Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor ar Bopeth.

Cynhelir y wefan gan Cyngor ar Bopeth. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Dylech chi allu:

  • deall ein cynnwys yn hawdd  
  • gweld delweddau a deunydd amlgyfrwng – gan gynnwys fideos, animeiddiadau a sain
  • darllen testun gyda chyferbynnedd lliw da
  • neidio i’r prif gynnwys drwy ddefnyddio bysellfwrdd

Gallwch ganfod cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio ar wefan AbilityNet.

Pa mor hygyrch yw’r wefan 

Rydym ni’n gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft:

  • mae cyferbynnedd lliw gwael ar rai tudalennau

  • nid yw rhai labeli a negeseuon camgymeriad yn glir

  • nid yw rhai botymau wedi’u nodi’n gywir

  • nid yw rhai tudalennau a ffurflenni’n gweithio’n dda wrth chwyddo i mewn

  • ni ellir cyrchu na gwe-lywio rhai tudalennau a ffurflenni gyda bysellfwrdd 

  • nid oes gan rai dolenni destun defnyddiol neu dim ond oherwydd eu lliw y gallwch weld mai dolenni ydyn nhw

  • nid yw gwe-lywio’n gyson

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordiad sain neu braille, gallwch ofyn drwy ddefnyddio’r ddolen ar ddiwedd pob tudalen. Byddwn yn ystyried eich cais a chysylltu â chi.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan 

Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch ddweud wrthym amdanynt gan ddefnyddio’r ddolen ar ddiwedd pob tudalen.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni 

Rydym yn darparu gwasanaeth ffôn testun i bobl nad ydynt yn gallu clywed na siarad ar y ffôn. Mae rhagor o wybodaeth am ffôn testun ar wefan Relay UK.

Gallwch wirio a oes gan eich Cyngor ar Bopeth lleol ddolenni sain. Dylech hefyd wirio a allwch drefnu dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) cyn eich ymweliad. Dyma sut mae cysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan 

Mae Cyngor ar Bopeth wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1,  oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir yn yr adran hon yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Rydym yn methu ‘1,4 Gwahaniaethadwy’ Safon AA WCAG 2.1 oherwydd:

  • nid yw’r wefan yn bodloni gofyniad cyferbynnedd 3.1 yn erbyn cefndir gwyn ar gyfer elfennau rhyngweithiol neu ddulliau rheoli ffurflenni
  • mae rhai tudalennau’n defnyddio lliw i ddangos beth maen nhw’n ei olygu

Rydym yn ailgynllunio’n gwefan a byddwn yn dechrau defnyddio’r dyluniadau hyn yn gynnar yn 2021.
Byddwn yn cael gwared ar y bar offer rhannu cymdeithasol.

Ffurflenni

Rydym yn methu canllawiau ‘1.3 Addasadwy’, ‘2.1 Hygyrch â bysellfwrdd’, ‘2.4 Gwe-lywio’ a ‘3.3 Cymorth mewnbwn’ safonau AA WCAG 2.1 oherwydd:

  • ni ellir defnyddio llawer o’r ffurflenni gyda bysellfwrdd yn unig neu ryngwyneb bysellfwrdd
  • mae labeli ar goll o rai meysydd ffurflenni sy’n gallu ei gwneud yn anodd gwybod pa faes i’w lenwi
  • nid yw cynnwys deinamig wedi’i farcio’n iawn felly ni fydd defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn gwybod bod y cynnwys wedi newid
  • nid yw negeseuon camgymeriad yn dweud wrth bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol fod yna gamgymeriad

Yn 2021, byddwn yn dechrau adolygu sut y bydd pob ffurflen a phob elfen ryngweithiol yn cael ei gweithredu.

Rydym yn ailgynllunio ein gwefan a byddwn yn dechrau defnyddio’r dyluniadau hyn yn gynnar yn 2021.

Cydweddoldeb

Rydym yn methu ‘4.1 Cydweddoldeb’ safonau AA WCAG 2.1 oherwydd mae rhywfaint o iaith HTML ac ARIA yn cynnwys priodweddau annilys.

Rydym yn symud i System Rheoli Cynnwys newydd a fydd yn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Gwe-lywio

Rydym yn methu canllaw ‘1.4 Gwahaniaethadwy’ safonau AA WCAG 2.1 oherwydd:

  • ni ellir cau eitemau yn y ddewislen we-lywio gyda’r fysell ‘Esc’
  • mae’r testun bar gwe-lywio yn ail-lifo wrth chwyddo i mewn ar destun ar hen dudalennau, ond nid yw’r bar glas yn mynd yn fwy ac mae’n gwneud y testun yn annarllenadwy

Byddwn yn defnyddio dulliau gwe-lywio erbyn dechrau 2021.

Mynediad bysellfwrdd

Rydym yn methu canllawiau ‘2.1 Hygyrchedd bysellfwrdd’ a ‘2.4 Gwe-lywio’ safonau AA WCAG 2.1 oherwydd:

  • ni ellir cyrchu nifer o’r adnoddau na’u gwe-lywio gyda’r bysellfwrdd
  • nid yw’r adnodd gwe-lywio ar ochr rhai tudalennau mewn trefn resymegol ac nid ydynt yn gadael i chi ddewis dolen gan ddefnyddio bysellfwrdd
  • mae gan rai tudalennau fotymau gydag iaith anghywir sy’n effeithio ar sut maent yn gweithio gyda thechnoleg gynorthwyol

Byddwn yn gwneud y gwe-lywio a’r botymau’n hygyrch erbyn dechrau 2021.

Dolenni

Rydym yn methu canllawiau ‘1.4.1 Defnyddio lliw’ a ‘2.4.4 Diben dolen (mewn cyd-destun)’ safonau AA WCAG 2.

Mae gan rai tudalennau ddolenni na ellir gwahaniaethu rhyngddynt â thestun plaen heblaw am eu lliw. Mae hyn yn waeth ar gyfer dolenni pennawd ar dudalennau mynegai, gan nad oes unrhyw ffordd o wybod pa rai sy’n ddolenni.

Rydym yn ailgynllunio ein gwefan a byddwn yn dechrau defnyddio’r dyluniadau hyn yn gynnar yn 2021.

Baich anghymesur

Mae ‘baich anghyfartal’ yn golygu cynnwys na fyddai’n cymryd llawer o amser neu arian i’w atgyweirio, ond a fyddai’n ei wneud yn llawer haws i’w ddefnyddio.

Rydym yn bwriadu datrys pob problem y byddwn yn dod ar ei thraws, felly nid yw’r adran hon yn berthnasol i ni.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd 

Ddim yn berthnasol ar gyfer y datganiad hwn gan ein bod yn bwriadu datrys pob problem hygyrchedd.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd 

Ar hyn o bryd, rydym yn symud i System Rheoli Cynnwys newydd - bydd hyn yn datrys llawer o’r problemau sydd wedi’u disgrifio. Ar ôl hynny, byddwn yn cynnal archwiliad allanol o’r safle.

Rydym hefyd wedi datblygu proses i sicrhau ein bod yn bodloni safonau hygyrchedd o hyn allan.

1. Archwiliadau hygyrchedd ar bob datblygiad sy’n cael ei ryddhau

Rydym yn sicrhau bod pob cynnwys, cynllun a datblygiad newydd yn bodloni safonau hygyrchedd. 

2. Profion sicrhau ansawdd rheolaidd sy’n canolbwyntio ar hygyrchedd 

Wrth i ni gynllunio, adeiladu a diweddaru’r safle, byddwn yn cynnal archwiliadau rheolaidd a phrofion holi ac ateb i sicrhau nad ydym yn ychwanegu unrhyw rwystrau newydd.

3. Cynnwys pobl gydag anghenion mynediad ym mhob cylch ymchwil 

Yn ystod y cyfnodau datblygu cynnar, byddwn yn sicrhau bod pobl ag anghenion mynediad yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil.

Byddwn yn cynnal profion defnyddioldeb gyda chynghorwyr sy’n gweithio i Cyngor ar Bopeth a byddwn yn defnyddio ein Grŵp Rhwydwaith Anabledd i recriwtio cyfranogwyr.

Wrth recriwtio cyfranogwyr allanol ar gyfer profion defnyddioldeb, byddwn yn gofalu ein bod yn cynnwys pobl ag anghenion mynediad.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020. Fe’i hadolygwyd diwethaf ar 23 Medi 2020.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Ionawr 2020. Cynhaliwyd y profion yn fewnol.

Defnyddiwyd dull y Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Gwefan (WCAG-EM) wrth benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi.