Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydych chi wedi aros yn hirach na chyfnod eich fisa neu ganiatâd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi wedi aros yn hirach na chyfnod eich fisa neu ganiatâd, bydd gennych 90 diwrnod i adael y wlad o’r dyddiad y daeth i ben.

Mae’n bosib y gallwch chi wneud cais am fisa newydd o fewn 14 diwrnod i’ch hen un yn dod i ben.

Bydd angen i chi brofi bod gennych reswm da dros beidio ag adnewyddu’ch hen fisa – felly mae’n well ei adnewyddu mewn da bryd os yw hynny’n bosib o hyd.

Ni fydd y Swyddfa Gartref yn eich atgoffa pan fydd eich fisa neu ganiatâd yn dod i ben. Edrychwch ar y stamp neu sticer yn eich pasbort os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi aros yn rhy hir.

Gwneud cais am fisa newydd

Mae gennych 14 diwrnod o’r dyddiad mae’ch fisa neu ganiatâd yn dod i ben i wneud cais am un newydd – bydd angen rheswm da arnoch i beidio â’i adnewyddu ar amser.

Mae’n well cael help i brofi bod gennych reswm da dros golli’r dyddiad cau. Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol, neu cysylltwch â chyfreithiwr lleol yn uniongyrchol – mae’n gynt cysylltu â chyfreithiwr lleol fel rheol, ond mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu.

Ni fydd gennych chi’r un hawliau os byddwch chi’n aros yn rhy hir – e.e. os oedd gennych chi hawl i weithio cyn i chi aros yn rhy hir, bydd rhaid i chi roi’r gorau i weithio nes i chi gael penderfyniad ar eich cais newydd.

Gadael y DU

Os na fyddwch chi’n gadael o’ch gwirfodd o fewn 30 diwrnod, gallech gael eich allgludo.

Os byddwch yn gadael o’ch gwirfodd ar ôl 30 diwrnod, gallech gael eich gwahardd rhag dod yn ôl i’r DU am gyfnod o rhwng 1 a 10 mlynedd. Mae am faint y byddwch chi’n cael eich gwahardd yn dibynnu ar y canlynol:

  • pryd rydych chi’n gadael y DU
  • a ydych yn gadael o’ch gwirfodd neu’n cael eich allgludo
  • a ydych yn gallu talu i ddychwelyd i’ch gwlad gartref

Eich hawliau fel rhywun sydd wedi aros yma’n rhy hir

Does dim ots pa mor hir rydych chi wedi aros yma – byddwch chi’n dal yn gallu:

  • anfon eich plant i’r ysgol nes iddynt droi’n 16 oed
  • defnyddio gwasanaethau brys yn y DU (yr heddlu, tân ac ambiwlans)
  • cael gofal iechyd hanfodol a brys, yn cynnwys triniaeth os ydych chi’n cael babi
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.