Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Polisi preifatrwydd

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi i’n helpu i ddatrys eich problemau, gwella ein gwasanaethau ac ymdrin â materion ehangach mewn cymdeithas sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Rydym yn gadael i chi benderfynu bob tro beth rydych yn gyfforddus yn ei ddweud wrthym, a byddwn bob amser yn esbonio pam rydym angen eich gwybodaeth ac yn ei chadw’n gyfrinachol. Pan fyddwn yn cadw rhywbeth a ddywedwch wrthym, rydym:

  • dim ond yn ei gyrchu pan fydd gennym reswm da
  • dim ond yn rhannu beth sy’n angenrheidiol ac yn berthnasol
  • dydyn ni ddim yn ei werthu i sefydliadau masnachol

Sut fyddwch chi’n defnyddio fy nata?

Yn gyntaf, bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer rhoi cyngor i chi. Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth – mewn ffordd nad yw’n dangos yn uniongyrchol pwy ydych chi – er mwyn deall sut mae gwahanol broblemau’n effeithio ar gymdeithas a chymryd camau i ymdrin â’r problemau hyn. Am fod hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil, mae’n cael ei gadw ar wahân i’ch cofnod achos.

Pan fyddwch wedi rhoi eich caniatâd a’ch manylion cysylltu i ni, gallem ni – neu weithiau bartner ymchwil yr ymddiriedwn ynddo – gysylltu â chi i ofyn i chi am adborth am y gwasanaeth a gawsoch a’ch profiad cyffredinol o Gyngor ar Bopeth.

Oes raid i mi roi fy nghaniatâd i chi ddefnyddio gwybodaeth amdanaf i?

Gallwch chi benderfynu yn union pa wybodaeth rydych yn hapus ei rhoi i ni. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth am fod gennym ‘ddiddordeb cyfiawn’ mewn gwneud hynny er mwyn rhoi cyngor i chi a gwneud gwaith ymchwil.

Pan fyddwn ni’n gofyn am wybodaeth fwy preifat amdanoch, fel unrhyw gyflyrau iechyd neu ethnigrwydd, byddwn angen cael eich cydsyniad chi. Y rheswm am hyn yw bod y wybodaeth hon yn cael ei thrin mewn ffordd arbennig gan y gyfraith. Gallwch bob amser dynnu’r cydsyniad yma yn ei ôl a gofyn ein bod ni’n tynnu’r pethau roeddech wedi eu dweud wrthym.

Mae rhai o’n gwasanaethau arbenigol, fel ein gwasanaeth Cyngor am Arian, yn cael eu darparu ar sail eich cydsyniad chi. Byddwn yn gofyn am eich cydsyniad chi i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol gyda’r gwasanaethau yma.

Ymhle fyddwch chi’n storio fy nata?

Bydd y cofnod o’ch achos yn cael ei storio’n ddiogel mewn system rheoli achosion electronig a ddefnyddir ar y cyd gan yr holl wasanaeth Cyngor ar Bopeth. Rydym oll yn gyfrifol am ei gadw’n ddiogel. Yn rhan o ddatrys eich problem, gallem ni hefyd wneud nodiadau ysgrifenedig, lawrlwytho copïau o’ch achos neu anfon negeseuon e-bost sy’n cynnwys eich gwybodaeth. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod unrhyw wybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel a dim ond yn cael ei gyrchu pan mae rheswm da gan staff a gwirfoddolwyr y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth.

Am faint o amser ydych chi’n cadw cofnodion?

Rydym yn cadw cofnodion am 6 mlynedd. Mae’n bosib y gallwn gadw cofnodion am 16 mlynedd os yw’n bosib y gallai’r cyngor a roddir gael canlyniadau difrifol os na fyddai’n cael ei storio am gyfnod hirach.


Pam fyddech chi efallai’n rhannu fy ngwybodaeth? Gyda phwy fyddwch chi’n ei rannu?
Yn gyffredinol, ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth heb eich caniatâd, heblaw bod gofyn i ni wneud hynny yn gyfreithiol neu mewn rhai sefyllfaoedd cyfyngedig iawn, er enghraifft i’ch amddiffyn chi neu rywun arall rhag niwed difrifol.
Os bydd gwasanaeth penodol yn cynnwys rhannu eich gwybodaeth heb ganiatâd, byddwn bob amser yn gadael i chi wybod o flaen llaw nad yw’n gyfrinachol.

Beth ddylwn i wneud os oes gen i gwestiwn ynglŷn â sut mae fy ngwybodaeth wedi cael ei defnyddio?

Gallwch gysylltu â ni a gofyn i ni:

  • pa wybodaeth rydym wedi ei storio amdanoch chi a chael copi i’w gadw
  • newid neu ddiweddaru eich gwybodaeth
  • dileu eich gwybodaeth o’n cofnodion neu dynnu eich caniatâd yn ôl
  • stopio defnyddio eich gwybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut mae eich gwybodaeth yn cael ei chasglu neu ei defnyddio, gallwch gysylltu â ni yn CAB Cylch Conwy Citizens Advice, Neuadd y Dref, Stryd Lloyd, Llandudno, Conwy LL30 2UP neu ffoniwch ni ar (01745) 828 705 neu anfonwch e-bost atom ar advicecyngor@caconwy.org.uk.

Gallwch ddarllen gwybodaeth fanylach ynglŷn â’r ffordd y mae rhai o’n gwasanaethau’n defnyddio gwybodaeth ar ein gwefan genedlaethol:
http://www.citizensadvice.org.uk/wales/about-us/about-us1/citizens-advice-privacy-policy/your-information/

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth, gallwch gysylltu â ni ar: www.citizensadvice.org.uk/about-us/contact-us/Contact-us-form

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a chodi pryder am y ffordd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth. I gael rhagor o wybodaeth gwelwch wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar www.ico.org.uk neu ffoniwch nhw ar 0303 123 1113

Cyngor Ar Bopeth Cylch Conwy District Citizens Advice Bureau, (Rhif Elusen Gofrestredig: 1123006, rhif TAW: 752704436, Cwmni cyfyngedig drwy warant, Rhif Cofrestru: 5925213 Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Awdurdodwyd a rheoleiddiwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN: 617532. Cyfeiriad swyddfa gofrestredig CAB Cylch Conwy District CAB, Swyddfa’r Cylch, Neuadd Y Dref, Lloyd Street, Llandudno LL30 2UP). Rydym wedi’n cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Rif cyfeirio Z5037179 a byddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.