Cyfrifianellau budd-dal: pa fudd-daliadau sydd ar gael i chi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch wirio a allwch chi gael budd-daliadau yn eich swyddfa leol Cyngor ar Bopeth.

Gan ddibynnu ar eich sefyllfa, gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifianellau Turn2us, Entitledto a Policy in Practice i weld pa fudd-daliadau sydd ar gael i chi.

Bydd angen i chi gael eich manylion cynilion, incwm, pensiwn, taliadau gofal plant ac unrhyw fudd-daliadau cyfredol (chi a'ch partner).

Gwiriwch i weld a allwch chi ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi o dan 18 oed, dim ond cyfrifiannell Policy in Practice fydd yn gweithio i chi.

Ni fydd unrhyw un o'r cyfrifianellau'n rhoi cyfrifiad manwl gywir i chi os ydych:

• yn fyfyriwr

• ddim yn ddinesydd Prydeinig na Gwyddelig

• ar streic

• yn byw y tu allan i'r DU

• yn byw'n barhaol mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio

• yn garcharor

Os nad ydych chi'n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig

Gallwch ddefnyddio Support for Migrant Families os ydych chi'n gyfrifol am blant dan 18 oed ac am wybod pa fudd-daliadau a chymorth arall sydd ar gael i chi. Bydd angen i chi fod naill ai:

• yn hanu o'r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein a ddim yn gallu cael budd-daliadau yn y DU

• yn destun rheolaeth fewnfudo, er enghraifft os yw eich fisa yn dweud "no recourse to public funds"

Bydd eich canlyniadau’n fwy cywir os ydych chi’n gwybod eich statws mewnfudo.

Cymorth gyda biliau a chyllidebu

Os ydych chi'n ceisio cwtogi ar eich gwariant neu'n cael trafferth talu biliau, darllenwch ein cynghorion cymorth gyda bilia. Neu, defnyddiwch ein hadnodd cyllidebu i weld ble'n union mae eich arian yn mynd bob mis.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 02 Rhagfyr 2020