Herio penderfyniad Budd-dal Plant - ailystyriaeth orfodol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dylech ofyn i Gyllid a Thollau EM (CThEM) edrych ar eich cais eto os credwch fod penderfyniad am eich Budd-dal Plant yn anghywir.

Mae gofyn iddyn nhw newid y penderfyniad yn 'ailystyriaeth orfodol'. Mae'n rhad ac am ddim i'w wneud ac nid oes angen cyfreithiwr nac unrhyw gymorth cyfreithiol arall arnoch.

Gwiriwch fod gennych hawl i Fudd-dal Plant cyn gofyn am ailystyriaeth orfodol. Os nad oes gennych hawl, ni fydd yn werth chweil gan na fydd Cyllid a Thollau EM yn newid eu penderfyniad. 

Mae’n debygol y bydd y penderfyniad yn cael ei newid os, er enghraifft:

  • gwrthodwyd Budd-dal Plant i chi ond gallwch brofi bod gennych hawl iddo

  • mae Gyllid a Thollau EM yn meddwl eich bod wedi cael eich gordalu ond gallwch brofi eich bod wedi cael y swm cywir

  • mae Cyllid a Thollau EM am i chi ad-dalu gordaliad - ond nid eich bai chi oedd y gordaliad

Mae gennych 1 mis ar ôl dyddiad y penderfyniad i ofyn am ailystyriaeth orfodol. Fe welwch y dyddiad ar frig eich llythyr penderfyniad. Gallwch barhau i ofyn am ailystyriaeth ar ôl y dyddiad cau, cyn belled â'i fod o fewn 13 mis i'r penderfyniad. Bydd angen rheswm da arnoch - er enghraifft, oherwydd eich bod wedi treulio peth amser yn yr ysbyty.

Gwiriwch fod gennych dystiolaeth

Bydd Cyllid a Thollau EM ond yn newid penderfyniad os oes gennych dystiolaeth i brofi ei fod yn anghywir.

Er enghraifft:

  • tystysgrif geni eich plentyn - er enghraifft os gwnaethoch hawlio cyn i chi allu cofrestru’r enedigaeth

  • cyfriflenni banc neu dderbynebau i brofi eich bod yn gwario digon o arian ar anghenion eich plentyn os nad yw’n byw gyda chi

  • tystiolaeth gan ysgol eich plentyn neu feddygon sy’n dangos eich cyfeiriad fel cyfeiriad y plentyn

  • tocynnau teithio sy'n dangos nad oeddech i ffwrdd o'r wlad yn rhy hir

  • llythyr gan ysgol neu goleg eich plentyn i ddangos ei fod yn dal mewn addysg amser llawn

  • slipiau cyflog sy’n dangos eich bod yn gweithio yn y DU - os oes angen i chi ddangos bod gennych hawl i breswylio

Profi eich bod wedi rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae’n bosibl y byddai Cyllid a Thollau EM wedi atal eich budd-dal neu’n meddwl eich bod wedi cael gordaliad os ydynt wedi methu newid y gwnaethoch roi gwybod amdano.

Os gwnaethoch roi gwybod am y newid drwy eich cyfrif Porth y Llywodraeth, gallech anfon ciplun i Gyllid a Thollau EM neu allbrint o’r newid a adroddwyd - dylai fod yn weladwy yn eich cyfrif o hyd.

Os ysgrifennoch at Gyllid a Thollau EM i roi gwybod am y newid, anfonwch gopïau o'r llythyr a phrawf postio, os yw hynny gennych.

Os gwnaethoch ffonio Cyllid a Thollau EM i roi gwybod am y newid, gallwch ofyn am gopi sain neu gopi ysgrifenedig o’r alwad ar GOV.UK. Gelwir hyn yn 'gais gwrthrych am wybodaeth'. Gall gymryd 6 i 8 wythnos i gais gwrthrych am wybodaeth ddod drwodd, felly peidiwch ag aros amdano. Anfonwch y llythyr yn gofyn am yr ailystyriaeth orfodol a dywedwch eich bod wedi gwneud cais gwrthrych am wybodaeth ac y byddwch yn anfon y dystiolaeth pan fydd gennych.

Os yw’n cymryd amser i gasglu’ch tystiolaeth at ei gilydd, peidiwch ag oedi cyn anfon eich ailystyriaeth orfodol. Anfonwch unrhyw dystiolaeth y byddwch yn dod o hyd iddi yn ddiweddarach a chael prawf postio.

Ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM

Mae'n well anfon llythyr at Gyllid a Thollau EM i ofyn am ailystyriaeth orfodol fel bod gennych bopeth yn ysgrifenedig.

Yn eich llythyr, eglurwch pam rydych chi'n anghytuno â'u penderfyniad a rhowch ffeithiau ac enghreifftiau i gefnogi'ch rhesymau.

Os yw eich llythyr penderfyniad gan Gyllid a Thollau EM yn cynnwys y rhesymau dros eu penderfyniad, gwnewch yn glir yn eich llythyr pa rai rydych yn anghytuno â nhw a pham. Os nad yw eich llythyr penderfyniad yn cynnwys datganiad o resymau, ffoniwch Gyllid a Thollau EM a gofynnwch am 'ddatganiad ysgrifenedig o resymau' - byddwch yn cael mwy o amser ar gyfer eich ailystyriaeth orfodol.

Ychwanegwch eich rhif ffôn, e-bost neu gyfeiriad fel y gall Cyllid a Thollau EM gysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau. Rhowch wybod os rydych yn cael unrhyw broblemau wrth gyrraedd y ffôn, er enghraifft oherwydd ei bod hi'n anodd i chi symud o gwmpas.

Gallwch gael help gan eich Cyngor ar Bopeth lleol i ysgrifennu eich llythyr. Ceisiwch gysylltu ar unwaith - efallai y bydd yn rhaid i chi aros am apwyntiad. 

Anfonwch eich llythyr i'r cyfeiriad ar eich llythyr penderfyniad Budd-dal Plant. Mae'n syniad da cael prawf postio rhag ofn y bydd ei angen arnoch yn ddiweddarach.

Os yw'r dyddiad cau o 1 mis yn agos neu wedi mynd heibio

Os mai dim ond ychydig ddyddiau sydd tan y dyddiad cau o 1 mis, dylech ffonio Cyllid a Thollau EM a gofyn am yr ailystyriaeth orfodol dros y ffôn. Gwnewch nodyn o'r dyddiad a'r amser y byddwch chi'n ffonio, enw'r person y siaradoch chi ag ef a'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud wrthyn nhw.

Yna dylech anfon llythyr at Gyllid a Thollau EM sy’n dweud:

  • dyddiad ac amser y galwad

  • enw’r person y siaradoch â nhw

  • yr hyn y cytunwyd arno ar yr alwad

Cyllid a Thollau EM - Swyddfa Budd-dal Plant

Rhif ffôn: 0300 200 3100

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0300 200 3100

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae'n debygol y bydd eich galwad yn rhad ac am ddim os oes gennych chi fargen ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - dysgwch fwy am ffonio rhifau 030. 

Os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau o 1 mis

Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o hyd, cyn belled â'i fod o fewn 13 mis i'r penderfyniad.

Bydd angen i chi roi rheswm da pam na allech ofyn o fewn 1 mis. Er enghraifft, oherwydd eich bod wedi treulio peth amser yn yr ysbyty.

Pan fyddwch yn ysgrifennu eich llythyr at Gyllid a Thollau EM, cynhwyswch y rhesymau pam eich bod wedi methu'r dyddiad cau o 1 mis.

Gall Cyllid a Thollau EM wrthod eich cais os yw’n hwyr, ond cyn belled â’ch bod yn gwneud cais o fewn 13 mis gallwch barhau i apelio yn erbyn y penderfyniad mewn tribiwnlys. 

Os cawsoch y llythyr penderfyniad fwy na 13 mis yn ôl

Gallai Cyllid a Thollau EM newid y penderfyniad pe baent yn gwneud camgymeriad – a elwir yn ‘wall swyddogol’. Er enghraifft, os gwnaethant gofnodi'r newid yn eich amgylchiadau yn anghywir.

Bydd angen i chi ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i esbonio pam eich bod yn meddwl eu bod wedi gwneud camgymeriad swyddogol - anfonwch eich llythyr i'r cyfeiriad ar y llythyr penderfyniad. Ysgrifennwch ‘Cais am adolygiad gwall swyddogol’ ar frig eich llythyr a chynnwys:

Anfonwch ef i'r cyfeiriad sydd ar y llythyr penderfyniad.

Cael eich penderfyniad ailystyriaeth orfodol

Bydd Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth neu dystiolaeth arnynt.

Fel arfer bydd angen i chi anfon unrhyw dystiolaeth bellach o fewn 1 mis i ddyddiad yr alwad ffôn neu lythyr. Os bydd yn anodd i chi wneud hyn, dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM pan fyddant yn cysylltu â chi. Gallant wedyn ymestyn y dyddiad cau.

Anfonir ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’ atoch pan fydd Cyllid a Thollau EM wedi edrych ar eich hawliad ac wedi gwneud penderfyniad newydd. Bydd y llythyr hwn yn egluro beth maen nhw wedi'i benderfynu a pham.

Efallai y bydd yn rhaid i chi aros tua 3 wythnos cyn i chi gael eich llythyr - os nad yw wedi cyrraedd ar ôl 1 mis, ffoniwch Gyllid a Thollau EM i wirio ei fod yn cael ei ystyried. Gallwch wneud cwyn os yw'n cymryd misoedd i ddod drwodd.

Os bydd Cyllid a Thollau EM yn newid eu penderfyniad, bydd eich taliadau'n cael eu hôl-ddyddio.

Os oedd y penderfyniad yn ymwneud â chais newydd, bydd yn ôl-ddyddio eich Budd-dal Plant i’r dyddiad y gwnaethoch y cais.

Os oedd y penderfyniad yn ymwneud â chais parhaus, bydd yn ôl-ddyddio eich Budd-dal Plant i’r dyddiad y cafodd ei atal neu ei leihau.

Help ychwanegol y gallwch ei gael tra byddwch yn aros am ailystyriaeth orfodol

Efallai y gallwch gael help arall gyda'ch costau byw tra'ch bod yn aros am eich penderfyniad Budd-dal Plant - er enghraifft i helpu i dalu am gostau bwyd neu ysgol.

Gwiriwch pa help y gallwch ei gael.

Apelio i dribiwnlys annibynnol

Os na fydd Cyllid a Thollau EM yn newid ei benderfyniad gallwch apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Plant mewn tribiwnlys annibynnol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.