Apelio yn erbyn penderfyniad DWP am fudd-daliadau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os oeddech yn arfer cael budd-dal etifeddol
Mae Credyd Cynhwysol wedi cymryd lle budd-daliadau etifeddol i’r rhan fwyaf o bobl. Mae budd-daliadau etifeddol yn cynnwys:
Cymorth Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm
Credydau treth
Budd-dal Tai - ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd o dan Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os oeddech yn arfer cael budd-dal etifeddol ac yn credu bod penderfyniad yn ei gylch yn anghywir, efallai y gallwch chi dal herio’r penderfyniad neu apelio yn ei erbyn.
Os ydych chi am herio penderfyniad budd-dal mae’n rhaid i chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu Gyllid a Thollau EF (CThEF) ailystyried eu penderfyniad yn gyntaf. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth gorfodol.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ailystyried eu penderfyniad – fel arfer byddant yn rhoi ymateb a elwir yn ‘hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol’. Os ydych yn parhau i anghytuno â’r penderfyniad, gwiriwch yr Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol - bydd yn dweud a allwch apelio i dribiwnlys annibynnol.
Os yw’r CThEF wedi gwrthod ymestyn eich terfyn amser i herio penderfyniad credydau treth, nid oes angen Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol.
Ni allwch apelio yn erbyn rhai pethau gan gynnwys:
pryd a sut y telir eich budd-dal i chi
Yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF yn atal eich hawliad dros dro tra eu bod yn gwirio a ydych yn gymwys i gael budd-daliadau
Os ydych eisiau apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai, mae rheolau gwahanol. Gwiriwch sut i herio penderfyniad Budd-dal Tai.
Os ydych eisiau apelio yn erbyn penderfyniad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), efallai na fydd angen i chi ofyn am ailystyriaeth gorfodol. Gwiriwch sut i herio penderfyniad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Gwiriwch faint o amser sydd gennych i apelio
Dylech apelio o fewn mis i ddyddiad yr Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol.
Os na fyddwch yn apelio o fewn mis
Fel arfer bydd y tribiwnlys yn derbyn eich apêl am hyd at 13 mis ar ôl y penderfyniad.
Dylech esbonio ar eich ffurflen apelio:
pam rydych yn apelio’n hwyr - er enghraifft oherwydd eich bod yn sâl neu na wnaethoch gael yr Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol oherwydd problem gyda’ch post
pam mae’r penderfyniad rydych chi’n ei herio yn bwysig, er enghraifft oherwydd bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i chi bob wythnos neu fis
Bydd y tribiwnlys yn gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF a ydynt yn gwrthwynebu i’r apêl gael ei derbyn yn hwyr. Os oes ganddynt wrthwynebiad, bydd y tribiwnlys yn penderfynu a ddylid derbyn yr apêl cyn edrych ar ffeithiau eich achos.
Os cawsoch yr Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol dros 13 mis yn ôl
Fel arfer, ni fydd y tribiwnlys yn derbyn eich apêl.
Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF newid y penderfyniad gwreiddiol os gallwch ddangos eu bod wedi ei wneud oherwydd camgymeriad.
Apelio dros rywun arall
Os nad chi yw’r person a hawliodd y budd-dal gallwch apelio os:
Chi yw eu rhiant neu warchodwr
Ydych wedi’ch penodi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF i weithredu ar eu rhan oherwydd na allant ymdrin â’u hawliad, er enghraifft oherwydd eu hiechyd meddwl neu gorfforol
Ydynt â salwch terfynol ac eich bod yn hawlio Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Byw i’r Anabl neu Lwfans Gweini ar eu rhan.
Maent wedi marw ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF wedi rhoi caniatâd i chi weithredu ar eu rhan.
Yw’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF wedi penderfynu adennill gordaliad, taliad ymlaen llaw neu daliad caledi gennych chi.
Dechrau ar eich apêl
Mae angen i chi wneud cais i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (HMCTS) i ddechrau ar eich apêl.
Os ydych chi’n apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gallwch apelio ar GOV.UK. Bydd angen y dyddiad ar eich Hysbysiad o- Ailystyriaeth Gorfodol arnoch. Os ydych wedi colli eich Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol, cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau a gofynnwch am gopi cyn gynted â phosibl.
Os na allwch apelio ar-lein, dylech lenwi ac anfon ffurflen o’r enw ffurflen SSCS1. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen SSCS1 ar GOV.UK. Anfonwch y ffurflen at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLITEF) +– mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd angen i chi anfon copi o’r Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol gyda’r ffurflen SSCS1. Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch eich Credyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon yr hysbysiad i’ch cyfrif ar-lein a bydd angen i chi ei argraffu.
Am gymorth pellach gyda’ch apêl, gwiriwch y canllaw ar ‘Sut i apelio’ ar GOV.UK.
Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad gan y CThEF
Dylech lenwi ac anfon ffurflen o’r enw SSCS5. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen SSCS5 ar GOV.UK. Anfonwch y ffurflen at y GLITEF - mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd angen i chi anfon copi o’r Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol gyda’ch ffurflen SSCS5. Os ydych wedi colli eich Hysbysiad o Ailystyriaeth Gorfodol, cysylltwch â’r CThEF a gofynnwch am gopi cyn gynted â phosibl.
Am fwy o gymorth gyda’ch apêl, gwiriwch y canllaw ar ‘Sut i apelio’ (SSCS5A) ar GOV.UK.
Pan fyddwch chi’n apelio, gofynnir i chi a ydych eisiau gwrandawiad. Os byddwch yn cael gwrandawiad gall y tribiwnlys ofyn cwestiynau i chi am eich sefyllfa cyn iddyn nhw wneud penderfyniad.
Mae’n werth gofyn am wrandawiad os ydych yn hapus i ateb cwestiynau - byddwch yn fwy tebygol o ennill eich achos.
Os ydych yn dewis cael gwrandawiad, rhowch wybod a allwch ei fynychu:
Dros y ffôn
Dros alwad fideo ar-lein
Mewn person
Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF anfon unrhyw dystiolaeth rydych eisoes wedi’i rhoi iddynt at y GLITEF. Nid oes angen i chi ei hanfon eto wrth apelio.
Os oes gennych dystiolaeth newydd pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen apêl gallwch naill ai:
Ei huwchlwytho os ydych yn gwneud cais ar-lein
Ei phostio at GLITEF gyda’ch ffurflen
Os ydych yn aros am dystiolaeth newydd, dylech barhau i lenwi’r ffurflen apêl a’i chyflwyno ar-lein neu ei bostio. Pan fydd y GLITEF yn ymateb i’ch ffurflen apêl, byddant yn dweud wrthych ble i anfon y dystiolaeth. Ceisiwch ei hanfon o fewn 1 mis i’r adeg y gwnaethon nhw gysylltu gyda chi.
Os ydych eisiau cadw’ch cyfeiriad yn gyfrinachol
Os ydych yn apelio yn erbyn hawliad ar y cyd y gwnaethoch gyda’ch partner neu gyn-bartner, fel arfer bydd GLITEF yn anfon manylion eich apêl atyn nhw. Os nad ydych chi eisiau iddyn nhw wybod eich cyfeiriad, gofynnwch i’r GLITEF ei gadw’n gyfrinachol pan fyddwch yn anfon eich apêl i mewn.
Gwiriwch beth fydd yn digwydd ar ôl eich apêl
Bydd GLITEF yn gwirio eich ffurflen ac yn gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau neu CThEF i ymateb i’ch apêl o fewn 28 diwrnod. Unwaith bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau neu CThEF yn ymateb, bydd GLITEF yn anfon y canlynol atoch:
Copi o’r ymateb
Manylion ynghylch yr hyn fydd yn digwydd nesaf, gan gynnwys pryd a ble fydd y gwrandawiad
Yr holl dystiolaeth mae’r GLITEF wedi’i derbyn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF - a elwir yn ‘bwndel apêl’
Mae’n bwysig gwirio drwy’r bwndel oherwydd mai hwn yw un o’r prif bethau bydd y tribiwnlys yn ei ddefnyddio i wneud penderfyniad. Os oes unrhyw dystiolaeth ar goll, anfonwch ef at y GLITEF ac esboniwch na wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r CThEF ei anfon ef.
Gallwch anfon tystiolaeth at GLITEF am hyd at 1 mis ar ôl i chi gael y bwndel apêl. Dylech ddal anfon y dystiolaeth hyd yn oed os ydych wedi methu’r terfyn amser, ond esboniwch pam eich bod yn ei anfon yn hwyr.
Os byddwch yn cael y dystiolaeth ychydig cyn y tribiwnlys ac nad oes amser i’w phostio, ewch â hi gyda chi. Gallai panel y tribiwnlys ei hystyried neu aildrefnu’r gwrandawiad os yw angen mwy o amser i’w ddarllen.
Os bydd gwrandawiad, gall y tribiwnlys awgrymu galwad ffôn neu gynhadledd fideo. Gallwch wirio sut i baratoi os yw’r tribiwnlys yn trefnu gwrandawiad dros y ffôn neu alwad fideo.
Os bydd y tribiwnlys yn canslo eich apêl
Gellir canslo apêl - a elwir yn ‘apêl wedi’i dileu’ - os ydych yn methu â gwneud rhywbeth a ofynnodd GLITEF amdano, megis anfon dogfen benodol atynt.
Bydd GLITEF yn ysgrifennu i’ch rhybuddio os yw eich apêl mewn perygl o gael ei dileu er mwyn rhoi cyfle i chi ei stopio.
Gallwch ofyn am gael arolygu apêl a ganslwyd oherwydd i chi fethu a gwneud rhywbeth - a elwir yn cael apêl wedi’i ‘ailsefydlu’.
Ysgrifennwch at GLITEF a chynnwys y canlynol:
Eich enw llawn a chyfeiriad
Eich rhif Yswiriant Gwladol
Y penderfyniad rydych chi’n apelio yn ei erbyn
Y dyddiad y cafodd eich apêl ei chanslo
Pam y gwnaethoch fethu a gwneud rhywbeth y gofynnodd GLITEF amdano, os mai dyma’r rheswm pam y cafodd eich apêl ei gwrthod
Pam eich bod yn credu y dylid ailedrych ar yr apêl
Dylech ysgrifennu o fewn mis i GLITEF ysgrifennu atoch i ddweud bod yr apêl wedi’i chanslo. Os oes angen mwy o amser arnoch, esboniwch pam y gwnaethoch fethu’r terfyn amser o fis.
Os cafodd eich apêl ei gwrthod am reswm arall, dylech barhau i ysgrifennu at y tribiwnlys i esbonio pam na ddylai eich apêl fod wedi’i gwrthod. Os yw’r tribiwnlys yn cytuno, bydd yn ailagor eich apêl.
Os na fydd y tribiwnlys yn cytuno i ailagor eich apêl, siaradwch â chynghorydd. Gall eich helpu i wirio a oes unrhyw beth arall y gallwch ei wneud.
Gwneud hawliad newydd yn ystod eich apêl
Os ydych yn apelio oherwydd bod eich budd-dal wedi’i wrthod neu ei atal, efallai y gallwch chi ddechrau hawliad newydd tra rydych chi’n aros am benderfyniad eich apêl.
Gallwch wneud hyn os:
Oes newid i’ch amgylchiadau - er enghraifft, bod eich incwm wedi’i leihau
Rydych wedi hawlio budd-dal anabledd a bod eich cyflwr wedi gwaethygu neu eich bod wedi datblygu un newydd.
Mae’n werth gwneud hawliad newydd os yw’r newidiadau’n golygu eich bod bellach yn fwy tebygol o gael eich bod yn gymwys i gael y budd-dal.
Bydd eich apêl yn parhau. Os yw’n llwyddiannus, byddwch yn cael unrhyw arian sy’n ddyledus i chi hyd at ddyddiad eich hawliad newydd.
Os caiff eich hawliad newydd ei wrthod, gallwch ofyn am ailystyriaeth gorfodol ac apelio os oes angen.
Mynychu gwrandawiad yr apêl
Mae’r gwrandawiad yn gyfle i chi egluro yn eich geiriau eich hun pam eich bod yn credu bod y penderfyniad yn anghywir. Efallai y bydd y tribiwnlys eisiau gofyn cwestiynau i chi.
Gallwch hawlio treuliau i dalu am gostau teithio i’r gwrandawiad, neu i dalu am gyflog y gallech ei golli. Gwiriwch sut i hawlio costau ar GOV.UK.
Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i holi a allant eich cynrychioli yn y gwrandawiad. Nid yw pob gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol yn cynnig y gwasanaeth hwn ond os ydynt bydd am ddim.
Gallwch hefyd fynychu’r gwrandawiad gyda ffrind neu aelod o’r teulu i’ch cefnogi.
Os nad ydych yn mynychu’r gwrandawiad, gwneir y penderfyniad ar sail y wybodaeth sydd ar eich ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth rydych chi wedi’i rhoi.
Efallai y cewch wybod y penderfyniad ar ddiwrnod y gwrandawiad. Byddwch yn cael penderfyniad y tribiwnlys drwy’r post os nad ydych yn bresennol yn y gwrandawiad neu os oes angen mwy o amser arnynt i wneud penderfyniad.
Herio penderfyniad tribiwnlys
Efallai y byddwch chi’n gallu apelio yn erbyn penderfyniad tribiwnlys os gallwch ddangos ei fod wedi gwneud ‘camgymeriad yn y gyfraith’.
Yn gyntaf mae’n rhaid i chi ofyn i’r tribiwnlys am ‘ddatganiad o resymau’ os nad ydynt eisoes wedi anfon un i chi. Mae’n rhaid i chi ofyn o fewn mis i’r penderfyniad - mae’r llythyr gan y tribiwnlys yn nodi sut i wneud hyn.
Mae dangos bod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad yn y gyfraith yn gymhleth. Dylech gael cymorth gan gynghorydd cyn gynted â phosibl.
Adolygwyd y dudalen ar 05 Tachwedd 2026