Cyngor arbenigol ar fewnfudo

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes angen help arnoch â phroblem sy’n ymwneud â mewnfudo, gallwch gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol  i gael cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim.

Efallai y byddan nhw’n gallu eich helpu â materion fel:

  • gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

  • problemau sy’n ymwneud â dod i’r Deyrnas Unedig neu aros yn y Deyrnas Unedig - er enghraifft, gwneud cais am gliriad mynediad, caniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu drwyddedau preswylio

  • dod yn ddinesydd Prydeinig - a elwir hefyd yn ‘naturioli’

  • eich hawl i weithio, i hawlio budd-daliadau ac i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig

  • cael dogfennau mewnfudo newydd

Os yw eich problem yn gymhleth

Bydd eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu eich helpu os oes ganddynt gynghorwr sy’n arbenigo mewn mewnfudo. Os nad oes ganddynt gynghorwr arbenigol, yna gallwch chi wneud y canlynol:

Rhaid i arbenigwyr mewnfudo fod wedi cofrestru â'r Awdurdod Cyngor Mewnfudo (IAA) – gallwch chi fynd i wefan GOV.UK i wirio a ydy arbenigwr wedi cofrestru â’r IAA.

Mae pob un o Gynghorwyr Cyngor ar Bopeth wedi cofrestru â’r IAA.

Cyn i chi gael cyngor arbenigol ar fewnfudo

Gwiriwch a oes angen i chi dalu am y cyngor, a beth yw’r ffi. Mae cymorth gan Cyngor ar Bopeth yn rhad ac am ddim bob tro.

Os byddwch chi’n penderfynu gweithio â’r cynghorwr, cofiwch wneud y canlynol:

  • sicrhau eu bod yn cadarnhau eu cyngor yn ysgrifenedig

  • sicrhau eu bod yn rhoi diweddariad i chi ar eich achos bob 3 mis o leiaf

  • sicrhau bod gennych gopïau o’r holl ddogfennau gwreiddiol rydych chi’n eu rhoi iddynt 

If the specialist is a solicitor, you can get advice about what will happen before, during and after your appointment on the Law Society’s website.

Os oes angen cymorth arnoch i dalu am gyfreithiwr

Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol rhad ac am ddim - yr enw ar y gwasanaeth hwn yw ‘Cymorth Cyfreithiol’. Mae cymorth cyfreithiol rhad ac am ddim ar gael i unigolion sydd ar incwm isel ac sy’n:

  • cael eu cam-drin yn ddomestig

  • yn gwneud cais am loches

  • yn ddioddefwr masnachu pobl

Os ydych chi o dan 18, gallwch chi gael cymorth cyfreithiol i’ch helpu chi â cheisiadau mewnfudo a dinasyddiaeth os ydi un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych chi wedi cael eich gwahanu oddi wrth eich rhieni

  • nid ydych chi’n cael gofal gan rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drosoch chi

Check if you’re eligible for legal aid for your immigration problem on GOV.UK.

Os ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol, cofiwch ddewis cynghorwr sydd yn cael cyllid gan Cymorth Cyfreithiol. Pe baech chi’n dewis cynghorwr sydd ddim yn cael cyllid gan Cymorth Cyfreithiol, mae’n bosibl y byddwch chi’n gorfod gwario miloedd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2024