Cael blaenswm cyllidebu fel rhan o’ch Credyd Cynhwysol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os oes angen i chi dalu am gost benodol, efallai y byddwch chi’n gallu cael benthyciad fel rhan o’ch Credyd Cynhwysol – sef ‘blaenswm cyllidebu’.
Os byddwch chi'n cael blaenswm cyllidebu, byddwch chi'n derbyn taliadau Credyd Cynhwysol is nes byddwch chi wedi talu'n ôl y swm rydych chi wedi cael ei fenthyg. Os gwnaethoch chi gais am y blaenswm ar 4 Rhagfyr 2024 neu ar ôl hynny, fel arfer byddwch chi’n talu’n ôl dros gyfnod o 24 mis. Os gwnaethoch chi gais am y blaenswm cyn hynny, fel arfer bydd yn cael ei dalu’n ôl dros 12 mis.
Gallwch wneud cais am flaenswm cyllidebu i dalu am bethau fel hyn:
eitem untro – ee, newid oergell sydd wedi torri
costau sy'n gysylltiedig â gwaith – ee, prynu gwisg neu gyfarpar
costau annisgwyl
gwaith atgyweirio i'ch cartref
costau teithio
costau mamolaeth
costau angladd
costau symud neu flaendal rhent
eitemau hanfodol, fel dillad
Os ydych chi wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond heb gael eich taliad cyntaf eto, bydd angen i chi gael taliad ymlaen llaw yn hytrach na blaenswm cyllidebu.
Pryd allwch chi gael blaenswm cyllidebu
Gallwch gael blaenswm cyllidebu os oes angen yr arian arnoch chi i’ch helpu i gael gwaith neu i aros mewn gwaith – fel tocynnau trên ar gyfer cyfweliad am swydd. Os oes angen yr arian arnoch chi am unrhyw reswm arall, bydd angen i chi fod wedi hawlio un o'r budd-daliadau hyn am 6 mis neu fwy:
Credyd Cynhwysol
Lwfans Ceisio Gwaith sy’n dibynnu ar brawf modd
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n dibynnu ar brawf modd
Cymhorthdal Incwm
Credyd Pensiwn
Hefyd, bydd angen i chi fod wedi ennill llai na £2,600 yn ystod y 6 mis cyn eich cais. Os ydych chi’n byw gyda phartner, £3,600 yw'r ffigur.
Allwch chi ddim cael blaenswm cyllidebu os ydych chi, neu'ch partner, yn dal i dalu am flaenswm cyllidebu blaenorol.
Faint allwch chi gael ei fenthyg
Y blaenswm cyllidebu lleiaf y gallwch chi ei gael yw £100. Mae'r blaenswm cyllidebu mwyaf yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallwch gael benthyg hyd at:
£348 os ydych chi'n sengl heb blant
£464 os ydych chi’n rhan o bâr heb blant
£812 os oes gennych chi blant
Os oes gennych chi fwy na £1,000 mewn cyfalaf
Mae cyfalaf yn cynnwys unrhyw gynilion, a rhai mathau o eiddo.
Os oes gennych chi fwy na £1,000 mewn cyfalaf, bydd y Ganolfan Waith yn tynnu’r swm sydd uwchlaw'r £1,000 o’ch blaendal cyllidebu.
Er enghraifft, os oes gennych chi £1,250 mewn cyfalaf, bydd y Ganolfan Waith yn tynnu £250 o’ch blaenswm cyllidebu.
Gwneud cais am flaenswm cyllidebu
Bydd angen i chi wneud cais am flaenswm cyllidebu dros y ffôn. I benderfynu a ydych chi'n gymwys, a faint allwch chi ei gael, bydd cynghorydd yn ystyried:
ydych chi’n gallu fforddio talu'r benthyciad yn ôl – bydd yn edrych a oes gennych chi unrhyw ddyledion, a faint sy'n ddyledus gennych chi, i helpu i weld ydych chi’n gallu fforddio talu’r benthyciad yn ôl
faint sydd gennych chi mewn cyfalaf
Fel arfer, byddwch chi’n cael gwybod beth yw’r penderfyniad ar yr un diwrnod.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Video Relay - os ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os bydd eich cais am flaenswm cyllidebu yn cael ei wrthod
Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, chewch chi ddim apelio – ond gallwch ofyn a oes modd edrych eto ar y penderfyniad. Bydd yn help os gallwch roi tystiolaeth newydd neu ddangos bod eich amgylchiadau wedi newid ers eich cais cyntaf.
Os oes angen arian arnoch chi, edrychwch pa gymorth ychwanegol y gallwch chi ei gael.
Gallwch ddarllen mwy am gael cymorth gyda'ch costau byw, neu gael help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os oes gennych chi ddyled neu ôl-ddyledion rhent
Mae camau y gallwch eu cymryd i’ch helpu i leihau eich dyled os ydych chi newydd wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Gallwch hefyd ddarllen ein cyngor ar ddelio â dyled.
Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i arbed arian ar eich costau byw arferol. Cael gwybod beth i'w wneud os oes angen help arnoch chi gyda chostau byw.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau, gallwch gael help. Rhagor o wybodaeth am gael help gyda'ch biliau.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018