Managing affairs for someone else
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gall rheoli materion rhywun arall olygu nifer o bethau, gan gynnwys:
gofalu am ei gyfrifon banc, cynilion, buddsoddiadau neu faterion ariannol eraill
prynu a gwerthu eiddo ar ei ran
hawlio a gwario budd-daliadau lles ar ei ran
penderfynu ble bydd yn byw
gwneud penderfyniadau ynglŷn â’i ofal personol neu ei ofal iechyd o ddydd i ddydd
Efallai y bydd arnoch eisiau rheoli materion rhywun arall oherwydd ei fod:
yn wael neu’n anabl, naill ai dros dro neu yn yr hirdymor
yn gadael y wlad am ychydig
yn methu â gwneud penderfyniadau drosto ei hun, oherwydd salwch meddwl neu resymau eraill
Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr sy’n rheoli materion rhywun sydd rhwng 14 a 25 oed, gall pethau fod yn fwy cymhleth. Gallwch gael help i reoli materion oedolyn ifanc ar GOV.UK.
Gwahanol ffyrdd o reoli materion rhywun
Mae gwahanol ffyrdd o reoli materion rhywun. Bydd dewis yr un iawn yn dibynnu’n bennaf ar amgylchiadau’r unigolyn y mae arnoch eisiau rheoli ei faterion, ac a oes ganddo alluedd meddyliol ai peidio – gweler dan y pennawd Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol?
Gallwch ofalu am faterion rhywun yn un o’r ffyrdd a ganlyn:
â llythyr neu fandad trydydd parti i ddelio â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu gyfrif ariannol arall – gweler Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
fel asiant neu rywun sy’n cael ei benodi i ymdrin â budd-daliadau lles neu gredydau treth rhywun – gweler Budd-daliadau lles a chredydau treth
gydag atwrneiaeth. Mae gwahanol fathau o atwrneiaethau – gweler Atwrneiaeth
fel dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod – edrychwch dan Pwy all wneud penderfyniadau pan fydd rhywun yn colli galluedd meddyliol a does dim atwrneiaeth
Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
Os y cyfan y mae arnoch ei angen yw i rywun allu gweithredu cyfrif banc ar eich rhan, dros dro, gallwch ysgrifennu at eich banc. Mae gan lawer o fanciau eu ffurflen eu hunain, a elwir yn ffurflen ar gyfer mandad trydydd parti. Byddant yn gofyn i chi lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd iddynt.
Fodd bynnag, os oes arnoch angen i rywun allu gweithredu mwy nag un cyfrif ar eich rhan, neu os oes arnoch angen rhywun i reoli eich materion ariannol ar sail fwy hirdymor, efallai y byddech yn hoffi meddwl am wneud atwrneiaeth – gweler dan atwrneiaeth.
Budd-daliadau lles a chredydau treth
Os ydych yn methu â chasglu eich budd-daliadau neu gredydau treth am unrhyw reswm, efallai y byddech yn hoffi i rywun arall eu casglu ar eich rhan.
Os yw’r budd-daliadau neu’r credydau treth yn cael eu talu i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cysylltwch â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu i drefnu bod rhywun arall yn eu casglu. Efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi mandad trydydd parti – gweler Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu uchod.
Os yw eich budd-daliadau neu gredydau treth yn cael eu talu drwy siec fel arfer, gallwch lenwi cefn y siec i ganiatáu i rywun arall ei newid ar eich rhan. Os oes arnoch eisiau i rywun newid siec budd-dal neu gredydau treth ar eich rhan yn rheolaidd, dylech gysylltu â’r swyddfa sy’n ymdrin â’ch budd-daliadau neu daliadau credydau treth i roi gwybod iddi.
Efallai y bydd arnoch angen rhywun i ddelio â phob agwedd ar eich budd-daliadau neu gredydau treth, nid casglu taliadau yn unig. Gallai hyn gynnwys gwneud pethau fel:
llenwi ffurflenni hawlio
ateb ymholiadau a llythyrau
rhoi gwybod i swyddfeydd budd-daliadau neu gredyd treth am unrhyw newid yn eich amgylchiadau
Os hynny, gallwch ofyn am gael penodi rhywun arall, perthynas fel arfer, ond ffrind neu gymydog weithiau, i weithredu ar eich rhan. Dylech gysylltu â’r swyddfa sy’n ymdrin â’ch budd-daliadau neu gredydau treth. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais, a bydd rhywun yn trefnu i ymweld â chi a’r sawl y mae arnoch eisiau iddo weithredu ar eich rhan.
Gallwch hefyd drefnu bod rhywun yn ymdrin â’ch budd-daliadau neu gredydau treth drwy roi atwrneiaeth iddo.
Atwrneiaeth
Pan fydd rhywun yn gwneud atwrneiaeth, bydd yn penodi rhywun arall i weithredu ar ei ran. Gelwir y sawl sy’n gwneud yr atwrneiaeth yn rhoddwr a gelwir y sawl a benodir i weithredu ar ei ran yn atwrnai.
Mae atwrneiaeth yn rhoi awdurdod cyfreithiol i’r atwrnai ymdrin â thrydydd partïon, megis banciau neu’r cyngor lleol.
Mae rhai mathau o atwrneiaethau hefyd yn rhoi pŵer cyfreithiol i’r atwrnai wneud penderfyniad ar ran rhywun arall, er enghraifft ble y dylai fyw neu a ddylai weld meddyg.
Er mwyn gwneud atwrneiaeth, rhaid i chi allu gwneud penderfyniadau drosoch eich hun. Gelwir hyn yn alluedd meddyliol – edrychwch ar yr adran ar y dudalen hon dan y pennawd Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol?
Mae tri math o atwrneiaeth, sef:
Gwirio a oes gan rywun atwrneiaeth yn barod
I ddarganfod a oes gan rywun atwrneiaeth yn barod, gallwch lenwi ffurflen OPG100. Lawrlwytho ffurflen OPG100 o GOV.UK.
Ar ôl llenwi’r ffurflen dylech ei hanfon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Defnyddiwch y cyfeiriad ar y ffurflen.
Atwrneiaeth gyffredin
Os oes arnoch eisiau i rywun ofalu am eich materion ariannol dros dro, gallwch roi atwrneiaeth gyffredin iddo. Efallai y byddech yn dymuno rhoi atwrneiaeth gyffredin i rywun hefyd:
os oes gennych salwch corfforol
os ydych yn cael damwain sy’n arwain at anaf corfforol
os ydych dramor am gyfnod hir
Ni ddylech ddefnyddio atwrneiaeth gyffredin:
os ydych wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl neu glefyd arall a all arwain at analluogrwydd meddyliol
os ydych yn meddwl y gallech ddatblygu problem iechyd meddwl neu glefyd arall a all arwain at analluogrwydd meddyliol
Mae hyn oherwydd na fyddwch yn gallu dal i ddefnyddio atwrneiaeth gyffredin os byddwch yn colli eich galluedd meddyliol.
Gallwch wneud atwrneiaeth arhosol (LPA) rhag ofn i chi golli eich galluedd meddyliol.
I gael rhagor o wybodaeth am LPAs, gweler Atwrneiaeth arhosol.
I gael rhagor o wybodaeth am alluedd meddyliol, gweler Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol?
Sut i roi atwrneiaeth gyffredin
Gallwch roi atwrneiaeth i rywun ymdrin â’ch holl faterion ariannol neu faterion penodol yn unig, er enghraifft i brynu a gwerthu eiddo neu newid buddsoddiadau. Gallwch hefyd roi atwrneiaeth i rywun am gyfnod penodol, er enghraifft am chwe mis yn unig.
Gelwir atwrneiaeth gyffredin sy’n rhoi awdurdod i ymdrin â materion penodol yn unig hefyd yn atwrneiaeth gyfyngedig. Os oes arnoch eisiau gwneud atwrneiaeth gyfyngedig dylech sicrhau ei bod yn cael ei llunio’n ofalus iawn fel bod yr atwrnai’n glir iawn ynglŷn â pha awdurdod sydd ganddo i ymdrin â’ch materion.
Mae ffurf safonol o eiriau i’w defnyddio os oes arnoch eisiau rhoi atwrneiaeth gyffredin. Os oes arnoch eisiau rhoi atwrneiaeth gyffredin, gallwch siarad â chynghorydd.
Gallwch hefyd:
Atwrneiaeth arhosol
Os oes arnoch eisiau i rywun ofalu am eich materion am gyfnod hir, gallwch roi atwrneiaeth arhosol (LPA) iddo. Mae LPA yn wahanol i atwrneiaeth gyffredin oherwydd:
gallwch wneud LPA sy’n gofalu am eich penderfyniadau iechyd a gofal ac un i ofalu am eich eiddo a materion ariannol
rhaid i LPA fod wedi’i chofrestru cyn y gellir ei defnyddio
mae LPA yn gadael i chi ddewis pobl i ofalu am eich materion os byddwch yn colli galluedd meddyliol
Mae’r LPA yn disodli’r atwrneiaeth barhaus (EPA) – gweler dan y pennawd Atwrneiaeth barhaus.
Pryd i wneud atwrneiaeth arhosol
Gall unrhyw un wneud atwrneiaeth arhosol rhag ofn y bydd yn colli galluedd meddyliol rywbryd. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn disgwyl iddo ddigwydd. Mae’n rhywbeth y byddech yn hoffi ei wneud o bosibl rhag ofn i rywbeth ddigwydd yn y dyfodol.
Mae’r mathau o salwch sy’n eich atal rhag gwneud penderfyniadau drosoch eich hun yn cynnwys:
dementia
problemau iechyd meddwl
anaf i’r ymennydd
camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
sgil-effeithiau triniaeth feddygol
Rhaid i chi wneud LPA tra ydych yn dal i allu gwneud penderfyniadau drosoch eich hun. Cyfeirir at hyn fel bod â galluedd meddyliol – gweler dan y pennawd Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol?
Os oes arnoch eisiau gofalu am faterion rhywun sydd eisoes wedi colli ei alluedd meddyliol ac nad oes ganddo naill ai LPA neu EPA gofrestredig yn barod, gweler dan y pennawd Pwy all wneud penderfyniadau pan fydd rhywun yn colli galluedd meddyliol a does dim atwrneiaeth?
Mathau o atwrneiaethau arhosol
Mae dau fath o LPA:
LPA eiddo a materion ariannol
LPA iechyd a lles
Nid oes rhaid i chi wneud y ddau fath o LPA yr un pryd.
Atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol
Gall LPA eiddo a materion ariannol roi awdurdod i rywun wneud ac ymdrin â phenderfyniadau am bethau fel:
prynu neu werthu eiddo
cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill
budd-daliadau lles neu gredydau treth
materion treth
dyledion
Gallwch roi atwrneiaeth i rywun ymdrin â’ch holl eiddo a materion ariannol neu ar gyfer pethau penodol yn unig, er enghraifft, i weithredu cyfrif banc, i brynu a gwerthu eiddo neu newid buddsoddiadau. Os oes arnoch eisiau gwneud LPA sy’n ymdrin â materion penodol yn unig, dylech sicrhau ei bod yn cael ei llunio’n ofalus iawn fel bod yr atwrnai’n glir iawn ynglŷn â pha awdurdod sydd ganddo i ymdrin â’ch materion.
Rhaid i LPA eiddo a materion ariannol fod wedi’i chofrestru cyn y gellir ei defnyddio. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi aros nes bydd rhywun yn colli ei alluedd meddyliol cyn ei defnyddio. Bydd LPA eiddo a materion ariannol yn dod i rym cyn gynted ag y caiff ei chofrestru. Mae hyn yn golygu y bydd yr atwrnai yn gallu dechrau gwneud penderfyniadau ynglŷn â’ch eiddo a’ch materion ariannol ar unwaith, hyd yn oed os ydych yn dal i allu gwneud eich penderfyniadau eich hun. Os nad oes arnoch eisiau i’r atwrnai allu gwneud penderfyniadau am eich materion ar unwaith, dylech sicrhau bod yr LPA yn dweud hyn.
Rhaid i’r LPA bob amser gynnwys awdurdod i’r atwrnai wneud penderfyniadau unwaith y bydd y rhoddwr wedi colli ei alluedd meddyliol.
Atwrneiaeth arhosol iechyd a lles
Gall LPA ynghylch iechyd a lles roi awdurdod i rywun wneud ac ymdrin â phenderfyniadau am bethau fel:
ble rydych yn byw
eich gofal o ddydd i ddydd, gan gynnwys beth rydych yn ei wisgo a beth rydych yn ei fwyta
eich triniaeth gofal iechyd
pa gyswllt, os o gwbl, y dylech ei gael â rhai pobl eraill
Gallwch wneud LPA iechyd a lles sy’n ymdrin â phob agwedd ar eich lles personol, neu bethau penodol yn unig.
Nid yw’n bosibl defnyddio LPA iechyd a lles nes bydd y sawl a wnaeth yr atwrneiaeth wedi colli ei alluedd meddyliol. Rhaid i’r LPA fod wedi’i chofrestru cyn y gellir ei defnyddio.
Gwneud atwrneiaeth arhosol
Rhaid i chi wneud LPA tra byddwch yn dal i allu gwneud penderfyniadau drosoch eich hun. Dylech ddewis yr unigolyn y mae arnoch eisiau iddo ofalu am eich materion yn ofalus iawn. Gelwir y sawl rydych yn ei ddewis i ofalu am eich materion yn atwrnai. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w gweld dan y pennawd Rheolau cyffredinol yn ymwneud ag atwrneiaeth.
Mae dwy ffordd o wneud LPA. Gallwch:
lawrlwytho’r ffurflenni – bydd angen i chi eu llenwi, yna eu hargraffu a’u llofnodi
Mae un ffurflen ar gyfer LPA eiddo a materion ariannol a ffurflen wahanol ar gyfer LPA iechyd a lles. Os oes arnoch eisiau i rywun ofalu am eich materion ariannol a’ch iechyd a’ch lles, bydd angen i chi wneud dwy LPA ar wahân a llenwi’r ddwy ffurflen.
Mae nodiadau sy’n dod gyda’r ffurflenni yn dweud wrthych beth yn union sydd angen ei wneud. Dylech ddarllen y rhain yn ofalus iawn.
Cofrestru atwrneiaeth arhosol
Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflenni hyn, bydd angen i chi gofrestru’r LPA gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Os chi yw’r rhoddwr a bod gennych alluedd meddyliol o hyd, gallwch wneud cais i gofrestru’r LPA eich hun. Gall y sawl a enwir fel eich atwrnai hefyd wneud cais i gofrestru’r LPA. Gall wneud hyn unrhyw bryd, p’un a ydych wedi colli galluedd meddyliol ai peidio.
I gofrestru’r LPA, anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Os oes angen i chi dalu ffi gofrestru, bydd angen i chi anfon y ffi gyda’ch ffurflen wedi’i llenwi.
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Ffôn: 0300 456 0300
Ffôn testun: 0115 934 2778
9am tan 5pm, dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener
10am tan 5pm, dydd Mercher
Ffacs: 0870 739 5780
Ebost: customerservices@publicguardian.gov.uk
Gwefan: https://www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.cy
Os ydych yn gwneud y ddau fath o LPA, bydd angen i chi dalu dwy ffi. Nid oes rhaid i bawb dalu ffioedd cofrestru. Gallwch ddarganfod faint mae LPA yn ei gostio ar GOV.UK.
Os yw’r LPA wedi ei llenwi’n gywir ac nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r cofrestriad ar ôl i bobl gael eu hysbysu, rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei chofrestru.
Mae’n cymryd tua 20 wythnos i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru’r LPA. Rhaid iddo hysbysu’r rhoddwr ac unrhyw atwrneiod ei fod wedi cofrestru’r LPA.
Gallwch ddefnyddio’r LPA unwaith y bydd wedi ei chofrestru. Gallwch yn awr gofrestru’r LPA gydag unrhyw un sydd ei hangen – er enghraifft banciau neu feddygon.
Mae nifer o ffyrdd o derfynu LPA. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
gall y sawl a wnaeth yr LPA (y rhoddwr) ei chanslo os oes ganddo alluedd meddyliol o hyd – mae manylion ynglŷn â sut i derfynu atwrneiaeth arhosol ar gael ar GOV.UK
gall yr atwrnai ddweud nad oes arno eisiau bod yn atwrnai mwyach – rhaid iddo wneud hyn ar ffurflen LPA 005 sy’n cael ei hanfon at y rhoddwr, Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac unrhyw atwrneiod eraill.
Bydd LPA yn dod i ben hefyd pan fydd y rhoddwr yn marw. Bydd LPA eiddo a materion ariannol yn dod i ben os bydd naill ai’r rhoddwr neu atwrnai yn mynd yn fethdalwr.
Gallwch ddewis terfynu rhan o LPA. Er enghraifft, efallai y byddech yn hoffi dileu un atwrnai. Mae angen i chi wneud ‘gweithred diddymu rhannol’. Dylech ofyn am gyngor arbenigol i wneud hyn. Gallwch:
Ailgyfeirio llythyrau
Efallai y byddech yn hoffi defnyddio LPA i ailgyfeirio llythyrau rhywun os yw’n cael anhawster i reoli biliau y mae’n eu cael.
Gallwch ailgyfeirio llythyrau rhywun y mae gennych LPA ar ei gyfer drwy lenwi ffurflen 'amgylchiadau arbennig'. Gallwch wneud hyn yn swyddfa’r post neu gallwch gael ffurflen amgylchiadau arbennig ar wefan y Post Brenhinol. Dewiswch ‘Apply for someone else’ i ddod o hyd i’r ffurflen.
Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i:
Royal Mail Redirection Centre
Cooper House
Lakeside
Festival Way
Stoke on Trent
ST1 5RY
Bydd yn rhaid i chi dalu am gael ailgyfeirio’r post - gallwch ddarganfod y gost ar wefan y Post Brenhinol.
Atwrneiaeth barhaus
Beth yw atwrneiaeth barhaus
Cyn 1 Hydref 2007, roedd yn bosibl gwneud atwrneiaeth barhaus (EPA) i reoli eiddo neu faterion ariannol rhywun. Gellid defnyddio EPA cyn i rywun golli ei alluedd meddyliol neu ar ôl iddo golli ei alluedd meddylion unwaith roedd yr EPA wedi’i chofrestru.
Nid yw’n bosibl gwneud EPA newydd mwyach. Fodd bynnag, os cafodd EPA ei gwneud cyn 1 Hydref 2007, mae’n dal yn bosibl ei chofrestru, ac os yw wedi ei chofrestru’n barod bydd yn dal yn ddilys.
Os oes arnoch eisiau rheoli materion rhywun rydych yn meddwl y gallai golli ei alluedd meddyliol ac nad oes gennych EPA yn barod, dylech ddefnyddio atwrneiaeth arhosol.
Hyd yn oed os oes gennych EPA yn barod, dim ond er mwyn gofalu am eiddo a materion ariannol rhywun y gellir ei defnyddio, ac nid er mwyn gofalu am ei les personol. Os oes arnoch eisiau atwrneiaeth i ofalu am les personol rhywun, efallai y gallech wneud atwrneiaeth arhosol lles personol.
I gael gwybodaeth ynglŷn ag atwrneiaeth arhosol, gweler dan y pennawd Atwrneiaeth arhosol. I gael gwybodaeth am alluedd meddyliol, gweler dan y pennawd Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol?
Cofrestru atwrneiaeth barhaus
Er mwyn dal i ddefnyddio EPA ar ôl i rywun golli ei alluedd meddyliol, rhaid cofrestru’r EPA yn gyntaf gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rhaid i’r EPA gael ei chofrestru gan y sawl a fydd yn rheoli materion rhywun arall (yr atwrnai). Cyn i chi gofrestru’r EPA, rhaid i chi hysbysu rhai pobl eich bod yn mynd i’w chofrestru. Gwneir hyn ar ffurflen y mae’n rhaid i chi ei hanfon at bob un o’r canlynol:
y sawl rydych yn mynd i reoli ei faterion (y rhoddwr)
unrhyw atwrneiod eraill os oes mwy nag un
o leiaf dri o berthnasau agosaf y rhoddwr.
Unwaith y byddwch wedi rhoi’r hysbysiad hwn, gallwch anfon cais i gofrestru’r EPA ar ffurflen EP2PG i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae ffi gofrestru, ond nid oes rhaid i bawb ei thalu. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Sut i derfynu atwrneiaeth barhaus
Mae nifer o ffyrdd o ddod ag EPA i ben. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
gall y rhoddwr ei chanslo. Dim ond os yw’n dal i fod â galluedd meddyliol y gall wneud hyn
gall atwrnai ddweud nad yw’n dymuno bod yn atwrnai mwyach
â gorchymyn llys
gall y Llys Gwarchod derfynu EPA os yw’n meddwl bod atwrnai wedi camddefnyddio ei sefyllfa neu os yw’n meddwl bod rhoddwr wedi gwneud yr EPA oherwydd twyll neu bwysau gormodol
Os oes arnoch eisiau atwrneiaeth arhosol yn ei lle
Os ydych yn dal i fod â galluedd meddyliol, gallwch derfynu eich EPA a gwneud Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn ei lle.
Os nad yw’r EPA wedi ei chofrestru, gallwch ei dinistrio. Yna gallwch lenwi ffurflen LPA a gwneud cais am gael cofrestru’r LPA – gweler dan Atwrneiaeth arhosol. Yn wahanol i EPA, nid yw LPA yn ddilys oni bai ei bod wedi cael ei chofrestru.
Os yw’r EPA wedi ei chofrestru, gallwch ei therfynu. Yna gallwch wneud LPA.
Gallwch hefyd ganslo’r EPA fel rhan o’ch cais newydd am LPA, ond mae angen geirio hyn yn benodol yn y cais am LPA. Os oes arnoch eisiau gwneud hyn, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol. Gallwch:
Neu, gallech gadw eich EPA ond gwneud a chofrestru LPA i ymdrin â’ch lles personol rhag ofn i chi golli eich galluedd meddyliol. Ni ellir defnyddio EPA i ofalu am les personol rhywun.
Rheolau cyffredinol yn ymwneud ag atwrneiaeth
Mae rhai rheolau cyffredinol sy’n gymwys i bob un o’r gwahanol fathau o atwrneiaethau, gan gynnwys Atwrneiaeth gyffredin, Atwrneiaeth arhosol ac Atwrneiaeth barhaus.
Pwy all wneud atwrneiaeth
Gelwir y sawl sy’n gwneud atwrneiaeth yn rhoddwr. Er mwyn gwneud atwrneiaeth, rhaid i chi allu gwneud penderfyniadau drosoch eich hun. Cyfeirir at hyn fel bod â galluedd meddyliol – gweler dan y pennawd, Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol? Ni allwch ond gwneud atwrneiaeth sy’n caniatáu i rywun arall wneud pethau y mae gennych hawl i’w gwneud eich hun.
Ni all neb arall wneud atwrneiaeth ar eich rhan. Gallwch ofyn i gyfreithiwr ddrafftio atwrneiaeth i chi, ond ni ddylai’r cyfreithiwr dderbyn cyfarwyddiadau neu awdurdodiad gan neb arall heblaw chi, boed wyneb yn wyneb neu yn ysgrifenedig. Ni ddylai dderbyn cyfarwyddiadau neu awdurdodiad gan unrhyw un arall, gan gynnwys y sawl sydd i ddod yn atwrnai i chi.
Pwy all fod yn atwrnai
Gelwir y sawl a benodir i weithredu ar ran y rhoddwr yn atwrnai. Gall unrhyw un fod yn atwrnai, cyn belled:
ei fod yn gallu gwneud penderfyniadau
ei fod yn 18 oed neu drosodd
Mewn rhai achosion, ni all rhywun sy’n fethdalwr fod yn atwrnai. Os bydd atwrnai yn mynd yn fethdalwr, mae’n bosibl y cymerir atwrneiaeth oddi arno.
Gall cyfreithwyr a chorfforaethau ymddiried megis banciau weithredu fel atwrnai. Gall atwrneiod proffesiynol godi tâl am eu gwasanaethau. Os yw eich atwrnai yn ffrind neu berthynas, gall gael treuliau parod yn ôl, ond ni all gael ei dalu am gyflawni ei ddyletswyddau oni bai fod y rhoddwr wedi cytuno ar hyn ar ffurflen yr LPA.
A ellir cael mwy nag un atwrnai
Gall rhoddwr benodi mwy nag un atwrnai. Gall hyn weithio mewn un o ddwy ffordd:
Atwrneiod a benodir i weithredu gyda’i gilydd (cyfeirir atynt hefyd fel atwrneiod ar y cyd) – mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt weithredu gyda’i gilydd bob amser. Mantais y trefniant hwn yw ei bod yn anos i atwrnai gyflawni twyll neu wneud rhywbeth yn groes i fuddiannau’r rhoddwr. Yr anfantais, yw bod yr atwrneiaeth gyfan yn dod i ben os bydd un atwrnai yn marw neu’n mynd yn feddyliol analluog.
Penodir atwrneiod i weithredu gyda’i gilydd ac yn annibynnol (cyfeirir atynt hefyd fel atwrneiod ar y cyd ac yn unigol). Pan benodir atwrneiod fel hyn, mae’n golygu bod llofnod neu weithred un atwrnai mor ddilys â phe bai yr unig atwrnai. Mae hefyd yn golygu y bydd yr atwrneiaeth yn parhau mewn grym os bydd rhywbeth yn digwydd i un o’r atwrneiod.
Cyfrifoldebau atwrnai
Pan gewch eich penodi yn atwrnai, cewch eich rhoi mewn swydd gyfrifol a rhaid i chi bob amser weithredu er lles pennaf y rhoddwr.
Ni allwch ond gwneud y pethau y mae’r rhoddwr wedi rhoi awdurdod i chi eu gwneud. Ni allwch ofyn i rywun arall gyflawni unrhyw rai o’ch dyletswyddau, oni bai fod y rhoddwr wedi eich awdurdodi i wneud hynny.
Rhaid i chi gadw cyfrifon cyfredol ar wahân o faterion ariannol y rhoddwr. Pan fyddwch yn gweithredu ar ran y rhoddwr ac wedi llofnodi unrhyw ddogfennau, dylech lofnodi fel byddwch yn arfer gwneud ac ychwanegu, o dan y llofnod, y geiriau Atwrnai i ... (enw’r rhoddwr).
Os ydych yn gweithredu dan atwrneiaeth arhosol, mae rheolau yn ymwneud â sut i wneud penderfyniad ar ran rhoddwr sydd wedi colli ei alluedd meddyliol. Gallwch ddod o hyd i ganllaw i fod yn atwrnai ar GOV.UK.
Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol?
Mae’n bwysig gwybod a oes gan rywun y galluedd meddyliol i wneud penderfyniad. Gallai hyn effeithio ar yr opsiynau sydd gennych ar gyfer ymdrin â’i faterion, er enghraifft a yw’n dal yn bosibl gwneud atwrneiaeth arhosol (LPA) – gweler dan y pennawd Atwrneiaeth arhosol.
Mae angen i chi wybod hefyd a oes gan rywun alluedd meddyliol o hyd i’ch helpu i benderfynu pryd i gofrestru LPA lles personol neu atwrneiaeth barhaus – gweler dan y pennawd Atwrneiaeth barhaus.
Os gall rhywun wneud penderfyniad drosto ei hun, gellir dweud bod ganddo’r galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw. Os nad yw’n gallu gwneud penderfyniad oherwydd rhyw fath o anabledd meddyliol, gellir dweud nad oes ganddo’r galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw. Gall yr anabledd fod yn un dros dro neu’n un parhaol, a gallai gael ei achosi gan:
dementia
anaf i’r ymennydd
strôc
camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
sgil-effeithiau triniaeth feddygol
Mae canllawiau i’ch helpu i benderfynu a oes gan rywun y galluedd meddyliol i wneud penderfyniad. Mae rhywun yn methu â gwneud penderfyniad os yw’n methu â:
deall yr wybodaeth sydd ei hangen i’w helpu i wneud y penderfyniad, hyd yn oed pan roddir yr wybodaeth mewn ffordd sy’n diwallu ei anghenion, er enghraifft, gan ddefnyddio iaith syml neu drwy iaith arwyddion neu
gofio’r wybodaeth honno neu
ddefnyddio neu bwyso a mesur yr wybodaeth i’w helpu i wneud y penderfyniad neu
gyfathrebu ei benderfyniad mewn unrhyw ffordd
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut i benderfynu a oes gan rywun alluedd meddyliol ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn www.mentalhealth.org.uk.
Gallai rhywun fod heb y galluedd i wneud unrhyw benderfyniad neu gallai fod â’r galluedd i wneud rhai penderfyniadau, ond nid eraill.
Pwy all wneud penderfyniadau pan fydd rhywun yn colli galluedd meddyliol a does dim atwrneiaeth?
Efallai y bydd angen i chi wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd wedi colli ei alluedd meddyliol pan nad oes atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Unwaith y bydd yr unigolyn wedi colli ei alluedd meddyliol, nid yw’n bosibl gwneud atwrneiaeth mwyach – gweler dan y pennawd Pryd mae rhywun heb alluedd meddyliol?
Mae’n bosibl gwneud cais i’r Llys Gwarchod er mwyn gwneud penderfyniad ar fater penodol. Fodd bynnag, os oes angen parhaus i wneud penderfyniadau ar ran yr unigolyn, gallwch ofyn i’r Llys Gwarchod eich penodi chi fel dirprwy. Roedd dirprwy yn arfer cael ei adnabod fel derbynnydd.
Mae dirprwy fel arfer yn aelod o’r teulu neu’n rhywun sy’n adnabod yr unigolyn yn dda. Gall dirprwy wneud penderfyniadau am les personol, eiddo a materion ariannol rhywun.
Mae’n gymhleth i wneud cais i fod yn ddirprwy. Os oes arnoch eisiau bod yn ddirprwy, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol. Gallwch:
Os nad oes ffrind neu aelod o’r teulu sy’n addas neu’n barod i weithredu fel dirprwy, gall y Llys Gwarchod benodi gweithiwr proffesiynol o banel.
Weithiau, penodir dau ddirprwy neu fwy. Gellir gofyn iddynt weithredu gyda’i gilydd ym mhob mater. Neu, gellir gofyn iddynt weithredu gyda’i gilydd ac yn annibynnol, sy’n golygu y gallant weithredu gyda’i gilydd ond y gallant weithredu’n annibynnol hefyd os dymunant.
Os cewch eich penodi fel dirprwy, mae gennych hawl i gael tâl am dreuliau rhesymol.
Bydd yn rhaid i chi allu dangos i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eich bod yn gweithredu er lles pennaf y sawl sydd wedi colli ei alluedd meddyliol. Gall y Llys ganslo eich penodiad os bydd yn penderfynu nad yw eich penodiad er lles pennaf yr unigolyn hwnnw mwyach.
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am eich goruchwylio a’ch cefnogi.
Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy i rywun ar GOV.UK.
Os oes angen, gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn brys, y gellir ei wneud mewn cyn lleied â 24 awr. Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os oes angen gwneud penderfyniad brys er mwyn sicrhau iechyd neu ddiogelwch rhywun. Mae hefyd yn bosibl i chi wneud cais am orchymyn dros dro, er enghraifft, os oes angen gweithredu ar frys er mwyn talu ffioedd cartref gofal rhywun.
Mae gwneud cais am orchymyn brys yn gymhleth iawn. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol. Gallwch:
Beth allwch chi ei wneud os ydych yn meddwl nad yw rhywun yn gweithredu er lles pennaf rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol?
Efallai y byddwch yn poeni nad yw atwrnai neu ddirprwy yn gweithredu er lles pennaf rhywun sydd wedi colli ei alluedd meddyliol. Dylech hysbysu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynglŷn â’ch pryderon – gweler dan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Os oes atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus nad yw wedi ei chofrestru eto, efallai y gallwch wrthwynebu’r cofrestriad. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ofyn i un o swyddogion y llys ymweld ag atwrnai neu ddirprwy i ymchwilio i’ch pryderon. Mewn achosion difrifol, gall y Llys Gwarchod ganslo atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Os ydych yn amau bod atwrnai neu ddirprwy wedi cyflawni cam-drin corfforol neu rywiol, lladrad neu dwyll difrifol, dylech gysylltu â’r heddlu. Mewn rhai achosion, bydd angen cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol hefyd.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am:
gofrestru atwrneiaethau arhosol
penodi a goruchwylio dirprwyon
gwneud yn siŵr bod atwrnai neu ddirprwy yn cyflawni ei ddyletswyddau yn iawn
ymdrin â chwynion a gwrthwynebiadau yn ymwneud ag atwrneiod a dirprwyon
Manylion cysylltu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw:
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Ffôn: 0300 456 0300
Ffôn testun: 0115 934 2778
9am tan 5pm, dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener
10am tan 5pm, dydd Mercher
Ffacs: 0870 739 5780
Ebost: customerservices@publicguardian.gov.uk
Gwefan: https://www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.cy
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.