Help with filling in the DLA form for your child

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae llenwi ffurflen y DLA yn gallu bod yn anodd i riant, ond peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag gwneud cais.

Someone at your nearest Citizens Advice might be able to sit with you and help you with the form, or even fill it in for you.

Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Contact (ar gyfer teuluoedd sydd â phlant anabl) os oes gennych gwestiynau – maen nhw’n arbenigwyr mewn DLA ar gyfer plant.

Contact (ar gyfer teuluoedd sydd â phlant anabl)

Ffôn: 0808 808 3555

Llun - Gwener, 9:30am tan 5pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Llenwi’r ffurflen

Gall cadw dyddiadur o anghenion gofal eich plentyn cyn i chi lenwi’r ffurflen eich helpu pan fyddwch chi’n ateb y cwestiynau. Drwy wneud hyn bydd gennych enghreifftiau diweddar o sut rydych chi’n gofalu amdano, a syniad da faint o amser mae’n ei gymryd i chi wneud tasgau penodol fel ei helpu i fod yn barod i fynd i’r ysgol.

Os nad ydych chi wedi cadw dyddiadur eto, efallai y byddai’n werth treulio wythnos (neu fwy) yn cadw dyddiadur cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen. Gallwch ddefnyddio ein template 98.9 KB i wneud dyddiadur am wythnos. Gwnewch nodyn o’r help sydd ei angen, pam, pryd ac am faint o amser.

Dylech geisio llenwi’r ffurflen dros fwy nag un sesiwn, yn hytrach na llenwi’r ffurflen gyfan ar unwaith – mae’n debyg y byddwch yn gweld bod eich atebion yn well.

Peidiwch â bodloni ar ddefnyddio’r blychau ticio ar y ffurflen yn unig – bydd gennych well siawns o gael y budd-daliadau mae ar eich plentyn eu hangen os byddwch chi’n defnyddio’r blychau o dan y cwestiynau i egluro ei anghenion a rhoi enghreifftiau. Ysgrifennwch am achlysuron penodol pan oedd ar eich plentyn angen help neu ofal oherwydd ei anabledd neu gyflwr iechyd. 

Efallai y byddwch chi’n teimlo weithiau nad yw cyflwr neu ymddygiad eich plentyn yn ffitio i mewn i’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn, yn enwedig os oes gan eich plentyn gyflwr nad yw’n un corfforol. Mae teimlo fel hyn yn normal, felly peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag gwneud cais.

Cofiwch mai rhai o’r prif ffactorau mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn chwilio amdanyn nhw ydy:

  • bod ar eich plentyn angen mwy o ofal neu oruchwyliaeth na phlentyn o’r un oed nad oes ganddo gyflwr iechyd

  • a yw eich plentyn yn cael anhawster i gerdded

  • a oes arno angen arweiniad neu oruchwyliaeth mewn lleoedd anghyfarwydd

  • a oes ganddo anghenion gofal neu oruchwyliaeth a fyddai gan blentyn iau o bosibl, ond na fyddent fel arfer gan blentyn o’r un oed ag ef

Ond peidiwch â gadael i’r rhestr hon eich cyfyngu o gwbl – mae gan bob plentyn anghenion gwahanol iawn felly mae’n bwysig disgrifio eich plentyn chi a’r gofal mae arno ei angen. Meddyliwch am enghreifftiau o’r math o help rydych chi’n ei roi i’ch plentyn a faint o amser mae hynny’n ei gymryd. Os yw cyflwr eich plentyn yn amrywio, meddyliwch am ei anghenion ar ddiwrnodau gwael a diwrnodau da a faint o bob un mae’n ei gael mewn wythnos arferol.

Dylech hefyd feddwl sut mae cyflwr eich plentyn yn effeithio arno mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, mae llawer o blant yn profi gorbryder neu iselder oherwydd cyflwr iechyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro’r darlun llawn. 

Canolbwyntiwch ar y gofal mae arno ei angen oherwydd ei anabledd yn hytrach na’r gofal mae arno ei angen oherwydd ei oed. 

Ni fydd y sawl fydd yn gwneud penderfyniad ynglŷn â DLA eich plentyn yn arbenigwr meddygol, felly ni fydd yn gwybod llawer am anableddau a chyflyrau iechyd. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am gyflwr eich plentyn a’r gofal a’r oruchwyliaeth mae arno ei hangen. Peidiwch â theimlo bod unrhyw fanylyn yn rhy fach i’w gynnwys – defnyddiwch ddarn arall o bapur os oes angen.

Canllawiau defnyddiol ar gyfer llenwi ffurflen y DLA

Rydym yn argymell eich bod yn darllen canllaw Contact ar gyfer llenwi ffurflen y DLA ar eu gwefan. Bydd eu canllaw arbenigol yn:

  • rhoi awgrymiadau manwl i chi ynglŷn â sut i lenwi’r ffurflen

  • egluro beth mae’r cwestiynau’n ei olygu

  • dweud wrthych sut i ateb cwestiynau penodol

Efallai y bydd yn ymddangos fel llawer o waith darllen, ond mae’n werth cymryd amser i ddarganfod beth yn union mae’r ffurflen yn gofyn i chi ei wneud. Bydd gennych well siawns o gael y DLA os bydd eich ffurflen yn rhoi’r wybodaeth fwyaf cywir am anghenion posibl eich plentyn.

Gallwch ddarllen eu canllaw ar hawlio cyfradd uwch yr elfen symudedd ar gyfer plant ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Gofyn i weithiwr proffesiynol lenwi cwestiwn 38

Mae’n syniad da cael arbenigwr neu weithiwr proffesiynol sy’n adnabod eich plentyn i lenwi cwestiwn 38.

Dylai fod yn rhywun sy’n gwybod am gyflwr eich plentyn. Er enghraifft, os oes gan eich plentyn gyflwr corfforol neu os yw’n cael anhawster i gerdded dylech ofyn i feddyg, nyrs neu weithiwr gofal. Os yw cyflwr eich plentyn yn fwy cysylltiedig ag anawsterau dysgu neu broblemau ymddygiad, dylech ofyn i rywun fel ei athro neu weithiwr cymorth arbenigol. Gallech hefyd gynnwys ‘Datganiad Addysgol Arbennig' fel tystiolaeth – siaradwch â’ch ysgol i gael un.

Cyn i’r arbenigwr neu’r gweithiwr proffesiynol ateb y cwestiwn, siaradwch ag ef ynglŷn â sut rydych chi’n gofalu am eich plentyn a faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn gofalu amdano. Dywedwch wrtho fod ar yr Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod sut mae ar eich plentyn angen mwy o ofal na phlentyn o’r un oed heb unrhyw anableddau neu gyflyrau iechyd.

Os byddwch yn cael rhywun o’r ysgol i lenwi cwestiwn 38 i chi, mae’n bwysig bod ganddo wybodaeth go iawn am anghenion eich plentyn yn ystod diwrnod ysgol arferol. Efallai y bydd ar aelod o staff yr ysgol eisiau siarad am agweddau cadarnhaol ar gynnydd eich plentyn – ond bydd yn fwy buddiol os bydd yn siarad am y cymorth ychwanegol mae ar eich plentyn ei angen. Efallai y byddai’n werth peidio â chynnwys y datganiad os nad ydych chi’n meddwl ei fod wedi gwneud achos digon cryf i chi gael y DLA.

Mae’r blwch ar gyfer cwestiwn 38 yn weddol fach – os bydd ar y sawl sy’n llenwi’r ffurflen angen mwy o le gallwch ofyn iddo ddefnyddio darn arall o bapur.

Cyn i chi anfon y ffurflen

Darllenwch drwy’r ffurflen eto cyn i chi ei hanfon er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi ateb popeth yn iawn.

Gwnewch gopi o’r ffurflen rhag ofn y bydd angen i chi gyfeirio ati yn nes ymlaen, neu rhag ofn iddi fynd ar goll.

Y camau nesaf

Sut i wneud cais am y DLA.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.