Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael y cyngor neu gymdeithas tai i adolygu eu penderfyniad i'ch troi allan

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gallwch ofyn i’ch landlord adolygu ei benderfyniad i’ch troi allan os oes gennych gontract rhagarweiniol neu gontract ymddygiad gwaharddedig.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gontract sydd gennych, gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig. Eich datganiad ysgrifenedig yw’r contract rhyngoch chi a’r cyngor neu gymdeithas tai.

Os oes gennych chi fath gwahanol o gontract, gallwch herio eich troi allan gyda ffurflen amddiffyn. 

Eich landlord yw’r cyngor neu’r gymdeithas dai rydych yn talu rhent iddynt – a elwir weithiau yn ‘landlord cymunedol’.

Yr adolygiad yw'r cyfle gorau sydd gennych i aros yn eich cartref. Os bydd yr adolygiad yn methu, bydd y llys yn penderfynu bod yn rhaid i chi adael eich cartref - oni bai nad yw eich landlord wedi dilyn y broses gywir neu fod amgylchiadau arbennig.

Gwiriwch sut i ofyn am adolygiad

Mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysiad i ofyn am adolygiad - dylai eich hysbysiad ddweud wrthych sut i ofyn am adolygiad. Gall fod yn wrandawiad wyneb yn wyneb neu gallwch ysgrifennu llythyr i gefnogi eich achos.

Mae’n well gofyn am wrandawiad wyneb yn wyneb os teimlwch y gallwch wneud hynny – mae’n rhoi cyfle i chi gyflwyno’ch achos a chlywed unrhyw dystiolaeth sydd gan eich landlord.

Os na allwch fynd i wrandawiad wyneb yn wyneb, gallwch ofyn iddo ddigwydd ar y ffôn neu drwy alwad fideo.

Bydd yr adolygiad gyda'r cyngor neu gymdeithas dai, nid y llys. Byddant yn sicrhau nad yw’r sawl sy’n cynnal yr adolygiad wedi bod yn gysylltiedig â’ch achos o’r blaen.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch i lunio'ch achos ar gyfer eich adolygiad. 

Os dewiswch wrandawiad wyneb yn wyneb

Dylai'r cyngor neu gymdeithas dai anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn y gwrandawiad.

Fel arfer cynhelir y gwrandawiad cyn gynted â phosibl ar ôl i chi ofyn amdano. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i chi gael penderfyniad cyn i'ch hysbysiad ddod i ben. 

Os dewiswch wrandawiad wyneb yn wyneb, fe allech chi:

  • galw pobl i roi tystiolaeth ar eich rhan

  • gofyn cwestiynau i unrhyw un sy'n rhoi tystiolaeth

  • mynd â rhywun gyda chi am gefnogaeth neu i gymryd nodiadau

  • gofyn i rywun arall eich cynrychioli - dylech bob amser fynychu hyd yn oed os nad oes gennych rywun i'ch cynrychioli

Os penderfynwch ysgrifennu llythyr

Unwaith y byddwch wedi gofyn am yr adolygiad, rhaid i’r cyngor neu gymdeithas dai roi digon o amser i chi anfon eich amddiffyniad yn ysgrifenedig cyn i’ch hysbysiad ddod i ben.

Nid oes angen i chi ddefnyddio ffurflen arbennig - gallwch ysgrifennu llythyr. Gwnewch gopi o'r hyn rydych chi'n ei ysgrifennu fel bod gennych chi gofnod.

Gwneud eich achos i aros yn eich cartref

P’un a ydych chi’n dewis gwrandawiad neu’n ysgrifennu llythyr, defnyddiwch yr adolygiad i esbonio pam rydych chi’n herio’r troi allan a pham rydych chi’n meddwl y dylech chi aros yn eich cartref.

Mae'n well rhoi cymaint o fanylion â phosibl - bydd y cyngor neu gymdeithas tai yn edrych ar eich sefyllfa i benderfynu a allwch chi aros yn eich cartref.

Casglwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich achos. Er enghraifft, nodyn meddyg neu dystiolaeth feddygol os na allech dalu eich rhent oherwydd eich bod yn sâl.

Fel arfer mae gan gynghorau a chymdeithasau tai bolisi ar sut y maent yn delio ag ôl-ddyledion rhent, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gontractau rhagarweiniol. Gwiriwch eu polisi ar-lein i weld a ydynt wedi ei ddilyn. Os nad ydynt, dylech sôn amdano yn ystod yr adolygiad.

Rhowch y rhesymau dros eich problemau

Dylech esbonio eich ochr chi o'r stori. Er enghraifft, dywedwch os na allech dalu eich rhent oherwydd eich bod wedi colli eich swydd neu oherwydd eich bod yn yr ysbyty.

Os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, dylech ddweud wrth eich landlord. Os nad oeddent yn gwybod o'r blaen, ni fyddant wedi gallu gwneud addasiadau ar ei gyfer. Os dywedwch wrthyn nhw nawr, fe allen nhw benderfynu atal y troi allan.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, fe allech chi helpu’ch achos trwy ei gynnwys ar eich ffurflen - gwiriwch a ydych chi wedi dioddef gwahaniaethu. 

Eglurwch sut rydych chi'n gwella'r sefyllfa

Bydd y cyngor neu gymdeithas tai yn edrych ar yr hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud i wella’r sefyllfa.

Os gallwch chi brofi eich bod yn ceisio gwella’r sefyllfa, efallai y bydd y cyngor neu gymdeithas tai yn penderfynu peidio â’ch troi allan.

Gwnewch yn siwr i sôn:

  • os ydych chi’n talu eich ôl-ddyledion rhent bob wythnos neu wedi talu am atgyweiriadau i unrhyw ddifrod a achoswyd gennych

  • os ydych chi wedi gwneud cais am unrhyw fudd-daliadau neu swydd newydd os oes gennych ôl-ddyledion rhent

  • os efallai y byddwch yn gallu talu eich rhent yn fuan - er enghraifft oherwydd byddwch yn derbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Nodwch unrhyw gamgymeriadau yn eich hysbysiad

Os oes unrhyw gamgymeriadau yn hysbysiad y cyngor, eglurwch nhw.

Er enghraifft, soniwch os yw swm yr ôl-ddyledion rhent yn anghywir, neu os yw’n eich cyhuddo o ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd ddim yn wir.

Cael penderfyniad

Mae'n rhaid i'r cyngor neu gymdeithas tai roi gwybod i chi am eu penderfyniad yn ysgrifenedig cyn i'ch hysbysiad ddod i ben. 

Gwiriwch pryd fydd eich hysbysiad yn dod i ben

Mae pryd y daw eich hysbysiad i ben yn dibynnu ar:

  • p’un ai a oes gennych gontract rhagarweiniol neu gontract ymddygiad gwaharddedig

  • pam eich bod yn cael eich troi allan - gallwch wirio'r rheswm pam eich bod yn cael eich troi allan ar eich hysbysiad

Os oes gennych gontract rhagarweiniol

Bydd eich hysbysiad fel arfer yn dod i ben 6 mis ar ôl i chi ei gael.

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent difrifol, bydd eich hysbysiad yn dod i ben ymhen 1 mis. Byddwch mewn ol-ddyledion rhent difrifol os ydych yn talu eich rhent yn fisol a bod arnoch chi o leiaf 8 wythnos o rent.

Bydd eich hysbysiad yn dod i ben o fewn cyfnod amser gwahanol os yw eich landlord naill ai:

  • yn meddwl eich bod wedi torri eich contract

  • angen eich symud i eiddo gwahanol

Os nad ydych yn siŵr pryd y daw eich hysbysiad i ben, siaradwch â chynghorydd.

Os oes gennych gontract ymddygiad gwaharddedig

Bydd eich hysbysiad yn dod i ben 2 fis ar ôl i chi ei gael.

Os oedd eich adolygiad yn aflwyddiannus

Rhaid i’r cyngor neu gymdeithas tai ddweud wrthych pam na lwyddodd yr adolygiad.

Os ydynt wedi dilyn y camau cywir, byddwch fel arfer yn cael eich troi allan.

Dim ond os nad oedden nhw wedi dilyn eu proses eu hunain neu os oedd amgylchiadau arbennig y gallwch chi herio penderfyniad y cyngor neu’r gymdeithas dai. 

Siaradwch â chynghorydd os ydych am herio penderfyniad eich cyngor neu gymdeithas tai.

Os credwch nad yw’r cyngor neu gymdeithas tai wedi dilyn eu polisïau eu hunain, gallwch hefyd gwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar eu gwefan. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn golygu y gallwch aros yn eich cartref.

Gallwch wirio gwefan polisïau eich cyngor neu gymdeithas dai ar GOV.UK. Gallwch hefyd gysylltu â nhw i ofyn am gopi.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.