Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Prynu cartref

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Faint fedrwch chi fforddio

Y peth cyntaf sy'n rhaid i chi ei wneud yw penderfynu faint fedrwch chi fforddio. Bydd angen i chi weld faint o arian sydd ar gael gennych chi eich hun a faint fedrwch chi fenthyg. Mae yna nifer o sefydliadau ariannol sy'n cynnig benthyciadau i bobl sy'n prynu eiddo, er enghraifft, cymdeithasau adeiladu a banciau. Dylech ddarganfod a fedrwch chi fenthyg arian, ac os medrwch, faint o arian mae'n bosib ei fenthyg (am wybodaeth ynglŷn â morgeisi, gweler y pennawd Morgeisi).

Mae rhai cymdeithasau adeiladau yn rhoi tystysgrif i brynwyr sy'n nodi y bydd benthyciad ar gael cyhyd â bod yr eiddo yn eu bodloni. Mae'n bosib y gallwch gael y dystysgrif cyn i chi ddechrau chwilio am eiddo i’w brynu. Mae Cymdeithasau Adeiladau'n nodi y gall y dystysgrif eich helpu i gael y gwerthwr i dderbyn eich cynnig.

Cyn penderfynu'n derfynol faint i wario ar eiddo, dylech sicrhau y bydd gennych ddigon o arian i dalu'r costau ychwanegol. Bydd y rhain yn cynnwys:-

  • ffioedd arolwg
  • ffioedd gwerthuso
  • Treth Tir Treth Stamp
  • ffî'r gofrestrfa dir
  • chwiliadau yr awdurdod lleol
  • ffioedd, os bydd rhai, a godir gan y benthyciwr morgais neu rywun sy'n trefnu'r morgais, er enghraifft, brocer morgeisi
  • costau cyfreithiwr y prynwr
  • TAW
  • Costau symud ty a chludo dodrefn
  • Unrhyw filiau terfynol, er enghraifft, biliau nwy a thrydan o'ch cartref presennol y bydd yn rhaid eu talu pan fyddwch yn symud.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Treth Tir Treth Stamp, ewch at wefan GOV.UK ar www.gov.uk ac am fwy o wybodaeth ynghylch Treth Tir Treth Stamp yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan NI Direct yn www.nidirect.gov.uk.

Dylech fod yn ymwybodol y byddwch o bosib eisoes wedi talu am werthusiad neu arolwg wedi i chi ddechrau’r broses o brynu, hyd yn oed os na fyddwch yn parhau gyda'r pwrcasiad. Os bydd y cyfreithiwr wedi gwneud unrhyw waith cyfreithiol, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu am y gwaith a wnaethpwyd eisoes.

Dylech hefyd roi ystyriaeth lawn i gostau cynnal yr eiddo y dymunwch ei brynu. Gall y rhain gynnwys:-

  • y dreth gyngor (yng Nghymru a Lloegr)
  • treth dŵr (yng Nghymru a Lloegr))
  • trethi yng Ngogledd Iwerddon
  • rhent daear, os mai prydles yw'r eiddo
  • costau gwasanaeth, os mai fflat prydles yw'r eiddo
  • costau yswiriant, gan gynnwys yswiriant bywyd ac yswiriant adeiladau a chynnwys.
  • biliau gwresogi. Mae tystysgrif perfformiad ynni’n medru eich helpu i gyfrifo pa mor effeirthlon yw eich eiddo o ran ynni.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch tystysgrifau perfformiad ynni yng Nghymru a Lloegr ar wefan GOV.UK ar: www. gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, ewch at wefan yr Adran Cyllid a Phersonel - Department of Finance and Personnel (NI) yn http://www.dfpni.gov.uk/energy-performance-of-buildings.

Fe fydd yn rhaid i chi dalu blaendal adeg cyfnewid cytundebau, ychydig cyn gwblhau’r gwerthiant a chyn i’r arian gael ei dderbyn gan y cwmni sy’n benthyg y morgais. Yn aml, 10% o bris gwerthu’r eiddo yw’r blaendal ond mae’n medru amrywio.

Cynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog

Os ydych yn aelod o’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu, efallai y byddwch yn medru cael peth help gyda chost prynu cartref. Os ydych yn gymwys, efallai y bydd Cynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog yn medru benthyg rhwng 15 a 50% o werth cartref yr ydych yn ei ddewis ar y farchnad eiddo agored.

Er mwyn i chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid eich bod:

  • wedi bod yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ers rhwng 4 a 6 mlynedd
  • ddim yn medru fforddio cartref sy’n cwrdd â’ch anghenion ble’r ydych chi eisiau byw
  • â digon o gynilion, neu’n medru cael mynediad at ddigon o arian, i dalu blaendal, ffioedd cyfreithiol, treth stamp a chostau eraill symud
  • yn medru parhau i fod yn berchen ar eich cartref yn y tymor hirach
  • â hanes credyd da. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, eich bod ar ben eich rhent ac nad oes unrhyw Ddyfarniadau Llys Sirol yn eich erbyn.

Fe allwch ddarganfod mwy am Gynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog trwy gysylltu â nhw ar:

Rhadffôn: 0800 028 1980
E-bost: enquiries@afhos.co.uk
Gwefan: www.afhos.co.uk.

Sut i ddod o hyd i eiddo

Mae sawl ffordd y gallwch ddod o hyd i eiddo i’w brynu:-

  • defnyddio asiantaethau gwerthu tai
  • edrych ar dudalennau eiddo'r papurau lleol
  • cysylltu â chwmnïau adeiladu tai i gael manylion am eiddo newydd a godir yn yr ardal
  • chwilio ar y rhyngrwyd.

Rhaid i gwmnïau gwerthu tai gydymffurfio â chyfreithiau sy’n diogelu defnyddwyr rhag arferion gwerthu a marchnata annheg. Gellir cael gwybodaeth bellach ar y cyfreithiau hyn a’r hyn fedrwch chi ei wneud i sicrhau bod y broses o brynu tŷ yn fwy hwylus oddi ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg ar www.oft.gov.uk.

Penderfynu ar eiddo

Pan ddewch o hyd i eiddo, dylech drefnu edrych arno er mwyn bod yn siwr ei fod yn ateb eich anghenion ac er mwyn cael syniad a fydd angen i chi wario unrhyw arian ychwanegol ar yr eiddo, er enghraifft at ddiben atgyweirio neu addurno. Mae'n gyffredin i brynwr posib ymweld ag eiddo ddwy neu dair gwaith cyn penderfynu gwneud cynnig.

Sicrwydd ar gyfer eiddo a adeiladwyd o'r newydd

Os yw'r eiddo'n eiddo a adeiladwyd o'r newydd, holwch a oes ganddo sicrwyd Buildmark. Trefnwyd sicrwydd Buildmark gan Gyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) sy'n fudiad annibynnol gyda dros 20,000 o adeiladwyr tai newydd ar ei gofrestr. Cyn cael eu derbyn ar gofrestr yr NHBC, mae'n rhaid bod adeiladwyr yn medru dangos eu bod yn gymwys yn dechenegol ac yn ariannol a rhaid iddynt hefyd gytuno i gadw Safonau'r NHBC.

Mae'r cynllun Buildmark yn berthnasol i adeiladau a adeiladwyd gan adeialdwyr ar gofrestr yr NHBC unwaith y bydd y NHBC wedi ardystio eu bod wedi eu cwblhau. Er enghraifft, fe fydd y Cynllun yn diogelu eich arian os yw'r adeiladwr yn methdalu ar ôl cyfnewid cytundebau ond cyn cwblhau. Mae hefyd yn cynnwys diffygion sy'n codi am nad ydyw'r adeiladwr wedi cadw at Safonau'r NHBC. Am fwy y o wybdoaeth, ewch at wefan yr NHBC yn: www.nhbc.co.uk .

Yn ogystal â sicrwydd dan gynllun Buildmark, mae prynwyr hefyd yn cael sicrwydd dan God Defnyddwyr Adeiladwyr Cartrefi annibynnol y diwydiant adeiladu cartrefi. Mae gwybodaeth bellach ar www.consumercodeforhomebuilders.com.

Ydyw'r eiddo ar brydles, rhydd-ddeiliadaeth neu ddeiliadaeth gyffredin

Eiddo rhydd-ddeiliadaeth

Os yw'r eiddo'n rhydd-ddeiliadaeth, mae hyn yn golygu bod y tir yr adeiladwyd yr eiddo arno yn rhan o'r fargen ac nid oes rhaid talu rhent tir na chostau gwasanaeth.

Eiddo prydles

Gall eiddo fod ar brydles, sy'n golygu nad yw'r darn o dir yr adeiladwyd yr eiddo arno yn rhan o'r fargen. Bydd yn rhaid i chi dalu rhent am y tir i berchen y tir sef y rhydd-ddeiliad.

Gall hyd y les amrywio, a dylech sicrhau bod cyfnod y les ar yr eiddo y dymunwch ei brynu yn dderbyniol i’r benthyciwr morgais. Dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agoasf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Yn ychwanegol at rent y tir ar eiddo prydles, mae'n bosib fod yn rhaid i chi dalu costau gwasanaeth blynyddol. Bydd hyn fel arfer yn digwydd gyda fflat. Bydd cost gwasanaeth yn cynnwys elfennau fel atgyweirio, cynnal a chadw''r adeiladau, glanhau mannau cyffredin a gofalu am y tir sy'n gysylltiedig.

Efallai y bydd gan grwp o ddeiliaid prydles sy'n byw yn yr un adeilad yr hawl i brynu rhyddfraint yr adeilad ar y cyd, neu gymryd awenau rheolaeth yr adeilad.

Gall eiddo fod ar brydles, sy'n golygu nad yw'r darn o dir yr adeiladwyd yr eiddo arno yn rhan o'r fargen. Bydd yn rhaid i chi dalu rhent am y tir i berchen y tir sef y rhydd-ddeiliad.

Yng Nghymru a Lloegr, mae gwybodaeth bellach ynglyn â phrydles ar gael gan:

The Leasehold Advisory Service (LEASE)
Maple House
149 Tottenham Court Road
London W1T 7BN
Ffôn 020 7383 9800
Ffacs 020 7383 9849
E-bost: info@lease-advice.org.uk
Gwefan: www.lease-advice.org.uk

Mae yna daflen ddefnyddiol ar hawliau prydles yng Nghymru a Lloegr hefyd. Rhowch glic ar wefan GOV.UK ar: www.gov.uk.

Yng Nghymru a Lloegr, efallai hefyd y bydd Ffederasiwn Cymdeithasau Trigolion Preifat hefyd yn medru helpu os yw grŵp o ddeiliaid prydles am sefydlu cymdeithas trigolion. Mae hefyd yn medru rhoi cyngor cyfreithiol a gwybodaeth arall i gymdeithasau sy’n aelodau. Dyma’r manylion cyswllt:-

Federation of Private Residents' Associations (FPRA)
PO Box 10271
Epping
CM16 9DB

Ffôn: 0871 200 3324
E-bost: info@fpra.org.uk
Gwefan: www.fpra.org.uk

Eiddo ddeiliadaeth gyffredin

Os yw'r eiddo yn ddeiliadaeth gyffredin, mae hyn yn golygu y gallwch brynu rhyddfraint fflat a pherchen ar rhannau cyffredin ar y cyd gyda pherchnogion fflatiau eraill yn yr adeilad (a elwir yn gymdeithas deiliadaeth gyffredin).

Gyda deiliadaeth gyffredin, nid oes angen talu taliad rhent na thâl gwasanaeth. Ond, fe fydd angen talu cyfran o wariant y gymdeithas deiliadaeth gyffredin ar gynnal a chadw, yswiriant a gweinyddu ar gyfer rhannau cyffredin yr adeilad.

Gwneud cynnig

Pan fyddwch yn penderfynu eich bod yn dymuno prynu eiddo arbennig, nid yw'n orfodol i chi dalu'r pris y bydd y perchnogion yn gofyn amdano. Gallwch gynnig llai os, er enghraifft, ydych o'r farn bod gwaith atgyweirio i'w wneud a fydd yn costio arian.

Os bydd yr eiddo'n cael ei werthu drwy asiantaeth dai, dylech ddweud wrth yr asiantaeth faint yr ydych yn barod i'w dalu am yr eiddo. Bydd yr asiant dai yna'n gosod y cynnig gerbron y perchnogion.

Os na fydd y perchnogion yn barod i dderbyn y cynnig cyntaf i chi ei wneud, gallwch wneud cynnig uwch. Nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch wneud cynnig ar eiddo. Os byddwch yn gwneud cynnig ysgrifenedig, byddwch bob amser yn ei wneud yn amodol ar gytundeb. Golyga hyn na fyddwch yn rhwym i’w brynu cyn i chi ddod i wybod mwy am yr ystâd neu'r eiddo. Os byddwch yn gwneud cynnig ar lafar, nid yw, ar unrhyw achlysur, yn eich rhwymo'n gyfreithiol.

Pan fydd y cynnig wedi'i dderbyn

Pan fydd eich cynnig am yr eiddo wedi ei dderbyn, bydd gofyn i chi ystyried y canlynol:-

  • Os oes rhaid talu blaendal deiliadaeth
  • Trefnu morgais – gweler isod
  • Os yw arolwg yn angenrheidiol – gweler isod
  • Pwy fydd yn gwneud y gwaith cyfreithiol angenrheidiol – gweler isod
  • Os ydych am brynu gyda rhywun arall – gweler isod.

Blaendaliadau dal

Cyn gynted ag y bydd y perchnogion wedi derbyn eich cynnig, mae'n bosib y gofynnir i'r prynwr dalu rhywfaint o flaendal i'r asiantaeth dai. Fel arfer mae hyn rhwng £500 a £1000. Ei bwrpas yw profi eich bod o ddifrif ynglŷn â phrynu. Gall y swm gael ei ad-dalu os nad ydych yn mynd ymlaen i brynu'r eiddo.

Trefnu morgais

Os nad ydych eisoes wedi dechrau trefnu morgais, dylech ddechrau gwneud hyn nawr. Dylai gymryd rhyw dair wythnos o wneud cais am forgais i'r cynnig ffurfiol ar ran y benthyciwr. Fodd bynnag, mae’r amserlen hon yn medru amrywio.

Bydd pwy bynnag fydd yn cytuno i fenthyca'r arian yn dymuno gwerthuso'r eiddo. Pwrpas hyn yw sicrhau’r benthyciwr y gall gael y benthyciad yn ôl os, am unrhyw reswm, y byddwch yn methu â thalu'ch morgais a byddai'n rhaid gwerthu'r tŷ unwaith eto. Bydd gwerthuswr yn gwneud y gwerthusiad hwn ar ran y benthyciwr, ond bydd rhaid i chi dalu am y gwerthusiad hwn. Bydd y ffi yn daladwy ymlaen llaw, fel arfer pan fyddwch chi’n anfon ffurflen gais am forgais at y benthyciwr morgeisi.

Os bydd y swm o arian a gaiff ei fenthyg yn fwy na chanran arbennig o werthusiad yr eiddo (fel arfer 75-80%), efallai y bydd eich benthyciwr fel arfer yn ei gwneud hi'n amod ar y benthyciad eich bod yn cymryd yswiriant ychwanegol ar gyfer y swm ychwanegol. Byddwch yn talu premiwm unigol i’ch benthyciwr, a fydd fel arfer yn cael ei ychwanegu at eich benthyciad. Caiff hyn ei alw'n dâl benthyg uwch (neu warant indemniad morgais).

Yn Lloegr, os mai dim ond blaendal o 5% sydd gennych, fe allech ystyried cynllun o’r enw NewBuy ble mae’r benthyciwr yn medru darparu morgais o hyd at 95% o bris cartref a adeiladwyd o’r newydd.

Rwy'n feichiog a newydd geisio am forgais. Mae wedi cael ei droi i lawr oherwydd maen nhw'n credu na fyddaf yn mynd yn ôl i'r gwaith hyd nes ar ôl geni'r babi. Ydyn nhw'n cael gwneud hyn?

Nid oes rhaid i fenthyciwr morgeisi roi morgais i chi. Ond, ni ddylai wrthod benthyg morgais i chi, na'ch trin yn llai ffafriol na phobl eraill, dim ond oherwydd eich bod yn feichiog.

Os yw’ch benthyciwr morgeisi wedi gwrthod eich cais ar sail eich beichiogrwydd, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu ac fe allai fod yn anghyfreithlon. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol ynghylch beth ddylech ei wneud.

Trefnu arolwg

Nid arolwg fydd y gwerthusiad a wneir ar gyfer pwy bynnag fydd yn benthyca’r arian. Dylech ystyried a ydych am drefnu arolwg annibynnol ai peidio, yn ychwanegol at yr arolwg. Byddai'r arolwg yn ystyried gwerth yr eiddo, ond byddai hefyd yn rhoi sylw i adeiladwaith yr eiddo a dylai ddod ar draws unrhyw broblemau posib.

Gallwch ddewis rhwng dwy lefel arolwg:-

  • Arolwg adeiladwaith lawn. Bydd yr arolwg yma'n addas ar gyfer adeiladwaith sy'n fawr o ran maint, ac sydd yn hŷn nag 80/90 oed ac mewn cyflwr amheus
  • Adroddiad canolraddol neu 'adroddiad prynwr tŷ/ fflat', sy'n rhoi adroddiad ar gyflwr rhannau o't tŷ y gellir eu cyrraedd a'u gweld. Mae'n bosib yr awgrymir profion neu archwiliadau pellach, er enghraifft, gwiriad arbennig ar gyfer llau pren. Bydd hyn yn arbennig o addas ar gyfer eiddo o'r ganrif hon sy'n ymddangos yn rhesymol gadarn. Bydd hyn dipyn yn rhatach nag arolwg adeiladwaith cyflawn.

Mae hi'n bosib i chi ddefnyddio'r un person ag sy'n gwneud y gwerthusiad ar gyfer yr arolwg ac mae'n bosib y bydd hynny'n rhatach. Er hyn, gallwch ddefnyddio arolygwr gwahanol os dymunwch wneud hynny.

Os bydd yr arolygwr yn nodi bod rhai problemau gyda'r eiddo, bydd yn rhaid ichi ystyried a ydych yn dymuno pwrcasu'r eiddo neu drafod y pris ymhellach gyda'r gwerthwr. Bydd yr arolygwr fel arfer yn eich cynghori ynglyn â sut y dylid delio ag unrhyw broblemau y death ar eu traws a faint yw costau tebygol hyn. Mae mwy o wybodaeth ddefnyddiol ynglyn ag arolygon eiddo yn www.rics.org.

Dewis pwy fydd yn gwneud y gwaith cyfreithiol (trosglwyddebu)

Gelwir y broses gyfreithiol o drosglwyddo perchnogaeth yr eiddo o'r perchen presennol i’r prynwr yn 'drosglwyddiad'. Chi ddylai benderfynu pwy rydych chi'n dymuno i wneud y gwaith trosglwyddo. Fe allwch ei wneud ei hun – er, mae hyn yn gallu bod yn gymhleth – neu fe allwch:-

  • defnyddio cyfreithiwr
  • defnyddio trosglwyddydd trwyddedig (yng Nghymru a Lloegr)

Defnyddio cyfreithiwr

Bydd y mwyafrif o gwmnïau cyfreithwyr yn cynnig gwasanaeth trosglwyddo. Er y gall pob cyfreithiwr wneud gwaith trosglwyddo yn ôl y gyfraith, byddai'n ddoeth dewis cyfreithiwr sy'n brofiadol yn y maes.

Am wybodaeth ynglŷn â dewis cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Defnyddio trosglwyddwr trwyddedig (Cymru a Lloegr yn unig)

Gallwch ddefnyddio trosglwyddwr trwyddedig i wneud y gwaith trosglwyddo. Nid cyfreithwyr yw'r trosglwyddwyr yma, ond fe'u trwyddedir gan y Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig.

Os ydych am gael gwybod a ydyw trosglwyddydd lleol yn drwyddededig, gallwch ysgrifennu at:-

The Council of Licensed Conveyancers
16 Glebe Road
Chelmsford
Essex CM1 1QG
Ffôn: 01245 349599
Ffacs: 01245 341300
E-bost: clc@clc-uk.org
Gwefan: www.conveyancer.org.uk

Darganfod faint fydd y gost

Cyn dewis pwy fydd yn gwneud y gwaith trosglwyddo, dylech dderbyn cyngor ar faint fydd costau tebygol y trosglwyddo. Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â mwy nag un cyfreithiwr neu drosglwyddwr trwyddedig gan nad oes graddfa ffioedd benodol ar gyfer y gwaith o drosglwyddo. Dylech:-

  • wirio a yw'r hyn a nodwyd yn ffi sefydlog neu os yw'n ddibynnol ar faint o waith sydd i'w wneud
  • gwirio a ydyw'r swm yn cynnwys dyletswydd stamp, ffioedd ymchwilio, ffioedd cofrestru tir, costau a TAW, a chael dadansoddiad o'r costau hyn.
  • darganfod pa gostau a godir os na fyddwch yn parhau gyda'r pwrcasiad cyn i'r cytundebau gael eu cyfnewid.

Prynu gyda rhywun arall

Efallai y byddwch yn dewis prynu eich eiddo ar y cyd gyda rhywun arall, er enghraifft eich gwr, gwraig, partner sifil, partner, perthynas neu ffrind.

Os ydych yn prynu eich eiddo gyda rhywun arall, rydych yn medru dewis gwneud hyn mewn un o ddwy ffordd:

  • cyd-denantiaid buddiol, neu
  • enantiaid cydradd.

Mae hyn yn wir p'un ai yr ydych yn berchen ar rydd-dalliad neu les-ddaliad yr eiddo ai peidio.

Os ydych yn ystyried prynu eiddo gyda rhywun arall, dylech fynnu cyngor cyfreithiol ar y math orau o berchnogaeth i chi.

Cyd-denantiaid buddiol

Os ydych yn berchen ar eich eiddo fel cyd-denant buddiol, mae hyn yn golygu ei fod yn eiddo i chi ac i'r perchennog arall/perchnogion eraill ar y cyd. Nid ydych yn medru cael morgais arall arno ne'i werthu heb i'r perchennog arall/perchnogion eraill gytuno. Ond, os oes dadlau, mae perchenog yn medru cyflwyno cais am orchymyn llys.

Fel cyd-denant buddiol, nid ydych yn berchen ar gyfranddaliadau penodol yn yr eiddo ac nid ydych yn medru rhoi cyfran o'r eiddo i ffwrdd mewn ewyllys. Os digwydd i chi farw, fe fydd eich budd yn yr eiddo'n mynd yn awtonmatig at y perchennog arall/perchnogion eraill.

Tenantiaid cydradd

Os ydych yn berchen ar eich eiddo fel tenantiaid cydradd, mae hyn yn golygu ei fod yn eiddo i chi a'r perchennog arall/perchnogion eraill ar y cyd, ond mae pob un ohonoch hefyd yn berchen ar gyfran benodol o'i werth. Mae i fyny i chi i benderfynu faint yn union fydd gwerth pob cyfran.

Rydych yn medru rhoi eich cyfran i ffwrdd, ei gwerthu neu gael morgais arni. Os digwydd i chi farw, nid yw'ch cyfran yn yr eiddo'n mynd yn awtomatig at y perchennog arall/perchnogion eraill. Rydych yn medru gadael eich cyfran at bwy bynnag y dymunwch.

Am fwy o wybodaetgh ynghylch berchen ar eich eiddo ar y cyd, gweler taflen y Gofrestrfa Tir Cydberchnogaeth Eiddo.

Camau yn y gwaith cyfreithiol o brynu ty

Er ei bod yn amhosib dweud yn union pa mor hir fydd y gwaith cyfreithiol ar gyfer prynu eiddo'n ei gymryd, gellir rhoi canllawiau. Gall cymaint â saith wythnos fynd heibio rhwng cael cynnig wedi ei dderbyn hyd nes cyfnewid cytundebau, a gall pedair wythnos fynd heibio rhwng cyfnewid cytundebau a chwblhau'r ddêl. Er hyn, os bydd problemau, gall yr amser a gymerir fod yn hirach.

Ymholiadau a wneir gan y cyfreithiwr, neu yng Nghymru a Lloegr, y trosglwyddydd trwyddedig

Unwaith y byddwch wedi gorchymyn eich cyfreithiwr, neu yng Nghymru a Lloegr, trosglwyddydd trwyddedig, bydd cyfreithiwr y gwerthwr, neu drosglwyddydd trwyddedig y gwerthwr yn llunio cytundeb y byddwch chi a'r gwerthwr yn ei arwyddo yn y pendraw. Er hyn, cyn bod modd arwyddo'r cytundeb, mae'n rhaid i'ch cyfreithiwr neu drosglwyddydd trwyddedig sicrhau nad oes problem gyda pherchnogaeth yr eiddo, hawliau tramwy, mynediad neu ddatblygiadau yn y dyfodol a allai effeithio'r eiddo. Gelwir hyn yn 'ymholiadau a chwiliadau'. Bydd y cyfreithiwr neu drosglwyddwr trwyddedig yn gwneud yr chwiliadau a'r ymholiadau fel a ganlyn:-

  • chwiliadau lleol. Gwneir y chwiliadau yma i'r awdurdod lleol (neu yr adran lywodraeth addas yng Ngogledd Iwerddon) a byddant yn ymwneud ag unrhyw fater a fydd yn ymwneud â'r awdurdod lleol, a allai effeithio ar yr eiddo. Er enghraifft, os oes gorchymyn pwrcasu gorfodol ar yr eiddo. Bydd chwiliadau lleol hefyd yn cynnwys cwestiynau ynglŷn ag unrhyw ddatblygiad neu newidiadau a gynigiwyd yn yr ardal, a allai gael effaith ar yr eiddo, megis tai, siopau a heolydd. Yn ystod yr ymchwiliad, bydd y gofrestrfa Costau Tir Lleol (Cofrestrfa dogfennau yng Ngogledd Iwerddon) yn cael ei wirio hefyd. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth am unrhyw fater fydd yn effeithio ar yr eiddo, er enghraifft, os yw'r tŷ yn un rhestredig neu'n ardal gadwriaethol; a
  • chwiliadau a wneir i'r gwerthwr gan y cyfreithiwr neu, yng Nghymru a Lloegr, trosglwyddydd trwyddedig. Bydd yna set o gwestiynau safonol ynglŷn â'r eiddo, terfyniadau perchnogaeth, anghytundebau rhwng cymdogion ac adnoddau a fydd yn aros yn yr eiddo. Mae'n bosib y bydd yna gwestiynau ychwanegol hefyd y bydd y cyfreithiwr neu'r trosglwyddydd trwyddedig yn eu hystyried yn angenrheidiol, fel trosglwyddadwyaeth y gwarantau ar gyfer unrhyw waith a wneir ar y tŷ, er enghraifft, cwrs gwrth-leithder; ac
  • o'r Gofrestrfa Dir.

Trefnu talu'r blaendal

Tra bydd y cyfreithiwr, neu, yng Nghymru a Lloegr, trosglwyddydd trwyddedig yn gwneud ymholiadau, dylech benderfynu sut y byddwch yn talu'r blaendal sy'n rhaid ei dalu pan fydd y cytundebau'n cael eu cyfnewid. Bydd y blaendal fel arfer yn 10% o bris y cartref ond mae’n medru amrywio.

Os byddwch yn gwerthu tŷ hefyd, bydd hi fel arfer yn bosib rhoi’r blaendal ar yr eiddo sy'n cael ei werthu tuag at y blaendal ar yr eiddo fyddwch chi’n ei brynu.

Os bydd codi'r blaendal yn broblem, efallai byddwch yn medru ystyried benthyg yr arian oddi wrth berthnasau neu efallai y byddwch yn medru ceisio cael benthyciad pontio gan y banc. Ond, bydd y gyfradd llog ar fenthyciad pontio yn uchel a dylech holi faint fyddai cytundeb o'r math hwn yn ei gostio. Trafodwch yr opsiynau ar gyfer benthyg arian gyda'ch cyfreithiwr neu drosglwyddydd trwyddedig.

Yswirio eiddo

Dylech sicrhau bod yr yswiriant adeiladau wedi ei drefnu o'r dyddiad y caiff y cytundebau eu cyfnewid, oherwydd unwaith y bydd y cytundebau wedi eu cyfnewid, chi sy'n gyfrifol am yr eiddo.

Mae'n bosib y gallwch gael gwybodaeth am yswiriant adeiladau gan eich benthyciwr morgais, cyfreithiwr neu, yng Nghymru a Lloegr, trosglwyddwr trwyddedig.

I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cyfnewid cytundebau

Bydd y cytundeb terfynol rhyngoch chi a'r gwerthwr yn cael ei baratoi pan:-

  • fydd y cyfreithiwr (neu'r trosglwyddwr trwyddedig) a chi yn hapus gyda chanlyniad yr holl ymholiadau
  • bydd adroddiad unrhyw arolygwr wedi ei dderbyn a phan fydd unrhyw gamau angenrheidiol wedi eu cymryd
  • bydd y cynnig morgais ffurfiol wedi ei dderbyn
  • bydd y trefniadau ynglŷn â thalu'r blaendal o 10% wedi eu gwneud
  • cytunir ar y dyddiad cwblhau.

Bydd gennych chi a'r gwerthwr gopi yr un o’r cytundeb terfynol y bydd yn rhaid i chi ei arwyddo. Yna, bydd y cytundebau sydd wedi eu harwyddo'n cael eu cyfnewid. Adeg cyfnewid y cytundebau, rydych chi a'r gwerthwr wedi eich rhwymo'n gyfreithiol gan y cytundeb ac mae'n rhaid i werthiant y tŷ fynd yn ei flaen. Os ydych yn tynnu allan, rydych yn debygol o golli'ch blaendal.

Dylech wneud trefniadau ar gyfer y cyflenwad nwy, trydan a ffôn a sicrhau bod y gwerthwr yn gwneud trefniadau ynglyn â sicrhau bod y gwerthwr yn gwneud trefniadau ynglyn â darlleniad terfynol y mesuryddion.

Cwblhau

Bydd cwblhau'r pwrcasiad yn digwydd rhyw bedair wythnos wedi cyfnewid cytundebau, er fe allai ddigwydd ynghynt. Ar y dydd sydd wedi ei gytuno ar gyfer cwblhau'r ddêl:-

  • bydd y benthyciwr morgais yn rhyddhau'r arian
  • bydd dogfennau'r eiddo yn cael eu trosglwyddo at eich cyfreithiwr neu drosglwyddydd trwyddedig
  • mae'n rhaid i'r gwerthwr drosglwyddo'r allweddu a gadael yr eiddo erbyn amser penodol

Bydd y cyfreithiwr neu'r trosglwyddydd trwyddedig (yng Nghymru a Lloegr yn unig) yn anfon eu cyfrif atoch chi ar, neu yn fuan wedi r' dyddiad cwblhau.

Yr hawl i brynu a’r Cynllun Gwerthiant Tai Statudol

Pwy sydd â'r hawl i brynu (neu yr hawl i gynllun gwerthiant ty statudol (statutory house sale) yng Ngogledd Iwerddon)

Fwy na thebyg y bydd gennych yr hawl i brynu os ydych yn denant sicr i landlord tai cymdeithasol, gan gynnwys

  • awdurdod lleol
  • cymdeithas dai sydd ddim yn un elusennol
  • yng Ngogledd Iwerddon, y Gyfarwyddiaeth Tai neu gymdeithas dai gofrestredig.

I fod yn gymwys, rhaid eich bod hefyd wedi bod yn denant sicr i landlord tai cymdeithasol ers o leiaf dwy flynedd, neu mewn rhai achosion, ers o leiaf pum mlynedd.

Ni fydd gennych yr hawl i brynu os ydych yn:-

  • tenant eiddo sy'n eiddo i elusen, er mae'n bosib y byddwch ym medru hawlio grant un taliad i'ch helpu i brynu ar y farchnad agored
  • tenant tai lloches neu dai sydd wedi eu dynodi'n beodol ar gyfer pobl hŷn.
  • yng Ngogledd Iwerddon, tenant eiddo un llawr neu llawr gwaelod (heblaw am fflat)
  • methdalwr heb ei ryddhau. Os oes dyledion rhent gennych, rydych yn dal i fedru ceisio am yr hawl i brynu ond mae angen i chi glirio unrhyw ddyled cyn i’r gwerthiant fynd yn ei flaen.

Mae gan rai tenantiaid sicr yr hyn a elwir yn 'hawl i brynu a gadwyd'. Efallai fod gennych hawl i brynu a gadwyd os yw’r awdurdod lleol wedi gwerthu eich cartref i landlord arall, er enghraifft, cymdeithas tai, tra’r oeddech yn ei rhentu. Mae eich landlord yn medru dweud wrthych os oes gennych hawl i brynu a gadwyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn bosib i awdurdodau lleol yng Nghymru atal yr hawl i brynu mewn ardaloedd ble mae tai o dan bwysau. Mae hyn yn golygu, os ydych yn denant tai cymdeithasol yng Nghymru, ac eisiau prynu eich cartref ar ryw adeg yn y dyfodol, efallai na fydd hawl gennych i wneud hynny.

Os nad ydych yn sicr a oes gennych yr hawl i brynu, dylech ofyn i'ch landlord pa gategori yr ydych yn syrthio iddo.

Os ydych yn denant sicr i awdurod lleol, dylech dderbyn gwybodaeth ysgrifenedig i'ch helpu i benderfynu am yr hawl i brynu. Yng Nghymru a Lloegr, mae'r wybodaeth yma hefyd ar gael mewn taflen gan y llywodraeth o'r enw Your right to buy your home: summary .

Mae gwybodaeth bellach ar yr hawl i brynu yn Lloegr ar gael ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.

Yn Lloegr, mae’r llywodraeth hefyd wedi sefydlu canolfan alwadau a gwefan i’ch helpu i benderfynu a ydych chi’n gymwys ac ai prynu eich cartref yw’r opsiwn gorau i chi. Gellir cysylltu â’r ganolfan alwadau ar 0300 123 0913, ac mae’r wefan yn www.communities.gov.uk/righttobuy.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar yr hawl i brynu yng Ngogledd Iwerddon ar wefan y Gwasanaeth Hawliau Tai yn: www.housingadviceni.org.uk.

Gostyngiadau

Fel tenant sydd â'r hawl i brynu, byddwch yn derbyn gostyngiad ar bris yr eiddo. Os ydych yn byw mewn ty, bydd y gostyngiad rhwng 32% a 60%, gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych wedi bod yn byw yno. Os ydych yn byw mewn fflat, bydd y gostyngiad rhwng 44% a 70%, gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych wedi byw yno. Ni fydd y gostyngiad yn fwy na throthwyon uchaf cenedlaethol. Yn Lloegr, uchafswm y gostyngiad yw £75,000, ac eithrio yn Llundain, ble mae'n £100,000 o 25 Mawrth 2013. Yng Nghymru, yr uchafswm yw £16,000.

Yng Ngogledd Iwerddon, os ydych wedi bod yn denant sicr ers 5 mlynedd, fe fyddwch yn cael gostyngiad o 20%, ac yna gostyngiad pellach o 2% am bob blwyddyn ychwanegol yr ydych wedi bod yn denant sicr hyd at uchafswm o 60%. Uchafswm y gostyngiad y medrwch ei gael yw £34,000.

Os ydych yn defnyddio’ch hawl i brynu ac yna’n gwerthu’r eiddo o fewn cyfnod penodol, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu peth o’r gostyngiad, neu’r cyfan ohono – holwch eich awdurdod lleol am y rheolau.

I ddarganfod mwy am sut fedr hyn fod yn berthnasol i chi, gweler taflen y llywodraeth Your right to buy your home , neu mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Yng Ngogledd Iwerddon, gweler llyfryn y Gyfarwyddiaeth Tai, House Sales, incorporating Equity Sharing - a Tenant’s Guide. Mae ar gael ar wefan y Gyfarwyddiaeth Tai yn www.nihe.gove.uk .

Sut i dalu

Fel tenant sydd am ddefnyddio'ch hawl i brynu, dylech geisio cael morgais gan gymdeithas adeiladu neu fanc stryd fawr. Gallech hefyd gysylltu â brocer morgais i weld a allant drefnu morgais.

Fodd bynnag, os na allwch fforddio prynu'r eiddo, gallwch brynu o dan y cynllun rent a morgais. O dan y cynllun yma, rydych yn prynu cyfran o'r eiddo ac yn gwneud ad-daliadau morgais ar y swm yr ydych wedi'i fenthyg ar gyfer hyn. Y landlord fydd yn berchen ar y gyfran o'r eiddo sy'n weddill. Yng Ngogledd Iwerddon, dan gynllun rhannu ecwiti, fe fyddwch yn medru prynu 25% o’ch eiddo, neu fwy, a thalu’r rhent ar y gweddill.

Sut i wneud cais

Yng Nghymru a Lloegr, os ydych chi am geisio am yr hawl i brynu, dylech ofyn i’ch landlord am Ffurflen Hawlio yr Hawl i Brynu (Ffurflen RTB1), neu mae copi ar gael ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.

Yr hawl i feddiannu (Yng Nghmyru a Lloegr yn unig)

Fel tenant sicr neu aswiriedig landlord cymdeithasol, er enghraifft cymdeithas dai neu gwmni tai lleol, efallai y bydd gennych yr hawl i brynu eich cartref o dan gynllun gwahanol a elwir yn 'hawl i feddiannu'. Mae'r hawl i feddiannu ond yn berthnasol i nifer cyfyngedig o adeiladau, er enghraifft, tai a adeiladwyd gydag arian cyhoeddus ar neu ar ôl Ebrill 1 1997.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn bosib i awdurdodau lleol yng Nghymru atal yr hawl i brynu neu i gaffael mewn ardaloedd ble mae tai o dan bwysau. Mae hyn yn golygu, os ydych yn denant tai cymdeithasol yng Nghymru, ac eisiau prynu eich cartref ar ryw adeg yn y dyfodol, efallai na fydd hawl gennych i wneud hynny.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r hawl i feddiannu, yn Lloegr, fe allwch gysylltu â'ch landlord neu rhowch glic ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk. Yng Nghymru, fe allwch gysylltu â’ch landlord neu rhowch glic ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.new.wales.gov.uk.

Rhannu perchnogaeth

Bwriad cynlluniau rhannu perchnogaeth yw helpu pobl sydd ddim yn medru fforddio prynu cartref mewn unrhyw ffordd arall. Fel arfer, rydych yn rhannu perchnogaeth yr eiddo gydag awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Rydych yn talu rhent i’r landlord am ran o'r eiddo, a morgais ar y gweddill. Fel arfer, fe fyddwch yn medru prynu cyfran bellach o'r eiddo yn nes ymlaen.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, fel arfer mae'n rhaid eich bod yn prynu am y tro cyntaf, a rhoddir blaenoriaeth i denantiaid awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai. Efallai y bydd pobl eraill sydd angen tai hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y cynllun. Rhaid eich bod yn medru cael eich morgais eich hun i gwrdd â'r gost o brynu cyfran o'r eiddo.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae sefydliad o'r enw Northern Ireland Co-Ownership Housing Association yn rhedeg cynllun tebyg, o'r enw'r cynllun cydberchnogaeth (co-ownership scheme).

Yng Nghymru a Lloegr, mae rhestr o landlordiaid sy’n darparu llety ble mae’r berchnogaeth yn cael ei rhannu ar gael ar y wefan rhannu perchnogaeth yn www.shared-ownership.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau rhannu perchnogaeth, gan gynnwys HomeBuy yn Lloegr, Homeswithinreach yng Nghymru a Co-Ownership yng Ngogledd Iwerddon, gweler Dod o hyd i lety.

Morgeisi

Os ydych yn dymuno prynu tŷ, efallai y byddwch yn medru bethyg arian i wneud hyn. Gelwir hyn yn forgais. Bydd y benthyciad am gyfnod sefydlog, a elwir yn dymor ac mae'n rhaid i chi dalu llog ar y benthyciad.Os nad ydych yn cadw at y taliadau a gytunwyd, gall y benthyciwr gymryd yr eiddo oddi arnoch.

Mathau o forgeisi

Mae yna sawl math o forgais ar gael. Disgrifir y rhai mwyaf cyffredin isod:-

Morgais ad-dalu

Dyma forgais ble mae'r cyfalaf a fenthyciwyd yn cael ei ad-dalu'n raddol dros gyfnod y benthyciad. Caiff y cyfalaf ei dalu mewn rhan-daliadau misol ynghyd â swm o log. Mae'r cyfalaf sy'n cael ei ad-dalu'n cynyddu'n raddol dros y blynyddoedd, tra bod y llog yn disgyn

Morgais llog yn unig

Gyda'r math yma o forgais, rydych yn talu llog ar y benthyciad mewn rhandaliadau misol, i'r benthycwr. Yn lle ad-dalu'r benthyciad bob mis, rydych yn talu i mewn i gynllun cynilo neu fuddsoddiad hir dymor a ddylai dyfu'n ddigonol i glirio'r benthyciad ar ddiwedd cyfnod y morgais. Ond, os nad ydyw'n tyfu fel yr oeddech wedi gobeithio, fe fydd diffyg gennych ac fe fydd yn rhaid i chi feddwl am ffyrdd eraill o gael hyd i'r arian yma.

Mae yna dri prif fath o forgais llog-yn-unig, sef:

  • morgais gwaddol. Mae'r math yma o forgais yn cynnwys dwy ran: y benthyciad gan y benthycwr a pholisi gwaddol a gymerir gyda chwmni yswiriant. Rydych chi'n talu llog ar y benthyciad mewn rhan-daliadau misol, i'r benthycwr, ond ni fyddwch chi'n talu'r benthyciad mewn gwirionedd. Byddwch yn talu polisi gwaddol yn fisol i gwmni yswiriant. Ar ddiwedd cyfnod y morgais, mae'r polisi gwaddol yn aeddfedu ac yn cynhyrchu swm ariannol a ddylai dalu'r benthyciad yn ôl i'r benthycwr. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd polisi gwaddol yn cynhyrchu swm ychwanegol. Ond, mae yna berygl hefyd na fydd y polisi gwaddol yn ddigon i dalu'r benthyciad ar ddiwedd cyfnod y morgais. Os ydyw'ch darparwr gwaddol wedi dweud wrthych na fydd eich polisi yn ddigon i dalu eich benthyciad, dylech gael cyngor ariannol annibynnol. Mae gwybodaeth ar ddelio gyda pholisiau gwaddol ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn www.moneyadviceservice.org.uk.
  • morgais pensiwn. Mae'r morgais yma yn bennaf ar gyfer pobl hunan-gyflogedig. Mae'r taliadau misol yn cynnwys taliadau llog ar y benthyciad a chyfraniadau at gynllun pensiwn. Pan fydd yn benthyciwr yn ymddeol, mae yna swm ar gyfer talu'r benthyciad a phensiwn.
  • morgais ISA. Gyda morgais ISA, rydych chi'n talu llog i'r benthycwr, a chyfraniadau at Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) a ddylai dalu'r benthyciad i ffwrdd.

Morgais Islamaidd

Gyda morgais Islamaidd, nid oes unrhyw rai o'r taliadau misol yn cynnwys llog. Yn lle, mae'r benthcwr yn codi tâl am fenthyg y cyfalaf i chi i brynu'ch eiddo ac fe ellir ei ad-ennill mewn sawl ffordd, er enghraifft trwy godi rhent arnoch.

Ble i gael morgais

Mae'n bosib cael morgais o nifer o wahanol ffynonellau. Dyma rai opsiynau sydd ar gael:-

  • cymdeithasau adeiladu
  • banciau
  • cwmnïau yswiriant. Maen nhw ond yn darparu morgeisi gwaddol (gweler uchod)
  • efallai y bydd rhai cwmnïau adeiladu mawr yn trefnu morgeisi ar eu tai newydd eu hunain, er enghraifft, yn Lloegr, dan gynllun o’r enw NewBuy
  • tai cyllid
  • cwmnïau morgais arbenigol.

I rai grwpiau o bobl, fel y rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf, a gweithwyr allweddol, efallai y bydd hefyd yn bosib benthyg peth o’r arian sydd ei angen arnoch i brynu cartref o ffynonellau eraill a gefnogir gan y llywodraeth. Fel arfer, fe fydd angen i chi fenthyg gweddill yr arian gan fenthyciwr morgais arferol fel banc neu gymdeithas adeiladu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth i’ch helpu i brynu eich cartref eich hun, yn Lloegr gweler HomeBuy yn Dod o hyd i lety ac, yng Nghymru, gweler HomeswithinReach yn Dod o hyd i lety.

Yn ogystal â chynigion morgais arferol, efallai y bydd y benthycwyr hefyd yn cynnig ambell ddêl sydd wedi eu cynllunio'n arbennig i bobl sydd ddim yn gymwys i gael morgais arferol.

Gelwir y math yma o ddêl yn forgais eilaidd (neu 'sub prime') neu'n forgais ‘credyd croes’. Maen nhw wedi eu hanelu at bobl sydd wedi cael trafferthion ariannol neu broblemau credyd yn y gorffennol. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael eich cartref wedi'i ailfeddiannu neu Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ) yn eich erbyn neu efallai i chi gael eich gwneud yn fethdalwr. Efallai y byddwch hefyd yn cael trafferth profi bod gennych incwm rheolaidd neu ddibynadwy.

Fel arfer, mae morgeisi eilaidd neu gredyd croes yn codi cyfradd uwch o log na morgeisi safonol. Efallai y bydd y benthycwyr hefyd yn cyfyngu'r swm y mae'n barod i'w fenthyg i chi.

Cyn cymryd morgais eilaidd neu gredyd croes, dylech gael peth cyngor ariannol annibynnol.

Os ydych yn ystyried cymryd morgais dylech sicrhau eich bod yn ymchwilio i'r holl opsiynau gwahanol sydd ar gael, a’ch bod ond yn benthyg yr hyn fedrwch chi fforddio ei ad-dalu. Os nad ydych yn ad-dalu’r taliadau y cytunwyd arnynt, mae’r benthyciwr yn medru adfeddiannu’r eiddo.

Mae mwy o wybodaeth ar forgeisi ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn www.moneyadviceservice.org.uk.

Os oes gennych unrhyw amheuon, efallai y byddwch am siarad â ymgynghorydd ariannol annibynnol. I gael help i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol, rhowch glic ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Cynllun NewBuy yn Lloegr

Mae nifer o gwmnïau adeiladu a benthycwyr yn cymryd rhan yn y cynllun NewBuy. Dan y cynllun hwn, mae benthyciwr yn medru rhoi morgais o hyd at 95% o werth cartref a adeiladwyd o’r newydd, sy’n golygu bod angen llai o flaendal arnoch nag sydd ei angen fel arfer i gael morgais.

Cewch eich asesu gan y benthyciwr yn y ffordd arferol ac mae’n rhaid i chi gwrdd â meini prawf fforddadwyedd a chredyd y benthycwyr er mwyn i chi fod yn gymwys.

Rhaid bod eiddo dan y cynllun NewBuy:

  • yn costio dim mwy na £500,000
  • yn eiddo preswyl a adeiladwyd o’r newydd
  • yn berchnogaeth lawn. Nid yw NewBuy ar gael ar gyfer eiddo ble mae’r berchnogaeth wedi’i rhannu nac eiddo ble mae’r ecwiti wedi’i rannu
  • yn brif gartref i’r prynwr. Nid yw NewBuy ar gael i brynu ail gartrefi, i fuddsoddwyr nac i brynu er mwyn gosod
  • yn cael ei brynu gan ddinesydd o’r Deyrnas Unedig a rhywun sydd â’r hawl i aros yn y wlad am gyfnod penagored.

Mae gwybodaeth bellach ar y cynllun ar wefan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi yn www.cml.org.uk.

Defnyddio brocer i gael morgais

Yn lle mynd yn syth at fenthyciwr fel cymdeithas adeiladu am forgais, gallech ddefnyddio brocer. Gallai brocer fod yn asiant gwerthu tai, neu frocer morgais neu yswiriant. Bydd y brocer yn gweithredu fel asiant i gyflwyno pobl at ffynhonnell ar gyfer benthyciad morgais i'w helpu i brynu cartref.

Efallai y byddwch am ddefnyddio brocer oherwydd mae’n arbed amser i chi. Ond, mae rhai benthycwyr yn cynnig cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid ac efallai na fydd broceriaid yn medru cynnig y cynnyrch hyn. Felly, efallai y byddai’n well i chi chwilio i weld beth arall sydd ar gael.

Mae yna reolau ynglyn â faint mae brocer yn medru ei godi am ei wasanaethau. Hefyd, ni ddylai broceriaid wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, wrth gynnig ei wasanaethau i chi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch broceriaid morgais, rhowch glic ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Cwyno ynglyn â benthycwr morgais

Os ydych am gwyno ynglyn â brocer neu fenthycwr morgais, dylech drafod y mater gyda nhw yn gyntaf, ac yna ystyried gwneud cwyn swyddogol. Os ydych yn credu bod y benthycwr morgais neu’r brocer wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, rydych yn medru cwyno am hyn hefyd. Dylai fod gan bob brocer neu fenthycwr ei weithdrefn gwyno mewnol ei hun. Os ydych wedi dilyn y weithdrefn hon ac yn dal i fod yn anfodlon, fe allwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol. Dyma'r manylion cyswllt:-

Financial Ombudsman Service
South Quay Plaza
183 Marsh Wall
London
E14 9SR


Llinell gymorth defnyddwyr: 0800 023 4567 (rhad ac am ddim i bobl sy’n ffonio o linell dir) neu 0300 123 9123 (rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ffôn symudol sy’n talu ffi misol am alwadau i rifau sy’n dechrau gyda 01 neu 02) (Llun – Gwener 8.00yb-6.00yh; Sadwrn 9.00yb-1.00yp)
E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.