Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gorfodi taliadau cynhaliaeth plant - sancsiynau y mae'r llys yn eu gorchymyn

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gynhaliaeth ariannol eu plant.

Os oes arnoch daliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, dan Gynllun 1993, 2003 neu 2012, ac nid oes dulliau gorfodi eraill wedi gweithio, gallent gyflwyno cais i'r llys ar gyfer sancsiynau pellach. Mae sancsiynau y gall y llys eu cyflwyno yn medru golygu eich hatal chi rhag gyrru neu eich anfon chi i'r carchar.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am y sancsiynau a beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n mynd i'r llys.

Pryd fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyflwyno cais i'r llys am sancsiynau pellach

Os oes gan yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant orchymyn dyled yn eich erbyn, ond nid yw dulliau gorfodi eraill wedi gweithio, ac mae arnoch daliadau cynhaliaeth o hyd, maen nhw'n medru cyflwyno cais i'r llys ynadon am orchymyn am sancsiynau pellach.

Defnyddir y pwer hwn fel y cam olaf un yn unig, a dylai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ystyried lles unrhyw blentyn y mae'r sancsiynau hyn yn debygol o effeithio arno cyn gwneud hyn.

Fe allai'r llys wneud gorchymyn:

  • i’ch atal chi rhag dal trwydded gyrru neu gael trwydded gyrru, neu
  • i’ch anfon chi i'r carchar os ydych chi'n 18 neu'n hyn.

Efallai y bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn argymell pa un o'r sancsiynau hyn fyddent yn hoffi i'r llys ei ystyried. Ond, os rhoddir y gorchymyn, fe fydd yr ynadon yn penderfynu a fydd yn gwneud y gorchymyn am waharddiad gyrru neu garchariad.

Beth sy'n digwydd os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyflwyno cais i'r llys am sancsiynau pellach

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyflwyno cais i'r llys am sancsiynau pellach, cewch wys i fynd i'r gwrandawiad llys. Fe fydd yn nodi swm yr ôl-ddyledion a dyddiad ac amser y gwrandawiad. Os nad ydych yn mynd i'r gwrandawiad, fe allai'r llys gyflwyno warant i'ch arestio ac yna gosod dyddiad newydd. Mae hyn am eich bod chi'n gorfod bod yn y gwrandawiad.

Yn y gwrandawiad, fe fydd y llys yn gofyn i chi am:

  • eich amgylchiadau ariannol
  • a ydych chi wedi gwrthod talu taliadau cynhaliaeth neu wedi eu hesgeuluso. Gelwir hyn yn wrthod o'ch gwirfodd neu'n esgeuluso camweddus
  • a oes angen trwydded gyrru arnoch ar gyfer eich gwaith.

Gwaharddiad rhag gyrru

Sicrhewch eich bod yn mynd â holl fanylion eich sefyllfa ariannol i'r gwrandawiad a phrawf fod angen trwydded gyrru arnoch. Er enghraifft, gallwch fynd â llythyr gan eich cyflogwr sy'n cadarnhau bod angen i chi yrru i'r gwaith ac y gallech golli'ch swydd a methu ag ad-dalu'r ôl-ddyledion os ydych yn colli'ch trwydded gyrru.

Fe fydd y llys yn ystyried holl amgylchiadau'r achos. Os yw'n penderfynu eich bod wedi gwrthod talu'r taliadau cynhaliaeth yn fwriadol neu wedi eu hesgeuluso, mae’n medru eich atal rhag cael trwydded gyrru am gyfnod penodol o hyd at ddwy flynedd.

Mae'r llys yn medru penderfynu gohirio'r gorchymyn. Gallai wneud hyn, er enghraifft, ar yr amod eich bod yn talu swm penodol tuag at yr ôl-ddyledion hyd nes iddynt gael eu had-dalu. Os nad ydych yn cadw at y trefniant hwn, fe fydd y ddirwy yn cael ei hailgyflwyno.

Carchar

Os nad yw'r llys yn credu bod eich gwahardd rhag gyrru yn briodol, fe allai:

  • gyhoeddi warant i'ch anfon i'r carchar, a
  • eich anfon i'r carchar am hyd at chwech wythnos.

Gellir gohirio'r gorchymyn i'ch anfon i'r carchar, a gosod amodau ynghylch pryd bydd yn dechrau. Er enghraifft, gellir rhoi amser i chi ad-dalu'r ôl-ddyledion cyn eich anfon i'r carchar.

Wedi i'ch dedfryd carchar ddod i ben, nid yw'ch ôl-ddyledion yn cael eu dileu. Rydych yn dal i fod yn atebol am yr ôl-ddyledion ac mae'r Asiantaeth Cynnal Plant a'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru parhau i gymryd camau gorfodi yn eich erbyn.

Apelio

Gallwch apelio yn erbyn gorchymyn llys ond dim ond ar bwyntiau'r gyfraith. Fe fyddwch chi angen cyngor arbenigol ynglyn ag apelio.

Os ydych yn ad-dalu'r ôl-ddyledion

Os ydych yn ad-dalu'r holl ôl-ddyledion a nodwyd yn y gorchymyn, a fydd yn cynnwys swm ar gyfer y gost o fynd i'r llys, gallwch gyflwyno cais i gael eich trwydded gyrru yn ôl. Os cawsoch eich anfon i'r carchar, cewch eich rhyddhau. Fe fydd hyn yn digwydd os ydych chi, yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn dweud wrth y llys eich bod wedi ad-dalu'r ôl-ddyledion.

Os ydych yn ad-dalu rhan o'r swm, fe fydd cyfnod y gwaharddiad gyrru neu'ch dedfryd carchar yn gostwng yn ôl y swm yr ydych wedi ei ad-dalu.

Os ydych chi yn y carchar, holwch os ddylech chi ad-dalu'r ôl-ddyledion i awdurdod y carchardai neu'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.