Os ydych yn cael eich troi allan o'ch cartref cyngor
Nid oes rhaid i chi adael eich cartref ar unwaith os oes gennych hysbysiad troi allan gan eich cyngor lleol neu gymdeithas tai.
Bydd yr hysbysiad troi allan fel arfer yn ffurflen Rhentu Cartrefi Cymru (RHW) sy’n dweud ‘terfynu’ neu ‘feddiant’.
Mae’n rhaid i’ch landlord ddilyn proses cyn y gallant eich troi allan a bydd hyn yn cymryd peth amser - yn dibynnu ar y rheswm y mae eich landlord yn ei ddefnyddio i’ch troi allan.
Beth sy'n rhaid i'ch landlord ei wneud
Mae’r union broses y mae’n rhaid i’ch landlord ei dilyn yn dibynnu ar y math o gontract sydd gennych a’r math o hysbysiad troi allan y mae’n ei roi i chi. Fel arfer bydd yn rhaid iddynt:
-
Rhoi hysbysiad troi allan i chi yn egluro pam y gofynnir i chi adael a phryd y maent am i chi adael
-
Gwneud cais i’r llys am ‘orchymyn ildio meddiant’ os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad ar eich hysbysiad
-
Mynd i wrandawiad lle bydd y llys yn penderfynu a ddylid cyhoeddi ‘gorchymyn ildio meddiant’
-
Gwneud cais i’r llys i gael ‘gwarant meddiannu’ os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad ar eich gorchymyn ildio meddiant – byddant wedyn yn anfon y beilïaid i’ch cartref i’ch troi allan
Beth allwch chi ei wneud i herio'r troi allan
Mae camau y gallwch eu cymryd i geisio aros yn eich cartref:
Efallai mai dim ond rhai o’r camau hyn y bydd angen i chi eu gwneud - bydd yn dibynnu ar ba gam rydych chi yn y broses troi allan.
Os ydych am herio eich troi allan
Efallai y byddwch yn gallu herio eich troi allan os yw eich landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft os yw’n eich troi allan:
-
oherwydd pwy ydych chi
-
mewn ffordd sy'n anoddach i chi o’i gymharu â phobl eraill
-
am reswm sy'n gysylltiedig â'ch anabledd
-
oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu o'r blaen
Os yw unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i chi, dylech wirio a yw eich problem tai yn wahaniaethu.
Siaradwch â chynghorydd - efallai y gallant eich helpu i drafod gyda'ch landlord neu herio eich troi allan.