chi yn ysgrifenedig. Efallai yr hoffech chi gael cyngor arbenigol cyn i chi dderbyn.

Os yw'r ddau/ddwy riant a'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cytuno i randaliad, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cadarnhau hyn yn ysgrifenedig. Fe fyddan nhw'n rhoi manylion sut ddylid talu'r swm un taliad a phryd. Os nad yw'r rhiant a ddylai fod yn talu'r taliadau cynhaliaeth y llwyddo i dalu'r swm un taliad fel y cytunwyd, fe allai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ganslo'r cytundeb a pharhau i geisio cael yr ôl-ddyledion wedi eu talu mewn ffyrdd eraill.

Dileu ôl-ddyledion

Mae gan yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant y pwer i ddileu unrhyw ôl-ddyledion mewn achosion prin. Ystyr dileu ôl-ddyledion yw nad oes rhaid eu talu mwyach. Mae'r rhesymau'n cynnwys:

  • rydych chi'n dweud wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant nad ydych chi am i'r ôl-ddyledion gael eu casglu
  • mae'r rhiant a ddylai fod yn talu'r taliadau cynhaliaeth wedi marw ac nid oes modd adennill yr ôl-ddyledion o'u hystad, neu nid oes ystad i adennill yr ôl-ddyledion ohono
  • mae'r ôl-ddyledion yn mynd yn ôl i gytundeb cynhaliaeth interim a wnaed rhwng mis Ebrill 1993 a mis Ebrill 1995

Cyn iddyn nhw benderfynu dileu unrhyw ôl-ddyledion, rhaid i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant ystyried holl amgylchiadau'r achos a lles y plant dan sylw.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am ddileu ôl-ddyledion fe fyddan nhw'n anfon hysbysiad atoch, yn nodi:

  • swm yr ôl-ddyledion
  • pryd oedd yr ôl-ddyledion yn ddyledus
  • y ffaith fod y penderfyniad i ddileu'r ôl-ddyledion yn derfynol.

Fe fyddan nhw hefyd yn gofyn i chi pam ddylai'r ôl-ddyledion gael eu dileu yn eich barn chi. Mae gennych 14 diwrnod i ateb. Fe fydd eich barn yn cael ei ystyried, ond os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu dileu'r ôl-ddyledion, ni fyddwch yn medru apelio yn erbyn eu penderfyniad.·

Atredeg arian sy'n ddyledus i chi

Weithiau, os oedd newid mewn amgylchiadau, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru atredeg taliadau cynhaliaeth sy'n ddyledus rhwng rhieni. Mae atredeg taliadau yn golygu bod taliadau cynhaliaeth sy'n ddyledus i chi'n medru cael eu gostwng neu ddileu i wneud iawn am yr arian sydd arnoch chi dan y trefniant newydd.

Maen nhw'n fwy tebygol o atredeg taliadau mewn achosion ble mae plentyn yn symud o ofal un rhiant i'r llall, neu os yw'ch trefniadau rhannu gofal yn newid ac mae llai o daliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.