Cysylltwch â ni ynghylch eich cais am Gredyd Cynhwysol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n cael ei dalu unwaith y mis. Efallai y byddwch chi’n gymwys i'w dderbyn os ydych chi’n ddi-waith neu ar gyflog isel.
Darllenwch weddill y cyngor ar ein gwefan
Mae cyngor ar ein gwefan i’ch helpu chi i wneud y canlynol:
Mae'r tîm Help i Hawlio yn gallu eich helpu chi â chamau cyntaf eich cais am Gredyd Cynhwysol. Gallwch chi siarad â nhw ar y ffôn neu ar sgwrs ar lein. Gallwch chi hefyd ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid testun neu ein gwasanaeth galwad fideo ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Bydd cynghorwr yn gallu eich helpu i wneud y canlynol:
gweld a ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol
llenwi'r ffurflen gais am gredyd cynhwysol
paratoi at eich apwyntiad cyntaf yn y Ganolfan Waith
check gwirio bod eich taliad cyntaf yn gywir
Siaradwch â ni ar-lein
Gallwch chi siarad â chynghorwr ar-lein am eich cais am Gredyd Cynhwysol.
Dechreuwch sgwrs drwy glicio ar y botwm ‘Siarad â chynghorwr’. Bydd y botwm hwn ar waelod eich sgrin os oes cynghorwr ar gael..
Gallwch chi siarad â chynghorwr ar-lein rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid oes modd siarad â chynghorwr ar wyliau y banc.
Ffoniwch ein rhif Help i Hawlio
Gallwch chi gysylltu â chynghorwr ar ein rhif Help i Hawlio, sef gwasanaeth ffôn rhad ac am ddim. Mae’r cynghorwyr ar gael rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener:
Lloegr: 0800 144 8 444
Yr Alban: 0800 023 2581
Cymru: 08000 241 220
Os hoffech chi siarad â chynghorwr yn Gymraeg ffoniwch rif Cymru.
Os oes angen cyfieithydd arnoch
Mae hi’n bosibl cael help mewn iaith nad yw’n Gymraeg neu Saesneg. Dylech chi wneud y canlynol:
ffonio rhif Help i Hawlio'r wlad rydych chi’n byw ynddi
dweud wrth y cynghorwr bod angen cyfieithydd arnoch chi
Bydd cyfieithydd yn ymuno â'r alwad ac yn cyfieithu ar eich cyfer chi a’r cynghorwr.
Os na allwch glywed na siarad ar y ffôn
Gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid testun neu ein gwasanaeth galwad fideo ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i siarad gyda ni am eich cais am Gredyd Cynhwysol.
Defnyddio ein gwasanaeth cyfnewid testun
Gallwch chi deipio’r hyn rydych chi am ei ddweud:
Relay UK (Lloegr): 18001 then 0800 144 8 444
Relay UK (Yr Alban): 18001 then 0800 023 2581
Relay UK (Cymru): 18001 then 08000 241 220
Gallwch chi ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio.
Dysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Defnyddio ein gwasanaeth fideo ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gallwch chi wneud galwad sy’n addas ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain drwy ddefnyddio gwasanaeth fideo Relay ar eich cyfrifiadur, eich llechen neu’ch ffôn symudol.
Defnyddio ein gwasanaeth ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain.
Sut mae cwyno
Gallwch ch gwyno os nad ydych chi’n hapus â’r gwasanaeth.
Darllenwch ein polisi ymddygiad
Mae gan y staff hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - sut rydym ni’n ymdrin ag ymddygiad annerbyniol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.