Gorfodi taliadau cynhaliaeth plant - tynnu arian o'ch budd-daliadau
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu, fel arfer y rhiant heb ofal bob dydd dros y plant sy'n gyfrifol am dalu cynhaliaeth.
Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi trefnu cynhaliaeth ar eich cyfer ac rydych ar ei hôl hi gyda'ch taliadau cynhaliaeth, fe fydd yn rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o ad-dalu'r ôl-ddyledion. Os na fyddwch yn gwneud hyn, fe allai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gymryd camau gorfodi yn eich erbyn i geisio gwneud i chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth sy'n digwydd os oes arnoch chi daliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 1993, 2003 neu 2012 ac mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eisiau mynd ag arian yn syth o'ch budd-daliadau i ad-dalu'r ôl-ddyledion.
Talu ôl-ddyledion yn syth o'ch budd-daliadau
Os oes arnoch daliadau cynhaliaeth, weithiau mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru tynnu arian yn rheolaidd o'ch budd-daliadau hyd nes bod yr ôl-ddyledion wedi eu had-dalu. Nid oes angen iddyn nhw gael gorchymyn llys i'w galluogi nhw i wneud hyn.
Ar ben unrhyw arian a dynnir am ôl-ddyledion, mae'n rhaid i chi barhau i dalu swm rheolaidd y taliadau cynhaliaeth yr ydych wedi cael eich gorchymyn i'w talu dan y trefniant cynhaliaeth.
Dan Gynllun 1993, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn medru tynnu arian o'ch budd-daliadau i dalu cyfraniad at daliadau cynhaliaeth rheolaidd ond nid ydynt yn medru tynnu arian am ôl-ddyledion.
Faint o arian fedran nhw ei dynnu
Dan Gynlluniau 2003 a 2012, os oes rhaid i chi dalu cyfradd unradd taliadau cynhaliaeth, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru gorchymyn hyd at £1 yr wythnos i gael ei dynnu o unrhyw rai o'ch budd-daliadau ac eithrio'r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm.
Pan na fydd modd tynnu arian am ôl-ddyledion o fudd-daliadau
Ni fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant na'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn tynnu unrhyw arian o'ch budd-daliadau tuag at ad-dalu ôl-ddyledion os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth ar gyfradd sero. Er enghraifft, mae hyn yn medru bod oherwydd:
- rydych yn blentyn
- rydych yn garcharor
- mae gennych incwm net o lai na £5 yr wythnos.
Myfyrwyr
Myfyrwyr dan Gynllun 2003
Os oeddech wedi cael taliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu dan Gynllun 2003, rydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth ar gyfradd sero. Mae hyn yn golygu nad yw'r Asiantaeth Cynnal Plant yn medru tynnu unrhyw arian o'ch budd-daliadau tuag at ôl-ddyledion.
Myfyrwyr dan Gynllun 2012
Os trefnwyd taliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2012, nid ydych yn talu taliadau cynhaliaeth ar gyfradd sero. Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru tynnu arian o'ch budd-daliadau.
Sut maen nhw'n tynnu'r arian
Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu os yw am dynnu arian o'ch budd-daliadau. Yna, mae’n anfon cais at yr Adran Gwaith a Phensiynau a fydd yn diwygio ei system taliadau.
Adolygiadau ac apelio
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad i dynnu arian o'ch budd-daliadau i dalu am ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth neu os ydych chi'n credu bod y swm y maen nhw'n ei dynnu yn anghywir, gallwch ofyn am adolygu'r penderfyniad. Gelwir hyn yn ofyn am ailystyriaeth.