Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Pwerau'r heddlu

This advice applies to Cymru

Pwerau cyffredinol yr heddlu

Mae llawer o'r rheolau sy’n delio gydag ymddygiad yr heddlu wedi eu hamlinellu mewn codau ymarfer, ac mae yna gyfreithiau hefyd ynghylch rhai o'r pethau y gall yr heddlu eu gwneud a phethau na allant eu gwneud.

Mae’r heddlu hefyd yn dod o dan y gyfraith ynghylch gwahaniaethu, sy’n golygu ei fod yn erbyn y gyfraith iddynt wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • oed
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tuedd rhywiol.

Os bydd yr heddlu’n ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn cydymffurfio gyda'r gyfraith neu'r codau ymarfer, yna fe allai olygu eich bod chi'n gallu dwyn achos yn eu herbyn ac y gallent gael eu herlyn am droseddu neu eu disgyblu.

Nid yw’r wybodaeth hon yn berthnasol i bob sefyllfa ac, os ydych yn cael trafferth gyda’r heddlu, dylech gael cyngor pellach bob tro. Os ydych yn cael rhybudd neu maen nhw’n mynd â chi i orsaf yr heddlu, dylech gysylltu â chyfreithiwr bob tro.

Stopio a mynnu esboniad

Mae’r heddlu’n medru stopio unrhyw un mewn lle cyhoeddus a gofyn i chi esbonio’ch hun. Er enghraifft, maen nhw’n medru gofyn i chi esbonio’r hyn yr ydych yn ei wneud, eich ymddygiad, pam yr ydych chi mewn ardal benodol neu pam fod gennych unrhyw beth penodol yn eich meddiant. Pan fydd yr heddlu’n eich stopio ac yn gofyn am esboniad, nid oes angen i chi roi’ch manylion personol. Nid oes rhaid i’r heddlu wneud cofnod na rhoi derbynneb i chi. Ond, efallai y gofynnir i chi roi’ch ethnigrwydd.

Stopio ac archwilio

Pryd mae'r heddlu'n medru eich stopio a’ch archwilio

Mae'r heddlu'n medru stopio a archwilio unrhyw berson, cerbyd, ac unrhyw beth yn neu ar y cerbyd, am eitemau penodol. Fodd bynnag, cyn iddyn nhw eich stopio mae'n rhaid iddynt roi rhesymau dilys dros amau y byddant yn dod o hyd i un a’i:

  • nwyddau wedi eu dwyn, neu
  • gyffuriau, neu
  • arf ymosodol, neu
  • unrhyw eitem a wnaed neu a addaswyd i’w ddefnyddio mewn trosedd benodol, er enghraifft lladrad, neu
  • cyllyll, neu
  • eitemau a allai ddifrodi neu ddinistrio eiddo, er enghraifft caniau chwistrellu paent.

Os oes digwyddiad treisgar difrifol wedi cymryd lle, mae'r heddlu'n medru eich stopio chi a'ch chwilio chi heb sail rhesymol dros amau y byddant yn dod o hyd i'r eitemau.

Mae’r heddlu hefyd yn medru chwilio bws pêl droed sy'n mynd i neu o gêm os oes ganddynt reswm da dros amau bod yna alcohol ar y bws neu fod rhywun yn feddw ar y bws.

Mae’r heddlu hefyd yn medru eich stopio a’ch chwilio chi, neu eich cerbyd, os oes yna sail resymol iddynt amau eich bod yn derfysgwr. Ond, nid oes angen sail resymol arnynt os ydynt wedi cael caniatâd i chwilio mewn ardal benodol.

Nid oes hawl gan yr heddlu i’ch stopio a’ch chwilio chi oherwydd eich hil neu gefndir crefyddol yn unig.

Pan fydd yr heddlu'n eich stopio i'ch archwilio, mae'n rhaid iddynt roi'r wybodaeth ganlynol i chi cyn iddynt fedru dechrau chwilio:

  • prawf o'u cerdyn warant
  • gwybodaeth ar bwerau'r heddlu i stopio ac archwilio
  • gwybodaeth ar eich hawliau
  • enw a gorsaf heddlu'r heddwas
  • y rheswm dros eich archwilio
  • yr hyn y mae'n nhw'n credu y byddant yn ei ddarganfod wrth eich archwilio.

Os na chewch gopi o gofnod y chwiliad, fe fyddwch yn medru gofyn am gopi. Rhaid i chi wneud hyn o fewn tri mis i ddyddiad y chwiliad.

Ym mhob un o’r sefyllfaoedd yma lle mae gan yr heddlu hawl i stopio ac archwilio, ni ddylent ofyn i chi dynnu eich dillad oni bai am got, siaced neu fenig, yn gyhoeddus. Mae'r heddlu'n medru eich archwilio'n fwy trwyadl yn breifat, er enghraifft, yn fan yr heddlu. Rhaid i heddwas o'r un rhyw â chi wneud yr archwiliad.

Maen nhw’n medru cynnal chwiliad mwy manwl neu ofyn i chi ddadwisgo mewn man preifat, er enghraifft yn fan yr heddlu. Rhaid i swyddog yr heddlu sydd o’r un rhyw â chi gynnal yr archwiliad os ydyn nhw’n gofyn i chi ddadwisgo.

Os cewch eich arestio, gall yr heddlu eich chwilio am unrhyw beth fedrech chi ei ddefnyddio i’ch helpu i ddianc neu am dystiolaeth sy’n ymwneud â’r drosedd a arweiniodd at eich arestiad.

Mewn rhai amgylchiadau gall swyddog yr heddlu o radd arolygydd neu uwch roi caniatâd yr heddlu i stopio ac archwilio mewn ardal am gyfnod penodol o amser - cyhyd a'i fod am gyfnod llai na 24 awr. Pan fo’r caniatâd hwn mewn grym gall yr heddlu chwilio am arfau ymosodol neu offer peryglus p'un ai fod ganddynt achos dros amau fod pobl yn cario’r eitemau yma a’i peidio. Mae swyddog sydd o radd prif gwnstabl cynorthwyol neu uwch hefyd yn medru rhoi caniatâd i gynnal archwiliadau mewn ardal er mwyn atal gweithredoedd terfysgol.

Ble allan nhw eich archwilio chi

Gall yr heddlu wneud archwiliad mewn unrhyw le sy’n agored i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu y gallant chwilio yn unrhyw le yn ogystal â’ch cartref neu eich gardd, neu gartref neu ardd rhywun sydd wedi rhoi caniatâd i chi fod yno. Os oes gan yr heddlu reswm da dros gredu nad ydych, mewn gwirionedd, yn eich cartref eich hun neu eich bod yn rhywle heb ganiatâd y perchennog, yna gallant eich archwilio. Mae yna reolau gwahanol ar gyfer pwerau'r heddlu i fynd i mewn i'ch cartref chi eich hun – gweler y pennawd Pwerau mynediad.

Ydy’r heddlu’n medru defnyddio grym

Gall yr heddlu ddefnyddio grym rhesymol wrth stopio ac archwilio, ond rhaid iddynt wneud pob ymdrech i’ch perswadio i gydweithredu. Dylent ddefnyddio grym fel opsiwn olaf yn unig.

Pryd mae'r heddlu'n medru eich holi chi

Ni ddylai’r heddlu eich holi gyda golwg ar gael tystiolaeth nes eu bod wedi eich rhybuddio chi.  Os ydych wedi cael eich arestio, ni ddylid eich cyfweld cyn mynd â chi i orsaf yr heddlu ac eithrio mewn sefyllfaoedd lle:

  • Fyddai oedi yn arwain at ymyrraeth gyda thystiolaeth sy’n gysylltiedig â throsedd neu niwed iddo
  • Byddai oedi yn arwain at niwed corfforol i eraill
  • Byddai oedi yn rhybuddio rhywun yr amheuir eu bod wedi troseddu ond sydd heb gael eu harestio eto
  • Byddai oedi yn rhwystro rhag adfer yr eiddo sy’n gysylltiedig â’r drosedd.

Os cewch eich rhybuddio heb i chi gael eich arestio, mae'n rhaid i chi gael gwybod eich bod yn rhydd i adael pan fyddwch chi'n dymuno gadael.

Pwerau mynediad

Pryd mae’r heddlu’n medru cael mynediad ac archwilio

Mae’r heddlu’n medru mynd i mewn i adeilad heb warant pan fydd rhywbeth difrifol neu beryglus wedi digwydd yn unig. Mae’r sefyllfaoedd ble y gall yr heddlu fynd i mewn i adeilad heb warant yn cynnwys pan fyddan nhw am:

  • ddelio gyda thorcyfraith neu ei atal
  • defnyddio warant arestio
  • arestio person mewn cysylltiad â throseddau penodol
  • ail-ddal rhywun sydd wedi dianc o’r ddalfa
  • achub bywyd neu atal difrod difrifol i eiddo.

Ar wahân i  adegau pan eu bod yn atal niwed difrifol i fywyd neu eiddo, mae’n rhaid i'r heddlu gael rheswm da dros gredu fod y person y maent yn chwilio amdano yn yr adeilad.

Os bydd yr heddlu yn eich arestio, gallant gael mynediad ac archwilio unrhyw adeilad lle roeddech chi yn ystod neu yn union cyn i chi gael eich arestio. Fe allant eich archwilio am dystiolaeth yn ymwneud â'r drosedd y cawsoch eich arestio yn ei chylch yn unig, ac maen rhaid bod ganddyn nhw rheswm da dros gredu bod yna dystiolaeth. Yn ogystal maent yn medru archwilio unrhyw adeilad lle mae person a arestiwyd am droseddau difrifol penodol yn byw. Eto, mae’n rhaid bod gan y swyddog sy’n cynnal yr archwiliad reswm da dros amau bod yna dystiolaeth yn yr adeilad sy’n ymwneud â’r drosedd neu â throsedd debyg arall.

Mewn amgylchiadau eraill, mae'n rhaid fod gan yr heddlu warant archwilio cyn y gallant gael mynediad i’r adeilad. Dylent fynd i mewn i’r adeilad ar adeg resymol o’r dydd oni bai y byddai hyn yn rhwystro eu harchwiliad. Pan fo’r preswylydd yn bresennol, mae’n rhaid i’r heddlu ofyn am ganiatâd i archwilio’r adeilad – unwaith eto, oni bai y byddai hyn yn rhwystro’r archwiliad.

Pan yn cynnal archwiliad mae’n rhaid i swyddogion yr heddlu:

  • gyflwyno eu hunain ac – os nad ydynt mewn lifrai – ddangos eu cerdyn warant, a
  • egluro pam eu bod eisiau cynnal archwiliad, hawliau'r preswyliwr ac a ydyn nhw'n cynnal yr archwiliad gyda warant archwilio ai peidio.

Os oes gan yr heddlu warant gallant orfodi mynediad os:

  • yw’r preswylydd wedi gwrthod mynediad iddynt, neu
  • mae'n amhosib cyfathrebu gyda’r preswylydd, neu
  • mae'r preswylydd yn absennol, neu
  • nid yw’r adeilad yn cael ei breswylio, neu
  • mae ganddynt resymau da dros gredu os na wnant orfodi mynediad y byddai’n rhwystro’r archwiliad, neu y byddai’n cael ei gosod mewn perygl.

Pryd mae’r heddlu’n medru meddiannu eiddo

Dylai’r heddlu feddiannu eiddo dim ond os oes ganddynt reswm da dros gredu:

  • eu bod wedi eu meddiannu yn anghyfreithlon; neu
  • eu bod yn dystiolaeth mewn perthynas â throsedd.

Yn y naill achos neu'r llall, mae'n rhaid bod ganddynt hefyd reswm da dros gredu ei bod hi’n angenrheidiol meddiannu'r nwyddau i’w hatal rhag mynd ar goll, cael eu dwyn neu eu difetha.

Eich hawliau wedi'ch arestio

Pryd mae’r heddlu’n medru eich arestio

Gall yr heddlu eich arestio os oes ganddynt warant arestio dilys. Hefyd mae yna rai amgylchiadau lle gallant eich arestio heb warant, sef:

  • eich bod yn y weithred o gyflawni troseddau penodol
  • os oes ganddynt reswm da dros amau eich bod yn cyflawni troseddau penodol
  • os oes ganddynt reswm da dros amau eich bod wedi cyflawni troseddau penodol
  • eich bod ar fin cyflawni troseddau penodol
  • os oes ganddynt reswm da i amau eich bod ar fin cyflawni troseddau penodol.

Hefyd gall yr heddlu eich arestio os oes ganddynt reswm da dros amau eich bod wedi cyflawni neu wedi ceisio cyflawni unrhyw drosedd, neu os ydych yn cyflawni neu’n ceisio cyflawni trosedd ond ymddengys iddynt ei bod yn anymarferol neu’n amhriodol cyflwyno gwys. Fodd bynnag, gallant ond wneud hyn os yw un o’r amodau canlynol yn berthnasol:

  • nid ydynt yn gwybod eich enw, ac ni allant ddod o hyd iddo
  • mae ganddynt reswm da dros amau eich bod wedi rhoi eich enw anghywir
  • nid ydych wedi rhoi cyfeiriad boddhaol. Mae hyn yn golygu cyfeiriad lle gall yr heddlu gysylltu â chi
  • mae ganddynt reswm i gredu eich bod wedi rhoi cyfeiriad ffug
  • mae'r arestiad yn angenrheidiol er mwyn eich atal rhag peri anaf corfforol i chi eich hunain neu i eraill i ddioddef anaf corfforol, achosi colled neu ddifrod i eiddo, cyflawni trosedd yn erbyn gwedduster cyhoeddus, neu achosi rhwystr anghyfreithlon ar y briffordd
  • mae ganddynt reswm da i gredu bod arestiad yn ofynnol er mwyn amddiffyn plentyn neu berson bregus arall.

Os ydynt yn eich arestio oherwydd eich bod wedi methu â rhoi cyfeiriad boddhaol iddynt, mae'n rhaid iddynt yn gyntaf egluro y gellir eich arestio a rhoi’r cyfle i chi i roi’r cyfeiriad cywir iddynt.

Beth ddylai ddigwydd mewn arestiad

Dylai’r heddlu ddefnyddio grym rhesymol yn unig wrth gyflawni arestiad a dylent eich hysbysu eich bod wedi cael eich arestio cyn gynted ag y bo modd. Wedi’r arestiad, dylent egluro pam eu bod wedi eich arestio. Mae’n rhaid i’r heddlu eich rhybuddio oni bai ei bod hi’n anymarferol gwneud hynny neu os gwnaethant eich rhybuddio yn union cyn i chi gael eich arestio.

Os bydd yr heddlu’n eich arestio yn rhywle arall heblaw gorsaf heddlu, dylent fynd â chi i orsaf yr heddlu cyn gynted â phosib. Os ydynt yn eich arestio am ddwyn a chawsoch eich gweld yn mynd ag eiddo ond nid yw’r eiddo gennych wedi eich dilyn, gall swyddog yr heddlu olrhain eich camau. Mae’n bosib y bydd hyn yn eu galluogi i adfer yr eiddo. Dylent fynd â chi i orsaf yr heddlu unwaith iddynt adfer yr eiddo.

Yng ngorsaf yr heddlu

Yng ngorsaf yr heddlu, dylai'r heddlu eich hysbysu o’r canlynol:

  • eich hawl i hysbysu rhywun eich bod wedi cael eich arestio
  • eich hawl i gyngor cyfreithiol (gweler y pennawd Cyngor cyfreithiol)
  • eich hawl i edrych ar godau ymarfer yr heddlu.

Gellir oedi'r hawl i gyngor cyfreithiol mewn rhai achosion penodol sy'n ddifrifol iawn. Hefyd, dylai’r heddlu hefyd eich hysbysu nad oes yn rhaid i chi ddefnyddio’r hawliau yma ar unwaith. Gallwch eu defnyddio ar unrhyw adeg tra eich bod yn y ddalfa. Dylid rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi o’r hawliau tra eich bod chi yng ngorsaf yr heddlu, a'ch hawl i gael copi ysgrifenedig o’ch cofnod yn y ddalfa pan gewch eich rhyddhau. Fe fydd yr heddlu’n gofyn i chi nodi ar y cofnod dalfa p'un ai eich bod yn dymuno cael cyngor cyfreithiol a byddant hefyd yn gofyn i chi arwyddo’r cofnod.

Os ydych yn gofyn am gael hysbysu person eich bod wedi cael eich arestio, dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib, oni bai eich bod wedi cael eich arestio am droseddau penodol a bod swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) yn caniatáu oedi. Er mwyn caniatáu oedi, dylai’r swyddog fod yn fodlon fod yna resymau da dros gredu y byddai hysbysu rhywun eich bod wedi cael eich arestio yn:

  • arwain at ymyrraeth gyda thystiolaeth
  • effeithio ar allu’r heddlu i adfer eiddo
  • arwain at rybuddio eraill a ddrwgdybir
  • atal adfer enillion yn deillio o droseddau cyffuriau.

Os caiff oedi ei awdurdodi, dylai’r heddlu ddweud wrthych ac ysgrifennu’r rheswm yn eich cofnod yn y ddalfa. Y cyfnod hiraf y gellir oedi yw 36 awr oni bai eich bod yn cael eich dal mewn perthynas a throsedd derfysgol, ac yn yr achos yma 48 awr yw'r cyfnod hiraf. Os oes rhywun yn gofyn am eich lleoliad bryd hynny, cyhyd a’ch bod chi’n cytuno, dylid eu hysbysu, oni bai fod swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) yn penderfynu na ddylid gwneud hyn.

Am ba hyd mae’r heddlu’n medru eich cadw

Ni ddylai’r heddlu eich cadw yn y ddalfa am fwy na 24 awr heb eich cyhuddo, oni bai fod swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) neu ynad yn rhoi caniatâd.

Gall swyddog o raddfa arolygwr (neu uwch) awdurdodi carchariad am 12 awr pellach. Gall ynadon awdurdodi carchariadau pellach hyd at uchafswm o 96 awr.

Os ydynt yn eich amau o drosedd ac rydych wedi cael eich rhyddhau ar fechnïaeth, nid yw’r amser hwn yn cyfrif tuag at y cyfnod o 96 awr yn y ddalfa.

Unwaith y cewch eich cyhuddo, os ydych yn dal i fod yn y ddalfa, dylid eich dwyn gerbron yr ynadon ar y diwrnod canlynol (ond nid ar Ddydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac unrhyw ddydd Sul).

Os cawsoch eich arestio dan amheuaeth o derfysgaeth, mae rheolau gwahanol yn berthnasol. Mae barnwr yn medru rhoi caniatâd i'ch cadw yn y ddalfa, mewn camau, am hyd at 14 diwrnod.

Hawl i ymdawelu

Er bod gennych hawl i ymdawelu, gall y llysoedd ddwyn eich tawelwch i ystyriaeth pan yn penderfynu p'un ai eich bod yn euog ai peidio.

Cyngor cyfreithiol

Mae gennych yr hawl i gael cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd. Nid yw hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Fe fydd eich cais yn cael ei drosglwyddo at Ganolfan Alwadau Cyfreithwyr Amddiffyn. Os yw'r drosedd yn un llai difrifol, fe fydd y Ganolfan Alwadau yn eich cyfeirio chi at wasanaeth o'r enw Criminal Defence Service Direct. Mae'r gwasanaeth hwn yn delio gyda throseddau fel yfed a gyrru, ymddygiad afreolus a thorri mechnïaeth. Mae Criminal Defence Service Direct yn cyflogi cyfreithwyr a fydd yn rhoi cyngor cyfreithiol i chi dros y ffôn. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i gael cyngor cyfreithiwr wyneb yn wyneb o hyd os:

  • rydych wedi eich cyhuddo o drosedd mwy difrifol, neu
  • mae'r heddlu'n bwriadu eich cyfweld o dan rybudd, neu
  • os ydych yn cael eich gweld fel person sy'n agored i niwed.

Rydych yn medru dewis eich cyfreithiwr eich hun ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am gyngor os oes ganddynt gytundeb gyda'r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (y CDS). Fe fydd y Ganolfan Alwadau yn cysylltu â'ch cyfreithiwr ar eich rhan.

Unwaith y byddwch chi wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, fel arfer ni ddylai'r heddlu eich cwestiynu. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau hyd nes i chi siarad â chyfreithiwr.

Olion bysedd, ffotograffau a samplau DNA

Os ydych wedi cael eich arestio, eich cyhuddo, eich cael yn euog neu wedi cael rhybudd neu gerydd am drosedd y gellir ei chofnodi yng Nghymru a Lloegr, mae gan yr heddlu y pŵer i gymryd olion eich bysedd, ffotograffau ohonoch a sampl o’ch DNA heb eich caniatâd, i atal troseddau ac i ganfod troseddau.

Os ydych wedi eich cael yn euog o drosedd dreisiol, rywiol neu derfysgol ddifrifol tu allan i Gymru a Lloegr, mae gan yr heddlu hawl hefyd i gymryd olion eich bysedd, ffotograffau ohonoch a sampl o’ch DNA.

Hyd yn oed os na fyddan nhw wedi eich cael yn euog o drosedd, mae gan yr heddlu y pŵer i gadw olion eich bysedd a’r sampl o’ch DNA ar gronfa ddata DNA, ar hyn o bryd.

Pobl ifanc

Os ydych yn iau na 17 mlwydd oed a’ch bod yn cael eich cadw gan yr heddlu, dylid hysbysu oedolyn addas – fel arfer eich rhiant neu warcheidwad, cyn gynted â phosib. Ni ddylai’r heddlu eich cyfweld nes bod eich rhiant yn bresennol, oni bai y byddai oedi yn golygu perygl uniongyrchol o niwed i rywun neu ddifrod difrifol i eiddo.

Pobl gydag anawsterau dysgu

Os oes gennych anawsterau dysgu, dylai’r heddlu eich cyfweld dim ond pan fo person cyfrifol yn bresennol, oni bai y byddai oedi yn golygu perygl o anaf neu niwed i eiddo neu bobl. Dylai un o’r canlynol fod gyda chi yn ystod cyfweliad:

  • Perthynas neu berson arall sy’n gyfrifol am eich gofal, neu
  • Person sydd ddim yn cael ei g/chyflogi gan yr heddlu, ac sy’n brofiadol wrth ddelio gyda phobl sydd ag anawsterau dysgu, neu
  • Oedolyn cyfrifol arall sydd ddim yn cael ei g/chyflogi gan yr heddlu.

Pobl o dramor

Os ydych yn dod o wlad tramor, mae gennych hawl i ddweud wrth eich Uchel Gomisiwn, llysgenhadaeth neu gonsyliaeth ble ydych chi. Os ydych chi o wledydd penodol lle mae gan y Deyrnas Unedig gytundeb arbennig, fe fydd yr Uchel Gomisiwn, llysgenhadaeth neu gonsyliaeth yn cael gwybod am eich arestiad yn awtomatig.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf

Os ydych yn ei gweld hi’n anodd deall Saesneg ac nid yw’r swyddog sy’n eich cyfweld yn medru siarad eich iaith, dylid darparu cyfieithydd ar eich cyfer. Ni ddylai'r heddlu eich cyfweld nes bod y cyfieithydd yn bresennol oni bai y byddai oedi yn golygu perygl uniongyrchol o niwed i rywun neu golled neu ddifrod difrifol i eiddo.

Pobl ddall a phobl gydag anawsterau clywed/llefaru

Os oes gennych anawsterau clywed neu lefaru, dylai’r heddlu gynnig cyfieithydd i chi. Ni ddylid eich holi nes bod y cyfieithydd yn bresennol oni bai y byddai oedi yn golygu perygl uniongyrchol o niwed i berson neu golled neu ddifrod difrifol i eiddo, neu onid ydych chi'n cytuno'n ysgrifenedig i gael cyfweliad heb un.

Pwerau'r heddlu i ddelio gyda chi heb fynd i'r llys

Os yw'r heddlu wedi casglu digon o dystiolaeth i ddwyn achos troseddol yn eich erbyn, efallai y cewch eich cyhuddo a'ch erlyn. Fe fydd hyn yn golygu mynd i'r llys. Fodd bynnag, nid yw'r llys yn gorfod delio gyda phob trosedd. Efallai y bydd y r heddlu'n medru delio gyda chi gan ddefnyddio opsiwn arall yn lle eich erlyn. Gelwir yr opsiynau eraill hyn yn ddatrysiadau tu allan i'r llys neu, yn Saenseg, out-of-court disposals.

Er enghraifft, mae'n bosib rhoi rhybudd canabis i chi os cewch eich dal gydag ychydig bach o ganabis at eich defnydd personol chi eich hun. Enghraifft arall yw bod yr heddlu'n medru rhoi rhybudd ffurfiol i chi neu rybudd o gosb (math o ddirwy) am anrhefn. Mae'n rhaid i chi gytuno i ddatrysiad tu allan i'r llys.

Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn cytuno, oherwydd mae datrysiad tu allan i'r llys yn medru effeithio ar eich dyfodol. Er enghraifft, efallai y byddai'n cael ei ddatgelu i'ch cyflogwr ac fe fydd yn cyfrif fel cofnod troseddol. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar wefan GOV.UK website at www.gov.uk.

Cwynion

Os ydych yn teimlo bod yr heddlu wedi eich trin yn annheg, mae'r camau gorau i'w cymryd yn dibynnu ar natur eich cwyn. Er enghraifft, os yw’r heddlu wedi dod i feddiant tystiolaeth trwy dorri rheolau’r cod ymarfer, mae’n bosib y bydd llys yn gwrthod derbyn tystiolaeth yr heddlu mewn unrhyw achos yn eich erbyn ac mae'n bosib y bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Neu, efallai y byddwch am ddefnyddio gweithdrefn gwynion yr heddlu i gwyno am ymddygiad swyddog unigol, neu i gymryd camau yn y llys (gweler y pennawd Erlyn yr heddlu).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich cyfreithiwr os ydych yn credu bod yr heddlu wedi torri cod ymarfer, os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu os ydych wedi dioddef gwahaniaethu).

Os ydych am gwyno, dylech gael cyngor pellach gan gyfreithiwr. Hefyd, fedrwch chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Gwneud cwyn

  • Rydych yn medru cwyno yn erbyn yr heddlu trwy’r dulliau canlynol:
  • cysylltu â’r heddlu dan sylw. Mae manylion cyswllt heddluoedd unigol ar wefan Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn www.ipcc.gov.uk.
  • mynd i’ch gorsaf heddlu leol. Gofynnwch am gael gweld y swyddog sydd ar ddyletswydd
  • cysylltu â Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (yr IPCC). Rydych yn medru gwneud hyn dros y ffôn, drwy'r e-bost, post, ffacs neu finicom. Gallwch lawrlwytho neu lenwi ffurflen gwynion ar-lein hefyd yn www.ipcc.gov.uk.
  • cysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol, y Tîm Troseddau Ieuenctid, Cyngor Cydraddoldeb Hil, Gwasanaeth Prawf neu warden cymunedol am help. Mae cyfreithiwr neu Aelod Seneddol hefyd yn medru cwyno ar eich rhan

Mae’r heddlu lleol yn ymchwilio i fwyafrif y cwynion. Ond, fe fydd yr IPCC yn ymchwilio i’r cwynion mwy difrifol.

Mae gwybodaeth bellach yn nhaflen yr IPCC 'How to make a complaint against the police'. Mae’r daflen yn dweud wrthych sut fydd eich cwyn yn cael ei thrin a beth ddylech chi ei wneud os ydych yn anhapus gyda’r canlyniad.

Mae gwybodaeth bellach ar wefan yr IPCC yn www ipcc.gov.uk. Mae gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd gwahanol, print bras, print hawdd ei ddarllen ac ar fformat Iaith Arwyddion Prydain.

Dyma fanylion cyswllt yr IPCC:

Independent Police Complaints Commission
5th floor
90 High Holborn
London
WC1V 6BH
Ffôn: 0300 020 0096
Minicom: 020 7404 0431
Ffacs: 02920 361 948
E-bost: enquiries@ipcc.gsi.gov.uk
Gwefan: www.ipcc.gov.uk

Erlyn yr heddlu

Os yw eich cwyn yn ddifrifol, efallai eich bod yn dymuno erlyn yr heddlu. Gallwch erlyn yr heddlu yn yr un modd ag y medrwch erlyn aelod o’r cyhoedd. Os ydych eisiau erlyn yr heddlu, dylech siarad â chyfreithiwr arbenigol.

Ffynonellau help

Liberty

Mae Liberty yn ymgyrchu ar faterion o hawliau sifil a hawliau dynol, gan gynnwys cwynion yn erbyn yr heddlu. Mae ganddynt wasanaeth cyngor ar gyfer y cyhoedd ble mae aelodau’r cyhoedd yn medru cael cyngor. Cyfeiriad Liberty yw:

21 Tabard Street
London
SE1 4LA

Llinell Gyngor ar gyfer y Cyhoedd: 08451 232307 (Dydd Llun a Dydd Iau 6.30yh-8.30yh; Dydd Mercher 12.30yp tan 2.30yp)
Gwefan: www.liberty-human-rights.org.uk

Police Action Centre

Mae canolfan o’r enw Police Action Centre yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim er mwyn i aelodau’r cyhoedd gael gwybodaeth a chyngor ar gwyno yn erbyn yr heddlu. Dylai’r cyhoedd gysylltu â’r ganolfan trwy e-bost yn gyntaf. Dyma’r manylion cyswllt:

Police Action Centre

The Bungalow
16 Knighton Road
Leicester
LE2 3HH

Ffôn: 07813 786 829
E-bost: info@policeactioncentre.org.uk
Twitter: @policeactioncen
Gwefan: http://policeactioncentre.org.uk

Grwpiau Monitro’r Heddlu

Cymdeithasau ymgyrchu yw Grwpiau Monitro’r Heddlu sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o waith yr heddlu a gwella polisïau’r heddlu. Mae mwyafrif Grwpiau Monitro’r Heddlu wedi eu lleoli yn Llundain. Mae’r grwpiau’n cynnig cyngor rhad ac am ddim, ac mae’n bosib y byddant yn ymgymryd â chwyn ac y byddant yn cyfeirio at gyfreithwyr. I ddarganfod os oes gennych grŵp lleol, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

Canolfannau Cyfraith

Mae Canolfannau Cyfraith yn cynnig cyngor rhad ac am ddim a chynrychiolaeth. Mae Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith yn medru darparu manylion am eich Canolfan Gyfraith leol.

Law Centres Federation
PO Box 65836,
London EC4P 4FX
Ffôn: 020 7842 0720
Ffacs: 020 7842 0721
Ebost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: www.lawcentres.org.uk

Did this advice help?