Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwiriwch eich rhybudd os ydych yn ymddiswyddo

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych eisiau gadael eich swydd, fel arfer bydd angen i chi roi rhywfaint o rybudd i'ch cyflogwr. Cyfeirir at hyn fel eich cyfnod rhybudd.

Darllenwch eich contract i weld faint o rybudd y mae angen i chi ei roi. Os ydych wedi bod yn eich swydd am lai na mis, nid oes rhaid i chi roi rhybudd oni bai bod y contract neu'r telerau ac amodau yn gofyn i chi wneud hynny.

Os ydych wedi bod yn eich swydd am fwy na mis, rhaid i chi roi o leiaf wythnos o rybudd.

Mae'n well ymddiswyddo ar ffurf ysgrifenedig er mwyn osgoi unrhyw ddadl ynglŷn â phryd y gwnaethoch ymddiswyddo. Dylech anfon llythyr neu e-bost sy'n nodi:

  • faint o rybudd rydych chi'n ei roi
  • dyddiad disgwyliedig eich diwrnod olaf yn y gwaith

Gallwch roi mwy o rybudd na'r hyn a nodir yn eich contract os dymunwch - ni all eich cyflogwr eich gorfodi i adael yn gynharach. Os yw eich cyflogwr yn eich gorfodi i adael yn gynharach, mae'n gyfystyr â'ch diswyddo. Dylech holi a oes modd i chi hawlio diswyddo annheg.

Mae eich cyfnod rhybudd yn dechrau'r diwrnod ar ôl i chi ymddiswyddo. Felly, os ydych yn rhoi wythnos o rybudd ddydd Llun, y dydd Llun canlynol fydd eich diwrnod olaf yn y gwaith.

Os nad oes gennych gontract ysgrifenedig

Os nad ydych wedi trafod cyfnod rhybudd ac nad oes gennych unrhyw wybodaeth ysgrifenedig, dylech roi o leiaf wythnos o rybudd.

Os yw eich cyflogwr yn mynnu eich bod wedi cytuno i roi mwy o rybudd, gofynnwch iddo pa gofnodion sydd ganddo - er enghraifft, nodiadau cyfarfod pan gytunwyd y byddech yn rhoi mwy o rybudd.

Os ydych eisiau rhoi llai o rybudd

Gofynnwch i'ch cyflogwr a fydd yn cytuno i leihau eich cyfnod rhybudd. Cofiwch roi sicrwydd iddo na fydd gadael yn gynnar yn achosi unrhyw broblemau iddo - er enghraifft, dylech gytuno i orffen unrhyw waith brys. Gallai fod yn syniad da atgoffa eich cyflogwr y bydd gadael i chi adael yn gynnar yn golygu y bydd yn eich talu am lai o amser.

Os nad yw eich cyflogwr yn cytuno, ond eich bod eisiau gadael yn gynnar beth bynnag, dylech ystyried a fyddai hyn yn costio unrhyw arian iddo. Er enghraifft, pe bai angen iddo gyflogi staff asiantaeth drud i'ch disodli ar fyr rybudd, gallai fynd â chi i'r llys.

Os ydych yn gadael yn gynnar, mae'n rhaid i'ch cyflogwr eich talu am y gwaith rydych wedi'i wneud. Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu, dylech ganfod beth sy'n ddyledus i chi a sut i'w gael.

Os oes gennych gontract cyfnod penodol

Nid oes angen i chi roi rhybudd os ydych eisiau gadael ar ddiwrnod olaf eich contract.

Os ydych eisiau gadael cyn diwrnod olaf eich contract, dylech gadarnhau a yw'r contract yn dweud y gallwch roi rhybudd. Os nad yw'n dweud unrhyw beth, dylech roi o leiaf wythnos o rybudd.

Derbyn tâl yn ystod eich cyfnod rhybudd

Dylech dderbyn eich cyflog llawn arferol os ydych yn gweithio yn ystod eich cyfnod rhybudd. Dylai hyn gynnwys unrhyw fuddion gwaith, megis cyfraniadau pensiwn neu brydau am ddim.

Os ydych yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch neu absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu, byddwch ond yn derbyn eich tâl arferol o dan yr amgylchiadau hynny. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwch ond yn derbyn tâl salwch statudol os ydych yn absennol oherwydd salwch.

Os ydych i ffwrdd o’r gwaith am y cyfan o’ch cyfnod rhybudd efallai y gallwch gael cyflog llawn am 1 wythnos. Siaradwch â chynghorydd os ydych chi yn y sefyllfa yma.

Os nad ydych yn cael eich talu am weithio yn ystod eich cyfnod rhybudd, dylech holi sut i dderbyn y cyflog sy'n ddyledus i chi.

Os yw eich cyflogwr yn dweud na ddylech weithio yn ystod eich cyfnod rhybudd

Dylai eich cyflogwr eich talu fel arfer hyd at ddiwedd eich cyfnod rhybudd pan ddaw eich contract i ben. Cyfeirir at hyn weithiau fel absenoldeb garddio.

Yn ystod absenoldeb garddio, byddwch yn cael eich talu ar yr adegau arferol yn y ffordd arferol - byddwch yn talu eich treth arferol hefyd. Dylech gadw pob un o'ch manteision a buddion gwaith, fel cyfraniadau pensiwn neu ddefnydd personol o ffôn y cwmni.

Os ydych ar absenoldeb garddio, dylech gadarnhau a oes unrhyw reolau ychwanegol yn eich contract. Mae rhai contractau'n dweud na allwch ddechrau swydd arall yn ystod absenoldeb garddio

Cymryd gwyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd

Gallwch ofyn am gael gwyliau yn eich cyfnod rhybudd, ond mater i'ch cyflogwr yw penderfynu a ydych yn cael gwneud hynny. Os ydych yn mynd ar wyliau am dâl yn ystod eich cyfnod rhybudd mae gennych hawl i'ch cyflog arferol.

Pan fyddwch yn gadael, byddwch yn cael eich talu am unrhyw wyliau rydych wedi'u cronni ond heb eu cymryd, hyd at eich 28 diwrnod cyntaf o hawl i wyliau. Cyfeirir at hyn fel eich hawl statudol i wyliau. Os ydych yn cael mwy na 28 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys gwyliau banc), cyfeirir at hyn fel gwyliau contractiol. Darllenwch eich contract i gael gwybodaeth am wyliau contractiol dros ben. Mae'n bosibl y byddwch yn cael eich talu am unrhyw ddiwrnodau nad ydych yn eu cymryd.

Dysgwch fwy am pryd y gallwch gymryd gwyliau- gan gynnwys beth i'w wneud os oes gennych unrhyw broblemau.

Os yw eich cyflogwr yn dweud y dylech gymryd eich gwyliau

Gall eich cyflogwr ddweud y dylech gymryd unrhyw wyliau sydd gennych dros ben. Bydd angen iddo ddweud wrthych pryd i gymryd y gwyliau hefyd.

Darllenwch eich contract i weld faint o rybudd y dylai eich cyflogwr ei roi i chi am yr angen i gymryd eich gwyliau. Os nad oes unrhyw wybodaeth yn eich contract, mae angen i'ch cyflogwr roi o leiaf 2 ddiwrnod o rybudd i chi ar gyfer pob diwrnod o wyliau. Er enghraifft, os yw am i chi gymryd 5 diwrnod o wyliau, rhaid iddo ddweud wrthych o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw.

Os ydych yn newid eich meddwl

Os ydych yn newid eich meddwl ar ôl rhoi rhybudd, dylech siarad â'ch cyflogwr a gofyn am gael aros. Mae angen i chi gael cytundeb eich cyflogwr.

Os yw eich cyflogwr yn cytuno, gallwch barhau i weithio iddo.

Os nad yw'n cytuno, bydd yn rhaid i chi adael eich swydd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.