Cael taliad caledi os ydych wedi cael eich cosbi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw’ch Credyd Cynhwysol wedi’i ostwng oherwydd cosb neu ddirwy am dwyllo, efallai y gallwch chi gael arian mewn argyfwng i helpu i dalu costau’r aelwyd, fel bwyd a biliau.

Yr enw ar hyn yw ‘taliad caledi’.

Benthyciad yw taliad caledi mewn gwirionedd, felly bydd yn rhaid i chi ei dalu yn ôl ar ôl i’ch cosb ddod i ben. Fel arfer bydd y Ganolfan Waith yn cael yr arian yn ôl drwy gymryd swm o arian o’ch taliad Credyd Cynhwysol bob mis tan iddo gael ei dalu.

Gallwch chi wneud cais am daliad caledi i'ch helpu tan i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf. Os ydych chi’n dal mewn caledi y mis canlynol, bydd angen i chi wneud cais am daliad caledi arall.

Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i arbed arian ar eich costau byw. Gwiriwch i weld beth i'w wneud os oes angen help arnoch gyda chostau byw.

Cymhwysedd 

Gallwch ond cael taliad caledi os ydych chi’n bodloni’r holl ofynion canlynol:

  1. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn (16 os yw’ch taliad yn cael ei ostwng oherwydd twyll).

  2. Mae’n rhaid i chi fod yn cael trafferth talu eich anghenion sylfaenol neu anghenion sylfaenol plentyn neu berson ifanc rydych chi’n gyfrifol amdanynt. Mae ‘anghenion sylfaenol’ yn cynnwys llety, gwres, bwyd a hylendid. Byddwch ond yn gymwys os mai’r gosb yw’r rheswm nad ydych chi’n gallu diwallu’r anghenion hyn. 

  3. Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud pob ymdrech i roi’r gorau i wario arian ar bethau nad ydynt yn hanfodol. Mae’r Ganolfan Waith yn disgwyl i chi wario arian ar anghenion sylfaenol yn unig, felly efallai y byddant yn disgwyl i chi wario llai ar adloniant neu weithgareddau hamdden.  

  4. Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud popeth y gallwch i gael arian o ffynonellau eraill cyn i chi allu gwneud cais. Dylai’r Ganolfan Waith fod yn rhesymol am yr hyn y gallwch chi ei wneud dan yr amgylchiadau. Er enghraifft, ni fydd disgwyl i chi werthu eich eiddo, symud tŷ, neu gael benthyciad banc neu gerdyn credyd. Ond efallai y bydd disgwyl i chi ofyn i deulu neu ffrindiau am arian, chwilio am fudd-daliadau eraill (e.e. gan eich cyngor lleol, neu elusennau lleol), neu ofyn am oriau ychwanegol os ydych chi’n gweithio.

  5. Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud yr holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith roeddech chi’n fod i’w gwneud yn y 7 diwrnod cyn i chi wneud cais am daliad caledi.

Os nad ydych chi’n gymwys am daliad caledi

Os na allwch chi wneud cais am daliad caledi, efallai bod ffyrdd eraill i gael cymorth â chostau byw tra'ch bod yn cael eich cosbi.

Sut mae gwneud cais

Bydd yn rhaid i chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau sut i wneud cais am daliad caledi yn eich ardal leol. 

Gallwch gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau fel hyn:

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Rhif ffôn: 0800 328 5644 Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Rhoi tystiolaeth wrth wneud cais

Mae’n rhaid i chi roi unrhyw dystiolaeth maen nhw’n gofyn amdani i ategu’ch cais. Er enghraifft, bydd yn rhaid i chi egluro:

  • beth rydych chi wedi’i wneud i ddod o hyd i ffynonellau eraill o gymorth ariannol

  • pa incwm neu gynilion eraill y gallai fod gennych i helpu i dalu’ch costau

  • beth rydych chi wedi’i wneud i ostwng eich costau dianghenraid, e.e. costau adloniant

  • pa gostau byw rydych chi’n cael trafferth eu talu

Bydd yn helpu’ch cais os gallwch ddangos cyllideb neu ddatganiad ariannol sy’n dangos eich incwm a’ch costau byw misol. Yna byddant yn gallu gweld yn glir ar beth rydych chi’n gwario’ch arian. Os nad ydych chi’n siŵr sut mae llunio cyllideb, gallai’r cynlluniwr cyllideb gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol eich helpu gyda hyn - gallwch lawrlwytho ac argraffu copi ar y diwedd.

Faint fyddwch chi’n ei gael

Mae’r taliad caledi tua 60% o swm eich cosb yn y mis diwethaf. 

Os ydych chi’n dal i gael trafferth talu eich costau, efallai bod ffyrdd eraill i gael cymorth â chostau byw tra'ch bod yn cael eich cosbi.

Gwirio a fydd yn rhaid i chi ad-dalu taliad caledi

Os yw ad-dalu'r taliad caledi yn achosi niwed difrifol i chi, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno i leihau neu ganslo eich ad-daliadau. Gofynnwch am help gan gynghorydd i weld beth allwch chi ei wneud.

Os ydych chi, neu eich partner, yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig

Dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau atal eich ad-daliadau os byddwch yn ennill swm penodol - yr enw ar hyn yw 'trothwy enillion'.

Os cewch eich talu o leiaf y trothwy enillion ar gyfer 6 chyfnod asesu yn olynol, dylai eich ad-daliadau gael eu canslo'n barhaol.

Y trothwy enillion yw'r oriau wythnosol y disgwylir i chi eu gweithio wedi'u lluosi â'ch isafswm cyflog. Gwiriwch eich isafswm cyflog.

Mae eich oriau wythnosol yn dibynnu ar ba grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith y byddech chi ynddo pe na baech yn gweithio. Os nad ydych chi'n siŵr, holwch ym mha grŵp cysylltiedig â gwaith y byddech chi.

Eich grŵp gwaith Oriau
Eich grŵp gwaith
Grŵp cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith
Oriau
16
Eich grŵp gwaith
Grŵp paratoi ar gyfer gwaith
Oriau
16
Eich grŵp gwaith
Grŵp holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith
Oriau
Wedi’i nodi yn eich ymrwymiad hawliwr - 35 fel arfer

Os ydych chi'n byw gyda'ch partner, bydd eich trothwyon enillion yn cael eu rhoi at ei gilydd i greu un trothwy ar y cyd.

Os byddwch chi’n dechrau ennill mwy na'r trothwy, cysylltwch â'r Adran Gwaith a Phensiynau i wneud yn siŵr y byddant yn rhoi'r gorau i gymryd ad-daliadau.

Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, rhowch wybod am newid drwy ddefnyddio eich cyfrif i anfon neges at eich hyfforddwr gwaith. Gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol hefyd, ond mae hyn yn debygol o gymryd mwy o amser oherwydd mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi aros i gael ateb. Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein, dylech ffonio’r llinell gymorth.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Rhif ffôn: 0800 328 5644 Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Ad-dalu taliad caledi

Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol bob mis hyd y byddwch wedi’i dalu yn ôl. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gostwng eich taliad hyd at 25% o’ch ‘lwfans safonol’ - dyma'r swm sylfaenol a gewch, heb gynnwys symiau ychwanegol a elwir yn 'elfennau'.

Er enghraifft - os yw’ch taliad yn cael ei leihau 25% o’ch lwfans safonol a bod eich lwfans safonol yn £334.91 y mis fel arfer, bydd cyfanswm eich taliad yn cael ei leihau £83.73.

Os ydych chi’n meddwl na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno oherwydd eich bod yn ad-dalu taliad caledi, siaradwch â chynghorydd. Gall eich helpu i gyllidebu neu ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd ad-daliadau ar gyfradd is.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu nad ydych chi’n gymwys am daliad caledi, gallwch ofyn iddynt ailystyried y penderfyniad. Yr enw ar hyn yw 'ailystyriaeth orfodol'. Os oes gennych chi dystiolaeth newydd neu os yw’ch amgylchiadau wedi newid ers i chi wneud cais am y tro cyntaf, cofiwch gynnwys yr wybodaeth hon gyda’ch cais.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Awst 2022