Cael fisa i deulu a ffrindiau allu ymweld â’r DU

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch wneud cais am fisa ar ran ffrind neu aelod o’ch teulu fel y gallant ymweld â chi yn y DU. Mae fisâu i ymweld â’r DU yn para 6 mis fel arfer.

Dylech ystyried cael cyngor arbenigol os nad ydych chi’n siŵr am y cais. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ond gall arbed amser a thrafferth i chi. Gall eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu neu ddweud wrthych chi ble y gallwch chi gael cyngor arbenigol.

Os ydych chi’n gwneud cais ar eu rhan

Bydd angen i chi weld a oes angen fisa ymwelydd arnynt ar GOV.UK os nad ydych chi’n gwybod hynny’n barod – mae’n dibynnu ar eu cenedligrwydd. Does dim angen fisa i ddod i’r DU o gwbl ar ddinasyddion rhai gwledydd.

Bydd rhaid i chi ymgeisio ar-lein.

Gofalwch eich bod chi’n rhoi gwybodaeth yr ymwelwyd lle mae’r ffurflen yn gofyn am fanylion yr ymgeisydd.

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, bydd angen cymryd ffotograff ac olion bysedd yr ymwelydd mewn canolfan ymgeisio am fisa. Edrychwch i weld ble mae’r ganolfan ymgeisio am fisa agosaf i’r ymwelydd cyn i chi ymgeisio, oherwydd gallai fod mewn gwlad arall.

Bydd y system ar-lein yn dweud wrthych ble i anfon y ffurflen ar ôl ei llenwi (mae’n rhaid i chi ei hargraffu).

Mae’r ffurflen ar-lein yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn i chi gael y fisa sydd ei hangen arnoch. Llenwch y ffurflen gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau canlynol.

Os yw'r fisa ar gyfer perthynas neu'ch gŵr neu'ch gwraig, dylech ddewis:

  • 'Rheswm dros yr ymweliad' - Ymweliad

  • ‘Math o fisa’ - Teulu

  • ‘Fisa - is-fath’ - Ymweliad - teulu - 6 mis

Os yw'r fisa ar gyfer ffrind neu gariad, dylech ddewis:

  • ‘Rheswm dros yr ymweld’ - Ymweliad

  • ‘Math o fisa’ - Twristiaeth

  • ‘Fisa - is-fath’ - Ymweliad - twristiaeth - 6 mis

Dogfennau y bydd angen i chi eu cynnwys

Bydd angen i chi gynnwys dogfennau sy’n cefnogi’ch cais pan fyddwch chi’n ei anfon. Bydd y ffurflen ar-lein yn rhoi canllawiau i chi ar beth i’w gynnwys, ond dyma rai pethau i’w hystyried.

Profi bod digon o arian ar gyfer yr ymweliad

Bydd rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth i ddangos bod digon o arian i dalu am daith yr ymwelydd, dim ots ai’r ymwelydd neu chi sy’n talu.

Os yw’r ymwelydd yn talu am ei hun, bydd rhaid iddo gynnwys dogfennau i brofi ei fod yn gallu fforddio talu am y daith, e.e. datganiad banc neu slipiau talu.

Os ydych chi’n talu am ei ymweliad (e.e. am yr awyren a’r llety), bydd angen i chi brofi eich bod chi’n gallu fforddio talu am daith yr ymwelydd yn ogystal â’ch costau chi – e.e. eich rhent, morgais a chostau cyffredinol.

Dylech gynnwys:

  • amcangyfrif o gost y daith – mae angen bod mor gywir â phosibl

  • prawf o’ch incwm a ble rydych chi’n gweithio, e.e. slipiau cyflog neu gontract

  • prawf bod gennych chi ddigon o arian i dalu am arhosiad yr ymwelydd, e.e. datganiadau banc diweddar

  • prawf eich bod chi yn y DU yn gyfreithiol, e.e. copi o’ch pasbort neu fisa

Prawf bod gennych chi berthynas go iawn â’r ymwelydd

Os yw’r sawl sy’n ymweld â chi yn ffrind neu’n gariad, mae’n syniad da cynnwys llythyr gyda’ch cais yn esbonio eich bod chi mewn perthynas go iawn.

Dylech egluro rhai manylion am eich perthynas, fel:

  • sut a ble i chi gyfarfod

  • pa mor aml fyddwch chi’n cyfathrebu gyda’ch gilydd

  • sut byddwch chi’n cyfathrebu (e.e. galwadau ffôn neu negeseuon e-bost)

Gallwch ddarllen canllawiau'r llywodraeth ar resymau am wrthod fisâu ar GOV.UK, os ydych chi’n poeni y gallai’ch cais am fisa gael ei wrthod.

Mae’n annhebygol y byddwch chi’n gallu apelio os bydd cais am fisa ymwelydd yn cael ei wrthod – dylech gael cymorth arbenigol cyn rhoi cynnig arni eich hun.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 13 Mai 2019