Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - beth i feddwl amdano cyn i chi ymgeisio am amrywiad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n defnyddio Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 i gyfrif eich taliadau cynhaliaeth a bod eich amgylchiadau’n newid am resymau penodol mae’n bosibl y gallech ofyn am amrywiad. Os caiff y rhesymau pam rydych chi’n gofyn am amrywiad eu derbyn, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ailgyfrif eich taliadau cynhaliaeth i adlewyrchu’r newidiadau.

Gall y naill neu’r llall ohonoch chi ofyn am amrywiad ar unrhyw adeg os oes gennych chi sail dros wneud hynny. Gellir gwneud hyn cyn i’r cyfrifiad gael ei wneud neu os oes rhywbeth yn newid yn ddiweddarach.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych chi beth y dylech chi feddwl amdano cyn ymgeisio am amrywiad.

Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o bobl sy’n gymwys i ddefnyddio Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Caiff tâl cynhaliaeth y mwyafrif o bobl ei gyfrif gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003 - edrychwch pa gynllun sy’n berthnasol i chi cyn i chi ddefnyddio’r wybodaeth hon.

Pryd cewch chi ofyn am amrywiad?

Dim ond am resymau penodol y cewch chi ofyn am amrywiad. Bydd hyn yn dibynnu ai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth ynteu’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth.

Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth

Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth, gallwch ofyn am amrywiad os oes gennych chi rai costau arbennig penodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • costau cadw cysylltiad â’ch plant
  • costau ychwanegol gofalu am blentyn sâl neu anabl
  • rhai benthyciadau, dyledion a ffioedd penodol
  • rhai costau ariannol penodol, fel taliadau morgais ac yswiriant.

Os mai chi yw’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth

Os mai chi yw’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth, gallwch ofyn am amrywiad os ydych chi’n credu bod gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm trethadwy arall nad yw wedi’i gynnwys yn y cyfrifiad cynhaliaeth.

Pethau i feddwl amdanyn nhw cyn i chi ymgeisio am amrywiad

Os ydych chi’n ystyried ymgeisio am amrywiad, dylech feddwl a yw’n debygol o gael ei gytuno. Dylech feddwl yn gyntaf a oes gennych chi sail briodol ar gyfer gwneud cais.

Pa ffactorau fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn eu hystyried

Rhaid i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant bob amser ystyried lles unrhyw blentyn sy’n debygol o gael ei effeithio gan yr amrywiad mewn taliadau.

Ni chaiff y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ystyried:

  • y ffaith nad oedd un neu’r ddau ohonoch chi wedi cynllunio beichiogi
  • pwy oedd yn gyfrifol am ddod â’r berthynas i ben
  • a oes gan y naill neu’r llall ohonoch chi berthynas newydd
  • a yw’r trefniadau cyswllt yn cael eu cadw
  • incwm neu asedau rhywun arall. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn bartner newydd i’r naill neu’r llall ohonoch chi.

Adegau pan na chewch chi ymgeisio am amrywiad

Mae rhai amgylchiadau’n golygu na chewch chi ymgeisio am amrywiad. Bydd hyn yn dibynnu a ydych chi’n talu ynteu’n derbyn cynhaliaeth.

Os mai chi yw’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth

Ni fyddwch chi’n gymwys i ymgeisio am amrywiad am unrhyw un o’r rhesymau canlynol:

  • os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • os ydych chi’n derbyn cyfradd ragosodedig o gynhaliaeth am na chafodd digon o wybodaeth ei darparu i wneud cyfrifiad
  • os ydych chi’n ymgeisio ar y sail fod gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm ychwanegol a bod y cyfrifiad gwreiddiol wedi’i wneud ar y dybiaeth fod gan y rhiant incwm o £3,000 yr wythnos neu fwy. Yn yr achos hwn, gallech ymgeisio i’r llys am ragor o gynhaliaeth.

Os ydych chi’n credu bod y rhiant arall yn dal gwybodaeth yn ôl neu’n darparu gwybodaeth anghywir

Fel arfer ni fydd yn briodol i chi ymgeisio am amrywiad os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn dal gwybodaeth yn ôl neu’n darparu gwybodaeth anghywir a effeithiodd ar y cyfrifiad cynhaliaeth gwreiddiol.

Mae dal gwybodaeth yn ôl neu ddarparu gwybodaeth anghywir i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn drosedd. Os ydych chi’n credu bod y rhiant arall yn gwneud hyn, dylech ofyn am adolygiad neu apelio yn erbyn y cyfrifiad yn lle hynny.

Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth

Os mai chi yw’r rhiant sy’n gorfod talu cynhaliaeth, ni fyddwch chi’n gymwys i ymgeisio am amrywiad:

  • os yw eich cyfrifiad cynhaliaeth yn £5 yr wythnos
  • os oes unrhyw dreuliau arbennig yn £10 yr wythnos neu lai, oni bai bod y costau ar gyfer salwch neu anabledd plentyn sy’n byw gyda chi
  • os yw eich incwm wythnosol gros yn £3000 neu fwy, hyd yn oed ar ôl didynnu’r swm ar gyfer costau arbennig
  • os ydych chi’n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • os ydych chi’n talu cyfradd ragosodedig o gynhaliaeth am na chafodd digon o wybodaeth ei darparu i wneud cyfrifiad cynhaliaeth.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.