Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Paratoi ar gyfer eich gwrandawiad troi allan

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd y llys yn dweud wrthych pryd a ble fydd eich gwrandawiad.

Bydd y llys yn defnyddio’r gwrandawiad i benderfynu a oes angen i chi adael eich cartref. Bydd yn rhoi ‘gorchymyn meddiannu’ i’ch landlord os bydd angen i chi adael – mae hyn yn golygu y gall eich landlord eich troi allan.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’ch gwrandawiad llys - hyd yn oed os nad ydych wedi anfon eich ffurflen amddiffyn. Dyma’ch cyfle i esbonio i’r llys pam y dylech gael yr hawl i aros yn eich cartref. Hyd yn oed os bydd yn rhaid i chi adael, efallai y byddant yn gadael i chi aros yn eich cartref am fwy o amser.

Os ydych wedi anfon eich ffurflen amddiffyn ac nad ydych yn mynd i’r gwrandawiad, gallai’r llys ddibynnu ar y dystiolaeth y mae eich landlord wedi’i rhoi iddynt yn unig.

Os na allwch fynd i’r gwrandawiad meddiannu, dywedwch wrth y llys cyn gynted â phosibl ac eglurwch pam na allwch fynd. Efallai y bydd y llys yn:

  • trefnu i'r gwrandawiad ddigwydd dros y ffôn neu drwy alwad fideo

  • newid dyddiad y gwrandawiad

Gallwch wirio sut i baratoi os bydd y llys yn penderfynu trefnu gwrandawiad dros y ffôn neu alwad fideo.

Os ydych yn defnyddio gwahaniaethu fel rhan o’ch amddiffyniad, gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu’ch tystiolaeth cyn i chi fynd i’r llys. 

Os bydd y llys yn penderfynu bod yn rhaid i chi adael, fel arfer bydd gennych 14 diwrnod cyn y bydd angen i chi symud allan.

Os oes gennych gontract safonol ymddygiad gwaharddedig neu gontract safonol rhagarweiniol, mae’r llys yn annhebygol o adael i chi aros yn eich cartref.

Dim ond os yw'ch landlord wedi dilyn y broses gywir y gallant eich troi allan. Efallai y gallwch ofyn i'ch landlord adolygu ei benderfyniad i'ch troi allan cyn i chi fynd i'r llys - gwiriwch sut i ofyn iddynt adolygu eu penderfyniad.

Siaradwch â chynghorydd os ydych yn mynd i gael eich troi allan neu os ydych yn poeni am fynd i’r llys. Efallai y gall cynghorydd eich helpu i adeiladu eich achos neu ddod o hyd i gymorth cyfreithiol am ddim i chi. 

Cael cymorth cyfreithiol 

Gallwch gael cyfreithiwr i'ch cynrychioli. Os nad oes gennych unrhyw incwm neu incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i’ch helpu i dalu’r gost. Darganfyddwch a allwch chi gael help gyda chostau cyfreithiol ar GOV.UK.

Ar ddiwrnod y gwrandawiad, byddwch hefyd yn gallu siarad â’r cynghorydd ar ddyletswydd – does dim ots faint o incwm sydd gennych. Cyn dyddiad y gwrandawiad meddiannu, darllenwch y llythyrau gan y llys a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gysylltu â'r cynghorydd ar ddyletswydd.

Os na allwch gysylltu â’r cynghorydd ar ddyletswydd ar ddiwrnod y gwrandawiad, dywedwch wrth y tywysydd neu’r barnwr cyn i’r gwrandawiad ddechrau – efallai y bydd y barnwr yn cytuno i ohirio’r gwrandawiad.

Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod pa gyngor cyfreithiol y gallwch ei gael.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.