Ni allwch fforddio ychwanegu arian at eich mesurydd talu ymlaen llaw

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Siaradwch â chynghorydd ynni

Ffoniwch ein llinell gymorth defnyddwyr ar 0808 223 1133.

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0808 223 1133

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Mae llinellau ar gau ar wyliau banc.

I gysylltu â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg: 0808 223 1144

Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn ychydig funudau. Unwaith y byddwch yn siarad â chynghorydd, dylai eich galwad gymryd 8 i 10 munud ar gyfartaledd.

Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.

Gwiriwch y gwahanol ffyrdd o gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Gallwch gael credyd dros dro os na allwch fforddio ychwanegu arian at eich mesurydd talu ymlaen llaw. Efallai y bydd eich cyflenwr yn ychwanegu hwn at eich mesurydd yn awtomatig pan fydd eich credyd yn dod i ben, neu efallai y bydd yn rhaid i chi gysylltu â nhw i ofyn. Dysgwch pwy yw eich cyflenwr ynni os nad ydych chi’n siŵr.

Os oes angen i chi dalu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio

Os nad yw'n ddiogel ac yn ymarferol i chi dalu ymlaen llaw, dylai eich cyflenwr osod mesurydd credyd safonol yn lle'ch mesurydd talu ymlaen llaw.

Mae mesurydd credyd safonol yn gadael i chi dalu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio. Efallai na fydd hi’n ddiogel ac yn ymarferol i chi fod ar gynllun talu ymlaen llaw:

  • os ydych chi’n 85 oed neu’n hŷn ac yn byw ar eich pen eich hun

  • os ydych chi’n anabl neu â chyflwr iechyd hirdymor

  • os na allwch fforddio ychwanegu arian ac rydych chi'n 75 oed neu'n hŷn

  • os na allwch fforddio ychwanegu arian ac rydych yn byw gyda phlant 5 oed ac iau

Gwiriwch i weld sut mae newid o fesurydd talu ymlaen llaw i fesurydd credyd.

Cael credyd dros dro

Os ydych chi wedi rhedeg allan o nwy neu drydan, dylai eich cyflenwr ynni roi credyd dros dro i chi os na allwch ychwanegu arian, er enghraifft oherwydd:

  • na allwch ei fforddio

  • rydych chi'n cael trafferth ychwanegu arian

Efallai y bydd eich cyflenwr yn ychwanegu'r credyd dros dro at eich mesurydd yn awtomatig - os nad ydynt, dylech ofyn amdano cyn gynted ag y gallwch. Gallwch edrych ar wefan eich cyflenwr i gael gwybod sut mae cael credyd dros dro.

Os rydych yn rhedeg allan o gredyd dros dro

Esboniwch eich sefyllfa i’ch cyflenwr. Efallai y byddant yn rhoi credyd dros dro ychwanegol i chi os ydynt yn cytuno eich bod yn 'agored i niwed'. Gallech gael eich ystyried yn agored i niwed os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor. Mae hyn yn cynnwys problemau â’r clyw, y golwg a chyflyrau iechyd meddyliol. Efallai y byddwch hefyd yn agored i niwed os ydych chi'n gwella ar ôl anaf. 

Efallai y bydd eich cyflenwr hefyd yn cytuno eich bod yn agored i niwed:

  • os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth - gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK

  • os ydych yn ei chael yn anodd ateb y drws neu gael help mewn argyfwng

  • os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch costau byw - er enghraifft, rydych chi'n cyfyngu ar faint o nwy neu drydan rydych chi'n ei ddefnyddio

  • os nad ydych yn gallu mynd i siop i ychwanegu arian - er enghraifft, os ydych chi'n sâl

  • os ydych yn feichiog neu os oes gennych blant dan 5 oed

  • os oes angen help ychwanegol gyda chyfathrebu - er enghraifft, os nad ydych chi'n darllen neu'n siarad Saesneg yn dda iawn

  • os nad oes gennych synnwyr arogli neu os byddech yn ei chael yn anodd arogli nwy

Os ydych chi’n meddwl eich bod yn agored i niwed, cysylltwch â’ch cyflenwr a gofynnwch iddyn nhw eich ychwanegu chi at eu cofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol. Gwiriwch i weld sut mae gwneud cais am y gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth a pha gymorth y gallech ei gael.

Efallai y byddwch yn dal i allu cael cymorth ychwanegol os nad yw eich sefyllfa benodol wedi’i rhestru. Cysylltwch â’ch cyflenwr i egluro eich sefyllfa a gofyn am gredyd ychwanegol.

Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gredyd dros dro ychwanegol a gewch yn ôl. Gallwch gytuno ar sut i’w dalu’n ôl gyda’ch cyflenwr.

Gwirio a oes sgam ynni ar waith

Mae rhai sgamwyr yn esgus eu bod yn gweithio i gwmnïau ynni i gael eich gwybodaeth bersonol.

Os ydych chi’n meddwl y gallai rhywbeth fod yn sgam:

  • peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol na’ch manylion banc

  • peidiwch â defnyddio unrhyw fanylion cyswllt o’r sgâm posibl

Gallwch wirio a yw rhywbeth yn sgam.

Gwiriwch os allech chi gael grant ynni

Efallai y gallwch gael budd-daliadau, grantiau a chymorth penodol a gynigir gan y llywodraeth a chyflenwyr ynni.

Gwiriwch i weld pa grantiau neu fudd-daliadau y gallech eu cael i'ch helpu i dalu eich biliau ynni.

Gwiriwch a allwch chi gael taleb tanwydd

Efallai y gallwch gael taleb tanwydd. Mae hwn yn god a roddir i chi mewn llythyr neu mewn neges destun neu e-bost. Gallwch ddefnyddio’r cod i ychwanegu credyd at eich cerdyn nwy neu’ch allwedd drydan. Os nad oes gennych un o'r rhain, cysylltwch â'ch cyflenwr i gael un. 

Efallai y gall eich cyngor lleol eich helpu i gael taleb tanwydd - chwiliwch am eich cyngor lleol ar GOV.UK. Os ydych chi’n dal yn ansicr a allwch chi gael taleb, gofynnwch am help gan gynghorydd.

Gallwch ddefnyddio taleb tanwydd:

I ddefnyddio eich taleb, bydd angen i chi gymryd:

  • y cod a’r cyfarwyddiadau

  • rhyw fath o ID - er enghraifft, eich pasbort neu fil gyda'ch enw a'ch cyfeiriad

Edrychwch ar eich taleb tanwydd i weld pryd mae’n dod i ben. Efallai y bydd yn rhaid i chi ei ddefnyddio o fewn 15 diwrnod.

Os ydych chi'n cael trafferth defnyddio'ch taleb, cysylltwch â'r sefydliad a'i rhoddodd i chi - dylech allu dod o hyd i'w manylion cyswllt ar y cyfarwyddiadau.

Talu arian sy’n ddyledus gennych i’ch cyflenwr

Os oes arnoch chi arian i'ch cyflenwr, byddwch yn talu rhywfaint o'r ddyled yn ôl bob tro y byddwch yn ychwanegu at eich mesurydd. Er enghraifft, os ychwanegwch £10, gallai £5 o hynny fynd tuag at dalu eich dyled yn ôl, gan eich gadael â £5 o gredyd.

Dywedwch wrth eich cyflenwr os na allwch chi fforddio hyn. Gofynnwch iddyn nhw leihau’r swm rydych chi’n ei dalu’n ôl bob tro y byddwch chi’n ychwanegu arian.

Rhaid i'ch cyflenwr ystyried faint y gallwch ei fforddio, felly dywedwch wrtho os oes unrhyw beth wedi newid ers i chi gytuno ar eich ad-daliadau am y tro cyntaf. 

Er enghraifft, dywedwch wrthynt:

  • os mae pris eich ynni wedi codi

  • os mae eich incwm wedi gostwng

Os ydych chi’n defnyddio trydan i wresogi

Mae rhai cyflenwyr yn cyfrifo gwres ar wahân. Oni bai eich bod yn sôn am eich gwres trydan, efallai y byddant yn lleihau’r swm y byddwch yn ei dalu’n ôl ar weddill eich trydan, ond yn gadael eich ad-daliadau gwresogi yr un fath.

Os ydych chi’n rhedeg allan o gredyd yn rheolaidd

Os byddwch yn rhedeg allan o gredyd, byddwch yn cronni dyled ychwanegol i'ch cyflenwr, er enghraifft bydd angen i chi ad-dalu unrhyw gredyd argyfwng a ddefnyddiwch. Gallwch gytuno ar sut i’w dalu’n ôl gyda’ch cyflenwr.

Os yw’n teimlo eich bod yn rhedeg allan o gredyd yn rhy gyflym, efallai mai ad-dalu’r ddyled yw’r broblem. Gofynnwch i’ch cyflenwr adael i chi ei dalu mewn symiau llai.

Os gallwch chi, ceisiwch ychwanegu mwy o arian nag arfer ar ôl rhedeg allan o gredyd. 

Dywedwch wrth eich cyflenwr os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Mae’n rhaid i’ch cyflenwr eich trin yn deg ac ystyried eich sefyllfa. Dywedwch wrth eich cyflenwr os oes angen help ychwanegol arnoch. Eglurwch unrhyw beth sy’n ei gwneud hi’n anoddach i chi fod ar fesurydd talu ymlaen llaw. Er enghraifft, dywedwch wrthynt:

  • os ydych yn anabl

  • os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor

  • os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • os oes gennych blant 5 oed ac iau yn byw gyda chi

  • os oes gennych broblemau ariannol - er enghraifft, os ydych ar ei hôl hi o ran rhent

  • os ydych yn gwella ar ôl anaf

Gofynnwch hefyd a oes modd i chi gael eich rhoi ar gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth eich cyflenwr.

Gwiriwch nad ydych chi'n talu dyled rhywun arall

Os ydych wedi symud cartref yn ddiweddar, gallech fod yn talu dyled rhywun a oedd yn byw yno o'ch blaen. Gwnewch yn siŵr bod eich cyflenwr yn gwybod pryd rydych chi wedi symud i mewn er mwyn osgoi sefyllfa o’r fath.

Gwirio bod eich mesurydd yn gweithio’n iawn

Mae namau mesuryddion yn anghyffredin ond gallant fod yn ddrud. Gwiriwch a yw eich mesurydd yn ddiffygiol os ydych chi’n rhedeg allan o gredyd yn rhy gyflym ac nad oes dim byd arall yn ymddangos i fod o’i le.

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd

Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â'ch iechyd corfforol. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw eich problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda'ch iechyd meddwl ar wefan Mind. 

Os oes angen i chi siarad â rhywun ar hyn o bryd gallwch ffonio'r Samariaid am ddim.

Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg)

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun i ddydd Sul 7pm tan 11pm)

Shout

Gallwch hefyd anfon neges destun i 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr Shout hyfforddedig. Mae’r negeseuon testun am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.

Os ydych chi'n meddwl ei fod yn argyfwng

Os ydych chi'n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

Rhagor o gymorth

Efallai y byddwch hefyd yn gallu arbed arian ar eich nwy a'ch trydan er enghraifft drwy newid i gyflenwr arall.

Ni fyddwch yn dod o hyd i lawer o dariffau ynni ar wefannau cymharu prisiau ar hyn o bryd – mae hyn oherwydd newidiadau yn y diwydiant ynni.

Nid yw cael mesurydd talu ymlaen llaw yn eich atal rhag newid, oni bai fod arnoch chi fwy na £500 i'ch cyflenwr presennol am nwy neu £500 am drydan.

Pwysig

Os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i’r wal 

Peidiwch â newid tariff na chyflenwr pan fydd eich cyfrif yn cael ei symud i'r cyflenwr newydd. Efallai y byddwch yn ei chael yn anoddach cael unrhyw arian sy'n ddyledus i chi os byddwch yn newid cyn i hyn ddigwydd. 

Darllenwch ein cyngor am beth i’w wneud os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i’r wal.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.