Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ar ôl i chi gael statws ffoadur

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi wedi hawlio lloches ac wedi cael statws ffoadur, bydd Cymorth Ffoadur yn dod i ben 28 diwrnod ar ôl y penderfyniad. Bydd yn dod i ben 21 diwrnod yn ddiweddarach os ydych chi wedi bod yn cael cymorth ‘adran 4’.
Mae hyn yn golygu:
na fyddwch chi’n cael eich lwfans arian parod mwyach (£36.95 yr wythnos fel arfer)
● y byddwch yn gorfod symud tŷ – os ydych chi wedi cael rhywle i fyw fel ceisiwr lloches

Ar ôl i chi gael statws ffoadur, byddwch yn cael caniatâd i weithio yn y DU – mewn unrhyw broffesiwn ac ar unrhyw lefel o sgiliau. Os nad ydych chi’n barod i chwilio am waith neu os nad ydych chi’n gallu chwilio am waith a bod gennych chi fawr ddim neu ddim incwm, gallwch wneud cais am fudd-daliadau lles.

Bydd rhaid i chi feddwl am agor cyfrif banc a chael rhif Yswiriant Gwladol hefyd.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol – gallant eich helpu gyda budd-daliadau a thai, a gallant eich cyfeirio at elusennau lleol, ysgolion Saesneg a grwpiau cymunedol hefyd.

Dod o hyd i gartref newydd

Os ydych chi wedi bod yn byw rhywle fel rhan o gael Cymorth Lloches, bydd rhaid i chi symud o fewn 28 diwrnod o gael statws ceisiwr lloches.

Os ydych chi’n byw gyda ffrindiau neu deulu eisoes, fydd dim angen i chi symud – ond ni fyddwch yn gallu hawlio Budd-dal Tai, a gallai effeithio ar fudd-daliadau eraill a gewch. Os yw’ch ffrindiau neu deulu yn hawlio Budd-dal Tai eu hunain, gallai olygu bod y swm maen nhw’n ei gael yn lleihau.

Siaradwch â rhywun yn eich Cyngor ar Bopeth lleol i wybod mwy.

Os na allwch chi dalu am dŷ eich hun

Cysylltwch â'ch cyngor lleol neu’ch swyddfa dai leol cyn gynted â phosib. Nid yw’r Swyddfa Gartref yn rhoi llety i ffoaduriaid ond bydd eich cyngor lleol yn gallu trafod eich opsiynau gyda chi.

Bydd a fyddwch yn gallu aros yn yr un ardal yn dibynnu ar bethau fel:

  • am faint rydych chi wedi byw yno
  • a oes gennych chi deulu yn yr ardal
  • a ydych chi’n wynebu risg o fod yn ddigartref

Mae’n werth gwybod bod rhestri aros hir am lety - mae’n bosib y cewch chi’ch rhoi mewn gwely a brecwast neu hostel dros dro.

Os ydych chi’n poeni am fod yn ddigartref, ffoniwch Shelter, yr elusen ddigartrefedd, ar 0808 800 444. Yn Lloegr, gallwch chwilio ar-lein drwy Homeless UK i ddod o hyd i lety ar frys eich hun. Yn yr Alban, gallwch gael cymorth ar-lein ar wefan Shelter Scotland ar y dudalen 'In an emergency'.

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai os na allwch chi fforddio talu’r rhent eich hun – does dim gwahaniaeth ai’r cyngor lleol ddaeth o hyd i dŷ i chi neu chi eich hun. Mae’n gallu cymryd 6 wythnos i Fudd-dal Tai gael ei dalu.

Efallai na fydd y Budd-dal Tai yn talu’r cyfan o’ch rhent, ond ni fydd rhaid i chi dalu blaendal gan amlaf.

Os yw’r cyngor lleol yn dod o hyd i lety preifat i chi drwy’r Budd-dal Tai, efallai y bydd rhaid i chi dalu. Cysylltwch â’r elusen tai Crisis os byddwch chi angen help i dalu blaendal.

Gweithio

Os ydych chi’n barod i chwilio am waith, gallwch chi chwilio ar-lein.

Cysylltwch ag UK NARIC os oes gennych chi gymwysterau o’ch gwlad gartref – bydd angen i chi ddod o hyd i fersiwn gyfatebol y DU er mwyn dod o hyd i waith tebyg yma. Mae’n costio o leiaf £55.20 i wneud hyn.

Hawlio budd-daliadau

Mae’n bosib y bydd gennych chi hawl i fudd-daliadau lles yn y DU er na fyddwch chi’n cael Cymorth Lloches mwyach.

I roi gwell syniad i chi, mae’n bosib y gallech gael budd-daliadau fel:

  • Cymhorthdal Incwm - os ydych chi’n dysgu Saesneg (am o leiaf 15 wythnos) er mwyn dod o hyd i waith, a’ch bod wedi bod yn y DU am lai na blwyddyn
  • Lwfans Ceisio Gwaith – os gallwch chi brofi eich bod chi’n chwilio am waith
  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth – os na allwch chi chwilio am waith oherwydd anabledd meddyliol neu gorfforol
  • Credyd Pensiwn – os ydych chi dros oedran gweithio
  • Credyd Cynhwysol – os ydych chi mewn ardaloedd penodol o’r DU
  • benthyciad integreiddio ffoaduriaid – i helpu i dalu blaendal rhent, am eitemau i’r cartref, addysg a hyfforddiant ar gyfer gwaith

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol am gyfarwyddyd ar sut i ymgeisio a syniad gwell o a ydych chi’n gymwys.

Byddwch angen rhif Yswiriant Gwladol i hawlio budd-daliadau – byddwch wedi gwneud cais am un yn eich cyfweliad gyda’r Swyddfa Gartref wrth geisio lloches gyntaf. Byddwch ei angen i dalu treth a chofrestru gyda meddyg – mae gan bawb sy’n gweithio neu’n astudio yn y DU un.

Cael rhif Yswiriant Gwladol

Byddwch yn cael eich rhif Yswiriant Gwladol (NI) drwy’r post yn fuan wedi i chi gael statws ffoadur fel arfer.

Os nad ydych chi wedi cael rhif NI, ffoniwch y llinell ymgeisio am rif Yswiriant Gwladol. Gofynnwch a ydynt wedi rhoi rhif NI i chi - os nad ydynt, gofynnwch beth sydd angen i chi ei wneud i gael un.

Agor cyfrif banc

Nawr bod gennych chi statws mewnfudo, cewch agor cyfrif banc yn y DU. Mae’n gwneud pethau fel talu am fwyd a thalu biliau yn haws.

Dylai fod yn broses hawdd os oes gennych chi brawf o’ch statws mewnfudo, ond mae’n bosib na fydd rhai banciau wedi gweld trwydded breswylio biometrig o’r blaen. Mae’n brawf cyfreithlon a dilys o bwy ydych chi, waeth beth fyddant yn ei ddweud wrthych chi. Os na fyddant yn ei derbyn, argraffwch y dudalen hon ac ewch â hi i’r banc.

Mae’n haws agor Cyfrif Cyfredol gyda Swyddfa’r Post, oherwydd nid ydynt yn gofyn am gymaint o brawf o bwy ydych chi. Gallwch ddefnyddio Cyfrif Cyfredol Swyddfa’r Post i gasglu budd-daliadau, credydau treth a phensiynau’r wladwriaeth, ond chewch chi ddim talu unrhyw arian arall i mewn - ac ni allwch gael Credyd Cynhwysol wedi’i dalu i mewn iddo.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.