Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael help gyda phroblem yn y gwaith

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ynglyn â pha help y gallwch ei gael gyda phroblem yn y gwaith

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych ble y gallwch ddod o hyd i ragor o help a gwybodaeth os oes gennych broblem yn y gwaith, neu os ydych yn gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Dysgwch fwy am wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Gallaf gael help gyda fy achos tribiwnlys cyflogaeth?

Mae meddwl am ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth yn medru eich dychryn. I lawer o bobl, mae cael cyngor cyn cymryd unrhyw gamau yn ddefnyddiol.

Mae yna lawer o fudiadau a fyddai efallai’n medru cynnig cyngor neu help i chi gyda’ch achos. Ceir mwy o wybodaeth a manylion cyswllt ar y dudalen hon.

Efallai y byddwch hefyd am ddod o hyd i rywun i’ch helpu i baratoi eich achos neu i’ch cynrychioli os oes gwrandawiad. Ond, pan fyddwch chi’n dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, ni fyddwch yn medru cael help neu gynrychiolaeth ar gyfer eich achos yn awtomatig.

Ar y dudalen hon, mae yna syniadau i’ch helpu i ddod o hyd i rywun i’ch helpu i baratoi eich achos neu i’ch cynrychioli os oes gwrandawiad.

Ond os na fyddwch chi’n medru cael cyngor neu gynrychiolaeth, peidiwch â mynd i banig! Sefydlwyd tribiwnlysoedd cyflogaeth er mwyn i gyflogedigion cyffredin ymddangos ar eu pennau eu hunain ac mae yna lawer o bobl sydd ddim â chynrychiolydd. Mae’r tribiwnlys yn gyfarwydd â gweld pobl heb gynrychiolydd.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cynghorydd a chynrychiolydd?

Os fyddwch chi’n cael help gan ganolfan Cyngor ar Bopeth neu asiantaeth cyngor arall, efallai y byddwch yn cael help gan rywun sy’n medru eich cynghori neu rywun sy’n medru eich cynrychioli.

Mae cynghorydd yn rhywun sy’n medru eich helpu gyda’ch achos, yn y cefndir.  Fel arfer, ni fydd yn siarad â’ch cyflogwr yn uniongyrchol nac yn eich cynrychioli’n ffurfiol.

Mae cynrychiolydd yn rhywun a fydd yn cael ei enwi ar ffurflen y tribiwnlys. Fe fydd yn cyfrifol am baratoi eich achos ac yn eich cynrychioli yn y tribiwnlys. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi siarad yn y tribiwnlys hefyd, i roi’ch tystiolaeth.

Fe fydd unrhyw gyswllt ynglyn â’ch achos yn mynd yn syth at eich cynrychiolydd, ac fe fydd yn cysylltu â chi yn ôl yr angen. Os ydych chi’n mynd i ffwrdd, ar wyliau enghraifft, rhaid i chi ddweud wrth eich cynrychiolydd.

Os oes cynghorydd gennych yn hytrach na chynrychiolydd, chi sydd â’r cyfrifoldeb o baratoi eich achos, ond mae’ch cynghorydd yno i’ch helpu ar hyd y ffordd. Rhaid i chi gadw mewn cysylltiad â’ch cynghorydd, yn enwedig pan fyddwch chi’n derbyn unrhyw beth gan y tribiwnlys. Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’ch cynghorydd ynghylch unrhyw lythyron, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn a gewch ynglyn â’ch achos, gan y tribiwnlys neu gynrychiolydd eich cyflogwr er enghraifft. Weithiau, mae’n rhaid i chi wneud pethau o fewn terfyn amser, mewn ymateb i’r rhain.

Pan fyddwch chi’n cael dyddiad ar gyfer eich gwrandawiad, dylech gysylltu â’ch cynghorydd ar unwaith. Os fyddwch chi’n oedi rhag cysylltu ac yn cysylltu ychydig cyn y gwrandawiad, efallai na fydd eich cynghorydd yn medru eich helpu i wneud eich paratoadau terfynol.

Dylech gofio efallai y bydd yn rhai i gynghorydd neu gynrychiolydd dynnu yn ôl o’ch achos. Mae hyn yn medru bod am wahanol resymau. Er enghraifft, efallai am ei fod yn haws i gynrychiolydd prysur baratoi achosion pan fyddan nhw’n swyddogol, neu eu bod ond yn medru gweld cryfder eich achos ar ôl dilyn gweithdrefnau penodol. Fe fydd eich cynghorydd neu gynrychiolydd yn siarad â chi ynglyn â hyn os digwydd i’r sefyllfa godi.

Undebau Llafur

Os ydych yn aelod o undeb llafur, dylech gysylltu â nhw i weld os ydyn nhw’n medru eich helpu chi gyda’ch problem yn y gwaith, cyn ceisio dod o hyd i help yn rhywle arall. Efallai bod cynrychiolydd undeb yn eich gweithle, neu efallai y bydd angen i chi gysylltu â’ch cangen leol.

Fe allwch ddarganfod mwy am eich hawliau yn y gwaith fel aelod o undeb, a sut i gysylltu â’ch undeb yn: https://www.tuc.org.uk/join-a-union

Cyngor ar Bopeth

Siaradwch â chynghorydd i gael help gyda'ch problem cyflogaeth neu hawliad tribiwnlys cyflogaeth.

Help gan gyfreithiwr

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am help gan gyfreithiwr, neu efallai y bydd yn bosib i chi gael help yn rhad ac am ddim. Mae yna ffyrdd amrywiol o dalu am gyfreithiwr, ac felly mae’n werth gweld os yw un o’r ffyrdd hyn yn berthnasol i chi.

Polisïau yswiriant

Mae rhai polisïau yswiriant yn cynnwys costau gyfreithiol. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn medru cael eich cwmni yswiriant i dalu am eich cyfreithiwr, ac weithiau am gynrychiolaeth arbenigol.  Darllenwch y polisi yswiriant ar gyfer eich cartref, yswiriant eich car ac unrhyw bolisïau eraill sydd gennych, gan gynnwys polisi ar gyfer cardiau credyd a ffôn symudol, neu cysylltwch â’ch cwmni yswiriant i ddarganfod os oes darpariaeth ar eich cyfer.

Cymorth cyfreithiol

Nid ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion yn ymwneud â chyflogaeth onid yw’n broblem sy’n ymwneud â gwahaniaethu.

I ddarganfod mwy am gymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Cytundebau dim llwyddiant, dim tâl

Os nad ydych yn medru fforddio talu am gyfreithiwr, ac nid ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol, efallai y byddwch yn medru dod o hyd i gyfreithiwr a fydd yn fodlon cymryd eich achos ar gytundeb dim llwyddiant, dim tâl. Os fyddwch chi’n ennill neu’n setlo’ch achos, fel arfer fe fyddwch yn talu hyd at draean o’ch iawndal i’ch cyfreithiwr. Os ydych yn talu am gyfreithiwr yn y ffordd yma, gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio’ch cytundeb yn ofalus ar y dechrau, fel eich bod yn glir ynghylch yr hyn fyddwch chi’n ei dalu.

I ddarganfod mwy ynghylch setlo achos sydd gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Defnyddio cymodi cynnar  a Llunio cytundeb setlo gyda'ch cyflogwr.

Advocate

Mae Advocate yn elusen a allai eich helpu gyda chyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol trwy geisio dod o hyd i fargyfreithiwr i weithio ar eich achos. Maen nhw'n rhoi help i bobl na allant fforddio talu ffioedd cyfreithiol ac na allant gael cymorth cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Advocate ar eu gwefan.

Dod o hyd i gyfreithiwr eich hun os oes rhaid i chi dalu

Os oes rhaid i chi ddod o hyd i gyfreithiwr eich hun, mae yna nifer o fudiadau a allai’ch helpu i wneud hyn. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio ffioedd y cyfreithiwr yn ofalus cyn i chi gytuno i’w ddefnyddio.

Cymdeithas y Gyfraith yw’r corff sy’n cynrychioli cyfreithwyr, ac efallai y bydd yn medru eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr preifat yn eich ardal. Fe allwch chwilio drwy gronfa ddata ar-lein sy’n cynnwys cyfreithwyr a chynghorwyr cyfreithiol eraill, yn:www.lawsociety.org.uk.

Gallwch ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol ar GOV.UK.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dod o hyd a defnyddio cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Free Representation Unit (yr FRU)

Mae’r FRU yn medru darparu cyngor, help i baratoi achos a chynrychiolaeth mewn achosion gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. I gael help gan yr FRU mae’n rhaid i chi fod wedi dechrau eich achos a rhaid eich bod wedi cael eich cyfeirio atynt gan un o’u hasiantaethau cyfeirio. Fe allwch gael mwy o wybodaeth am yr FRU a sut i gael eich cyfeirio atynt trwy gysylltu â nhw ar:

Ffôn: 020 7611 9555
Ffacs: 020 7611 9551
E-bost: ar gael drwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.thefru.org.uk

Canolfannau Cyfraith

Efallai y bydd Canolfan Cyfraith yn medru cynnig cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol, annibynnol rhad ac am ddim i chi. Maen nhw’n canolbwyntio ar ddarparu cyngor cyfreithiol i bobl sy’n ei chael yn anodd cael cyngor neu sy’n dioddef gwahaniaethu. Maen nhw’n cael eu hariannu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a chynghorau lleol.

Dylech gysylltu â’ch Canolfan Cyfraith leol i weld os yw’n medru eich helpu chi. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt trwy chwilio ar-lein yn: www.lawcentres.org.uk.

Asiantaethau cyngor

Efallai y bydd yna asiantaethau cyngor annibynnol neu nid-am-elw yn eich ardal sy’n medru eich helpu gyda’ch problem cyflogaeth. 

LawWorks

Os nad ydych yn medru fforddio talu am gyfreithiwr ac nid ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol,   efallai y gallwch gael cyngor cychwynnol am ddim mewn clinig cynghori yn eich ardal chi. Gallwch chwilio am glinig cyngor cyfreithiol am ddim ar wefan LawWorks yn:  https://www.lawworks.org.uk/legal-advice-individuals

Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas)

Mae Acas yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd, yn rhad ac am ddim ar bob agwedd ar gysylltiadau gweithle a chyfraith cyflogaeth. Gallwch ddod o hyd i gyngor ar wefan Acas.

I siarad â chynghorydd am eich problem cyflogaeth, ffoniwch linell gymorth Acas

Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Os ydych wedi dioddef gwahaniaethu, mae help ar gael gan linell gymorth gwahaniaethu EASS.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)

Mae gwybodaeth ddefnyddiol ynglyn â gwahaniaethu ar wefan EHRC. 

Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tribiwnlys Cyflogaeth

Mae Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tribiwnlys Cyflogaeth yn gallu darparu atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac esbonio sut mae system y tribiwnlys cyflogaeth yn gweithio. Nid ydynt yn rhoi cyngor cyfreithiol. Mae manylion pellach ar gael ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr)

Ffôn: 0300 123 1024

Ffôn testun: 18001 0300 123 1024

Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid

Cymru a Lloegr

Blwch PO 10218

Caerlŷr

LE1 8EG

Mae'n debygol y bydd eich galwad yn rhad ac am ddim os oes gennych chi fargen ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - darganfyddwch fwy am ffonio rhifau 030. 

Gwefan: www.justice.gov.uk 

Gwybodaeth ar-lein

GOV.UK

Dyma wefan gwybodaeth y llywodraeth. Mae’n rhoi gwybodaeth ynghylch eich hawliau yn y gwaith a sut i ddatrys problem yn y gwaith.

Gwefan: https://www.gov.uk

Gwybodaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dribiwnlysoedd cyflogaeth a sut i wneud hawliad i dribiwnlys o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnde

Gwefan: www.justice.gov.uk.

Cael help gyda biliau a chyllidebu

Os ydych yn ceisio cwtogi ar eich gwariant, neu'n cael problemau, gallech gael help gyda'ch biliau.  Gallech hefyd ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu i weld yn union ble mae eich arian yn mynd bob mis.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.