Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Newid gwlad

Cydfyw a phriodas: gwahaniaethau cyfreithiol

Ynglŷn â'r wybodaeth yma

Os ydych mewn perthynas gyda pherson o'r rhyw arall, efallai y bydd eich hawl fel partner yn dibynnu a ydych chi'n briod neu'n byw gyda'ch gilydd. Weithiau, cyfeirir at fyw gyda rhywun fel 'cydfyw'.

Yn gyffredinol, fe fydd llai o hawliau gennych os ydych yn cydfyw nag os ydych chi'n briod.

Mae'r wybodaeth yma'n esbonio'r gwahaniaethau cyfreithiol rhwng bod yn briod a byw gyda'ch gilydd. Nid yw'n delio gyda phartneriaid lesbiaidd a hoyw sydd ddim yn medru priodi ond sy'n medru cofrestru partneriaeth sifil.

Am wybodaeth i barau lesbiaidd a hoyw, gweler Partneriaethau sifil a chydfyw - gwahaniaethau cyfreithiol.

Statws cyfreithiol

Cydfyw

Er nad oes diffiniad cyfreithiol ar gyfer cydfyw, yn gyffredinol, mae'n golygu byw gyda'ch gilydd fel pâr heb fod yn briod.

Gallwch ffurfioli agweddau o'ch statws gyda phartner trwy lunio cytundeb cyfreithiol o'r enw contract cydfyw neu gytundeb cydfyw. Mae cytundeb cydfyw yn amlinellu hawliau a rhwymedigaethau pob partner tuag at ei gilydd. Nid yw'n glir a oes yw contractau cydfyw yn orfodadwy yn gyfreithiol ond gallant fod yn ddefnyddiol o ran atgoffa cyplau o'u bwriadau gwreiddiol. Yn ymarferol, yn hytrach na chytundeb cydfyw, mae'n bosib llunio cyfres o gytundebau ar faterion penodol sy'n orfodadwy yn gyfreithiol, er enghraifft, sut mae ty sy'n eiddo i'r ddau bartner yn cael ei rannu. Os ydych am wneud hyn, bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch.

Bydd angen help cyfreithiwr sy'n brofiadol o ran cytundebau cydfyw arnoch. Efallai y bydd Canolfan Cynghori yn medru rhoi manylion ynglyn â chyfreithwyr addas i chi. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru ac yn Lloegr, ynglyn â chytundebau cydfyw, gweler Cytundebau Cydfyw ar wefan Advicenow yn; www.advicenow.org.uk.

Cymheiriaid arfer gwlad (common law spouses)

Er bod y termau gwr neu wraig 'arfer gwlad' yn cael eu defnyddio'n aml i ddisgrifio cymheiriaid sy'n byw gyda'i gilydd, nid yw'r math yma o berthynas yn cael ei chydnabod yn gyfreithiol.

Priodas

Gallwch ddewis priodas sifil neu grefyddol, ond mewn rhai achosion, ni fydd priodas grefyddol yn unig yn ddilys a bydd angen priodas sifil yn ogystal.

Dilysrwydd

Gall tystiolaeth o briodas fod yn:-

  • gopi ardystiedig o gofnod mewn cofrestr priodasau yn y DU; neu
  • tystysgrif briodas a ryddhawyd yn y wlad lle cymerodd y briodas le.

Bancio

Cydfyw

Os ydych yn byw gyda'ch gilydd a bod gennych chi a'ch partner gyfrifon banc ar wahân, ni all y naill ohonoch gael mynediad i arian sydd yng nghyfrif y llall. Os bydd un partner yn marw, bydd unrhyw swm sy'n weddill yn y cyfrif yn eiddo i ystâd eich partner ac ni ellir ei ddefnyddio tan i'r ystâd gael ei setlo.

Os oes gennych gyfrif ar y cyd, bydd gennych chi a'ch partner fynediad i'r cyfrif, nid oes gwahaniaeth os mai dim ond un ohonoch sy'n talu i mewn iddo. Os daw eich perthynas i ben, fe fydd yr arian yn eiddo i'r ddau ohonoch. Ond. Os nad oedd un ohonoch wedi defnyddio'r cyfrif o gwbl, er enghraifft, nid oeddech wedi talu unrhyw arian i mewn na thynnu unrhyw arian allan, efallai y bydd yn anodd hawlio bod gennych unrhyw hawl iddo.

Os yw'r cyfrif yn y ddau enw, yna ar farwolaeth un partner, mae'r partner arall â hawl i'r gweddill ac fe fydd yn medru parhau i gael mynediad digyfyng at y cyfrif, Ond, fe fydd cyfran o'r balans yn cael ei ystyried wrth gyfrifo gwerth ystad y person a fu farw.

Priodas

Os oes gan bâr priod gyfrif banc ar y cyd, mae'r arian yn eiddo i'r ddau, waeth pwy sydd wedi ei fwydo i mewn i'r cyfrif. Ar farwolaeth un partner, mae'r cyfrif cyfan yn dod yn eiddo i'r llall ar unwaith. Bydd dyledion a gorddrafftau sy'n ymwneud â chyfrif ar y cyd yn gyfrifoldeb i'r ddau bartner neu'r naill neu'r llall, waeth pwy sydd wedi gwario'r arian.

Os oes gan dau bartner pâr priodasol gyfrif banc ar wahân ac un yn marw, mae'n bosib y bydd y banc yn caniatau i'r partner arall dynnu'r gweddill allan os ydyw'r swm yn fach.

Plant

Cyfrifoldeb rhiant

Cydfyw

Os ydych yn fam di-briod, eich cyfrifoldeb chi yn unig yw eich plentyn ac eithrio:

  • os ydych yn cofrestru neu'n ailgofrestru genedigaeth eich plentyn gyda thad y plentyn neu
  • rydych yn dod i gytundeb ffurfiol gyda thad y plentyn ac yn ei gofrestru yn y llys. Gelwir hyn yn gytundeb cyfrifoldeb rhiant, neu
  • os oes gorchymyn llys o blaid y tad.

Os ydych yn dad di-briod, ni chymerir yn awtomatig mai chi yw tad y plentyn. Ond, rydych yn medru cael cyfrifoldeb cyfreithiol (a elwir yn gyfrifoldeb rhiant ) dros eich plentyn trwy:

  • gofrestru (neu ail-gofrestru) genedigaeth eich plentyn gyda mam y plentyn neu
  • wneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda'r fam a'i gofrestru yn y llys, neu
  • ennill gorchymyn llys neu
  • ddod yn warcheidwad y plentyn (a fyddai ond yn dod i rym ar farwolaeth y fam) neu
  • briodi'r fam.

Am ragor o wybodaeth, yng Nghymru a Lloegr, am gyfrifoldeb rhiant, gan gynnwys sut i fynd ati i gael cyfrifoldeb rhiant am blant eich partner, ewch i wefan Advicenow yn: www.advicenow/living.

Priodas

Cymerir bod pob plentyn a enir i fenyw briod yn blant i'w gwr, onid oes tystiolaeth i'r gwrthwyneb. Mae gan wr yr hawl i osod ei enw ar dystysgrif geni'r plentyn, waeth ai ef yw'r tad ai peidio.

Mae gan y ddau riant priod gyfrifoldeb rhiant dros eu plentyn hyd nes bod y plentyn yn cyrraedd 18 oed. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych yn gwahanu neu'n ysgaru.

Cyswllt gyda phlant

Cydfyw a phriodas

Os ydych yn gwahanu, mae'n bosib i chi a'ch partner ddod i gytundeb anffurfiol ar gyfer cyswllt gyda'ch plentyn. Dyma'r achos waeth a ydych chi'n byw gyda'ch gilydd neu'n briod. Os nad ydyw'n bosib dod i gytundeb anffurfiol, gellir gofyn i'r llys ymyrryd. Fel arfer, bydd gorchymyn llys yn caniatau cyswllt rhwng y plentyn a'r rhiant nad yw'r plentyn yn byw gydag ef/hi, heblaw bod yna amgylchiadau eithriadol.

Cynnal plant yn ariannol

Cydfyw

Mae'r ddau riant yn gyfrifol am gynnal plentyn yn ariannol. Mae'r tad yr un mor gyfrifol hyd yn oed os nad ydyw'n byw gyda'r fam nac ychwaith wedi ei enwi ar dystysgrif geni'r plentyn. Gall yr Asiantaeth Cynnal Plant gysylltu ag ef ar gyfer cynhaliaeth, os nad ydyw'n byw gyda'r fam. Yn yr un modd, os yw'r plentyn yn byw gyda'r tad, mae'n medru cysylltu â'r fam.

Priodas

Mae'r ddau riant yn gyfrifol an gynnal y plentyn yn ariannol. Gall yr Asiantaeth Cynnal Plant gysylltu a'r tad ar gyfer cynhaliaeth, os nad ydyw'n byw gyda'r fam. Yn yr un modd, os yw'r plentyn yn byw gyda'r tad, mae'n medru cysylltu â'r fam.

Penodi gwarcheidwad

Cydfyw

Gall mam benodi gwarcheidwad i weithredu ar ei marwolaeth a gall tad benodi gwarcheidwad i weithredu ar ei farwolaeth os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Priodas

Gall y naill riant neu'r llall benodi gwarcheidwad i weithredu yn wyneb marwolaeth y ddau riant.

Etifeddiaeth

Cydfyw a phriodas

Hyd yn oed os nad oes yna ewyllus, mae gan blentyn rhieni di-briod a rhieni priod hawl cyfreithiol i etifeddu gan y ddau riant, a theuluoedd y ddau riant.

Cenedligrwydd

Mae'r rheolau ynglyn â chenedligrwydd plant yn gymhleth ac yn dibynnu ar statws mewnfudo'r rieni yn ogystal â ph'un ai fod y rhieni yn briod neu'n cydfyw.

Os ydych yn poeni ynghylch ceneligrwydd neu statws mewnfudo eich plant, ceisiwch gyngor cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Gweler: Cymorth gyda phroblemau ynglyn â mewnfudo.

Mabwysiadu

Mae partneriaid priod a phartneriaid sy’n cydfyw yn medru gwneud cais i fabwysiadu plentyn ar y cyd.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch mabwysiadu, gweler Mabwysiadu plentyn yn y Taflenni ffeithiau ar y teulu.

Marwolaeth ac etifeddiaeth

Cydfyw

Os yw un partner yn marw heb adael ewyllys, ni fydd y partner sy'n fyw yn etifeddu unrhywbeth yn awtomatig oni bai fod y pâr yn cyd-berchen ar eiddo. Fel pâr dibriod, mae angen i chi wneud ewyllys os ydych am sicrhau bod y partner arall yn etifeddu.

Os yw un partner yn marw heb adael digon yn ei ewyllys i'r llall fyw arno, efallai y bydd y partner sy'n fyw yn medru mynd i'r llys i hawlio o'r ystad.

Os ydych yn etifeddu arian neu eiddo gan bartner dibriod, nid ydych wedi'ch eithrio rhag talu treth etifeddu, fel parau priod.

Am fwy o wybodaeth ynghylch treth etifeddu, gweler Treth etifeddu.

Priodas

Pan fydd eich partner priod yn marw, byddwch yn etifeddu o dan ewyllys y partner marw os ydyw'n darparu ar eich cyfer.

Os yw un partner priod yn marw heb wneud ewyllys, bydd y partner arall yn etifeddu yr holl ystâd neu ran ohono.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ewyllysiau, gweler Ewyllysiau.

Dyledion

Cydfyw a Phriodas

Rydych chi'n gyfrifol am unrhyw ddyledion sydd yn eich enw chi eich hun yn unig, ond nid ydych yn gyfrifol am unrhyw ddyledion sydd yn enw eich partner.

Efallai y byddwch yn gyfrifol am yr cyfan o'r dyledion sydd yn enw'r ddau/ddwy ohonoch a dyledion eraill y mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol 'ar y cyd ac unigol' drostynt. Er enghraifft, yng Nghymru a Lloegr, os ydych mewn dyled gyda'ch treth cyngor, fe fydd y ddau ohonoch yn gyfrifol am y ddyled, waeth a yw'r ddau ohonoch yn cyfrannu ai peidio.

Os oes dyled gan eich partner ac rydych chithau'n warantydd, fe fyddwch hefyd yn gyfrifol am ei thalu yn ôl y gyfraith.

Os ydych yn briod, ni fyddwch yn gyfrifol am unrhyw rwymedigaethau ariannol neu ddyledion a oedd gan eich partner cyn i chi briodi.

Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru a Lloegr, am ddyledion ar y cyd os digwydd i chi wahanu oddi wrth eich partner ac nid ydych yn briod, gweler Rhestr Wirio Gwahanu ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.

Trais yn y cartref

Cydfyw a phriodas

Rydych yn medru mynd i'r llys i ofyn am orchymyn i warchod eich hun a'ch plant os ydyw'ch partner yn dreisgar. Mae'r llys yn medru gorchymyn i'r partner treisgar adael y cartref am gyfnod penodol, ac os nad ydyw'n ufuddhau i'r gorchymyn llys, gellir arestio'r partner treisgar.

Gellir dyfarnu dyn yn euog o dreisio'i bartner, waeth a ydyw'n wraig iddo ai peidio

Am fwy o wybodaeth, gweler Trais yn y cartref.

Dod â pherthynas i ben

Cydfyw

Gall pâr dibriod wahanu yn anffurfiol heb ymyrraeth y llys. Mae gan y llys y pwer i roi gorchmynion yn ymwneud â gofal y plant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dod â'ch perthynas i ben os ydych wedi bod yn byw gyda'ch gilydd, gweler Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw.

Priodas

Gall pâr priod wahanu'n anffurfiol, ond os fyddwch chi am ddiweddu'r briodas yn ffurfiol rhaid i chi fynd i'r llys a chael ysgariad. Mae vgan y ddau bartner yr hawl i aros yn y cartref tan bod yna ysgariad neu tan i'r llys orchymyn i un partner adael.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â dod â phriodas i ben, gweler Dod â phriodas i ben.

Cefnogaeth ariannol (cynhaliaeth)

Cydfyw

Nid oes gan un o'r partneriaid ddyletswydd cyfreithiol i gynnal y llall yn ariannol. Os oes gennych blant, gweler y pennawd Plant.

Efallai y bydd yn anodd gweithredu cytundebau gwirfoddol i dalu cynhaliaeth i'ch gilydd.

Os ydych chi a'ch partner yn cydfyw ac yn hawlio budd-dal sy'n seiliedig ar brawf modd, fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Gredyd Treth Gwaith, fe fyddwch yn cael eich trin fel pâr a bydd eich incwm yn cael ei asesu ar y cyd.

Priodas

Mae gan bob partner priod ddyletswydd cyfrethiol i gynnal ei gilydd.

Os nad yw'ch partner yn fodlon eich cynnal a chithau'n dal i gydfyw, rydych yn medru gofyn i'r llys i orchymyn iddyn nhw eich cynnal. Efallai y bydd yn rhaid i'ch cynbartner barhau i'ch cynnal chi ar ôl i'ch priodas ddod i ben os ydych wedi llofnodi cytundeb cyfreithiol neu os oes gorchymyn llys.

Rydych chi a'ch partner yn medru gwneud cytundeb na fydd yr un ohonoch yn cynnal y llall.

Mae gan bob partner priod ddyletswydd cyfrethiol i gynnal ei gilydd. Os oes gennych blant, gweler y pennawd Plant.

Tai

Tenantiaid

Fel tenant, bydd eich hawliau'n dibynnu i raddau helaeth ar statws eich tenantiaeth. Os nad ydych yn sicr beth yw hyn, yng Nghymru a Lloegr, gweler Rhentu gan landlord preifat neu Rhentu gan landlord tai cymdeithasol

Cydfyw

Os ydych yn bartner dibriod i denant, boed yn llety preifat neu dai cymdeithasol,, fel arfer ni fydd gennych hawliau i aros yn y llety os ydyw'r tenant yn gofyn i chi adael. Cynghorir felly i bartneriaid sy'n byw gyda'i gilydd fod yn gyd-denantiaid, gan bod hyn yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau cyfartal iddynt. Bydd nifer o landlordiaid tai cymdeithasol yn gofyn i bartneriaid sy'n byw gyda'i gilydd gymryd y tenantiaeth fel cyd-denantiaid. Mae'n bosib addasu tenantiaeth unigol sydd eisoes yn bodoli i fod yn gyd-denantiaeth os ydyw'r tenant unigol a'r landlord yn cytuno i hyn.

Fodd bynnag, fel partner dibriod, gallwch gael hawliau byrdymor i aros os ydych yn cyflwyno cais gerbron y llys. Gall y llys drosglwyddo tenantiaeth hefyd, os ydyw'n denantiaeth unigol neu'n gyd-denantiaeth.

Efallai bod hawliau gwahanol gennych os yw'ch partner wedi bod yn dreisgar tuag atoch.

Os yw'ch partner wedi bod yn dreisgar tuag atoch, gweler Trais yn y cartref.

Os ydych yn bartner dibriod sydd ddim yn denant ac sydd angen aros yn y cartref, dylech geisio cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft cyfreithiwr sy'n arbenigo yn nghyfraith y teulu. Bydd canolfan Cyngor ar Bopeth hefyd yn gallu rhoi manylion ynglyn â chyfreithwyr lleol i chi. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os yw tenant unigol yn marw, efallai y bydd gan bartner sy'n fyw yr hawl i barhau i fyw yn y cartref. Os ydych yn y sefyllfa yma, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Priodas

Mae gan y ddau bartner priod yr hawl i fyw yng nghartref y teulu. Nid oes gwahaniaeth yn enw pwy y gwanethpwyd y cytundeb tenantiaeth. Mae hyn yn berthnasol os nad yw'r llys wedi gorchymyn fel arall, er enghraifft, yng nghwrs achos o ysgaru neu wahanu.

Os fyddwch chi a'ch cynbartner ill dau yn cytuno pwy ddylai aros yn y cartref, fe fyddwch yn medru gofyn i'r landlord drosglwyddo'r denantiaeth i enw'r partner sy'n aros. Os yw'r ddau enw ar y denantiaeth, fe fyddwch yn medru gofyn am dynnu un o'r enwau i ffwrdd.

Os nad ydych yn medru cytuno pwy ddylai aros ac rydych yn ysgaru, gellir penderfynu pwy sydd â'r hawl hir dymor i'ch tenantiaeth yn ystod y trefniadau ysgaru. Mae'r llys yn medru trosglwyddo'r denantiaeth i'ch enw chi, hyd yn oed os mai'ch partner yw'r unig denant, neu os oeddech chi a'ch partner yn gyd-denantiaid. Ond, os nad ydych yn gwahanu'n gyfreithiol, er enghraifft, yn ysgaru, fe fydd y llys ond yn penderfynu trosglwyddo'r denantiaeth os ydyw'n penderfynu ei fod er lles eich plant.

Os ydych am geisio trosglwyddo tenantiaeth, dylech wneud hyn ar yr un adeg ag y byddwch yn ceisio am ysgariad. Oni wnewch hyn, efallai na fydd yn bosib trosglwyddo'r denantiaeth yn nes ymlaen.

Perchen-breswylydd

Cydfyw

Gall eiddo gael ei berchen yn enw unigol un partner neu gall fod yn eiddo ar y cyd.

Os mai chi yw'r unig berchennog, mae gennych yr hawl i aros yn y cartref. Ond, efallai y bydd eich partner yn medru hawlio 'buddiant llesiannol' ynddo - gweler isod.

Os ydych yn gydberchnogion, mae gennych chi a'ch partner yr un hawl i aros yn y cartref. Ond, os oes plant gennych, fe fyddwch yn medru gofyn i'r llys drosglwyddo'r eiddo i'ch enw chi. Fe fydd y llys ond yn gwneud hyn os yw'n penderfynu ei fod er lles eich plant. Fel arfer, mae'n cael ei wneud am gyfnod cyfyngedig, er enghraifft, hyd nes bod eich plentyn ieuengaf yn 18 oed.

Os mai’ch partner yw'r unig berchennog, efallai na fydd gennych unrhyw hawliau i aros yn y cartref os gofynnir i chi adael. Ond, os oes plant gennych, fe fyddwch yn medru gofyn i'r llys i drosglwyddo'r eiddo i'ch enw chi. Fe fydd y llys ond yn medru gwneud hyn os yw'n penderfynu ei fod er lles eich plant. Fel arfer, mae'n cael ei wneud am gyfnod cyfyngedig, er enghraifft, hyd nes bod eich plentyn ieuengaf yn 18 oed.

Os nad oes plant gennych a'ch partner yw'r unig berchennog, yr unig ffordd y gallai fod yn bosib i chi hawlio hawliau hir dymor i'r eiddo yw os ydych yn medru dangos bod gennych 'fuddiant llesiannol' ynddo. Mae hyn yn ffordd o gael y llys i gydnabod eich cyfraniadau at y cartref yn ffurfiol. Efallai hefyd y byddai'r llys yn medru cydnabod dealltwriaeth a oedd gennych gyda'ch cynbartner pan brynwyd y cartref y byddech â chyfran ynddo petai'n cael ei werthu. Os ydych yn medru profi bod gennych fuddiant llesiannol yn y cartref, efallai, er enghraifft, y byddwch yn medru cael yr hawl i fyw yn y cartref, atal eich cynbartner rhag byw ynddo neu gael cyfran o'r elw os yw'n cael ei werthu.

Efallai y byddwch yn medru gofyn i'r llys i benderfynu pwy sydd â hawl i aros yn y cartref yn y tymor byr. Gelwir hyn yn orchymyn meddiannaeth. Rydych hefyd yn medru ceisio am orchymyn meddiannaeth i'ch galluogi chi i ddychwelyd i'ch cartref os ydych wedi gadael. Rydych yn medru gofyn am orchymyn meddiannaeth os mai chi yw'r unig berchennog, cydberchennog, neu os oes gennych fuddiant llesiannol neu chi yw partner unig berchennog. Ond, os nad chi yw'r perchennog neu'r cydberchennog, rydych ond yn medru gofyn am rai mathau o orchmynion meddiannaeth. Fel arfer, mae gorchymyn meddiannaeth yn para am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig.

Os ydych chi eisiau hawlio buddiant llesiannol yn eich cartref neu ofyn am orchymyn meddiannaeth, fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ynglyn â hyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr, neu holwch eich canolfan Cyngor ar Bopeth am help. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Priodas

Mae gan y ddau bartner priod yr hawl i aros yng nghartref y teulu, waeth pwy sydd wedi ei brynu neu sydd â morgais arno. Gelwir hyn yn hawl i'r cartref. Fe fydd hawl gennych i aros yn y cartref hyd nes bod llys wedi gorchymyn fel arall, er enghraifft, yng nghwrs cytundeb i ysgaru neu wahanu.

Os ydych chi a'ch partner yn ysgaru, gellir penderfynu pwy sydd â'r hawl hir dymor i berchnogaeth eich eiddo yn ystod y trefniadau ysgaru. Mae gan y llys y pŵer i drosglwyddo'r eiddo waeth pwy yw'r perchennog gwreiddiol. Ond, os nad ydych yn gwahanu'n gyfreithiol, fe fydd y llys ond yn penderfynu trosglwyddo perchnogaeth eiddo os ydyw er lles eich plant.

Os mai chi yw unig berchennog eich cartref neu os ydych yn gydberchennog, ni fydd eich partner yn medru ei werthu heb i chi gytuno.

Ond, os mai eich partner yw'r unig berchennog, fe fydd angen i chi gofrestru eich hawliau i'ch cartref er mwyn diogelu eich buddiannau. Os na fyddwch yn cofrestru eich hawliau i'ch cartref, ni fyddwch yn medru atal eich partner rhag gwerthu'r cartref nac aros yno os caiff ei werthu.

Fe allwch gofrestru eich hawliau i'ch cartref, p'un ai eich bod yn dal i fyw yno ai peidio.

Fe fydd angen i chi gofrestru eich hawliau i'ch cartref naill ai gyda'r Gofrestrfa Tir neu yn yr Adran Pridiannau Tir, gan ddibynnu a yw'ch cartref eisoes wedi'i gofrestru ai peidio.

Os ydych yn cofrestru eich hawliau i'ch cartref, fe fyddan nhw'n ymddangos pan fydd prynwr yn cynnal chwiliad ar y cartref. Fe fyddai hyn yn tynnu eu sylw at eich hawl chi i aros yn y cartref ac yn atal y cartref rhag cael ei werthu.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch cofrestru eich hawliau i'ch cartref ar wefan y Gofrestrfa Tir yn: www.landregistry.gov.uk.

Dyma faes cymhleth o'r gyfraith a dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr neu holwch eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol am help. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymorth cyfreithiol

Cydfyw a phriodas

Pan fydd un partner mewn pâr yn cael ei (h)asesu ar gyfer cymorth cyfreithiol, caiff incwm a chyfalaf y partner arall eu hystyried fel arfer.

Ond, ni fydd hyn yn wir:

  • os oes gwrthdaro rhwng eich buddiannau, er enghraifft rydych yn gwrthwynebu eich gilydd yn yr achos llys, neu
  • os ydych yn byw ar wahân ac mae ô leiaf un ohonoch yn ystyried bod y berthynas ar ben.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Perthynas Agosaf

Mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft, pan fyddwch chi'n mynd i mewn i'r ysbyty neu'n llenwi ffurflen ar gyfer yswiriant bywyd, efallai y gofynnir i chi roi enw eich perthynas agosaf. Nid oes gan 'perthynas agosaf' unrhyw ystyr cyfreithiol ond, yn ymarferol, mae ysbytai a sefydliadau'n cydnabod gŵyr, gwragedd a pherthnasau gwaed agos fel y perthynas agosaf, fel arfer. Ond, weithiau nid yw parau sy'n byw gyda'i gilydd yn cael eu cydnabod fel y perthynas agosaf.

Cydfyw

Os ydych yn cydfyw, fe fydd p'un ai y cewch eich cydnabod fel perthynas agosaf eich partner yn dibynnu ar y sefydliad yr ydych yn delio ag ef.

Er enghraifft, fel arfer mae carchardai'n derbyn enw partner fel y person i gysylltu ag ef/hi os oes rhywbeth yn digwydd i'r carcharor.

Fel arfer, mae ysbytai'n derbyn eich partner fel y perthynas agosaf.

Nid oes hawl gan unrhyw un i roi caniatâd ar gyfer triniaeth feddygol oedolyn arall onid ydynt yn anymwybodol neu nid oes ganddynt y gallu meddyliol i roi caniatâd. Ond, yn ymarferol, mae meddygon yn trafod penderfyniadau gyda theulu'r claf fel arfer, ac mae hyn yn cynnwys eich partner fel arfer.

Os yw sefydliad yn gwrthod derbyn enw eich partner fel eich perthynas agosaf, nid oes llawer fedrwch chi ei wneud ynglŷn â hyn heblaw gofyn iddyn nhw i newid eu polisi.

Priodas

Fe fydd gan eich gŵr neu'ch gwraig yr awdurdod i fod yn berthynas agosaf bob tro.

Nid oes hawl gan unrhyw un i roi caniatâd ar gyfer triniaeth feddygol oedolyn arall onid ydynt yn anymwybodol neu nid oes ganddynt y gallu meddyliol i roi caniatâd. Ond, yn ymarferol, mae meddygon yn trafod penderfyniadau gyda theulu'r claf.

Arian ac eiddo

Cydfyw

Gall perchnogaeth eiddo fod yn eithaf cymhleth. Ond mae yna rai reolau cyffredinol sy'n berthnasol, er enghraifft, mae eiddo a oedd gennych cyn i chi ddechrau cydfyw yn dal i fod yn eiddo i chi ac mae person sy'n prynu eitem yn berchen arno, yn gyffredinol. Bydd eitem sy'n cael ei brynu o gyfrif ar y cyd yn eiddo i'r ddau bartner. Mae eiddo a roddwyd i un partner gan y llall yn eiddo i'r partner a dderbyniodd y rhodd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd profi hyn.

Os yw un partner yn rhoi arian cynnal a chadw i'r llall, fe fydd unrhyw eiddo a brynir gyda chynylion yr arian yma fwy na thebyg yn eiddo i'r person sy'n rhoi'r arian. Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa mewn priodas lle byddai cynilion o'r arian cynnal a chadw fel arfer yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y gwr a'r wraig mewn dadl yn y llys.

Priodas

Mae hawl gennych feddiannu a dal unrhyw dir, eiddo, cynilion neu fuddsoddiadau yn eich hawl eich hun yn ystod priodas. Mae'r un peth yn wir am eich partner. Fe fydd unrhyw eiddo a oedd yn eiddo i chi cyn y briodas fel arfer yn parhau i fod yn eiddo i chi. Fodd bynnag, os yw'r briodas yn methu, fe fydd unrhyw eiddo sy'n eiddo i chi neu'ch partner yn cael ei ystyried wrth benderfynu ar gytundeb ariannol ar gyfer ysgariad.

Os nad oes unrhyw gytundeb fel arall, caiff anrhegion priodas a roddwyd gan eich ffrindiau neu berthnasau eu hystyried yn eiddo i chi os nad yw'r briodas yn cymry d lle. Mae'r un peth yn wir am eich darpar-bartner. Os yw'r briodas yn methu, ystyrir eu bod yn eiddo i'r partner y rhoddodd ei ffrind neu berthynas yr anrheg i chi.

Enwau

Cydfyw

Fel partner dibriod, mae hawl gennych i gael eich hadnabod gan ba bynnag enw sydd orau gennych a gallwch newid yr enw yna ar unrhyw adeg. Gall dau berson sy'n cydfyw benderfynu defnyddio'r un enw teuluol, er, yn gyfreithiol, nid oes rhaid iddynt.

Priodas

Os ydych yn fenyw, pan fyddwch chi'n priodi nid oes gorfodaeth gyfreithiol arnoch i chi gymryd enw teuluol eich gwr. Mae'r enw teuluol yr ydych yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar eich diwylliant, eich gwleidyddiaeth, eich dewis a/neu eich crefydd.

Erbyn hyn, mae llawer o fenywod yn dewis parhau i ddefnyddio eu henw teulu presennol. Mae eraill yn defnyddio un enw ar gyfer eu gwaith ac enw arall yn eu bywyd personol. Nid oes unrhyw beth cyfreithiol sy'n eich atal chi rhag gwneud hyn ac rydych chi'n dal i fedru llofnodi dogfennau yn eich hen enw.

Os ydych yn ysgaru neu'n weddw, rydych yn medru parhau i ddefnyddio enw teulu eich gŵr, neu fynd yn ôl i ddefnyddio eich enw blaenorol, ond efallai y gofynnir i chi ddangos eich tystysgrif geni os ydych am wneud hyn.

Gall unrhyw un newid ei enw ar unrhyw adeg, ac felly fel dyn, gallwch newid eich enw teuluol, wedi priodi, i enw eich gwraig.

Am fwy o wybodaeth ynghylch newid eich enw yng Nghymru a Lloegr, gweler Newid enw, ac yng Ngogledd Iwerddon gweler Newid enw.

Pensiynau personol a galwedigaethol

Cydfyw

Bydd darpariaethau pensiynau personol a galwedigaethol ar gyfer y rheiny sy'n dibynnu ar aelod o gynllun pensiwn yn dibynnu ar reolau'r cynllun. Mae mwyafrif y cynlluniau yn cynnig buddion i blant dibynnol a bydd rhai yn cynnig buddion i bartner dibynnol.

Gellir trefnu bod pensiynau personol yn darparu ar gyfer pwy bynnag y mae'r aelod o'r cynllun pensiwn yn dymuno iddo ddarparu ar eu cyfer, tra bod yr aelod o'r cynllun pensiwn yn medru talu yr hyn a allai fod yn gyfraniadau sylweddol i'r cronfa bensiwn.

Ble mae cynllun yn addas i barau sy'n cydfyw, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen 'mynegi dymuniadau', sy'n nodi at bwy yr hoffech i fudd-daliadau gael eu talu wedi i chi farw.

Hyd yn oed ble nad ydyw cynllun yn addas i barau sy'n cydfyw, efallai y bydd ymddiriedolwyr y cynllun neu gynrychiolydd undeb yn medru eich helpu chi os ydych chi am i'r budd-daliadau fynd i'ch partner.

Priodas

Mae'n rhaid i gynlluniau pensiwn galwedigaethol gynnig budd-daliadau cyfartal ar gyfer gwyr/gwragedd. Maent hefyd, yn gyffredinol, yn cynnig buddion i ddibynyddion, er enghraifft, plant.

Os ydych wedi ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol cyn 17 Mai 1990, roedd y rheolau ychydig yn wahanol. Os ydych yn ddyn gweddw, efallai na chewch unrhyw fudd-daliadau a enillodd y pensiwn cyn y dyddiad yna, er y dylech gael unrhyw fudd-daliadau a enillwyd ar ei ôl.

Cysylltiadau rhywiol

Cydfyw

Yng Nghymru a Lloegr, mae'n gyfreithiol i ddau berson gwahanrywiol gael perthynas rywiol, tra bod y ddau yn 16 neu'n hŷn ac yn caniatáu iddo ddigwydd. Yng Ngogledd Iwerddon, 17 yw'r terfyn oedran.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â phobl ifanc a'u hawl i weithgaredd rywiol, gweler Pobl ifainc – iechyd a phersonol.

Priodas

Os nad yw'r gwr a'r wraig wedi cael cyfathrach rywiol yn ystod y briodas, fe fyddai hyn yn ddigon o reswm i ddiddymu'r briodas.

Gellir cyhuddo gwr o dreisio'i wraig, p'un ai eu bod yn byw gyda'i gilydd ai peidio.

Budd-daliadau lles a chredydau treth

Mae pob pâr, waeth a ydyn nhw'n briod neu'n cydfyw, yn cael eu trin yn yr un ffordd pan fyddan nhw'n cael eu hasesu ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau lles, Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant. Fe fydd disgwyl iddynt hawlio fel pâr, ac fe fydd incwm, cynilion ac anghenion ariannol y ddau bartner yn cael eu hystyried.

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer gwahanol fudd-daliadau a chredydau treth. I ddarganfod mwy am fudd-dâl neu gredyd treth penodol, gweler adran Budd-daliadau Adviceguide.

Grantiau a benthyciadau myfyrwyr

Grantiau Myfyrwyr

Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw gyda’ch partner, fe fydd incwm eich partner yn cael ei ystyried wrth benderfynu os oes hawl gennych i grant myfyrwyr. Dyma’r achos, waeth a ydych yn briod neu'n byw gyda'ch gilydd. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi’n dibynnu ar eich rhieni’n ariannol.

Benthyciadau myfyrwyr

Mae yna ddau fath o fenthyciad i fyfyrwyr – un ar gyfer ffioedd addysg ac un ar gyfer cynhaliaeth.

Rydych yn medru cymryd benthyciad myfyrwyr ar gyfer ffioedd addysg, waeth faint yw incwm eich cymar neu bartner sy’n byw gyda chi.

Mae pob myfyriwr llawn amser sy’n gymwys yn medru cael benthyciad myfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth, ond fe fydd y swm y byddwch yn medru ei fenthyg yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys incwm eich cymar n eu bartner.

Rydych yn medru benthyg 75 y cant o uchafswm y benthyciad myfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth, waeth faint yw incwm eich cartref, sy’n cynnwys incwm eich cymar neu bartner.

Efallai y cewch y 25 y cant sy’n weddill, gan ddibynnu ar incwm eich cartref.

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau a benthyciadau myfyrwyr, yn Lloegr gweler Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch, yng Nghymru, gweler Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Treth

Cydfyw

Os nad ydych yn briod, rydych yn cael eich trethu ar wahan. Mae gan bob partner hawl i lwfans personol wrth gyfrifo faint o dreth incwm mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu.

Priodas

Caiff gwyr a gwragedd eu trethu'n annibynnol a gall y ddau bartner hawlio lwfans personol.

Lle ganwyd o leiaf un person mewn pâr priod cyn Ebrill 6 1935, gellir hawlio lwfans pâr priod yn ogystal â'r lwfans personol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch treth incwm a lwfans personol, gweler Symiau a lwfansau treth incwm.

Tystion

Cydfyw

Os ydych yn bartner dibriod, gellir eich galw fel tyst o blaid neu yn erbyn y partner arall mewn achosion sifil a throseddol. Gellir eich gorfodi i ymddangos a rhoi tystiolaeth.

Priodas

Mewn achosion sifil, mae partner priod yn medru bod yn dyst o blaid neu yn erbyn y partner arall. Gellir hefyd eich gorfodi i ymddangos.

Mewn achosion troseddol, y rheol gyffredinol yw fod partner priod yn medru bod yn dyst o blaid neu yn erbyn y partner arall.

Gellir eich gorfodi i ymddangos fel tyst ar gyfer yr amddiffyniad mewn achos droseddol yn erbyn eich gwr neu'ch gwraig.

Ond, ni ellir eich gorfodi i ymddangos fel tyst ar gyfer yr erlyniad mewn achos troseddol yn erbyn eich gwr neu'ch gwraig, ac eithrio mewn rhai mathau o achosion. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • achosion o drais yn y cartref yn eich erbyn chi
  • achosion sy'n ymwneud â thrais yn erbyn rhywun sy'n iau nag 16
  • achosion sy'n ymwneud â throsedd rhyw yn erbyn rhywun sy'n iau nag 16.
Did this advice help?