Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Renters in Wales paying at least £3 million in letting agent fees

27 Medi 2017

Citizens Advice Cymru has called on the Welsh Government to ban letting agent fees in Wales.

New analysis from the charity reveals that renters in Wales pay at least £3 million a year in fees when they move into a privately rented home, with charges averaging £178. The total figure could be even higher as this does not take into account charges people may be charged during their tenancy, such as a contract renewal fee.

Currently, letting agents can charge tenants for tasks such as signing contracts, checking references and renewing tenancies. These fees have to be paid on top of rent and deposits. Citizens Advice Cymru wants the charges banned as they can make it hard for renters to manage their money, and can push people into debt as they’re hit by unexpected fees.

Letting agent fees were banned in Scotland in 2012, and a ban in England was announced by the UK government in November 2016.

As a Welsh Government consultation considering the banning of fees charged to tenants in the private rented sector closes, Citizens Advice Cymru is calling for all fees charged to tenants, other than rent in advance and refundable deposits, to be banned. The charity has also called for the ban to be watertight so that letting agents can’t get around the rules.

Fran Targett, Director of Citizens Advice Cymru said:

“Banning letting agent fees would help thousands of renters across Wales.

“Moving house can be expensive and renters are currently at the mercy of letting agents who set their own charges. Excessive fees can make renting a home prohibitively expensive. Landlords can choose between letting agents, so they should be the ones who pick up the bill for any charges, not renters.

“In order for the ban for be effective, it must be enacted fully and without loopholes. This means that renewal fees and other charges must be included in the ban.”

-ends-

Rhentwyr Cymru’n talu o leiaf £3 miliwn mewn ffïoedd asiantaethau gosod tai

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd ffïoedd asiantaethau gosod tai yn ein gwlad.

Mae dadansoddiad newydd gan yr elusen yn dangos bod y rhai sy’n talu rhent yng Nghymru yn talu o leiaf £3 miliwn y flwyddyn mewn ffïoedd wrth symud i dŷ rhent preifat, gyda’r ffïoedd yn werth tua £178 ar gyfartaledd. Gallai’r cyfanswm fod hyd yn oed yn uwch gan nad yw’n ystyried y ffïoedd posib a godir ar bobl yn ystod eu tenantiaeth, gan gynnwys ffi adnewyddu contract.

Ar hyn o bryd, mae asiantaethau gosod tai yn gallu codi tâl ar denantiaid am bethau fel llofnodi contractau, gwirio geirdaon ac adnewyddu tenantiaeth. Rhaid talu’r ffïoedd hyn ar ben y rhent a’r blaendal. Hoffai Cyngor ar Bopeth Cymru weld y ffïoedd yn cael eu gwahardd, gan eu bod nhw’n gallu ei gwneud hi’n anodd i rentwyr reoli eu harian gan eu gwthio i ddyled wrth gael eu taro gan ffïoedd annisgwyl.

Cafodd ffïoedd asiantaethau gosod tai eu gwahardd yn yr Alban nôl yn 2012, a chyhoeddwyd gwaharddiad tebyg i Loegr gan Lywodraeth y DU yn Nhachwedd 2016.

Wrth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy’n ystyried gwahardd y ffïoedd a godir ar denantiaid yn y sector rhentu preifat gau, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn galw am wahardd yr holl ffïoedd a godir ar denantiaid, heblaw am rent ymlaen llaw a blaendaliadau i’w had-dalu. Ar ben hynny, mae’r elusen yn galw ar i’r gwaharddiad fod yn un digon cadarn fel na all asiantaethau gosod blygu’r rheolau.

Meddai Fran Targett, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:

“Byddai gwahardd ffïoedd asiantaethau gosod tai yn help mawr i filoedd o rentwyr o Fôn i Fynwy.

“Mae symud tŷ yn gallu bod yn ddigon drud, ac ar hyn o bryd, mae rhentwyr ar drugaredd asiantaethau gosod sy’n pennu eu ffïoedd eu hunain. Mae ffïoedd gormodol yn golygu bod rhentu cartref yn gallu bod yn afresymol o ddrud. Gall landlordiaid ddewis rhwng asiantaethau gosod, felly nhw, nid y rhentwyr, ddylai ysgwyddo’r baich ariannol o ran ffïoedd.

“Er mwyn i’r gwaharddiad fod yn effeithiol, rhaid ei ddeddfu’n llawn heb unrhyw ddihangfa. Mae hyn yn golygu bod rhaid cynnwys ffïoedd adnewyddu a threuliau eraill yn y gwaharddiad.”

-diwedd-

Notes to editors

  1. Calculated using data from National Survey for Wales 2014-2015 : 44% of those renting from an individual private landlord had lived at the address for less than 12 months.  Shelter Cymru, Letting Go research: more than 57,000 households live in homes that are let through agents. Shelter Cymru research (unpublished): 68% of tenants who had let through agents paid letting fees on the last occasion they had moved within the private rented sector.  Welsh Government research into letting fees to tenants : average set up fee for tenants in Wales, at £178.
  2. The Citizens Advice service comprises a network of local Citizens Advice, all of which are independent charities, the Citizens Advice consumer service and national charity Citizens Advice. Together we help people resolve their money, legal and other problems by providing information and advice and by influencing policymakers. For more see the Citizens Advice website.
  3. The advice provided by the Citizens Advice service is free, independent, confidential and impartial, and available to everyone regardless of race, gender, disability, sexual orientation, religion, age or nationality.

  4. To get advice online or find your local Citizens Advice in England and Wales, visit citizensadvice.org.uk

  5. You can get consumer advice from the Citizens Advice consumer service on 03454 04 05 06 or 03454 04 05 05 for Welsh language speakers.

  6. Local Citizens Advice in England and Wales advised 2.5 million clients on 6.2 million problems in 2014/15. For full service statistics see our publication Advice trends.

  7. Citizens Advice service staff are supported by more than 21,000 trained volunteers, working at over 2,500 service outlets across England and Wales.

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyfrifwyd o ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-2015: roedd 44% o’r rhai oedd yn rhentu gan landlordiaid preifat wedi byw yn y cyfeiriad ers llai na 12 mis. Ymchwil 'Letting Go' Shelter Cymru: mae dros 57,000 o aelwydydd yn byw mewn cartrefi sy’n cael eu gosod gan asiantau. Ymchwil Shelter Cymru (heb ei gyhoeddi): Roedd 68% o’r tenantiaid a oedd wedi gosod trwy asiantau wedi talu ffïoedd gosod y tro diwethaf iddyn nhw symud o fewn y sector rhentu preifat. Ymchwil Llywodraeth Cymru i ffïoedd asiantau gosod i denantiaid: £178 yw’r ffi gychwynnol gyfartalog i denantiaid yng Nghymru.
  2. Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cynnwys rhwydwaith o swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol sy’n elusennau annibynnol, gwasanaeth i ddefnyddwyr ac elusen genedlaethol Cyngor ar Bopeth. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n helpu pobl i ddatrys eu problemau ariannol, cyfreithiol ac eraill trwy roi cyngor a gwybodaeth yn ogystal â dylanwadu ar lunwyr polisïau. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.
  3. Rydyn ni’n rhoi gwasanaeth am ddim, annibynnol, cyfrinachol a diduedd, sydd ar gael i bawb waeth beth yw’ch hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd, oedran neu genedligrwydd.
  4. I gael cyngor ar-lein neu ddod o hyd i’ch Cyngor ar Bopeth lleol ewch i citizensadvice.org.uk
  5. Gallwch gael cyngor gan wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth trwy ffonio 03454 04 05 05 (Cymraeg) neu 03454 04 05 06 (Saesneg).
  6. Yn 2014/15, cafodd 2.5 miliwn o gleientiaid gyngor ar 6.2 miliwn o broblemau gan Gyngor ar Bopeth Cymru a Lloegr. Am ystadegau llawn, darllenwch ein cyhoeddiad Tueddiadau cyngor.
  7. Mae staff gwasanaethau Cyngor ar Bopeth wedi’u hategu gan dros 21,000 o wirfoddolwyr medrus sy’n gweithio mewn dros 2,500 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr.