Gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dylech wirio os ydych yn gymwys i wneud cais am ddinasyddiaeth - mae gwahanol lwybrau i wneud cais.

Mae’r rhan fwyaf o oedolion sydd wedi mudo i’r DU yn cael dinasyddiaeth drwy wneud cais i ‘gael eu derbyn yn ddinasyddion’.

Gall gwneud cais am ddinasyddiaeth gymryd amser ac ni chewch eich arian yn ôl os caiff eich cais ei wrthod.

Gwirio faint mae'n ei gostio i wneud cais

Fel arfer, rydych chi’n talu £1,630 i wneud cais am ddinasyddiaeth fel oedolyn neu £1,214 fel plentyn. Os ydych yn gwneud cais am ddinasyddiaeth fel oedolyn, bydd hefyd yn rhaid i chi dalu:

  • £50 i wneud y Prawf Bywyd yn y DU

  • tua £150 os oes rhaid i chi wneud prawf Saesneg

Ni chewch y rhan fwyaf o’ch arian yn ôl os gwrthodir eich cais - er enghraifft, os nad ydych chi’n gymwys neu os wnaethoch chi anfon y dogfennau anghywir.

Gallwch ddysgu mwy am y ffioedd ar gyfer ceisiadau dinasyddiaeth ar GOV.UK.

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer plentyn ac na allwch fforddio’r ffi

Gallwch wneud cais i ‘hepgor y ffi’. Os cewch hepgor y ffi, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r ffi.

I wneud cais i hepgor y ffi, mae’n rhaid i chi ddangos nad oes gennych ddigon o incwm a chynilion i dalu am y ffi a chostau hanfodol fel bwyd a rhent. Bydd angen i chi anfon dogfennau sy’n dangos eich incwm a’ch gwariant yn ystod y 6 mis diwethaf, er enghraifft eich:

  • slipiau cyflog

  • cyfriflenni banc eich holl gyfrifon

  • datganiad ysgrifenedig o’ch contract meddiannaeth

  • biliau cyfleustodau

Os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi arian i’ch helpu i ofalu am eich plentyn, byddwch yn cael eich hepgor rhag talu ffi yn awtomatig - bydd angen i chi anfon dogfennau i brofi hyn.

Gallwch wneud cais i hepgor ffioedd ar GOV.UK.

Gwirio beth sydd angen i chi ei wneud i wneud cais

Cyn i chi wneud cais am ddinasyddiaeth, mae'n werth paratoi'r hyn y bydd ei angen arnoch chi. 

Wrth wneud cais am ddinasyddiaeth i gael eich derbyn yn ddinesydd, bydd angen i chi wneud y canlynol:   

  • profi pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU

  • pasio’r Prawf Bywyd yn y DU 

  • profi eich bod yn deall Saesneg 

  • gwirio eich bod o ‘gymeriad da’ – mae hyn yn golygu dangos nad ydych wedi torri’r gyfraith neu fynd yn fethdalwr yn ddiweddar 

  • rhoi enwau 2 berson sy’n gallu helpu i brofi eich hunaniaeth – mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘ganolwyr’

Os ydych yn gwneud cais am ddinasyddiaeth ar gyfer eich plentyn

Bydd angen i chi wneud cais ar wahân ar gyfer eich plentyn.

Os yw eich plentyn o dan 18 oed, gallwch wneud cais i’w ‘cofrestru’ fel dinesydd Prydeinig. Ffordd o wneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig yw cofrestru. 

Mae’r broses o wneud cais yn haws i blant – nid oes rhaid iddynt wneud y canlynol:

  • pasio’r Prawf Bywyd yn y DU

  • profi eu gwybodaeth o Saesneg

  • gwneud y seremoni ddinasyddiaeth 

Gallwch wirio os yw eich plentyn yn gallu cael dinasyddiaeth Brydeinig a pha ffurflen y dylech ei defnyddio

Profi pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU  

Fel arfer, mae angen i chi brofi pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU – mae hyn yn cael ei alw’n ‘ofyniad preswylio’. 

Mae angen i chi brofi eich preswylfa hyd yn oed os ydych chi wedi'i wneud o'r blaen - er enghraifft, drwy wneud cais am ‘statws sefydlog’.

Bydd yr amser sydd ei angen arnoch chi i brofi yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Dyma'r camau y dylech eu dilyn:

1. Edrych pryd roeddech chi yn y DU

Dylech chi edrych yn union pryd roeddech chi yn y DU yn ystod y: 

  • 3 blynedd ddiwethaf os ydych chi'n briod â dinesydd Prydeinig neu mewn partneriaeth sifil â dinesydd Prydeinig

  • 5 mlynedd ddiwethaf os nad ydych yn briod â dinesydd Prydeinig neu os nad ydych mewn partneriaeth sifil â dinesydd Prydeinig 

I helpu gyda hyn, gallech chi wneud rhestr o'r dyddiadau y gwnaethoch chi deithio y tu allan i’r DU drwy wneud y canlynol:

  • gwirio hen galendrau

  • gwirio trefniadau teithio 

  • chwilio am ddyddiadau gadael a mynediad sydd wedi'u stampio yn eich pasbort

Mae angen i chi hefyd wneud yn siŵr eich bod chi yn y DU ar yr un diwrnod 3 neu 5 mlynedd yn ôl i'r diwrnod rydych chi'n gwneud cais. Os nad oeddech chi yn y DU union 3 neu 5 mlynedd yn ôl, mae'n well aros fel arfer nes bod 3 neu 5 mlynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad y gwnaethoch chi ddychwelyd i'r DU ac yna gwneud cais. Os oeddech chi y tu allan i’r DU am gyfnod hir, siaradwch â chynghorydd.

2. Gwirio pa absenoldebau o'r DU sy'n cael eu caniatáu 

Dylech chi wirio sawl diwrnod roeddech chi y tu allan i’r DU - os yw dros y trothwy, efallai y cewch eich gwrthod. Bydd angen i chi gyfrif y rhain ar wahân ar gyfer y:

  • 3 neu 5 mlynedd rydych chi'n darparu tystiolaeth ar eu cyfer yn eich cais

  • 12 mis cyn i chi wneud cais

Gallwch chi fod y tu allan i’r DU hyd at 90 diwrnod yn y flwyddyn cyn i chi wneud cais. Os oeddech chi i ffwrdd am gyfnod hirach, gallech chi ohirio gwneud cais. Byddai hyn yn golygu bod eich absenoldeb yn cael ei gyfrif yn y 3 neu 5 mlynedd rydych chi'n eu defnyddio yn eich gofyniad preswylio.

3. Gwirio bod gennych y dystiolaeth i ddangos eich bod yn y DU

Bydd angen i chi roi eich pasbort cyfredol a hen basbortau sy'n cwmpasu'r amser rydych chi wedi bod yn y wlad i’r Swyddfa Gartref. Os oes gennych stampiau mynediad a gadael yn eich pasbort, gwiriwch i weld eu bod nhw’n cyd-fynd â’r dyddiadau rydych chi wedi dweud eich bod chi i mewn ac allan o'r wlad ar eich cais.

Gwiriwch i weld os oes gan eich pasbort stamp mynediad ar gyfer pan ddaethoch i'r DU gyntaf. Efallai na fydd gennych un os ydych yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd er enghraifft.

Os nad oes gennych basbort gyda stamp mynediad, bydd angen i chi gael math arall o dystiolaeth i ddangos eich bod yn y DU, er enghraifft:

  • slipiau cyflog a P60

  • llythyr wrth eich cyflogwr neu ddarparwr addysg gyda dyddiadau dechrau a gorffen 

  • llythyr wrth ddarparwr budd-daliadau fel yr Adran Gwaith a Phensiynau  (DWP) sy’n dangos pryd gawsoch chi fudd-daliadau

Efallai y byddwch hefyd yn gallu defnyddio math arall o dystiolaeth, fel biliau’r cartref.

Os nad oes gennych basbort neu ddogfennau teithio oherwydd eich bod yn ffoadur, dylai’r Swyddfa Gartref dderbyn na wnaethoch chi adael y DU ar ôl i chi gyrraedd.

Pasio’r Prawf Bywyd yn y DU 

Mae angen i chi basio’r Prawf Bywyd yn y DU cyn i chi wneud cais am ddinasyddiaeth. 

Mae’r prawf yn gofyn cwestiynau am gyfreithiau a system gyfreithiol y DU, gweithio a manylion eraill am fywyd yn y DU. 

Gallwch wneud y prawf unrhyw bryd cyn i chi wneud cais.

Gwirio os oes angen i chi wneud y prawf

Nid oes angen i chi basio’r Prawf Bywyd yn y DU os:

  • ydych chi wedi’i basio’n barod – er enghraifft, os wnaethoch chi gymryd y prawf pan wnaethoch chi gais am 'ganiatâd amhenodol i aros' 

  • ydych chi o dan 18 oed neu dros 65 oed

Os ydych chi rhwng 60 a 64 oed ac yn gallu dangos eich bod yn annhebygol o basio’r prawf cyn i chi droi’n 65 oed, efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn cytuno nad oes rhaid i chi wneud y prawf. Er enghraifft, os ydych yn derbyn triniaeth feddygol am salwch difrifol.

Os oes gennych gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n eich rhwystro rhag pasio’r prawf, efallai na fydd yn rhaid i chi ei wneud. Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg gadarnhau bod eich cyflwr:

  • yn annhebygol o newid

  • yn ei gwneud yn amhosibl i chi basio’r prawf – er enghraifft, anabledd dysgu neu anaf i’r ymennydd sy’n eich rhwystro rhag cofio fffeithiau 

Gallwch gael ffurflen er mwyn i’ch meddyg ei llenwi ar GOV.UK. 

Gwneud y prawf

Gallwch wneud y prawf gymaint o weithiau ag sydd angen - ond mae'n rhaid i chi dalu ffi bob tro.

Mae angen i chi astudio'r llawlyfr swyddogol i basio'r prawf. Gallwch hefyd brynu ap i ymarfer - chwiliwch am yr ap swyddogol Prawf Bywyd yn y DU gan y TSO (Y Llyfrfa). 

Mae rhai colegau yn cynnig cyrsiau byr i helpu i baratoi ar gyfer y prawf. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i fynychu.

Gallwch drefnu’r Prawf Bywyd yn y DU a phrynu’r llawlyfr swyddogol ar GOV.UK .

Profi eich bod yn deall Saesneg

Mae angen i chi brofi eich bod yn deall Saesneg, Cymraeg neu Gaeleg yr Alban cyn y gallwch chi wneud cais am ddinasyddiaeth. 

Gwirio os oes angen i chi brofi eich bod yn deall Saesneg

Nid oes angen i chi brofi eich bod yn deall Saesneg os:

Os ydych chi rhwng 60 a 64 oed ac yn gallu dangos eich bod yn annhebygol o ddysgu Saesneg cyn i chi droi’n 65 oed, efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn cytuno nad oes rhaid i chi brofi eich gwybodaeth o Saesneg. Er enghraifft, os ydych yn derbyn triniaeth feddygol am salwch difrifol.

Os oes gennych gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n eich rhwystro rhag pasio’r prawf, efallai na fydd yn rhaid i chi ei wneud. Bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg gadarnhau bod eich cyflwr:

  • yn annhebygol o newid

  • yn ei gwneud yn amhosibl i chi ddysgu Saesneg – er enghraifft, anabledd dysgu neu anaf i’r ymennydd sy’n eich rhwystro rhag dysgu’r iaith

Gallwch gael ffurflen er mwyn i’ch meddyg ei llenwi ar GOV.UK.

Profi eich bod yn deall Saesneg

Bydd angen i chi basio prawf siarad a gwrando mewn canolfan gymeradwy – gallwch ddod o hyd i ddarparwyr profion Saesneg cymeradwy ar GOV.UK.

Mae’r prawf yn costio tua £150. Mae profion fel arfer yn ddilys am 2 flynedd - os ydych chi eisoes wedi gwneud prawf, gallwch chi wirio i weld os yw eich prawf Saesneg yn dal yn ddilys ar GOV.UK. 

Gwirio eich bod o gymeriad da

Fel arfer mae angen i chi brofi eich bod o gymeriad da cyn y gallwch chi wneud cais am ddinasyddiaeth.

Mae’r Swyddfa Gartref yn edrych ar amrywiaeth o bethau i benderfynu ar hyn.

Er enghraifft, efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn penderfynu nad ydych chi'n gymwys os oes gennych y canlynol:

  • trethi sydd heb eu talu yn y DU

  • dyled GIG

  • wedi cael eich datgan yn fethdalwr

  • cofnod troseddol

  • wedi torri amod o'ch absenoldeb yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf - er enghraifft gweithio neu hawlio arian cyhoeddus heb ganiatâd

  • wedi teithio i'r DU heb fisa nac awdurdodiad teithio electronig

  • wedi teithio i'r DU ar daith beryglus - er enghraifft, ar gwch bach neu wedi cuddio mewn cerbyd

Os oes gennych unrhyw bwyntiau ar eich trwydded yrru, rhaid i chi argraffu crynodeb o'ch cofnod o wefan y DVLA a'i gynnwys gyda'ch cais.

Dylech ddweud os ydych chi wedi derbyn unrhyw hysbysiadau cosb benodedig yn eich cais. Ni fydd eich cymeriad da yn cael ei effeithio, cyn belled â'ch bod wedi'u talu.

Mae'n bwysig bod yn onest a chynnwys unrhyw beth sy'n berthnasol i'ch cais - er enghraifft, euogfarn droseddol. Os daw’r Swyddfa Gartref i wybod eich wedi hepgor rhywbeth, efallai y byddan nhw'n gwrthod derbyn eich cais.

Os ydych chi'n meddwl y bydd gennych broblemau i brofi eich bod o gymeriad da, dylech siarad â chynghorydd cyn i chi wneud cais.

Darparu 2 ganolwr

Bydd angen i chi roi enwau 2 ganolwr ar eich cais. Dyma bobl sy'n eich adnabod chi a all helpu i brofi pwy ydych chi. 

Dylai'r ddau ganolwr fod wedi eich adnabod chi'n bersonol ers dros 3 blynedd. Ni ddylent fod:

  • yn perthyn i chi

  • yn gyfreithiwr neu’n asiant i chi

  • yn gweithio i’r Swyddfa Gartref 

Ni allant fod yn ganolwyr os ydynt wedi cael euogfarn droseddol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, oni bai bod cyfnod penodol o amser wedi mynd heibio. Mae hyn yn cael ei alw’n 'gyfnod adsefydlu'. Er enghraifft, y cyfnod adsefydlu ar gyfer dirwy yw blwyddyn. Gallwch ddod o hyd i’r cyfnodau adsefydlu ar GOV.UK.  

Dylai eich canolwyr gynnwys:  

  • person o 'statws proffesiynol' – er enghraifft, gwas sifil o unrhyw genedligrwydd 

  • person sydd â phasbort Prydeinig ac sydd naill ai o statws proffesiynol neu sydd dros 25 oed

Gwirio eich cais yn ofalus

Mae'n bwysig gwirio bod gennych y wybodaeth a'r dogfennau cywir cyn i chi wneud cais. Os oes rhywbeth ar goll neu'n anghywir, gall y Swyddfa Gartref wrthod derbyn eich cais ac ni chewch eich arian yn ôl.

Os yw’r Swyddfa Gartref yn penderfynu eich bod wedi dweud celwydd ar eich cais, efallai y byddan nhw'n eich atal rhag gwneud cais am 10 mlynedd arall.

Os oes angen help arnoch chi i baratoi eich cais

Dylech siarad â chynghorydd os oes angen help arnoch chi i gwblhau eich cais neu i ddarparu tystiolaeth.  

Sut i wneud cais

Fel arfer, gallwch wneud cais am ddinasyddiaeth ar-lein neu drwy’r post. 

Os ydych chi'n dod o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu diriogaeth tramor Brydeinig, rhaid i chi wneud cais drwy'r post.

Mae'n syniad da anfon eich cais papur drwy wasanaeth post lle ceir prawf ei fod wedi’i anfon, fel y gallwch wneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd.

Dysgwch fwy am wneud cais os ydych yn briod â dinesydd Prydeinig neu mewn partneriaeth sifil â dinesydd Prydeinig ar GOV.UK. 

Os nad ydych yn briod â dinesydd Prydeinig neu os nad ydych mewn partneriaeth sifil â dinesydd Prydeinig, bydd y ffordd y byddwch yn gwneud cais yn dibynnu ar eich statws mewnfudo presennol. Gallwch weld sut i:

Cyflwyno eich dogfennau 

Os ydych chi wedi gwneud cais ar ffurflen bapur, bydd angen i chi gyflwyno'ch dogfennau - er enghraifft, anfonwch eich pasbort gyda’ch cais.

Os ydych chi wedi gwneud cais ar-lein, gallwch sganio'ch dogfennau a'u lanlwytho i'ch cais ar-lein - does dim rhaid i chi anfon y dogfennau papur at y Swyddfa Gartref. 

Mae'n syniad da lawrlwytho neu argraffu copi o'ch cais gorffenedig ar gyfer eich cofnodion.

Trefnu apwyntiad biometrig

Fel arfer, byddwch yn cael e-bost yn gofyn i chi drefnu apwyntiad i gael eich llun a'ch olion bysedd wedi'u tynnu. Mae’r rhain yn cael eu galw’n  'wybodaeth fiometrig'.

Bydd angen i chi drefnu apwyntiad ar wefan Gwasanaeth Gwneud Cais am Fisa a Dinasyddiaeth y DU.

Gallwch wirio beth sydd angen i chi ddod gyda chi ac os oes angen i rywun ddod gyda chi ar GOV.UK.

Ar ôl i chi wneud cais

Mae angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Gartref os byddwch chi'n newid eich manylion personol yn ystod y cyfnod hwn. Er enghraifft, os byddwch yn newid eich cyfeiriad.

Ni fydd yr amser y byddwch yn aros am benderfyniad y Swyddfa Gartref yn effeithio ar eich hawliau presennol yn y DU - er enghraifft, gallwch barhau i weithio neu hawlio budd-daliadau.

Bydd y Swyddfa Gartref yn ysgrifennu atoch chi os oes angen mwy o fanylion arnynt am eich cais. Dylech ateb o fewn pythefnos os gallwch chi. Os nad yw'r Swyddfa Gartref yn clywed wrthych erbyn hynny, efallai y byddant yn gwneud penderfyniad am eich cais yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ganddynt yn barod.

Bydd Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn ceisio gwneud penderfyniad am eich cais o fewn 6 mis, ond gall gymryd yn hirach. Os ydych chi'n poeni am unrhyw oedi, gallwch chi wneud y canlynol:

Teithio y tu allan i’r DU cyn i chi gael dinasyddiaeth Brydeinig

Gallwch deithio y tu allan i'r DU os ydych chi wedi gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig. Dylech wneud yn siŵr y gallwch dderbyn e-byst a llythyrau am eich cais tra byddwch i ffwrdd.  

Trefnu seremoni ddinasyddiaeth

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n rhaid i chi drefnu seremoni ddinasyddiaeth. Fel arfer, mae’r rhain yn cael eu cynnal yn eich cyngor lleol. Darllenwch fwy am drefnu eich seremoni ddinasyddiaeth ar GOV.UK . 

Newid neu gywiro tystysgrif dinasyddiaeth y DU

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i newid neu gywiro tystysgrif dinasyddiaeth y DU. Ceir mwy o wybodaeth am newid neu gywiro eich tystysgrif dinasyddiaeth ar GOV.UK. .

Teithio y tu allan i’r DU ar ôl i chi gael dinasyddiaeth Brydeinig  

Os ydych chi eisiau teithio y tu allan i'r DU ar ôl cael dinasyddiaeth Brydeinig, bydd angen i chi wneud cais am basbort Prydeinig.

Gwnewch yn siŵr bod y manylion ar eich pasbort cyfredol yr un fath â'ch tystysgrif dinasyddiaeth. Er enghraifft, gwiriwch fod eich enw wedi'i sillafu'r un fath. Os oes unrhyw un o'r manylion yn wahanol, ni chewch basbort Prydeinig.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut i wneud cais am basbort Prydeinig ar GOV.UK.

Cofrestru i bleidleisio

Gall dod yn ddinesydd Prydeinig olygu y gallwch bleidleisio ym mhob etholiad neu refferenda. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar GOV.UK.  

Os yw eich cais yn aflwyddiannus

Os yw eich cais yn aflwyddiannus, bydd y Swyddfa Gartref yn ysgrifennu atoch chi i ddweud pam. 

Ni fydd yn effeithio ar eich hawl bresennol i aros yn y DU.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.