Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - rydych yn gwadu mai chi yw tad y plant

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os nad chi sydd â gofal bob dydd eich plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.

Fe fydd y rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant yn medru cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth ac enwi chi fel y rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth. Ond efallai eich bod chi'n gwadu mai chi yw tad y plentyn.

Caiff y rhan fwyaf o geisiadau am daliadau cynhaliaeth eu trafod gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003 ond caiff ychydig eu trafod gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cysylltu â chi i ofyn i chi dalu taliadau cynhaliaeth ac rydych chi'n gwadu mai chi yw tad y plentyn.

Pryd allai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eich trin chi fel tad y plentyn

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cysylltu â chi i dalu taliadau cynhaliaeth ac nid chi yw tad y plant, dylech nodi'r rhesymau pam nad chi yw'r tad a darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn.

Ond, hyd yn oed os ydych yn gwadu mai chi yw tad y plant, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn eich trin chi fel y tad yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae'r plant yn preswylio'n arferol yn y wlad hon, ac
  • nid yw'r plant wedi cael eu mabwysiadu ers i chi wahanu, ac
  • roeddech yn briod â mam y plant ar unrhyw adeg rhwng dyddiad cenhedlu a dyddiad geni'r plant, neu
  • rydych wedi eich enwi fel y tad ar y dystysgrif geni.

Adegau eraill y gellir eich trin chi fel tad y plant

Gallech hefyd gael eich trin fel tad y plant oherwydd:

  • ymhadiad rhoddwr neu driniaeth ffrwythlondeb
  • cenhedlwyd y plant gan riant benthyg ac mae'r llys wedi gwneud gorchymyn rhiant sy'n eich enwi chi fel y tad
  • mae'r llys wedi datgan mai chi yw rhiant cyfreithiol y plant ac nid yw'r plant wedi cael eu mabwysiadu ers hynny
  • rydych chi wedi mabwysiadu'r plant.

Os ydych chi'n dal i wadu mai chi yw tad y plant

Os nad yw'r amgylchiadau uchod yn wir ac rydych y gwadu mai chi yw'r tad, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn eich cyfweld chi a'r fam. Fe fyddan nhw'n edrych ar ddatganiadau'r ddau ohonoch ac unrhyw dystiolaeth.

Yn y cyfweliad, efallai y gofynnir y canlynol i chi:

  • a ydych chi'n adnabod mam y plant ac ers faint
  • a oeddech wedi cael rhyw gyda hi ac a oeddech wedi defnyddio unrhyw ddull atal cenhedlu
  • pam rydych chi'n credu nad chi yw tad y plant
  • a ydych eisoes wedi cael prawf DNA ac, os nad ydych chi, a fyddech chi'n cael un.

Gofynnir cwestiynau tebyg i fam y plant hefyd am:

  • ei pherthynas gyda chi
  • manylion unrhyw berthnasoedd rhywiol dri mis cyn  y dyddiad yr amcanir y cenhedlwyd y plant ac ar ôl hynny
  • a yw hi'n fodlon cael prawf DNA.·

Cyflwyno cais i'r llys am gadarnhad mai chi yw tad unrhyw blant

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cyflwyno cais i'r llys am gadarnhad mai chi yw tad y plant. Ond, defnyddir hyn ar gyfer anghydfod cymhleth iawn yn unig, neu ble nad yw prawf DNA yn briodol, er enghraifft os ganed y plant o ganlyniad i driniaeth ffrwythlonder.

Fe fydd y llys yn penderfynu'r achos ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, er enghraifft tystysgrif geni a chanlyniad unrhyw brawf DNA blaenorol. Nid yw'r llys yn medru eich gorfodi i gael prawf DNA ond os ydych yn gwrthod, fwy na thebyg y bydd y llys yn datgan mai chi yw'r tad.

Rhaid i'r fam roi caniatâd i'r plant gael prawf DNA ond fe all y llys ddiystyru gwrthodiad i roi caniatâd os yw'n teimlo y byddai er budd y plant i gymryd sampl.

Dadlau nad chi yw'r tad ar ôl i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gyfrifo'r taliadau cynhaliaeth

Os ydych chi wedi derbyn mai chi yw tad y plant ac rydych yn dadlau yn erbyn hyn ar ôl cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth, mae i fyny i chi brofi nad chi yw'r tad. Nid yw i fyny i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant brofi mai chi yw'r tad.

Cewch gynnig prawf DNA dim ond os ydych yn medru darparu prawf pam yr ydych o'r farn nad chi yw'r tad. Rhaid i'r fam gytuno hefyd y gallai fod peth amheuaeth.

Profion DNA

Os ydych yn parhau i wadu mai chi yw tad y plant, cewch gynnig prawf DNA. Os ydych yn gwrthod cymryd y prawf, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn eich trin chi fel y tad.

Os nad ydych yn medru talu am y prawf DNA, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn talu'r ffi ar eich rhan chi. Ond os yw'r prawf yn dangos mai chi yw tad y plentyn, fe fydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian hwn.

Os yw'r prawf DNA yn profi nad chi yw'r tad

Efallai y bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gofyn i'r rhiant a oedd yn cael y taliadau cynhaliaeth i ad-dalu'r arian yr ydych wedi ei dalu ers y dyddiad yr oeddech wedi gwadu mai chi oedd y tad. Fe fydd hyn yn cael ei benderfynu fesul achos. Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ad-dalu costau unrhyw brofion DNA yr ydych wedi talu amdanynt.

Ni chewch ad-daliad ar unrhyw daliadau cynhaliaeth yr oeddech wedi eu talu cyn i chi wadu mai chi oedd y tad.

Os yw'r prawf DNA yn profi mai chi yw'r tad

Fe fydd yn rhaid i chi dalu:

  • unrhyw ôl-ddyledion ar eich taliadau cynhaliaeth
  • costau'r llys
  • cost y prawf DNA.

Efallai hefyd y byddwch yn peryglu unrhyw gais am gyswllt gyda'r plant.

Camau nesaf

Herio cyfrifiad taliadau cynhaliaeth:

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Dadlau ynghylch bod yn rhiant: www.gov.uk
  • Mwy am yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant yn cysylltu â chi: www.cmoptions.org
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.