Sut i hawlio budd-daliadau profedigaeth

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio rhywfaint o arian os oes rhywun wedi marw.

Mae beth y gallwch chi ei hawlio yn dibynnu ar eich amgylchiadau a beth oedd eich perthynas â'r unigolyn a fu farw.

Cael help i dalu am eu hangladd

Os ydych chi’n cael budd-daliadau, efallai y gallwch chi gael help i dalu am angladd partner, perthynas agos, ffrind agos neu blentyn roeddech chi’n gyfrifol amdano.

You can check if you can get a Funeral Expenses Payment on GOV.UK.

Hawlio’r Taliad Cymorth Profedigaeth

Os yw eich partner wedi marw, efallai y byddwch chi’n gallu hawlio’r Taliad Cymorth Profedigaeth. 

Fel arfer, gallwch chi hawlio'r Taliad Cymorth Profedigaeth os oeddech chi a'ch partner yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan fuon nhw farw.

Os oeddech chi'n byw gyda'ch gilydd fel petaech chi'n briod, mae'n bosib y byddwch chi’n gallu cael y Taliad Cymorth Profedigaeth. Efallai y byddwch chi’n ei gael os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • mae gennych chi’r hawl i gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn a fu'n byw gyda chi a'ch partner

  • roeddech chi’n feichiog pan fu farw eich partner

Gweld a ydych chi'n gymwys

Dim ond os bu farw eich partner ar 6 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny y gallwch chi hawlio’r Taliad Cymorth Profedigaeth.

Mae angen i chi fod wedi bod o dan eich oedran Pensiwn y wladwriaeth pan fu farw eich partner - gallwch chi weld eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK os nad ydych chi’n siŵr.

Does dim ots beth yw eich incwm, a oes gennych chi unrhyw gynilion neu a ydych chi'n gweithio.

Rhaid i’ch partner fod naill ai:

  • wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am o leiaf 25 wythnos mewn un flwyddyn dreth

  • wedi marw oherwydd damwain yn y gwaith, neu glefyd a achoswyd gan eu gwaith

Pan fyddwch chi’n gwneud cais, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych i weld a yw eich partner wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

If your partner had a severe disability

If your partner couldn't pay National Insurance contributions because they had a severe disability, you might still be able to claim. If you’re in this situation, you can talk to an adviser.

Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2017

Efallai y gallwch gael y Lwfans Rhiant Gweddw os ydych chi’n gofalu am blentyn a oedd gennych chi gyda'ch partner.

Gweld a allwch chi gael y Lwfans Rhiant Gweddw ar GOV.UK.

Bydd y swm y byddwch chi’n ei gael yn dibynnu ar faint a dalodd eich partner mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar hyn i chi pan fyddwch chi’n hawlio. £150.90 yr wythnos yw'r swm mwyaf y gallwch chi ei gael.

Gallai'r Lwfans Rhiant Gweddw effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych chi’n eu cael. Gallwch chi ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i weld faint o arian fyddwch chi’n ei gael.

Sut mae gwneud cais

Gallwch chi hawlio’r Lwfans Rhiant Gweddw drwy lenwi ffurflen neu drwy ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth.

Gallwch chi lwytho ffurflen Budd-daliadau Profedigaeth i lawr ar GOV.UK.

Ar ôl i chi ei llenwi, dylech chi fynd â hi i'ch Canolfan Gwaith leol neu ei hanfon i:

Dover Benefit Centre

Post Handling Site B

Wolverhampton

WV99 1LA

Gallwch chi hawlio dros y ffôn drwy ffonio:

Bereavement Service helpline

Telephone: 0800 151 2012

Welsh language: 0800 731 0453

Textphone: 0800 731 0464

Welsh language textphone: 0800 731 0456

Relay UK - if you can't hear or speak on the phone, you can type what you want to say: 18001 then 0800 731 0469

You can use Relay UK with an app or a textphone. There’s no extra charge to use it. Find out how to use Relay UK on the Relay UK website.

Video relay - if you use British Sign Language (BSL).  

You can find out how to use video relay on YouTube.

Monday to Friday, 9.30am to 3:30pm 

Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau os byddwch chi’n newid eich manylion personol, fel eich enw neu'ch cyfeiriad.

Dylech hefyd roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau:

  • os byddwch chi’n priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu'n dechrau byw gyda phartner   

  • os byddwch chi’n stopio cael y Budd-dal Plant ar gyfer unrhyw un o'ch plant

Gallai'r newidiadau hyn olygu nad oes gennych chi hawl i Lwfans Rhiant Gweddw mwyach a gallai eich taliadau ddod i ben.

Y ffordd gyflymaf o roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau yw drwy ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth.

Mae’n syniad da ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd, i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r manylion cywir. Pan fyddwch chi’n ffonio, gofynnwch am y cyfeiriad neu’r cyfeiriad e-bost y dylech ysgrifennu ato. Os byddwch chi’n anfon llythyr, gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio - efallai y bydd angen i chi brofi pryd y gwnaethoch chi ysgrifennu atynt.

Dylech chi hefyd wneud nodyn o’r dyddiad a’r amser rydych chi’n ffonio ac enw’r unigolyn rydych chi siarad â nhw. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch chi os bydd angen i chi brofi eich bod chi wedi rhoi gwybod am y newidiadau.

Bereavement Service helpline

Telephone: 0800 151 2012

Welsh language: 0800 731 0453

Textphone: 0800 731 0464

Welsh language textphone: 0800 731 0456

Relay UK - if you can't hear or speak on the phone, you can type what you want to say: 18001 then 0800 731 0469

You can use Relay UK with an app or a textphone. There’s no extra charge to use it. Find out how to use Relay UK on the Relay UK website.

Video relay - if you use British Sign Language (BSL).  

You can find out how to use video relay on YouTube.

Monday to Friday, 9.30am to 3:30pm 

Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.

Rhoi gwybod am newidiadau ar amser

Unwaith y byddwch chi’n gwybod am newid a allai effeithio ar faint o daliadau parhaus rydych chi’n eu cael, rhowch wybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted ag y gallwch chi.

Efallai y bydd y newid yn cynyddu eich taliadau ac efallai y byddwch chi’n colli allan ar arian ychwanegol os byddwch chi’n rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn hwyr.

Dylech chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n meddwl y gallai newid leihau eich taliadau parhaus - fyddwch chi ddim yn arbed arian drwy roi gwybod amdano yn ddiweddarach. Os byddwch chi’n rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau’n hwyr, gallech chi gael gormod o dâl a gorfod talu eich budd-daliadau’n ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae hyn yn cael ei alw’n ordaliad - edrychwch sut mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn delio â gordaliadau.

If you weren’t living in the UK when your partner died

You can only get a Bereavement Support Payment if you were living in one of these places when your husband, wife or civil partner died:

  • Austria

  • Barbados

  • Bermuda

  • Belgium

  • Chile

  • Cyprus

  • Denmark

  • Finland

  • France

  • Germany

  • Gibraltar

  • Iceland

  • Ireland

  • Isle of Man

  • Israel

  • Italy

  • Jamaica

  • Jersey and Guernsey

  • Kosova

  • Luxembourg

  • Macedonia

  • Malta

  • Mauritius

  • Montenegro

  • Netherlands

  • New Zealand

  • Norway

  • Philippines

  • Portugal

  • Serbia

  • Slovenia

  • Spain

  • Sweden

  • Switzerland

  • Turkey

  • USA

  • Yugoslavia

Faint allwch chi ei gael ac am ba hyd

Os nad oes gennych chi blant, gallwch chi gael cyfandaliad o £2,500 a thaliadau misol o £100 am hyd at 18 mis.

Os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog, gallwch chi gael cyfandaliad o £3,500 a thaliadau misol o £350 am hyd at 18 mis.

Fydd dim rhaid i chi dalu treth ar unrhyw un o'r taliadau, gan gynnwys y cyfandaliad.

Fydd eich taliadau misol ddim yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill. Os oes gennych chi rywfaint o’r cyfandaliad yn weddill ar ôl blwyddyn, gallai effeithio ar faint o fudd-daliadau eraill y gallwch chi eu cael.

Fydd eich Taliad Cymorth Profedigaeth ddim yn cael ei dalu i chi os byddwch chi’n cael dedfryd o garchar. Os ydych chi ar remand, bydd eich Taliad Cymorth Profedigaeth yn dod i ben ond byddwch chi’n cael unrhyw daliadau a gollwyd os byddwch chi’n cael eich rhyddhau.

Os byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth wrth gael y Taliad Cymorth Profedigaeth, fyddwch chi ddim yn cael y taliadau mwyach. Gallwch chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn lle hynny. Gallwch wirio oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Pryd i hawlio

Dylech chi geisio llenwi'r ffurflen o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner er mwyn cael y swm llawn o arian. Ar ôl 3 mis, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried bod eich hawliad yn hwyr. Byddwch chi’n colli un taliad misol am bob mis y mae eich hawliad yn hwyr.

I gael y cyfandaliad, rhaid i'ch hawliad gyrraedd yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 12 mis i farwolaeth eich partner. Os bydd eich cais yn cyrraedd ar ôl 12 mis, fyddwch chi ddim yn cael y cyfandaliad. 

Sut mae gwneud cais

Gallwch chi hawlio’r Taliad Cymorth Profedigaeth drwy lenwi ffurflen neu drwy ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth.

Gallwch chi lenwi ffurflen hawlio Taliad Cymorth Profedigaeth ar-lein ar GOV.UK. Os hoffech chi gael ffurflen bapur, gallwch chi:

Gallwch chi hefyd hawlio dros y ffôn drwy ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth.

Gwnewch nodyn o’r dyddiad a’r amser rydych chi’n ffonio ac ysgrifennwch enw’r unigolyn rydych chi siarad â nhw. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch chi yn nes ymlaen yn eich hawliad.

Bereavement Service helpline

Telephone: 0800 151 2012

Welsh language: 0800 731 0453

Textphone: 0800 731 0464

Welsh language textphone: 0800 731 0456

Relay UK - if you can't hear or speak on the phone, you can type what you want to say: 18001 then 0800 731 0469

You can use Relay UK with an app or a textphone. There’s no extra charge to use it. Find out how to use Relay UK on the Relay UK website.

Video relay - if you use British Sign Language (BSL).  

You can find out how to use video relay on YouTube.

Monday to Friday, 9.30am to 3:30pm 

Llenwi’r ffurflen hon a’i hanfon

Mae nodiadau’n dod gyda'r ffurflen i'ch helpu chi. Os bydd angen rhagor o help arnoch chi, gallwch chi siarad â chynghorwr.

Darllenwch y ffurflen cyn ei hanfon i wneud yn siŵr eich bod chi wedi ateb popeth yn iawn. Gwnewch gopi o’r ffurflen os gallwch chi – efallai y bydd angen i chi gyfeirio ati yn nes ymlaen.

Os byddwch chi’n ei hanfon drwy’r post, gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio - efallai y bydd angen i chi brofi pryd y gwnaethoch chi hawlio.

Ar ôl i chi ei llenwi, dylech ei hanfon i:

Taliad Cymorth Profedigaeth

Mail Handling Site A

Wolverhampton

WV98 2BS

Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau os byddwch chi’n newid eich manylion personol, fel eich enw neu'ch cyfeiriad.

Bydd angen i chi ddweud wrthyn nhw hefyd os bydd unrhyw newidiadau i'ch Budd-dal Plant.

Y ffordd gyflymaf o roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau yw drwy ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth.

Mae’n syniad da ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd, i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r manylion cywir. Pan fyddwch chi’n ffonio, gofynnwch am y cyfeiriad neu’r cyfeiriad e-bost y dylech ysgrifennu ato. Os byddwch chi’n anfon llythyr, gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio - efallai y bydd angen i chi brofi pryd y gwnaethoch chi ysgrifennu atynt.

Dylech chi hefyd wneud nodyn o’r dyddiad a’r amser rydych chi’n ffonio ac enw’r unigolyn rydych chi siarad â nhw. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch chi os bydd angen i chi brofi eich bod chi wedi rhoi gwybod am y newidiadau.

Bereavement Service helpline

Telephone: 0800 151 2012

Welsh language: 0800 731 0453

Textphone: 0800 731 0464

Welsh language textphone: 0800 731 0456

Relay UK - if you can't hear or speak on the phone, you can type what you want to say: 18001 then 0800 731 0469

You can use Relay UK with an app or a textphone. There’s no extra charge to use it. Find out how to use Relay UK on the Relay UK website.

Video relay - if you use British Sign Language (BSL).  

You can find out how to use video relay on YouTube.

Monday to Friday, 9.30am to 3:30pm 

Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.

Rhoi gwybod am newidiadau ar amser

Unwaith y byddwch chi’n gwybod am newid a allai effeithio ar faint o daliadau parhaus rydych chi’n eu cael, rhowch wybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted ag y gallwch chi.

Os bydd newid yn cynyddu eich taliadau parhaus, byddwch chi ar eich colled os byddwch chi’n oedi.

Dylech chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n meddwl y gallai newid leihau eich taliadau parhaus - fyddwch chi ddim yn arbed arian drwy roi gwybod amdano yn ddiweddarach. Os byddwch chi’n oedi gallech chi gael gormod o dâl a gorfod talu eich budd-daliadau’n ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae hyn yn cael ei alw’n ordaliad - edrychwch sut mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn delio â gordaliadau.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Mehefin 2019