Cam 1: ceisio setlo'ch anghydfod
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae yna reolau llys y mae’n rhaid i chi eu dilyn cyn cychwyn camau cyfreithiol. Mae rhai ohonyn nhw yn y 'protocol cyn-achos'.
Mae un o’r rheolau’n dweud y dylech chi ysgrifennu llythyr at bwy bynnag sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn i ddweud eich bod chi’n mynd i gychwyn camau cyfreithiol. Yr enw ar y llythyr hwn yw 'llythyr cyn cymryd camau'. Dylech chi wneud hyn os oes gennych chi amser cyn y dyddiad cau ar gyfer dwyn achos llys.
Gallai ysgrifennu llythyr cyn cymryd camau olygu y gallwch chi ddatrys eich anghydfod heb orfod mynd i’r llys. Hyd yn oed os na fyddwch chi’n llwyddo i ddatrys yr anghydfod, bydd ysgrifennu’r llythyr yn helpu i ddangos eich bod chi wedi rhoi cynnig arni.
Mae’r protocol cyn-achos yn dweud mai dim ond ar ôl i bopeth arall fethu y dylech chi fynd i’r llys. Gallwch chi ddarllen y protocol yn GOV.UK. Os na fyddwch chi’n dilyn y protocol, efallai y bydd y llys yn gwneud i chi dalu costau cyfreithiol ychwanegol.
Os nad oes gennych chi amser cyn y dyddiad olaf ar gyfer dwyn achos llys i ysgrifennu llythyr cyn cymryd camau a chael ymateb, gallwch chi fynd ati’n syth i lenwi’r ffurflen hawlio a’i hanfon i’r llys gyda ffi’r llys. Gallai hyn roi amser i chi anfon llythyr i'r parti arall i geisio datrys yr achos a lleihau’r risg o orfod talu costau ychwanegol.
Bydd angen i chi ofyn i’r llys gyhoeddi’r hawliad ond peidio â’i gyflwyno. Mae hyn yn golygu y byddan nhw’n stampio’ch ffurflen ond na fyddan nhw’n ei hanfon i'r parti arall. Os byddwch chi eisiau parhau â’ch hawliad, bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflen i’r parti arall o fewn 4 mis. Mae’r rheolau ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud a phryd er mwyn cyflwyno’r ffurflen hawlio yn Rhannau 6 a 7 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Ysgrifennu llythyr cyn cymryd camau
Os ydych chi wedi gwneud cwyn yn barod, gallech chi seilio’r llythyr ar hynny.
Dylai'ch llythyr gynnwys:
y geiriau ‘llythyr cyn cymryd camau’ ar y top
eich enw a’ch cyfeiriad
crynodeb o’r ffeithiau
sail eich hawliad – mae hyn yn cynnwys y math o wahaniaethu rydych chi’n credu sydd wedi digwydd a'r adrannau o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n berthnasol
beth rydych chi eisiau ei weld yn digwydd – os ydych chi’n gofyn am arian, dywedwch faint rydych chi ei eisiau a sut i chi gyfrifo’r swm hwnnw; os ydych chi’n gofyn am addasiadau rhesymol, dywedwch beth ydyn nhw
bod angen iddyn nhw ymateb o fewn amser penodol – dylai hyn roi ‘cyfnod rhesymol’ o amser iddyn nhw, er enghraifft, 14 diwrnod mewn achos syml
y byddwch chi’n cychwyn achos llys os na fyddan nhw’n ymateb
Rhaid i chi anfon dogfennau allweddol sy’n berthnasol i’r hawliad at yr ochr arall hefyd.
Cadwch gopi o’r llythyr a chopïau o unrhyw ddogfennau rydych chi wedi’u hanfon. Gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf o bostio am ddim – efallai y bydd angen i chi brofi pryd i chi anfon y llythyr.
Os na fyddwch chi wedi derbyn ymateb ar ôl 14 diwrnod, gallwch chi gychwyn camau cyfreithiol trwy lenwi’r ffurflen hawlio.
Os byddan nhw’n ymateb ond nad ydych chi’n cytuno, gallwch chi gychwyn camau cyfreithiol ond bydd angen i chi ddangos i’r llys eich bod chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i osgoi mynd i’r llys. Os bydd y llys yn credu eich bod chi wedi mynd i’r llys cyn i chi ddilyn y rheolau hyn, efallai y bydd rhaid i chi dalu costau’r ochr arall.
Dod i gytundeb y tu allan i’r llys
Mae’n werth dal ati i siarad â’r ochr arall ar ôl i chi gychwyn camau cyfreithiol. Efallai y gallwch chi ddod i gytundeb gyda nhw. Mae’r protocol cyn-achos yn annog partïon i geisio setlo eu hachos os gallan nhw.
Os byddwch chi’n gwneud hynny, gallwch chi stopio’r broses gyfreithiol – mae hyn yn cael ei alw’n setlo. Efallai y bydd y llys yn eich annog i geisio setlo.
Gallwch chi drafod hyd yn oed os i chi geisio dod i setliad cyn cychwyn camau cyfreithiol.
Os ydych chi wedi gwneud eich hawliad yn barod, gallech chi ofyn i’r ochr arall dalu eich costau cyfreithiol a ffioedd y llys fel rhan o’r setliad hefyd.
Dylech chi wastad ddweud bod yr hyn rydych chi’n ei awgrymu “heb ymrwymiad heblaw o ran costau”. Fel arfer, mae hyn yn golygu na all y llys weld y trafodaethau hyn wrth benderfynu ar ganlyniad eich achos. Byddai'n gallu eu gweld nhw maes o law i benderfynu pwy fydd yn talu’r costau cyfreithiol.
Mae gan y llys broses ffurfiol hefyd y gallwch chi ei dilyn i geisio dod i setliad. Yr enw ar y broses hon yw setliad ‘Rhan 36’. Gallwch chi ddefnyddio’r broses hon cyn neu ar ôl i’ch achos gael ei ddyrannu i ‘drac’ llys – oni bai ei fod ar y trac hawliadau bychain. Darllenwch fwy am draciau.
I gael setliad Rhan 36, bydd angen i chi ysgrifennu at eich landlord, gan roi eich cynnig setlo a therfyn amser iddo ei dderbyn neu ei wrthod. Byddech chi’n esbonio a yw’n ymwneud â’r hawliad i gyd neu ran ohono ac a ydych chi’n gwneud gwrth-hawliad. Byddech chi’n esbonio'r costau a beth fyddai’n digwydd os yw'n derbyn neu’n gwrthod y setliad hefyd.
Mae mwy o reolau y mae angen i chi eu dilyn os ydych chi’n gwneud cynnig Rhan 36 – dysgwch fwy am setliadau rhan 36 yn GOV.UK.
Does dim rhaid i chi ddefnyddio’r broses Rhan 36 – gallwch chi wneud cynnig i setlo eich achos sut bynnag y dymunwch chi.
Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau neu nodiadau o sgyrsiau lle i chi awgrymu setlo’r achos neu roi cynnig ar gyfryngu. Gallwch chi ddefnyddio’r rhain maes o law os byddwch chi’n mynd i’r llys. Os byddwch chi’n dod i setliad, gwnewch yn siŵr bod popeth yn cael ei nodi ar bapur – yna bydd gennych chi gofnod.
Cael setliad wedi’i gymeradwyo gan y llys
Dylech chi ofyn i’r llys gymeradwyo’r cytundeb rydych chi wedi dod iddo. Mae hyn yn golygu ei fod yn gwneud gorchymyn ar y telerau rydych chi wedi eu cytuno a bod angen i’r ddwy ochr gadw atynt. Os na fydd un parti yn cadw at y gorchymyn, gall y parti arall gymryd camau i’w orfodi.
Bydd angen i chi:
ddefnyddio ffurflen N244 i ofyn i’r llys am ‘orchymyn cydsyniad’
cytuno gyda’r parti arall beth ddylai’r gorchymyn ei ddweud ac anfon drafft i’r llys gyda’ch cais
talu ffi i’r llys - £100 fel arfer
penderfynu pa barti sy’n mynd i wneud y cais a thalu’r ffi
Gallwch chi ofyn i’r llys ddelio â’ch cais heb wrandawiad i arbed amser a chostau. Os nad yw'r llys yn gallu delio â’ch cais heb wrandawiad, efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys.
Rhoi cynnig ar gyfryngu
Os ydych chi dal yn methu datrys eich problem, gallech chi ofyn i gyfryngwr am help. Mae cyfryngwr yn rhywun sydd wedi hyfforddi i helpu pobl i ddatrys anghytundebau. Fyddan nhw ddim yn ochri gydag unrhyw un. Holwch a oes rhaid i chi dalu am un neu gallech gytuno i rannu’r gost gyda’r parti arall cyn cychwyn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cyfryngu’n rhwymo – mae hyn yn golygu eich bod chi’n cytuno i gydymffurfio â’r penderfyniad, felly ni fyddwch chi’n gallu mynd i’r llys i geisio cael penderfyniad gwahanol. Gallech chi gychwyn cyfryngu cyn neu ar ôl cychwyn achos llys.
Os ydych chi wedi cychwyn achos llys yn barod, gallai cychwyn cyfryngu atal yr achos (y term cyfreithiol am hyn yw ‘wedi’i ohirio’). Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen N244 i ofyn i’r llys atal yr achos a thalu ffi i’r llys.
Gallai’r llys eich gorchymyn i roi cynnig ar gyfryngu ac atal yr acho llys yn y cyfamser. Os felly, ni fydd angen i chi dalu ffi i’r llys.
Os byddwch chi’n gofyn i’r ochr arall ystyried cyfryngu a’i bod yn gwrthod, dylech chi ofyn i’r barnwr ystyried hyn wrth benderfynu sut i ddelio â’r achos ac, yn arbennig, pwy fydd yn talu’r costau.
Nid yw cyfryngu yn orfodol, felly nid ydych yn gallu cael eich gorfodi i roi cynnig arno ond, os bydd y parti arall yn gofyn i chi ei ystyried a’ch bod yn gwrthod, mae yna risg y gallai’r llys eich gorfodi i roi cynnig arno neu dalu costau’r parti arall hyd yn oed os byddwch chi’n ennill eich achos. Does dim rhaid i chi barhau â’r cyfryngu os nad yw’n gweithio.
Dod o hyd i gyfryngwr
Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol i weld a allan nhw eich helpu chi i ddod o hyd i gyfryngwr – efallai y gallan nhw helpu hyd yn oed os nad ydych chi’n denant cyngor. Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyngor lleol yn GOV.UK.
Os byddwch chi dal i fod angen help, gallwch chi chwilio am gyfryngwr yn GOV.UK.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019