Cynhaliaeth Plant - ble i ddechrau
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu, ac nid chi yw'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu arian i'r sawl sy'n gofalu am y plant. Gelwir hyn yn Daliadau Cynhaliaeth Plant. Weithiau, gelwir hyn hefyd yn daliadau cynnal plant.
Fel arfer, mae Cynhaliaeth Plant ar ffurf taliadau ariannol rheolaidd tuag at gostau byw bob dydd y plentyn. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallwch drefnu hyn eich hun neu ddefnyddio cynllun gan y llywodraeth. Os yw'ch sefyllfa'n gymhleth, efallai y bydd angen gorchymyn llys arnoch.
Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am y dewisiadau sydd gennych a ble fedrwch chi gael mwy o help.
Sut ydych chi'n trefnu taliadau cynhaliaeth plant?
Gallwch drefnu taliadau cynhaliaeth plant yn y ffyrdd canlynol:
- trefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu
- cynllun gan y llywodraeth
- gorchymyn llys.
Trefniadau cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu
Fel arfer, trefniant sy'n seiliedig ar y teulu yw'r ffordd gyflymaf o drefnu taliadau cynhaliaeth plant os ydych chi'n medru cytuno. Nid yw trefniant sy'n seiliedig ar y teulu'n rhwymo'n gyfreithiol fel arfer. Felly, os nad ydych yn derbyn y taliadau y cytunwyd arnynt, ni fyddwch yn medru dwyn achos llys i gael y rhiant arall i dalu. Ond, os nad yw'r trefniadau'n gweithio allan, mae gennych yr opsiwn o ddefnyddio cynllun gan y llywodraeth o hyd ar gyfer cytundeb y gellir ei orfodi. Mae hyn yn golygu bod modd gorfodi'r rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth i'w talu.
Os nad ydych yn medru cytuno ar drefniant sy'n seiliedig ar y teulu
Weithiau, nid yw'n bosib dod i drefniant sy'n seiliedig ar y teulu. Efallai am fod trais yn y cartref neu gamdriniaeth neu am fod gennych syniadau gwahanol am faint o arian sydd ei angen i fagu plant. Neu efallai nad yw'ch trefniant sy'n seiliedig ar y teulu wedi gweithio allan. Yn yr achosion hyn, efallai y byddwch chi am geisio defnyddio cynllun gan y llywodraeth.
Cynlluniau gan y llywodraeth
Mae yna dri chynllun gan y llywodraeth ar gyfer trefnu taliadau cynhaliaeth plant. Mae eu rheolau'n seiliedig ar gyfraith felly weithiau cyfeirir atynt fel cynlluniau statudol.
Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn rhedeg dau gynllun statudol:
- Cynllun 1993 ar gyfer achosion a agorwyd cyn 3 Mawrth 2003
- Cynllun 2003 ar gyfer achosion a agorwyd ar 3 Mawrth 2003 neu ar ôl y dyddiad yma.
Cynllun 2012
Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn rhedeg trydydd cynllun statudol hefyd o'r enw Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Ar hyn o bryd, mae'n agored i nifer cyfyngedig o bobl yn unig. Yn y pendraw, fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gyflwyno cais dan Gynllun 2012, ond ar hyn o bryd ni chodir unrhyw ffioedd. Nid oes unrhyw dâl am ddefnyddio'r cynlluniau eraill.
Os ydych chi am ddefnyddio cynllun statudol
Am y tro, fe fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n cyflwyno cais i drefnu taliadau cynhaliaeth dan gynllun statudol yn defnyddio Cynllun 2003.
Os ydych chi am gyflwyno cais newydd am daliadau cynhaliaeth plant, dylech chi gyflwyno cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant a chewch eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os ydych yn gymwys i'w ddefnyddio.
- Mwy am gyflwyno cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant: www.gov.uk
Gorchmynion llys am gynhaliaeth
Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn delio gyda'r rhan fwyaf o geisiadau am daliadau cynhaliaeth plant. Ond, mae llys yn medru delio gyda cheisiadau newydd am daliadau cynhaliaeth plant mewn rhai sefyllfaoedd.
Er enghraifft:
- ni fedrwch chi gyflwyno cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am fod eich cyn-bartner yn byw tu allan i'r Deyrnas Unedig
- mae gennych gostau ychwanegol na fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant na'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn eu hystyried wrth gyfrifo taliadau cynhaliaeth. Er enghraifft, fe fyddai hyn yn cynnwys costau i dalu am addysg neu gostau ychwanegol anabledd plentyn
- mae eich cyn-bartner ar incwm uchel iawn ac rydych chi eisiau mwy o daliadau cynhaliaeth nag y byddech chi'n eu cael dan gyfrifiad yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Fe fyddwch chi angen cyngor arbenigol ynghylch beth fedrwch chi ei wneud os yw'ch partner yn byw tu allan i'r Deyrnas Unedig, a sut i geisio gerbron y llys am gynhaliaeth.
Unwaith fydd gorchymyn llys mewn lle, mae'r llys yn medru gorfodi rhiant i dalu taliadau cynhaliaeth os nad yw'n talu'r hyn y cytunwyd iddo yn y gorchymyn.
- Mwy am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant wedi i chi fod yn briod
- Mwy am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant ar ôl i chi fod yn cydfyw
- Mwy am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant ar ôl i chi fod mewn partneriaeth sifil
A fydd taliadau cynhaliaeth plant yn effeithio ar eich budd-daliadau?
Os ydych chi'n cael Cynhaliaeth Plant
Nid yw taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu cyfrif fel incwm ar gyfer budd-daliadau sy'n ddarostyngedig i brofion modd fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm a Budd-dal Tai.
Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n cael cynhaliaeth, na fyddwch chi'n cael llai o arian yn y budd-daliadau hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill sy'n ddarostyngedig i brawf modd chwaith.
Os oes rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth
Os mai chi yw'r rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth, ac rydych chi'n cael rhai budd-daliadau, fe fydd yn rhaid i chi dalu £5 yr wythnos o'ch budd-daliadau os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant yn gwneud y trefniant ar gyfer y taliadau cynhaliaeth.
Os ydych chi'n dod i drefniant sy'n seiliedig ar y teulu, fe fyddwch chi a'r rhiant arall yn medru cytuno faint ddylech chi ei dalu o'ch budd-daliadau.
A fydd Cynhaliaeth Plant yn effeithio ar eich treth?
Os ydych chi'n cael taliadau cynhaliaeth plant
Ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth ar daliadau cynhaliaeth plant yr ydych yn eu cael.
Os oes rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant
Fel arfer, ni fyddwch yn medru cael unrhyw ostyngiad ar eich treth ar gyfer y taliadau yr ydych yn eu gwneud ar gyfer Cynhaliaeth Plant. Ond, os oeddech chi neu'r sawl sy'n cael y cynhaliaeth, wedi cael eich geni cyn 6 Ebrill 1935, efallai y byddwch yn medru hawlio gostyngiad ar y dreth mewn rhai amgylchiadau.
Ydych chi'n medru cael help cyfreithiol i drefnu Cynhaliaeth Plant?
Nid oes help cyfreithiol ar gael i dalu am gostau dwyn achos llys i drefnu Cynhaliaeth Plant. Efallai y byddwch yn medr cael help cyfreithiol ar gyfer rhai dadleuon sy'n ymwneud â phlant ac ar gyfer cyfryngu teuluol.
Camau nesaf
- Mwy am wneud trefniadau sy'n seiliedig ar y teulu
- Mwy am gynhaliaeth plant dan Gynllun 2012
- Mwy am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant wedi i chi fod yn briod
- Mwy am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant ar ôl i chi fod yn cydfyw
- Mwy am orchmynion llys ar gyfer cynhaliaeth plant ar ôl i chi fod mewn partneriaeth sifil
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Mae gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant y llywodraeth yn medru darparu gwybodaeth ar eich opsiynau. Mae hefyd yn darparu ffurflenni, taflenni a theclyn cyfrifo taliadau cynhaliaeth i'ch helpu i ddechrau arni.
- Gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant: www.cmoptions.org
- Mae mwy o wybodaeth ynghylch gostyngiad ar y dreth ar gyfer taliadau cynhaliaeth ar wefan CaThEM ar: www.hmrc.gov.uk